mercoledì, febbraio 10, 2010

Islwyn

Islwyn ydi’r targed nesaf gen i. Er nad ydi hi’n ofnadwy o anodd darogan pwy wnaiff ennill yma eleni, mae amryw bosibiliadau parthed y canlyniad ei hun. Er nad oes dim diddorol wedi digwydd yma yn San Steffan ers oes yr iâ, mae pethau’n fwy diddorol mewn etholiadau eraill. Awn ati y tro hwn fesul plaid.

Yn gyntaf, ac yn fras, y Ceidwadwyr. Er dod yn ail yn ôl ym 1992, gan ennill dros chwe mil o bleidleisiau y flwyddyn honno, dydi’r Ceidwadwyr heb ddod yn agos at y fath gyfanswm ers hynny. Yn wir, ar gyfartaledd dim ond 2,922 o bleidleisiau y maent wedi cael ymhob etholiad San Steffan, er iddynt drechu’r trothwy 10% eto yn 2005. Yn y Cynulliad dydi’r Ceidwadwyr heb gael mwy na dwy fil erioed.

Er ei bod yn ddigon posib y bydd y Ceidwadwyr yn cael canlyniad gweddus yma eleni, mae’n annhebygol y bydd yn fwy na 15% o’r bleidlais.

Fymryn yn llai bras awn at y Democratiaid Rhyddfrydol. Maen nhw wedi dod yn ail yma yn San Steffan ddwywaith yn y tri etholiad diwethaf, ond yn wahanol i’r duedd gyffredinol yng Nghymru aeth eu pleidlais i lawr yn 2005, er o drwch blewyn. Mae’n bosibl iawn i hynny ddigwydd oherwydd i Kevin Etheridge sefyll iddynt yn 2001 – bellach mae’n gynghorydd annibynnol yn y sir, a chafodd 28% o’r bleidlais yn etholiadau cynulliad 2007. Colli pleidleisiau personol, mi dybiaf, ddaru’r Rhyddfrydwyr, yn fwy na chefnogaeth graidd.

Ar lefel y Cynulliad mae’r Dems Rhydd yn llai llwyddiannus fyth – collodd y blaid ei hernes yn 2007. Ond byddai gwaeth i ddod. Daeth y blaid yn chweched, y tu ôl i’r BNP hyd yn oed, yn etholiadau Ewrop. Mae hynny’n ganlyniad ofnadwy, am sawl rheswm wrth gwrs.

Er diddordeb, 0.3% o’r bleidlais gafodd y blaid yn etholiadau Cyngor 2008 yma. Ar yr un llaw, dim ond un ymgeisydd safodd, gan gael 134 o bleidleisiau yn ward Penmaen. Ond, gyda 31 o gynghorwyr ar gael yn yr etholaeth, a’r ffaith i’r Democratiaid Rhyddfrydol ond gallu cynnig un ymlaen, dangosir diffyg gwreiddiau yn y rhan hon o’r byd.

Ymddengys nad oes gan y Rhyddfrydwyr fawr o reswm i fod yn frwdfrydig am y sedd hon, ac fel mewn sawl lle ceisio cipio Llafurwyr dadrithiedig fydd eu hanes. Ond gyda hanes etholiadol mor eithriadol o wan yma yn ystod y blynyddoedd diwethaf, synnwn i ddim petai hon yn sedd y byddant yn gweld trai ynddi y tro hwn.

Gair bach sydyn hefyd am ddwy blaid arall, sef UKIP a’r BNP. Rŵan, gwnaeth y ddwy blaid hyn yn dda iawn yma yn etholiadau Ewrop, ‘sdim dwywaith am hynny. Daeth UKIP yn ail gyda 400 o bleidleisiau yn fwy na’r blaid a ddaeth drydydd. Daeth y BNP yn bumed gyda dros 1,100 o bleidleisiau. Dyma’r math o sedd yn draddodiadol nad yw mor gefnogol i bleidiau o’r fath, ond mae arwydd y gallai plaid ‘amgen’ fod yn ddewis poblogaidd petai’n ymgeisio yma.

Rŵan, alla’ i ddim dod o hyd i wybodaeth am yr ymgeiswyr sydd wedi cadarnhau eu henwau yma – dim ond un sydd hyd y gwela’ i. Ond gwelwyd yn ddiweddar y gall ymgeisydd ‘amgen’, yn yr achos hwn ymgeisydd annibynnol, fod yn llwyddiannus yma. Fel y nodwyd uchod, cafodd Kevin Etheridge 28% o’r bleidlais yma yn 2007. Dydi hynny ddim yn swnio lot nes i chi ddeall fod hynny dros chwe mil a hanner o bleidleisiau, yn ail cyfforddus a dim ond 9.4% yn llai na’r blaid fuddugol.

Er na allaf yn bersonol ddeall apêl y gwleidydd annibynnol, mae ‘na duedd atynt yn y Cymoedd ar hyn o bryd. Petai rhywun lleol, poblogaidd yn sefyll gall yn sicr ddod yn ail mewn sedd fel Islwyn.

Serch hynny, Plaid Cymru sydd debycaf o ddod yn ail yma. Plaid Cymru ydi’r unig blaid mewn degawdau maith sydd wedi trechu Llafur yn Islwyn. 1999 oedd pan lwyddodd ennill dros ddeng mil o bleidleisiau a 42.0% o’r bleidlais. Llwyddodd hefyd ennill yma yn etholiadau Ewrop y flwyddyn honno.

