Ar lefel y Cynulliad Cenedlaethol, efallai nad oes sedd sydd yr un mor ddiddorol â’r sedd hir ei henw hon, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Crëwyd y sedd o’r newydd ym 1997, gyda gogledd Sir Benfro yn ffurfio un sedd, a’r De yn ffurfio rhan arall gan gynnwys i’r dwyrain hyd at dref Caerfyrddin ei hun. Mae canran y Cymry Cymraeg yn uwch nag yn yr etholaeth ogleddol, ond yn Sir Gâr y mae’r mwyafrif o’r rheini. Ar lefel San Steffan, dydi hi ddim yr un mor ddiddorol mewn difrif, ond mae ambell beth i’w ystyried.
Beth felly oedd canlyniad y sedd y tro diwethaf i ni weld etholiad cyffredinol?
Llafur 13,953 (36.9%)
Ceidwadwyr 12,043 (31.8%)
Plaid Cymru 5,583 (14.7%)
Dems Rhydd 5,399 (14.3%)
Wrth i ogledd Sir Benfro droi’n las o drwch blewyn, arhosai’r de yn goch o drwch blewyn. ‘Does fawr o amheuaeth mai pleidleisiau o ardal Sir Gaerfyrddin oedd yn bennaf gyfrifol am hyn. Serch hynny, Nick Ainger oedd yr AS i Benfro eisoes wedi iddo ennill etholiad agos 1992. Ystyriwyd yr hen sedd Sir Benfro yn ddigon cadarn i’r Ceidwadwyr am y ddwy ddegawd flaenorol, ond mae’n werth nodi y bu’n sedd Lafur am yr ugain mlynedd cyn hynny. O ran dwyrain y sedd, fe’i cynrychiolwyd gan Lafur a’r Blaid am adegau gwahanol am flynyddoedd.
Ond gallwn ni ddim cymharu 2005 heb i ni edrych ar yr etholiad cyntaf a gynhaliwyd yn y sedd ym 1997. Dyma’r gwahaniaeth yn nifer y pleidleisiau a chanran y pleidleisiau a gafwyd gan y pleidiau yn ystod yr wyth mlynedd hynny.
Llafur -7,003 (-12.2%)
Ceidwadwyr +608 (+5.2%)
Plaid Cymru +180 (+2.0%)
Dems Rhydd +1,883 (+6.1%)
Ia wir, mae hynny’n ddirywiad o tua thraean i Lafur. Y peth anhygoel oedd bod Llafur wedi llwyddo cael bron i hanner y bleidlais ym 1997 – mae hynny’n eithaf trawiadol. Fodd bynnag, gyda nifer o hen bleidleisiau Llafur yn Sir Gâr yn troi at Blaid Cymru a’r gorllewin yn troi’n las, mae’n anodd gweld y duedd honno’n gwrthdroi.
Er mai’r Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf yma dros y ddegawd ddiwethaf, dwi am fod mor hy â’u diystyru yn syth. Dydi’r gefnogaeth Ryddfrydol yma ddim yn naturiol, tra bod gan y tair plaid arall bocedi cryfion o gefnogaeth mewn rhannau gwahanol o’r etholaeth.
Ond mae ambell reswm pam nad ydw i’n am lwyr diystyru Plaid Cymru. Deirgwaith o’r bron yn y Cynulliad, mae Plaid Cymru wedi dod yn rhyfeddol o agos at gipio’r sedd, gan gael tua 8,000 o bleidleisiau bob tro.
Roedd y canlyniad yn y Cynulliad, wrth gwrs, yn rhyfeddol beth bynnag. Gyda 250 o bleidleisiau rhwng y safle cyntaf a’r trydydd, mae’n gwbl amhosibl rhagweld sut yr aiff hi flwyddyn nesaf. Ond y Ceidwadwyr a oedd yn fuddugol – ac mae’r naid yn eu cefnogaeth yn rhywbeth a allai’n hawdd gael ei adlewyrchu mewn etholiad San Steffan – cynyddodd eu pleidlais ddeg y cant yn 2005. Er disgwyl cipio’r Fro neu Aberconwy, ‘doedd y Ceidwadwyr ddim o ddifrif yn meddwl y bydden nhw’n ennill yma.
Ychydig mwy o ystadegau. Oherwydd diffyg data ar wefan Sir Benfro, alla’ i ddim dweud wrthych â sicrwydd nifer y cynghorwyr sydd gan bob plaid. Yn rhan Caerfyrddin y sedd, fodd bynnag, mae gan Blaid Cymru bump, ac aelodau annibynnol wyth. Dwi’n credu fy mod yn gywir i ddweud yn gyffredinol mai’r Blaid sydd â’r mwyaf o gynghorwyr yn yr etholaeth gyfan.
Yn gyflym, dyma ganlyniad Etholiad Ewrop 2009 (pob plaid dros 10%):
Ceidwadwyr 5,612 (29%)
Plaid Cymru 3,714 (19%)
Llafur 2,902 (15%)
UKIP 2,411 (13%)
Beth fyddai’r pleidiau wedi meddwl am hynny o ddifrif? Byddai’r Ceidwadwyr yn falch iawn o ennill yma mor hawdd flwyddyn cyn etholiad cyffredinol. Byddai Plaid Cymru ychydig yn siomedig o gael 19%, ond yn fodlon ar ddod yn ail. Byddai Llafur yn meddwl bod cael 15% a dod yn drydydd pell yn ganlyniad argoelus iawn. O ystyried pleidlais gref UKIP hefyd, gallai’r Ceidwadwyr fod yn ddigon hyderus o ennill llawer o’u pleidleisiau hwy fel arfer.
Beth am ddyfalu isafswm ac uchafswm pleidleisiau? Dyma le bydd yn rhaid i mi ddiystyru Plaid Cymru. Dydi’r Blaid byth wedi cael llai na 5,000 o bleidleisiau yma yn San Steffan, ac ni chaiff lai eleni. Ond dydi hi ddim chwaith wedi cyrraedd 8,500 mewn etholiadau Cynulliad, ac mae rhesymeg yn awgrymu na wnaiff eleni. Synnwn i ddim petai’r Blaid yn rhagori ar ganlyniad 2001 pan gafodd bron i saith mil, ond alla’ i ddim gweld y tu hwnt i hynny.
O ran Llafur, mi all, yn ddamcaniaethol, gael bron 21,000 o bleidleisiau yma – uchafswm anorchfygol. Chaiff hi mo hynny eleni, ond byddwn i ddim yn synnu petai ambell un a bleidleisiodd i’r Rhyddfrydwyr, os nad ambell Bleidiwr, yn rhoi pleidlais i Lafur i atal y Ceidwadwyr, felly dwi’n fodlon pennu uchafswm o 15,500.
O ran y Ceidwadwyr, mae’r uchafswm yn anhysbys. O edrych ar ddirywiad y blaid rhwng ’92 a ’97, ac o ystyried y polau cyfredol, byddwn i’n rhoi uchafswm o 15,000 iddynt – fel Llafur, fodd bynnag, gall ambell i Bleidiwr neu Ryddfrydwr fenthyg pleidlais iddynt. Yr isafsymiau sy’n ddiddorol. Chaiff y Ceidwadwyr ddim llai na 2005, felly isafswm o 12,000 – ond dwi’n meddwl y gallai isafswm Llafur fod tua’r 10,000.
Yr awgrym o hynny ydi mai’r Ceidwadwyr ydi’r ffefrynnau. Ond peidiwch â’m credu i, credwch y bwcis...
Ceidwadwyr 1/5
Llafur 10/3 (Ladbrokes)
Yn ôl arolwg barn diweddaraf YouGov, roedd gan Lafur yr un lefel o gefnogaeth ag yn 2005, gyda’r Ceidwadwyr bum pwynt canran yn uwch. Yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, ni fyddai hynny’n ddigon i ennill y sedd – er o drwch adain gwybedyn.
Ond fel y dywedais yn nadansoddiad Gŵyr, mae’r Blaid Lafur ar chwâl yng Nghymru. Os bydd ei phleidlais yn dal i fyny yn gyffredinol ym Mhrydain, mae’n anodd gweld ei phleidlais yn gwneud hynny yng Nghymru – wedi’r cyfan, o gael 55% ym 1997 cafodd 20% yn 2009. Waeth beth fo’r cyd-destun etholiadol, mae’r dirywiad hwnnw’n ddi-gynsail.
Soniais mewn ambell ddadansoddiad gynt am y Shy Tory Syndrome Llafuraidd, ond mae’r effaith honno, mi gredaf, yn dirywio. Wrth i Lafur fod yn fwyfwy hyderus, mae’r rhai nad ydynt wedi bod yn datgan y byddent yn pleidleisio dros Lafur yn fwy parod i ddweud hynny mewn polau erbyn hyn. Mae’r polau bellach yn adlewyrchu’r hyn dwi wedi mentro dweud ers tro: bydd hi’n etholiad agos, a bydd senedd grog. Gan fy mod mor hy â dweud hynny rŵan mae’n ddigon posibl mai llwyddiant ysgubol fydd hi i’r naill blaid neu’r llall!
Ond o ddifrif, beth ydi goblygiadau hynny yn y sedd hon? A fydd Llafurwyr dadrithiedig yn pleidleisio i gadw’r Ceidwadwyr allan? A fydd y Ceidwadwyr yn llwyddo denu digon o’r rheini? Os bydd gwasgfa ar y Democratiaid Rhyddfrydol, neu hyd yn oed Blaid Cymru, pwy fydd yn elwa ohoni? Cofier, yn y Gymru wledig, mae’r ymdeimlad wrth-Lafuraidd yn llawer cryfach na’r ymdeimlad wrth-Geidwadol, yn enwedig ar ôl 13 mlynedd o lywodraeth Lafur.
Problem fawr Llafur ydi ei bod wedi’i gyrru o Orllewin Cymru mewn dau etholiad o’r bron, ac mae hynny’n wybodaeth gyffredin iawn. Dwi’n dyfalu mai tri o’r bron fydd hi eleni. Pan soniais ynghynt am y “Chwe Sedd” y mae’r Ceidwadwyr yn gwbl, gwbl sicr o’u hennill, roedd hon yn un ohonynt. Er nad ydw i mor sicr rŵan, prin iawn fy mod yn gweld Llafur yn fuddugoliaethus yma eleni.
Proffwydoliaeth: Buddugoliaeth Geidwadol gyda mwyafrif o tua 2,000 – 3,000
Nessun commento:
Posta un commento