Ryhyrydwyf i a straen yn gyfeillion rhyfedd. Fel rheol, mae rhywbeth a ddylai achosi straen mawr ar rywun call yn dueddol o’m hesgeuluso, tra bod mân bethau yn gwneud i mi golli fy mhwyll yn llwyr. Byddai’n well gen i fod fel arall, dyna’r ffordd gall i fod, yn de. Yr enghraifft orau y gallaf ei rhoi ydi pan fydd rhywun yn marw neu’n sâl, fi ydi’r un sydd fel arfer yn cadw’i ben, i’r fath raddau prin fod y peth yn effeithio arnaf o gwbl. Ar y llaw arall, es yn ddig hyd blinder ychydig wythnosau’n ôl am na allwn ganfod yr agorwr tuniau i agor tun o ffa Ffrengig (sef ‘kidney beans’ ac nid ‘French beans’ yn yr achos hwn – yr un peth ydynt yn Gymraeg sy’n un rheswm o leiaf i ddod â therfyn i’n hiaith).
Achos arall o straen enfawr i mi ydi bod yng nghwmni rhywun nad ydwyf yn mwynhau eu cwmni, ac mi wn y prif symptom. Fydd yr ardal fach dan fy llygaid yn teimlo’n eithriadol o drwm – fel petawn heb gysgu am ddiwrnod neu ddau. Wn i ddim ai arwydd cyffredin o blith pobl ydyw, ond yn sicr ynof i mae’n dynodi amhleser mawr, ac, i raddau helaeth, straen.
Ar y cyfan, dwi’n mwynhau cwmni Dad, ond mae cwmni Dad ac yntau’n unig am wythnos yn gwneuthur pwysau is-lygeidiog i raddau nas teimlwyd gynt. Daeth i aros ataf yr wythnos diwethaf ac yma mae o hyd, ac am ba hyd dwi ddim yn siŵr.
Fel unrhyw blentyn o ba oedran bynnag, nid ‘mwynhau’ ydi’r gair cywir i ddisgrifio presenoldeb rhieni. Dwi’n gobeithio nad ydw i’n ymddangos yn oeraidd yn hyn o beth, dwi’n caru fy rhieni cymaint â’r llwdwn nesaf, ond bydd cyfnod estynedig o gwmpas y naill na’r llall, neu’r ddau, yn achosi straen. Dwi ddim isio gadael yr hen goes yn y tŷ ben ei hun, dwisho gadael iddo wylio ei deledu (mae gan Dad chwaethau teledu sy’n gwbl, gwbl gyferbyniol i’m rhai i) ac isio iddo fod yn fodlon ei fyd am yr hyd ydyw gyda mi.
Ond y pethau bach, eithafol hynny sy’n chwalu ‘mhen. Pan fydd yn sugno’i ddannedd ar ôl cael bwyd gan wneuthur sŵn fel mosgito. Yn y dafarn neithiwr mi wnaeth hynny drwy’r nos wrth wylio gêm United a Milan. ‘Steddish i yno’n drwm fy llygaid. Mae rhywbeth felly yn rhoi straen arnaf. A phan fy mod yn teimlo felly, y gwir plaen amdani ydi nad ydw i’n berson neis i fod yn ei gwmni.
Er o anwyldeb y dywed Dad “dwi ddim yn meindio” pan ofynnaf beth y gwnawn i de, mae pobl sy’n dweud hynny, yn lle dweud yn sdrêt, yn fy ngwylltio i. Dwi’n hoff o bobl benderfynol, sy’n dweud eu dweud a ddim yn mwmian eu geiriau. Nid seicic mohonof. Dywed dy farn; gadewi i mi ymateb.
Pan siaradodd â Mam, echnos mi gredaf, a jocian iddi yrru mwy o drôns ato gan ei fod yn aros tan y ‘Dolig, ar fy marw nid a ddes agosach at strôc yn fy myw. Peidiwch jocian ‘Nhad, feddyliais, dydi’r peth ddim yn dda i’m hiechyd. Gŵyr pob un ohonoch, boed chwithau eich hun yn dad neu’n ddim, nad ydi plant yn mwynhau jôcs rhiant waeth beth fo’r sefyllfa.
Y broblem efo fi ydi nad person teuluol mohonof. Er cymaint yr wyf yn caru pob un wan jac ohonynt, dwi’n ffendio cael teulu o’m cwmpas yn llethol. Hunanol ar fy rhan i, mae’n siŵr, dywedyd y cysylltaf pan fo’r tymer arnaf, ond mae’n wir i raddau helaeth; petai dewis, mi ddewiswn fywyd meudwy dros fod yn ŵr priod â phlant. Mynach fyddai’r trywydd delfrydol i mi ei ddilyn oni chrwydrai fy nwylo cymaint.
Felly ar ôl sgwrs ffôn gyda Mam, penderfynwyd anfon Dad adref ddydd Iau - noson arall o oroesi ar fy rhan i felly, a mynd i’r gwely’n fuan yn hytrach na gwylio ailddarllediad a welwyd droeon o Top Gear ar Dave. Y penwythnos hwn, bydd pethau’n syml. Dwi am stocio fyny ddydd Gwener, cloi’r drws, diffodd y ffôn efallai, a pheidio ag atgyfodi drachefn tan fora Llun.
Nessun commento:
Posta un commento