Nid oedd buddugoliaeth Islwyn, na’r Rhondda, y daeargryn gwleidyddol y cyfeiriodd Dafydd Wigley ato mewn gwirionedd – roedd ‘na elfen isetholiadol gref, yn wahanol i Gonwy neu Lanelli, lle cafwyd newid sylfaenol. Aeth pethau’n ddifrifol o’i le yn 2003. Roedd y gogwydd oddi wrth y Blaid yn 18% a chafodd grasfa. Gydag ymyrraeth yr ymgeisydd annibynnol yn 2007, dim ond o 3% gynyddodd Plaid Cymru ei phleidlais a daeth yn drydydd. Dadleua rhai heb yr ymgeisydd annibynnol y byddai’r Blaid wedi adennill Islwyn. Dydi hynny ddim yn debyg, mewn gwirionedd, ond mae lle i gredu y gall y Blaid ailennill y sedd yn 2011. Wedi’r cyfan, mae’n ffaith bod dros ddeng mil o bobl yma wedi bwrw pleidlais dros Blaid Cymru o leiaf unwaith.

Er i Blaid Cymru lwyddo gwthio’r Dems Rhydd i’r trydydd safle yn 2005, cafodd hithau’n ei thro lai na 4,000 pleidlais. Gogwydd i Lafur oedd hi. Roedd pleidlais yr ail blaid 51% yn is na phleidlais Don Touhig.

Brwydrodd y Blaid yn ôl yn 2008, fodd bynnag. Llwyddodd ennill 10 o’r 31 o seddau cyngor yn yr etholaeth. O ran pleidleisiau, gwelwyd gogwydd o 6% oddi wrth Lafur ati, a chafodd 16,118 o bleidleisiau. Rŵan, mewn wardiau aml-sedd mae’n ymylu at amhosibl i ddarogan sut y gallai hynny chwarae mewn etholaeth cyffredinol. O wneud ychydig o symiau, mae’n awgrymu i ychydig dros saith mil o bobl yn unigol bleidleisio dros y Blaid. Mae hynny’n barchus iawn ar unrhyw lefel.

Er, mi aeth pethau’n ddifrifol o’i le yn 2009. Dim ond 11.3% o’r bleidlais gafodd y Blaid, gan ddod yn drydydd. Cafodd ond 57 o bleidleisiau yn fwy na’r Ceidwadwyr. Ffliwc? Anfodlonrwydd ar y Cyngor (a arweinir gan y Blaid)? Ymgyrch wan? Dim ots – roedd yn berfformiad gwael.

Cyn mynd ymlaen at Lafur, dyma ddangos rywbeth i chi. Dyma, ar gyfartaledd, nifer y pleidleisiau y mae pob plaid wedi’i chael rhwng 1997 a 2005 mewn etholiadau San Steffan.

Llafur 22,062
Dems Rhydd 3,711
Plaid Cymru 3,329
Ceidwadwyr 2,922

Fel y gwyddom eisoes, Llafur sy’n teyrnasu yma – mae’n un o’i chadarnleoedd. Roedd yn un o ychydig seddau drwy’r DU yn 2005 lle enillodd Llafur fwy o bleidleisiau a chanran uwch o’r bleidlais. Er gwybodaeth, dyma ganran y bleidlais Lafur ym mhob etholiad yn yr etholaeth ers 2005:

2005: 63.8%
2007: 37.7%
2008: 38.5%
2009: 29.2%

Rŵan, er mai dim ond un etholiad cyffredinol a gynhwysir yn hynny, ar gyfartaledd mae Llafur wedi cael 42.3% o’r bleidlais yma ers 2005 – a hynny oherwydd iddi ennill mor rhwydd y flwyddyn honno. Yn etholiadol, byddai unrhyw ganran yn ymylu ar y 40% yn beri i sedd beidio â chael ei hystyried yn ddiogel.

Ond mae’r trai Llafur i’w weld yma gystal â’r unman arall, ac mae ‘na ffactorau yn ei herbyn. Mae Don Touhig yn mynd. Dywedwch beth y mynnwch amdano; er bod gafael Llafur ar Islwyn yn dduraidd, mae’n llai felly hebddo. Yr awgrym cryf ydi y bydd Llafur yn dirywio yng Nghymru, gan o bosibl gael pleidlais sy’n y tridegau isel. Mae hi bron yn sicr na chaiff Llafur eto 19,687 o bleidleisiau yma eto eleni.

Pwy fyddai’n camu i’r adwy? Anodd dweud. Dyma’r math o sedd, fel ambell un arall, y gallai’r niferoedd sy’n pleidleisio lithro’n is (61% oedd yn 2005) oherwydd Llafurwyr yn aros adref yn lle cyboli pleidleisio. Byddai rhywun ddim yn disgwyl i’r Ceidwadwyr ddod yn ail yma, a dydi’r Democratiaid Rhyddfrydol ddim mewn sefyllfa gref i wneud hynny. Plaid Cymru ddylai ddod yn ail.

Gan ddweud hynny, gwahanwyd y tair plaid arall gan lai na 600 pleidlais yn 2005. Dydi’r ffaith y dylai’r Blaid ddod yn ail ddim yn golygu y gwnaiff – profodd 2009 un peth o ran Plaid Cymru, dydi hi ddim yn aml yn gwneud gystal ag y mae hi’n ei ddisgwyl. Yn reddfol, byddwn i’n disgwyl i’r Blaid gael rhwng 15 ac 18 y cant o’r bleidlais gyda’r Ceidwadwyr yn drydydd yma. Ond bydd yr ail safle hwnnw yn ddigon agored eleni. Ni fydd y safle cyntaf. Er gwaethaf popeth, cawn strôc petai Llafur hyd yn oed yn cael llai na 15,000 o bleidleisiau, a synnwn i petai yr un o’r tair arall yn cael mwy na 6,000.

Proffwydoliaeth: Mwyafrif o tua 11,000 i Lafur gyda’r niferoedd sy’n pleidleisio yn is na 2005.

Nessun commento: