I nifer o ddarllenwyr y dadansoddiadau hyn, mae’n deg dweud dwi’n meddwl y bydd Alun a Glannau Dyfrdwy yn un o’r etholaethau mwy dirgel, ac, i raddau, leiaf diddorol. Gadewch i mi lenwi’r bylchau i chi. Mae’r etholaeth yn cynnwys lleoedd megis Cei Conna, Shotton, Bwcle a rhan fechan o Gaer. Dyma’r unig un o etholaethau Cymru (ar hyn o bryd) lle na aned mwyafrif y boblogaeth yng Nghymru (44%). Serch hynny, mae 11% o’r boblogaeth yn medru Cymraeg, ac nid dyna’r ffigur isaf yn y wlad.
I raddau helaeth, mae’n deg dweud bod yr etholaeth y lleiaf Cymreig ei naws o holl etholaethau’r genedl. Pleidleisiodd yr ardal yn drwm yn erbyn datganoli yn ’97, ac yn Ystadegau Ysgolion 2009, dim ond 17.5% o ddisgyblion yr etholaeth nododd eu hunain yn ‘Gymry’, y ffigur isaf yng Nghymru, a 25.5% fel ‘Saeson’ (yr uchaf yng Nghymru).
Felly dyna’r cyd-destun. ‘Does pwrpas sôn am Blaid Cymru yma, wrth gwrs, dydi hi byth wedi cadw ei hernes yma yn San Steffan – daeth yn bumed ym 1997 – mae’n un o lond dwrn o etholaethau sy’n gwbl anobeithiol iddi, am byth bythoedd, Amen.
Digon anobeithiol ydi’r Democratiaid Rhyddfrydol yma hefyd. Dim ond 17% cawsant yma yn 2005 – eu perfformiad gorau erioed – ond mae’n anodd eu gweld yn rhagori ar hynny mewn sedd lle nad y blaid yw prif elynion y deiliaid. Serch hynny, mae ganddynt gynrychioliaeth gref ar y cyngor, ond dwi ddim yn meddu ar wybodaeth barod am ba etholaethau y daw’r cynghorwyr hynny.
Mae ‘na ddwy blaid arall sy’n haeddu sylw yma, fodd bynnag, sef UKIP a’r BNP. Yn etholiadau Ewrop cafodd BNP ond ychydig yn llai o bleidleisiau na Phlaid a’r Dems Rhydd, a chafodd UKIP fwy o bleidleisiau na’r ddwy gyda’i gilydd. Gyda chymaint o debygolrwydd rhwng Alun a Glannau Dyfrdwy a seddau cyffelyb yn Lloegr, dwi’n teimlo’n reiddiol bod cefnogaeth i’r ddwy blaid yn yr ardal hon – o du’r Ceidwadwyr yn bennaf i UKIP, ac o du Llafur i’r BNP. Mae ddwy blaid yn sefyll yma eleni, ac nid hawdd fydd mesur eu heffaith ar yr etholaeth.
Dadansoddwn y ddau brif wrthwynebydd fesul etholiad, ond mae’n anodd i raddau helaeth gyfiawnhau galw’r Ceidwadwyr yn ‘brif’ blaid yma. Dydyn nhw heb ddal y sedd erioed, dwi ddim yn credu. At ddibenion bod yn gryno, dyma fwyafrifau’r Blaid Lafur ar lefel San Steffan ers 1983:
1983: 1,368 (3.1%)
1987: 6,416 (13.6%)
1992: 7,851 (16.2%)
1997: 16,403 (39.1%)
2001: 9,222 (26.0%)
2005: 8,378 (23.6%)
Felly mae Llafur wedi dod o bron â cholli’r sedd yn ’83 – er bod â wnelo hynny lot â’r Democratiaid Cymdeithasol ar eu hanterth – ond cafodd fwyafrif o’r pleidleisiau a fwriwyd ym 1992, 1997 a 2001. Mae’r bleidlais Lafur wedi amrywio o 17,331 (2005) i 25,995 (1997). Mae’r bleidlais Geidwadol wedi amrywio rhwng 8,953 (2005) a 17,355 (1987). Mae’n ddiddorol nodi felly mai perfformiad gwaethaf y ddwy blaid oedd yn yr etholiad diwethaf. Teg dweud bod hyn yn ymwneud rhywfaint â’r ffaith bod nifer o ymgeiswyr gwahanol wedi sefyll yma dros yr ychydig etholiadau diwethaf, a’r niferoedd a bleidleisiodd.
