Mae hen seddau Aneurin Bevan a Michael Foot yn teimlo’n bell i ffwrdd o Rachub, a chyn i mi feddwi pnawn ‘ma, fanno ydi’r targed nesaf. Dyma’r unig sedd yng Nghymru a ddelir gan aelodau annibynnol, sef Trish Law yn y Cynulliad a Dai Davies yn San Steffan. Llais y Bobl ydi enw’r mudiad, a sefydlwyd yn 2005, nad ydw i’n gwbl sicr a safodd Peter Law yn ei henw yn 2005. Un peth ddaeth i’r amlwg dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yw nad oes gan y blaid fawr o apêl y tu hwnt i Flaenau Gwent.
Ta waeth am hynny, rhaid bod yn onest o’r dechrau – ‘does dim pwynt trafod Plaid Cymru, y Ceidwadwyr na’r Democratiaid Rhyddfrydol. Felly dydw i ddim.
Am flynyddoedd cyn buddugoliaeth fawr 2005, fodd bynnag, roedd Blaenau Gwent yn gadarnle Llafur. Yn wir, mae ei disgrifio fel ‘cadarnle’ prin yn gwneud cyfiawnder â hi. Cododd canran Llafur o’r bleidlais o 70% ym 1983 i 79.5% ym 1997. Roedd y mwyafrif yn 71%. Wrth sôn am seddau Llafur diogel, mae Blaenau Gwent wastad wedi bod ymhlith seddau mwyaf diogel y Blaid Lafur ym Mhrydain gyfan. Yn wir, hyd yn oed yn 2001, llwyddodd Llafur ennill buddugoliaeth o dros 19,000 o bleidleisiau (61%) dros Blaid Cymru.
Nid oedd pethau’n wahanol yn y Cynulliad, ychwaith. Roedd mwyafrif 1999 y Blaid Lafur dros 40%, ac erbyn 2003 trodd y sedd yn fwy diogel byth a chafodd Peter Law fwyafrif o 59%, a oedd bron yn ddeuddeg mil o bleidleisiau. Gyda dim ond 38% yn pleidleisio, mae hynny’n anferthol.
Tynnodd Peter Law ei aelodaeth o’r blaid Lafur nôl yn dilyn y ffrae, enwog erbyn hyn, am restrau byr a oedd yn cynnwys merched yn unig, a phenderfynodd sefyll yn erbyn ei hen blaid yn etholiad cyffredinol 2005. Dwi ddim yn gwybod, mewn difrif, a oedd pobl Blaenau Gwent mor flin â hynny am restrau merched, ond yn hytrach dwi’n teimlo mai’r prif ysgogiad dros bleidleisio iddo oedd rhoi cic i Lafur heb roi budd i unrhyw blaid arall. Roedd hi’n fwy sylfaenol nag un mater.
Cic a gafwyd, beth bynnag. Roedd Blaenau Gwent cyn 2005 yn sedd ddiogelaf y blaid Lafur yng Nghymru. Dyn ag ŵyr, efallai bod y craffaf wedi darogan buddugoliaeth i Peter Law – ond mi fetia’ i rywbeth na ragwelsai neb fuddugoliaeth i’r fath raddau:
Peter Law 20,505 (58%)
Llafur 11,384 (32%)
Gogwydd oddi wrth Lafur: 49%
Credaf mai dyna’r gogwydd mwyaf erioed a gafwyd mewn etholaeth ar ôl yr Ail Ryfel Byd mewn etholiad cyffredinol. Roedd gweld Llafur ar y lefel honno o gefnogaeth ym Mlaenau Gwent yn syfrdanol. Pa wersi bynnag y gallasai Llafur fod wedi’u dysgu, yn amlwg ni wnaeth.
Bu farw Peter Law yn 2006, a sbardunodd isetholiad dwbl. Enillodd ei wraig, Trish Law, y sedd cynulliad yn weddol hawdd gyda thros hanner y bleidlais, gyda gogwydd oddi wrth Lafur nad oedd yn annhebyg i’r un yn 2005. Yng nghyd-destun gwleidyddiaeth y Cynulliad, efallai nad oedd hynny’n sioc fawr o edrych yn ôl.
Ar wahân i’r ffaith amlwg bod Blaenau Gwent yn sedd unigryw ac na fydd polau’n gymwys yma am y rheswm hwnnw, roedd darogan yr unig bôl piniwn a gynhaliwyd yma yn eithriadol anghywir. Rhoes 35% i Dai Davies a 47% i Lafur ar gyfer yr isetholiad. Dyma’r canlyniad:
Dai Davies 12,543 (47%)
Llafur 10,055 (37%)
Mwyafrif o bron i ddwy flin a hanner. Rŵan, er bod isetholiadau yn aml yn hudo llai o bobl i bleidleisio, roedd y gwahaniaeth yn y niferoedd a bleidleisiodd i’r ddau wrthwynebydd yn sylweddol. Tua mil yn llai bleidleisiodd i Lafur, ond tua saith mil a hanner yn llai gafodd Dai Davies na Peter Law. Efallai nad ydi hynny yn syndod mewn difrif, ond ennill oedd yn bwysig. Pe na bai Dai Davies wedi llwyddo yma, prin iawn y byddem yn disgwyl i Lais y Bobl ennill yma eleni.
