Dwi am gymryd eiliad i draethu ar rywbeth pwysig: rygbi. Ydi, mae rygbi’n bwysig yng Nghymru fach gwlad y gân, a ‘does dianc rhag y ffaith. Licio’r peth ai peidio, a gwn y bydd rhai ohonoch yn ei gasáu, mae gan y Cymry eithaf obsesiwn â rygbi sy’n tanio Cymru benbaladr.
Dyma’r rheswm, wrth gwrs, y mae’r Cymry yn aml yn cael gemau ar brydiau hynod ddiflas ac arbrofol. Gwn i mi ddweud hyn rywbryd yn y gorffennol, ond mae’n gas gen i gemau Chwe Gwlad ar ddydd Sul. Mae’n gwbl, gwbl annheg ar gefnogwyr rygbi, boed hwythau’n mynd i Ddulyn neu Gaeredin neu Rufain ac yn gorfod cymryd y dydd Llun i ffwrdd, neu’r miloedd Ogleddwyr sy’n dod i Gaerdydd. Mae ‘na anghyfiawnder mawr yn hynny o beth.
Hyd yn oed allan yng Nghaerdydd pan ddangosir gêm y Sul, dydi’r awyrgylch ddim yn ofnadwy o dda. Mae pawb yn gwybod bod y gwaith yn dyfod, ac yn ddigon aml mae pawb wedi blino fel y bydd rhywun ar ddydd Sul beth bynnag.
Mae’n drueni mai Cymru sydd fel arfer yn cael y gemau gwaethaf, a hynny gan fod y cefnogwyr mor driw i’r achos. Arian ydi gwraidd y cyfan, wrth gwrs. Yn yr oes sydd ohoni, rhaid i’r undebau rygbi, fel unrhyw gorff chwaraeon, wneud elw, a hynny am bob math o resymau heblaw am wneud arian er mwyn gwneud arian.
Cofier hefyd nad oes cenedl mor uffernol o gwynfanllyd â’r Cymry. Er ei maint bach atseinir geiriau ei chwyn hyd ymylon y bydysawd. Yn fy marn i mae ein natur gwynfanllyd a’n amharodrwydd llwyr i gymryd cyfrifoldeb drosom ein hunain yn rhywbeth sydd bron yn ein heithrio rhag cael yr hawl i alw’n hunain yn genedl ond tai’m ar bregeth wleidyddol heddiw: ond mae’r natur honno’n ymestyn at ddilynwyr ein chwaraeon. Felly dydi hi fawr o syndod bod sawl un, y cefnogwyr ‘traddodiadol’ yn bennaf, yn cwyno am gael gêm nos Wener.
Byddai cael pob gêm ar ddydd Sadwrn yn wych, ond gwyddom oll nad yw’n ddewis mwyach, ar seiliau ariannol, felly mae’n rhaid i Gymru chwarae o leiaf unwaith ar naill ai’r Sul neu nos Wener. Myn diân i, rhowch i mi gêm nos Wener dros gêm ddydd Sul unrhyw bryd!
Fe wnes i’n bersonol fwynhau cael gêm ar nos Wener y llynedd, ac mae’r optimist ynof, sydd yn llechu’n rhywle, yn dweud y bydd yn well fyth o gael gêm yng Nghaerdydd yn hytrach na Pharis, yfory. Dwi’n edrych ymlaen. Felly, Gymry, cymrwch gyngor caredig gan rywun sy’n meddwl ei fod yn gwybod yn well; cymerwn nos Wener dros ddydd Sul a theimlwn ryddhad yn hynny o beth. Mi fydd yn hwyl ac mi fydd yn newydd. Mae’r Cymry’n hoff o hwyl, wyddoch chi, felly am unwaith stopiwn ein cwyno diddiwedd a mwynhau gêm nos Wener.
Fyddwch chi’m yn ffwcin cwyno os enillwn ni beth bynnag!
Nessun commento:
Posta un commento