Serch hynny, dyma’r newid yn nifer pleidleisiau’r ddwy blaid ers 1997:
Llafur -8,664 (-33.3%)
Ceidwadwyr -599 (-6.7%)
Er fy mod i wedi ceisio atal rhag dweud ‘traean’ o ran y gostyngiad yn y bleidlais Lafur, wel, ‘sdim math o ddewis y tro hwn! Mae’n sylweddol unwaith eto. Mae’r Ceidwadwyr fwy neu lai wedi segura.
O ran y Cynulliad, nad yw’n eithriadol o berthnasol yma (25% bleidleisiodd yn etholiad 2003) mae’r bleidlais Lafur wedi gostwng o 51% ym 1999 i 39% yn 2007, a’r ffigurau cyfatebol ar gyfer y Ceidwadwyr yw 18% a 23%. Er gwaethaf dirywiad Llafur, mae’n ymddangos o hyd fel sedd gyfforddus iddi ar y lefel honno.
Ond daeth teyrnasiad Llafur i derfyn disymwth yma yn 2009. Cafodd y Ceidwadwyr 715 o bleidleisiau yn fwy yma na Llafur, sef bwlch o 5%. I fod yn deg roedd y nifer a bleidleisiodd yn isel, ond yn sedd gadarnaf Llafur y Gogledd, roedd yn gryn newyddion.
Pleidleisiodd 60% y tro diwethaf, a gadewch i ni feddwl y bydd 66% yn gwneud eleni. Defnyddiwn hefyd ogwydd uniongyrchol pôl diweddar, sef ComRes/Independent (10-11 Chwefror). Dyma fyddai’r canlyniad:
Llafur 16,800
Ceidwadwyr 12,900
Mwyafrif: 3,900
Mae arolwg barn ddiweddarach gan YouGov yn awgrymu mwyafrif ychydig yn fwy i Lafur.
Ddim yn gwbl annhebygol, nac ydyw? I fod yn onest, dydw i ddim gant y cant y byddai’r bleidlais Lafur yn dal i fyny gystal, ond mi all y Ceidwadwyr yn sicr anelu at y pleidleisiau dychmygol uchod. Fel y nodwyd gennyf mewn dadansoddiadau eraill, fodd bynnag, credaf y bydd elfen o Shy Labour Syndrom ac mewn seddau fel hyn, gall Llafurwyr droi allan i bleidleisio er mwyn atal y Ceidwadwyr, er gwaethaf eu dadrithio wrth y blaid.
Ffactorau damcaniaethol, yn hytrach na ffeithiol, ydi’r rheini, wrth gwrs.
Mae’r sôn distaw y gallai’r Ceidwadwyr ennill yma eleni yn annhebygol o gael ei wireddu, ond eto mae’n gwbl gredadwy y caiff Llafur ei nifer isaf o bleidleisiau yma erioed. Hyd yn oed petai Llafur yn agosáu at y 15,000, teimla rhywun y byddai’r sedd o hyd fymryn y tu allan i afael y Ceidwadwyr. Rŵan, petai’r Ceidwadwyr yn gyson ennill dros 40% yn y polau, a Llafur ymhellach o dan 30%, byddwn i ddim mor sicr fy marn.
Awgrymir yn helaeth mai hwn fydd etholiad y pleidiau bychain. Mewn nifer o ardaloedd, yn gyffredinol y Democratiaid Rhyddfrydol fydd y dewis amgen i’r Ceidwadwyr, ac mewn mannau eraill y Blaid fydd y dewis amgen i Lafur. Nid yma. Oherwydd natur yr etholaeth, y BNP fydd dewis amgen sawl Llafurwr, ac UKIP i’r rhai sy’n anfodlon ar y Ceidwadwyr. Y gwir plaen ydi nad oes modd o gwbl i mi ddarogan i ba raddau oni lwyr ddyfalaf. Ym mêr fy esgyrn, synnwn i ddim petai’r ddwy yn ennill oddeutu’r mil, os nad mil a hanner, o bleidleisiau. Effaith, mi gânt, ond nid digon i amharu gormod.
Serch hynny, mentraf ddweud y byddai’r Ceidwadwyr yn fwy hyderus yma heb UKIP, a Llafur yn llai petrus heb y BNP.
Proffwydoliaeth: O ddwys ystyried, bydd gan Lafur fwyafrif o 3,000 – 4,000 yma pan ddaw noson y cyfrif.
Nessun commento:
Posta un commento