Awn heddiw draw i etholaeth Gŵyr, a rhaid i mi gyfaddef ar unwaith nad yw hon yn rhan o’r byd yr wyf yn gyfarwydd iawn â hi. Yn etholiadol, dydi’r etholaeth ddim yn eithriadol o ddiddorol – er bod arwyddion y gall fod rhywfaint yn fwy eleni – felly rydym am ddechrau ein taith yn ôl ym 1997. Dechreuwn drwy edrych ar ganlyniad 1997.
Llafur 23,313 (53.8%)
Ceidwadwyr 10,306 (23.8%)
Dems Rhydd 5,624 (13.0%)
Plaid Cymru 2,226 (5.1%)
Enillodd Llafur dros hanner y bleidlais yng Nghymru bryd hynny, a hefyd felly yng Ngŵyr, wrth i’r Democratiaid Rhyddfrydol, a Phlaid Cymru yn arbennig, beidio â bod yn rhan o’r ras. Dydi’r Ceidwadwyr byth wedi dal y sedd, yn wir mae’n sedd Lafur ers can mlynedd yn union eleni, ond ym 1987 a 1992 cafodd y Ceidwadwyr dros 16,000 o bleidleisiau yn y sedd.
Fel y gwyddom eisoes mae gwleidyddiaeth Cymru yn newid erbyn hyn. Awn heibio’r blynyddoedd i ganlyniad 2005 a oedd fel a ganlyn:
Llafur 16,786 (42.5%)
Ceidwadwyr 10,083 (25.5%)
Dems Rhydd 7,291 (18.4%)
Plaid Cymru 3,089 (7.8%)
Beth allwn ni ddysgu o gymharu’r ddau ganlyniad felly? Aeth pleidlais Llafur i lawr 28%, sef dros 6,000 o bleidleisiau a thros ddeg pwynt canran o’r pleidleisiau. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gweld cynnydd sylweddol yn eu pleidlais hwy o 5.4%. Peidiwn â llwyr diystyru’r Democratiaid Rhyddfrydol, mae’r blaid wedi gweld cynnydd sylweddol yn ei phleidlais Gymreig ers 1997 yn San Steffan, ac mae cael deunaw y cant yng Ngŵyr yn ddigon parchus.
Mae’r Blaid hefyd wedi gweld cynnydd, ond cynnydd bach welwyd. Mae’n anodd erbyn hyn dychmygu Plaid Cymru yn cael llai na 10% yn genedlaethol mewn unrhyw etholiad, ond mewn sedd fel Gŵyr rhaid iddi geisio ymddangos fel ei bod yn berthnasol, sydd ddim yn dasg hawdd. Dylai’r Ceidwadwyr, fodd bynnag, fod yn siomedig am ganlyniad 2005. Tua’r deng mil gafodd y Ceidwadwyr ym mhob etholiad San Steffan ers 1997 – segura yw eu hanes, fel mewn sawl rhan o Gymru mewn difrif.
Dyna hanes diweddar y sedd yn fras. Er diddordeb, yn hytrach na dim arall, yn etholiadau’r Cynulliad dyma’r ganran o’r bleidlais y mae pob plaid wedi’i chael ar gyfartaledd yn y tri etholiad a gynhaliwyd hyd yn hyn:
Llafur 37.7%
Ceidwadwyr 21.2%
Plaid Cymru 19.1%
Dems Rhydd 10.2%
Y cenedlaetholwyr ddaeth yn ail ym 1999 ond ers hynny mae’r Ceidwadwyr wedi cynyddu’n sylweddol, i’r fath raddau bod etholiad 2007 yr agosaf welwyd yn yr etholaeth ers y nesaf peth i ugain mlynedd. Cafodd Edwina Hart 34% o’r bleidlais a’r Ceidwadwyr 30% - mwyafrif o 1,192. Tra ei bod yn anodd gweld Edwina Hart yn colli ei sedd y flwyddyn nesaf mewn difrif, dylai’n sicr fod yn un o dargedau’r Ceidwadwyr.
Mae natur a demograffeg yn etholaeth yn tueddu fwyfwy at y Ceidwadwyr, ond nid sedd Geidwadol mohoni. Llafur sy’n dominyddu ar y cyngor hefyd, gyda naw o’r tri chynghorydd ar hugain. Grŵp a elwir yn Independents@Swansea sy’n ail ar bump, gyda’r Ceidwadwyr ar dri yn unig. Mae hon hefyd yn etholaeth wan i’r Democratiaid Rhyddfrydol sydd â dim ond un cynghorydd yn yr etholaeth, sef yr un faint â Phlaid Cymru.
Cafwyd eithaf sioc yma llynedd. Dyma ganlyniad etholiad Ewrop:
Ceidwadwyr 24%
Llafur 20%
Plaid Cymru 15%
UKIP 12%
Dems Rhydd 11%
Do, mi drodd Gŵyr yn las y llynedd, a hynny am y tro cyntaf erioed. Y geiriau pwysig wrth gwrs ydi “am y tro cyntaf erioed”. Dydyn ni ddim yn gwybod beth fyddai wedi digwydd heb UKIP – atgyfnerthu’r fuddugoliaeth Geidwadol ydi’r ateb tebycaf. Ond beth am fynd ati i ddadansoddi posibiliadau eleni?
