Am flynyddoedd lawer fu sedd Merthyr Tudful a Rhymni yn ddigon anniddorol. Mae’r etholaeth ei hun yn cwmpasu mwy na Merthyr ei hun, ond hefyd rhan ogleddol cyngor Caerffili i’r de. Rŵan, awn ni ddim i fanylion eithriadol am Ferthyr, mae hanes cadernid y Blaid Lafur yma yr un mor amlwg â llawer o dde Cymru, ond ceisiwn ddadansoddi hyd y gallwn.
Reit, rydyn ni am ddechrau ym 1997. Fydd hi fawr o syndod i’r un ohonoch i Lafur ennill yma yn frawychus o hawdd bryd hynny. Cafodd Llafur dros ddeg mil ar hugain o bleidleisiau, a oedd dros dri chwarter y bleidlais – yn wir, dros hanner yr etholwyr! Hyd yn oed mewn cadernid, mae’r fath ffigurau’n drawiadol. Roedd hanes y tair plaid arall yn anniddorol tu hwnt; yn eu trefn daeth y Dems Rhydd, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru – i gyd yn ennill rhwng 2,300 a 3,000 o bleidleisiau. Roedd mwyafrif Llafur felly’n agos at y nifer o bleidleisiau a enillodd.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach cafodd Plaid Cymru etholiad rhagorol yn etholiadau cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol. Er i’r Blaid ennill 27% o’r bleidlais yma'r flwyddyn honno, roedd hon yn sedd y bu i Lafur ei hennill yn hawdd. Roedd y mwyafrif dros bedair mil o bleidleisiau, bron i 17%.
Roedd y nifer a bleidleisiodd yn 2001 yn sylweddol is na ’97 – bron i ddeuddeg y cant yn llai. Sicrhaodd Plaid Cymru ogwydd parchus iawn ati, sef 11.8% - sy’n fwy na’r gogwydd a gafwyd yn Llanelli – ond ‘doedd hynny hanner digon, roedd mwyafrif Llafur o hyd dros deirgwaith yn fwy na phleidlais Plaid Cymru.
Serch hynny, disgynnodd pleidlais y Blaid Lafur dros ddeng mil o bleidleisiau.
Erbyn 2003 roedd gan Lafur eto dros 60% o’r bleidlais yn y Cynulliad. Ac, yn wir, llwyddodd gael dros 60% eto yn 2005. Serch hynny, roedd y newid ym mhleidlais y Blaid Lafur rhwng y blynyddoedd hynny yn anhygoel – cafodd 39.6% o bleidleisiau yn llai yn 2005 nag ym 1997. Mae hynny’n waeth na’r rhan fwyaf o Gymru.
Y Democratiaid Rhyddfrydol ddaeth yn ail yn 2005, fymryn llai na 14,000 y tu ôl i Lafur.
Felly, fel y gwelwch, hanes anniddorol hynod sydd i Ferthyr. Hanes o un blaid yn maeddu’r lleill.
Awn rŵan i 2007. Daeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn ail eto'r flwyddyn honno, y Blaid yn bumed a’r Ceidwadwyr yn seithfed. Mae’n sedd y mae Plaid Cymru yn benodol wedi llwyr golli unrhyw fomentwm yr oedd ganddi. Cafodd ymgeiswyr annibynnol, ar sawl ffurf, bron 31% o’r bleidlais, fodd bynnag, a chwalodd pleidlais y Blaid Lafur i 37%. Rhaniad y gwrthwynebwyr gadwodd Merthyr yn goch y flwyddyn honno. Mae hynny’n beth mawr i’w ddweud.
Mae deugain o gynghorwyr yn yr etholaeth – 33 ym Merthyr a 7 o gyngor Caerffili. Yn 2008, collodd Llafur reolaeth ar y ddau gyngor, ond roedd nifer y seddau yn yr etholaeth fel a ganlyn:
Llafur 16
Annibynnol 16
Dems Rhydd 4
Annibynwyr Merthyr 3
Eraill 1
Fel arfer mi ddywedwn na allwn drosi hynny i etholiad cyffredinol, ond mi brofodd etholiad 2007 y gellid gwneud hynny i raddau ym Merthyr a Rhymni. I ba raddau? Mae hynny’n ddirgelwch, ond yn sicr cafodd effaith sylweddol ar fwyafrif Huw Lewis y tro diwethaf.
