“Gemau yn erbyn yr Alban ydi’r rhai mwyaf diflas bob tro,” ddywedais yn y Romilly, “dyna’r gêm fydd rhywun yn edrych ymlaen ato leiaf yn y Chwe Gwlad”. Safais wrth y datganiad.
“Yr Alban, yn y bôn, ydi’r rhai y bydd rhwyun isio colli yn eu herbyn leiaf,” dywedais wedyn, “achos maen nhw’n rybish. O leiaf fod rhywun yn gallu meddwl o golli i’r Eidal “da iawn nhw” a golygu hynny”. Gwir mewn geiriau ydyw, gan gyfleus anghofio’r Saeson a’r Gwyddelod yn y foment. Ond o leiaf nad ydi colli iddynt hwythau’n gywilydd.
Ddeng munud cyn diwedd y gêm, newidiodd fy nhôn i “Dydi hi ddim yno,” gan gyfeirio at y fuddugoliaeth.
Saif yr ail ddatganiad. Ond ar ddiwedd y gân, dwi jyst ddim yn gwbod hynny faint am rygbi.
1 commento:
Anghytuno. Dyna'r gêm bo fi'n edrych ymlaen ati fwyaf. Mae gan yr Albanwyr synnwyr hwyl. Be bynnag sy'n digwydd yn y gêm, bydd noson wych yng Nghaerdydd wedyn.
Posta un commento