Oni fo gennych filiynau yn y banc, byddwn i ddim yn awgrymu i chi roi bet ar Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr eleni. Mewn ambell fan, cewch odds o 1/200 ar Blaid Cymru yn ennill yma – sef i guro punt rhaid i chi osod £200 i lawr. Os ydych chi am ennill tenar bydd angen £2,000 yn sbâr arnoch.
Ond mae’n ddigon rhyfedd hynny, oherwydd dim ond ychydig dros ddegawd yn ôl roedd yr ardal hon yn dalcen caled iawn i Blaid Cymru. Er gwaethaf ymdrechion lu gan bobl fel Gwynfor a Hywel Teifi Edwards, arhosai’r sedd yn nwylo Llafur rhwng 1983 a 2001 (ar ffurf Caerfyrddin cyn 1997), gyda Phlaid Cymru ddim yn bygwth mewn gwirionedd. Gellid yn bennaf briodoli hyn i ardaloedd hynod Gymraeg Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman - ardaloedd ôl-ddiwydiannol Llafur, nid yn annhebyg o gwbl i ardaloedd fel Dyffryn Ogwen a Dyffryn Nantlle yn y Gogledd.
Ar ei ffurf bresennol, dydi’r Ceidwadwyr na’r Democratiaid Rhyddfrydol yn fath o rym – maent yn dueddol o ennill tua 20% o’r pleidleisiau rhyngddynt ar lefel San Steffan ac ar lefel y Cynulliad. Na, dydw i ddim am wastraffu geiriau yn eu trafod fan hyn, mae arnaf ofn, er fy mod mi gredaf yn gywir i ddweud bod pleidleisiau digon pendant i’r Ceidwadwyr yma.
Yn ôl ym 1997, roedd yn bur anochel y byddai Llafur yn cadw sedd y daliai i bob pwrpas. Cafodd Llafur bron i 18,000 o bleidleisiau, gyda Phlaid Cymru dim ond tair mil a hanner y tu ôl. Er mai dyma oedd unig wir darged Plaid Cymru y flwyddyn honno, prin ei bod disgwyl buddugoliaeth yma.
Ond mae’n rhaid cofio mai 1997 ydi’r unig dro i Lafur ennill yma. Heb amheuaeth, y rhan hon o Gymru welodd y gweddnewidiad sylfaenol mwyaf yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Aeth o fod yn ardal Lafur, i fod yn ardal Plaid Cymru. Dyna ddechrau a diwedd arni.
Beryg mai etholiadau’r Cynulliad oedd y sbardun. Enillodd Plaid Cymru gyda 17,328 o bleidleisiau i 10,348 Llafur – mwyafrif parchus o 6,980. Pwy enillodd? Wel, nid y mab darogan, Adam Price wrth gwrs, ond Rhodri Glyn Thomas. Am ba reswm bynnag, dechreuodd y newid mawr cyn cyfnod Adam Price. Gyda 61% yn pleidleisio y flwyddyn honno, roedd yn fuddugoliaeth gyfforddus.
Yma cafodd y Blaid ei hunig wir lwyddiant yn 2001 – y tro hwn gydag Adam Price ei hun ar ogwydd o 7.5%. Disgynnodd y bleidlais Lafur bron i dair mil a hanner, er mai o lai na dwy fil gododd pleidlais Plaid Cymru. O edrych yn ôl, tueddaf i feddwl y gallai unrhyw un fod wedi ennill y sedd i’r Blaid y flwyddyn honno (o fewn rheswm), ond roedd yn bwysig efallai cael rhywun o Ddyffryn Aman. O gael cymeriad mor gryf ar ffurf Adam Price, bryd hynny o ddifrif drodd yr ardaloedd hynny o Lafur at y Blaid.
Serch hynny, ar lefel y Cynulliad, parhaodd Rhodri Glyn i greu argraff yn lleol, heb amheuaeth. Prin yr oedd cwymp erchyll Plaid Cymru yn 2003 i’w theimlo yn Ninefwr – dychwelwyd Rhodri Glyn yn hawdd.
Ac yn yr etholiad diwethaf ar lefel San Steffan, 2005, cynyddodd Adam Price ei fwyafrif i 6,700 (17.5%). Mae hynny’n golygu, ers 1997, fod y gefnogaeth i’r Blaid wedi cynyddu o 3,104 (+11.3%) o bleidleisiau, a Llafur wedi gostwng 7,064 (-14.6%). Mewn termau real, mae hynny’n cynrychioli cynnydd o dros ugain y cant i Blaid Cymru, ond gostyngiad anferthol o 39% ym mhleidlais y Blaid Lafur.