Eleni, mae’n anodd gen i weld Plaid Cymru yn cael llai o bleidleisiau mewn unrhyw sedd na chafodd y llynedd. Mae hynny’n golygu fy mod yn credu y caiff o leiaf dair mil eleni. Problem y Blaid ydi diffyg cynrychiolaeth ar lefel leol, ond gwn yn iawn fod gan yr ymgeisydd enw da yn yr ardal. Targed realistig i Blaid Cymru fyddai ceisio anelu am o leiaf bedair mil o bleidleisiau, ac o wneud hynny bydd wedi llwyddo yma. Byddai cael llai na 10%, waeth faint o bleidleisiau fydd hynny, yn siomedig.
Mae tacteg Llafur, sydd hyd yn hyn yn profi’n weddol lwyddiannus, o wneud hwn yn etholiad rhwng y Ceidwadwyr a hi, yn ymddangos fel petai’n rhoi gwasgfa am y Democratiaid Rhyddfrydol. Dyma’r ardal o Abertawe y mae’r blaid wannaf ynddi. Mae popeth yn awgrymu na fydd yr etholiad sy’n dyfod yn un llwyddiannus i’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru - a dwi heb weld gronyn o dystiolaeth i anghytuno â hynny. Mae’r Ceidwadwyr yn fygythiad damcaniaethol yng Ngŵyr - a gallai hynny wneud i Ddemocratiaid Rhyddfrydol yn y fath sedd fenthyg pleidlais i Lafur, o egwyddor yn hytrach na chael eu hargyhoeddi gan Peter Hain!
Daw hynny â ni at Lafur a’r Ceidwadwyr. Rydym wedi gweld mewn chwinciad fod y momentwm wedi newid yn llwyr. Rŵan, bu i mi ddarogan bron i dri mis yn ôl yn nadansoddiad Pen-y-bont bod y senedd grog yn debygol cymaint ag ydyw’n bosibl. Ymddengys mai dyma’r achos. Dwi ddim yn rhagweld y bydd Llafur yn neidio o flaen y Torïaid o gwbl, ond dwi am ddal ati i ddarogan senedd grog. Un o nodweddion hynny ydi bod y Ceidwadwyr ddim yn gwneud cystal â’r disgwyl. Gall hynny fod o hwb i’r Blaid a’r Rhyddfrydwyr yn Aberconwy a Brycheiniog a Maesyfed, ond dinistrio eu cyfleoedd yn Llanelli neu Ddwyrain Abertawe – mae’n sefyllfa ddiddorol yn sicr, a dydi’r goblygiadau i wleidyddiaeth Cymru ddim yn eglur. Gêm ddyfalu ydi hi.
Mewn cyfres o bum pôl rhwng 21-26 Chwefror, cafodd Llafur ar gyfartaledd 33% o’r bleidlais a’r Ceidwadwyr 38%. Awgryma hynny gwymp o 2% i Lafur a’r Ceidwadwyr yn esgyn 3%.
Y duedd erioed oedd y bu i Lafur wneud yn well yng Nghymru na gweddill y DU. Dyma o hyd y duedd, hyd yn oed yn 2009, ond er hynny mae dirywiad Llafur yng Nghymru wedi bod yn gyson. Achubiaeth a phroblem Llafur yw bod y gwrthwynebiad wedi’i rannu yng Nghymru – yn wahanol i’r Alban. Mae’n galluogi’r blaid i ddal seddau yn y byrdymor wrth i’r gwrthwynebiad ymrannu, ond yn yr hirdymor mae’n golygu bod Llafurwyr traddodiadol yn fwy dadrithiedig ac yn fwy tebygol o aros adref.
Ond mae’r dirywiad yn y bleidlais Lafur wedi bod yn waeth yng Nghymru na’r unman arall – aeth i lawr ddeuddeg y cant rhwng ’97 a ’05 o gymharu ag 8% ledled Prydain. Felly gellid o bosibl ddyfalu dirywiad gwaeth yng Nghymru eleni na’r hyn a awgrymir gan y polau diweddar – traean yn waeth yn y sefyllfa waethaf.
Dychmygwn hynny felly. O wneud y symiau, os caiff Llafur 33% ledled Prydain caiff tua 40% yng Nghymru. Caiff y Ceidwadwyr rywbeth tebyg i 27%. Troswn hynny’n uniongyrchol i Ŵyr, y tro hwn gyda saith o bob deg yn pleidleisio. Dyma’r canlyniad i’r ddwy blaid uchaf:
Llafur 16,600 (39%)
Ceidwadwyr 13,600 (32%)
Mwyafrif: 3,000 (7%)
Mae gan y Ceidwadwyr broblem gyda’r ffaith bod UKIP yn sefyll yma, ond ymddengys bod effaith y pleidiau llai, gan gynnwys y Democratiaid Rhyddfrydol ac, ysywaeth, Plaid Cymru hithau, yn lleihau. Gan ddweud hynny, fel yr wyf wedi ei adrodd droeon, anodd gen i weld Llafur yn cadw ei phleidlais ar yr un lefel.
Y gwir ydi mae pob darn o wybodaeth neu dystiolaeth neu ddamcaniaeth a gawn ar hyn o bryd yn drysu’r sefyllfa’n fwy! Ond y tro hwn dwi am gadw at fy symiau yn hytrach na’m greddf. Mae ‘na gynsail i’r Ceidwadwyr wneud yn dda yng Ngŵyr, ond gyda phethau’n tynhau, ‘sdim peryg yma i Lafur eleni.
Proffwydoliaeth: Buddugoliaeth o tua thair mil i Lafur.
Nessun commento:
Posta un commento