Serch hynny, dwi ddim yn meddwl y bu i unrhyw un ddarogan y byddai Trish Law yn colli yma yn 2007. Roedd y gogwydd ati, oddi wrth ei gŵr i bob pwrpas, yn 47% - sy’n fwy na’r gogwyddau enfawr a sicrhaodd Plaid Cymru ym 1999. Roedd ei mwyafrif dros bum mil o bleidleisiau, neu 23%. Mae hynny’n her sylweddol i Lafur yn 2011.
Waeth beth fo’r sefyllfa leol mae’r ystadegau fel a ganlyn. Rhwng 1999 a 2007 collodd Llafur 54% o’i phleidlais. Yn San Steffan rhwng 1997 ac isetholiad 2006, disgynnodd ei phleidlais 68%. Prin y gwelid y fath gwymp erioed. Yr hyn ddaeth yn amlwg oedd bod Llafur mewn trafferth ym Mlaenau Gwent.
Roedd nifer y wardiau a enillodd y pleidiau yma yn 2008 yn ddiddorol:
Annibynnol 16
Llafur 14
Llais y Bobl 5
Dems Rhydd 2
Er i Lafur golli rheolaeth ar y cyngor, aelodau annibynnol, ac nid Llais y Bobl, fanteisiodd ar hynny. Dwi ddim yn siŵr a safodd llawer o ymgeiswyr Llais y Bobl, rhaid i mi gyfaddef, ond o dop fy mhen dwi ddim yn credu i lawer wneud. Ta waeth, collodd Llafur reolaeth ar y cyngor, ond mae’n awgrymu erbyn 2008 bod y brwdfrydedd dros Lais y Bobl yn dechrau diflannu. Mae Llais y Bobl yn rhan o’r glymblaid sy’n rheoli’r cyngor, a gwn fod y cyngor yn amhoblogaidd ar hyn o bryd. Bydd hynny’n cyflwyno her sylweddol i’r blaid eleni.
Heb fynd i fanylder am etholiadau Ewrop, enillodd Llafur yma gyda 35% o’r bleidlais - ond wrth gwrs nid oedd Llais y Bobl yn sefyll. Yr hyn sy’n ddiddorol ydi nid y ffaith honno, ond bod Llafur wedi ennill 4,996 o bleidleisiau - mae hynny 7,409 o bleidleisiau yn is nag yn 2004.
Mae pethau’n edrych ychydig yn ddu i Lafur. Ar wefan Blaenau Gwent yr UK Polling Report, mae un cyfrannwr yn dweud ei fod wedi cynhyrchu arolwg barn lleol yn 2009 i bapur lleol. Er mai ar hap y dewiswyd gofyn i bobl i bwy y byddant yn bwrw eu pleidlais, dywedodd 45% Dai Davies a dim ond 34% Llafur. Dwi ddim yn gwybod pa mor ddibynadwy ydi’r ffigurau na’r ffynhonnell.
Mae’r bwcis yn awgrymu mai Dai Davies ydi’r ffefryn i gadw’r sedd. Dwi bron yn sicr y bydd unrhyw un fyddai fel arfer yn pleidleisio i Blaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol neu’r Torïaid, heblaw am y selogion, yn bwrw pleidlais iddo, ond nid farchnad fawr mohoni yn yr etholaeth hon. Mae llawer yn dibynnu ar yr unigolion a’r ymgyrchoedd a gynhelir.
Pa ffordd bynnag yr aiff, dwi’n amau a gaiff y buddugwyr dros 15,000 o bleidleisiau eleni. Ar yr un llaw mae Llafur yn amhoblogaidd ac mae’r ymdeimlad annibynnol yn y Cymoedd yn sicr yn amlwg, ond ar y llaw arall chafodd Llais y Bobl fawr o lwyddiant yn 2008 ac mae’r momentwm cenedlaethol yn araf droi at y blaid Lafur – ac fel y dywedais, dydi’r cyngor ddim yn boblogaidd iawn. Gyda bygythiad llywodraeth Geidwadol, mae’n gwbl, gwbl bosibl y gall y rhai sydd wedi pleidleisio dros Dai Davies a Trish Law roi eu pleidlais yn ôl i Lafur. Ac eto, mae’n annhebygol iawn y byddai Dai Davies yn cydweithio â llywodraeth Geidwadol beth bynnag.
Greddf ydi’r arf gorau sydd gan unrhyw un yn y frwydr hon. Mi fydd Llafur yn adennill Blaenau Gwent rywbryd, o leiaf yn San Steffan, a phan wnaiff bydd eto’n ei chadw’n hawdd, er nid i’r un graddau yr arferai. Mae ‘na niwed di-ben-draw wedi’i wneud i Lafur yma, nad oes ganddi’r adnoddau i’w unioni.
Ym mêr fy esgyrn dwi’n teimlo y caiff Dai Davies a Llais y Bobl eu dychwelyd i Lundain eleni.
Proffwydoliaeth: Dylai fod yn agos, ond Llais y Bobl fydd yn cadw’r sedd.
Nessun commento:
Posta un commento