Dyma yn gyflym y canrannau yn Etholiad Ewrop 2009 i bob plaid gafodd dros 10% o’r bleidlais:
Llafur 34%
Plaid Cymru 15%
UKIP 12%
Dem Rhydd 11%
Mae’n rhyfedd gweld plaid adain dde fel UKIP yn gwneud cystal yma, ond pleidlais wrth-Ewropeaidd, wrth-Lafur oedd hynny yn hytrach dwi’n credu. Bydd yn destun siom i’r Democratiaid Rhyddfrydol iddynt wneud yn waeth na Phlaid Cymru yma, ond gan ddweud hynny prin fyddai’r Blaid wedi dathlu’r canlyniad. Roedd Merthyr yn un o ganlyniadau gorau Llafur ledled Cymru. Mae’n arwydd clir nad ydi’r bleidlais yma am ostwng is y traean, pa etholiad bynnag sydd o dan y chwyddwydr.
Daw hynny â ni at eleni. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae’r dadrithio gyda Llafur ym Merthyr bron yn waeth na’r unman arall – a dydi Dai Harvard ddim yn aelod hynod boblogaidd, chwaith. Petai rhywbeth tebyg i Lais y Bobl ym Mlaenau Gwent yn ceisio bwrw gwreiddiau yma byddai ganddynt obaith. Ond mae unrhyw farn annibynnol yma’n eithriadol o ranedig (yn wahanol i’r sedd gyfagos). Achubiaeth Llafur yma yw ymraniad ei gelynion.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bwrw gwreiddiau ac mi ddylent, yn ôl pob tebyg, gynyddu eu pleidlais yma. Llafurwyr dadrithiedig ydi’r farchnad fawr – ond tybed a fyddai’n well ganddynt fenthyg pleidlais i Lafur y tro hwn i geisio atal llywodraeth Geidwadol? Dyma’r math o sedd y gallai hynny’n hawdd ddigwydd, ond ym mêr fy esgyrn dwi ddim yn siŵr mai dyna fydd yn digwydd eleni.
Problem Plaid Cymru ydi nad oes ganddi fawr o wreiddiau yma mwyach. Fydd y ffaith bod mab Gwynoro Jones yn sefyll ddim yn gwneud gwahaniaeth mewn difri. Gan ddweud hynny, y Blaid ddylai, yn ddamcaniaethol, fod yn y sefyllfa orau i ddenu Llafurwyr dadrithiedig.
O ran nodau, yn gyflym, nid oes angen rhai ar Lafur. Gallai foddi Merthyr a byddai dal yn ennill yma eleni. Dylai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn sicr geisio cyrraedd yr 20% - o wneud hynny mae lle iddynt fwrw rhagor o wreiddiau yn y dyfodol. Ar y llaw arall, bydd Plaid Cymru’n ceisio dod yn ail yma. Gall wneud, ond deallaf ei bod yn ddigon anhrefnus yma ar y cyfan, a dydi hynny ddim yn argoeli’n dda.
Y broblem sy gen i wrth geisio darogan yma ydi’r niferoedd sy’n pleidleisio. Y tro diwethaf, roedd hi’n 55% - un o’r canrannau isaf yng Nghymru – ac yn 39% yn 2007. Tueddaf i feddwl y gall Merthyr fod, o bosibl, yr unig sedd yng Nghymru lle y bydd llai na hanner yr etholwyr yn bwrw pleidlais. Cawn weld, dydw i ddim am weld hynny’n unman, cofiwch.
O weld maint y dirywiad Llafur, mae’n anodd ei gweld yn gwneud yn well y tro hwn. Gall y nifer sy’n pleidleisio drosti agosáu at y 15,000-16,000 y tro hwn. Dyweder mai hanner yr etholwyr sy’n pleidleisio, a bod Llafur yn cael 16,000 – byddai hynny o hyd yn 59% o’r bleidlais. Dwi’n disgwyl i Lafur ddirywio unrhyw beth rhwng wyth a deg y cant yma. O ystyried y dirywiad isaf o’r rheini, byddai gan Lafur 52% o’r bleidlais, sy’n agosach at 14,000 o bleidleisiau.
Er gwaethaf popeth, dwi ddim yn meddwl y gwnaiff cynddrwg â hynny, ond unwaith eto, byddwn i ddim yn synnu o gwbl. Mae’r cymysgedd a fyddai’n arwain at hynny yn berffaith yma.
Gyda’r dirywiad hwnnw (a diffyg ambell blaid fechan) disgwyliwn weld y Democratiaid Rhyddfrydol yn esgyn tua 6% a Phlaid Cymru efallai 4%. O dan y fath amodau, fel hyn y byddai:
Llafur 14,100
Dems Rhydd 5,500
Plaid Cymru 3,800
Wn i ddim amdanoch chi, ond mae hynny’n ymddangos i mi yn gwbl bosibl. Dyma ardal hanesyddol wleidyddol sy’n ymwrthod â gwleidyddiaeth. Mae’n ffodus tu hwnt i’r Blaid Lafur bod hynny’n cynnwys pleidiau eraill hefyd.
Proffwydoliaeth: Mwyafrif tua 7,000 – 9,000 i Lafur.
Nessun commento:
Posta un commento