Yn 2007, cafodd Plaid Cymru ei chanlyniad gorau erioed yma. Er i’r Blaid lwyddo gael bron i hanner y bleidlais y tro diwethaf cafwyd gogwydd o bron i 6% yn erbyn y Blaid Lafur. Disgynnodd y bleidlais Lafur yn ei thro i lai na chwarter. Rhaid nodi, fodd bynnag, er bod canran Plaid Cymru yn uwch nag erioed, roedd y nifer o bleidleisiau a gafodd yn llai nag mewn ambell etholiad. Serch hynny, gyda mwyafrif o 8,469 o bleidleisiau, mae Rhodri Glyn Thomas bellach yn ddeiliad ail sedd fwyaf diogel Cymru ar lefel y Cynulliad.
Ac er gwybodaeth, cafodd y Blaid 38% o’r bleidlais yma yn 2009 i 15% Llafur – yn wir, daeth Llafur ddau gant o bleidleisiau y tu ôl i’r Ceidwadwyr.
Felly, er diddordeb, ac eithrio Etholiadau Ewrop 2004 oherwydd diffyg data, ar gyfartaledd dyma’r ganran y mae’r ddwy blaid wedi’i chael dros y tair blynedd ar ddeg diwethaf:
Plaid Cymru 46%
Llafur 29%
Ar lefel San Steffan, mae Plaid Cymru’n ennill y frwydr 41% i 36% (bwlch o 5%); ac ar lefel y Cynulliad o 52% i 29% (bwlch o 23%). Y gwir ydi, dydi Llafur heb ddod yn agos at gael lefel y gefnogaeth a gafodd ym 1997.
Y ffaith fawr, fel y gwyddoch, ydi bod Adam Price yn sefyll i lawr, ond oherwydd ei waith caled mae’n annhebygol y bydd ei ymadawiad yn cael effaith fawr ar y canlyniad. Yn gryno, ni fydd Llafur yn adennill Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a hynny oherwydd pedwar ffactor. Yn gyntaf, mae’r darpar ymgeisydd Jonathan Edwards yn ymddangos fel rhywfaint o carbon copy o Adam Price ac wedi gweithio’n agos gydag o am flynyddoedd – maen nhw’n debyg o ran eu daliadau a hefyd eu cefndiroedd. Ymddengys yn ymgeisydd cryf ac addas.
Yr ail ffactor ydi mai Christine Gwyther sy’n sefyll ar ran Llafur. Roedd hi’n eithaf camp i Lafur ddewis un gyn-ddarpar ymgeisydd a oedd yn “casáu’r Cymry Cymraeg” cyn mynd ati i ddethol un nad yw’n siarad Cymraeg. Gyda 72% yn honni bod ganddynt sgiliau yn y Gymraeg yma, roedd hynny’n ddewis dwl o’r cychwyn cyntaf. Y trydydd ffactor ydi bod Llafur wedi bod ar drai enfawr yn y rhan hon o Gymru am y nesaf peth i ddegawd, a ‘does dim math o arwydd bod y broses honno am wrthdroi.
Yn allanol, mae Llafur yn honni bod yn hyderus yma ond fe ŵyr pawb call nad dyna’r achos. Heb Adam Price dylent wneud yn well, byddai dyn yn tybio, ond am y pedwerydd ffactor. Mae Rhodri Glyn wedi profi nad oes angen i rywun fod yn Adam Price i ennill y sedd hon (a dwi’n dweud hynny heb olygu unrhyw amharch at Rhodri Glyn!). Yn wir, mae mwyafrifau Rhodri Glyn wedi bod yn rheolaidd fwy na mwyafrifoedd Adam Price, er wrth gwrs mae’r ffaith ei fod yn wleidydd Cynulliad o fudd iddo o ran hynny. Eto, mae’n dyst i’r ffaith mai newid sylfaenol, nid cwlt personoliaeth nag atyniad unigolyn, ydi’r hyn sy’n sail i lwyddiant Plaid Cymru yma.
Credaf yn gryf eleni y bydd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn troi o fod yn sedd Plaid Cymru i fod yn gadarnle Plaid Cymru.
Proffwydoliaeth: Plaid Cymru i ennill y sedd gyda thros hanner y bleidlais.
Nessun commento:
Posta un commento