Dwyrain Abertawe ydi ffocws heddiw mewn dadansoddiad pur ysgafn. Mi deimlaf ei bod yn un o seddau angof Cymru, yn un nad yw’n cael llawer o sylw. Yn sicr, yng nghyd-destun eleni, mae’n annhebygol o fod mor ddiddorol â’i chwaer-sedd yng ngorllewin y ddinas. Mae rhywun hefyd yn dueddol o anghofio bod Dwyrain Abertawe yn gadarnle i’r Blaid Lafur. Rhwng 1983 a 1992, ar gyfartaledd cafodd Llafur 63% o’r bleidlais yma.
Dechreuwn y stori o 1997 ymlaen, a dechreuwn y tro hwn gyda’r deiliaid presennol, sef Llafur. Efallai y caiff rhai ohonoch syndod o’ch atgofio y flwyddyn honno cipiodd Llafur dros dri chwarter y bleidlais yma – roedd y mwyafrif yn 66%. Mae hynny’n fwy na llawer o seddau cymoedd De Cymru.
Collodd Llafur nid llai na 9,539 o bleidleisiau dim ond rhwng ’97 a ’01. Serch hynny, roedd mwyafrif Llafur o hyd yn 54%, sy’n anferthol.
Gwanychodd y blaid ragor erbyn 2005. Cafodd Siân James ymhell dros hanner y bleidlais, ond o gymharu â 1997 erbyn y flwyddyn honno roedd y ganran a gafodd Llafur 17.9% yn is. Yn amlwg, mae rhywun arall wedi cael budd o hynny, ond pwy?
Ai’r Ceidwadwyr? Wedi’r cyfan, cawsant tua wyth mil o bleidleisiau drwy gydol yr wythdegau a dechrau’r nawdegau. Cafwyd tri etholiad ers hynny, ac ar gyfartaledd mae’r Ceidwadwyr wedi llwyddo ennill 3,237 o bleidleisiau ym mhob un, sef llai na hanner eu hen arfer. Hyd yn oed ein dyddiau ni, mae’n hawdd anghofio yn union faint y mae’r Ceidwadwyr wedi dirywio yng Nghymru, yn enwedig mewn seddau tebyg i Ddwyrain Abertawe – o bosibl oherwydd dirywiad y creadur hwnnw a elwid y Ceidwadwr dosbarth gweithiol. Ni all rhywun ragweld y byddant yn adennill y gefnogaeth a gawsant eleni mewn seddau fel hon.
A lefel San Steffan mae hon yn sedd wan i Blaid Cymru. 2001 oedd y flwyddyn gyntaf erioed iddi gadw ei hernes, a daeth yn ail y flwyddyn honno – gorlif o lwyddiannau ’99 tybia rhywun. Disgynnodd yn ôl i’r pedwerydd safle y tro nesaf.
Y Democratiaid Rhyddfrydol sydd â’r momentwm yn ardal Abertawe – dwi wedi darogan eisoes fy mod i’n disgwyl iddynt ennill sedd y gorllewin. Ond maen nhw wedi cryfhau yn y sedd hon hefyd. O ddod yn drydydd yn ’97 a ’01, sicrhaodd y Dems Rhydd ail safle cadarn iawn, iawn erbyn 2005, gan ennill mwy o bleidleisiau na’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru gyda’i gilydd. Roedd y 6,208 o bleidleisiau a gafodd y mwyaf y cafodd yr ail blaid ar lefel San Steffan ers y Ceidwadwyr ym 1992.
Dyma felly, er diddordeb, y newid yn nifer pleidleisiau’r pleidiau ers 1997:
Llafur -11,694
Dems Rhydd +2,768
Plaid Cymru +821
Ceidwadwyr -478
O’r ffigurau hynny ‘does ‘na ddim dwywaith mai’r Democratiaid Rhyddfrydol sy’n manteisio ar gwymp y blaid Lafur yma – er i raddau gwan iawn.
Yn 2007, roedd hon yn sedd lle gwelwyd gogwydd at y blaid Lafur, credwch ai peidio. Cafodd fwyafrif o 24% dros y Democratiaid Rhyddfrydol. Dydi Llafur heb gael llai na 41% o’r bleidlais yma erioed ar lefel y Cynulliad. Dim ond 35% o etholwyr Dwyrain Abertawe bleidleisiodd yn 2007, cofiwch, sy’n awgrymu bod hon yn un o’r seddau hynny y mae’n well gan Lafurwyr, ar y cyfan, aros adref na phleidleisio dros yr un blaid arall.
Mae’r ffaith bod y sedd mor ddiogel i Lafur ar lefel y Cynulliad yn awgrym cryf y bydd yn parhau felly mewn etholiad Prydeinig. Yn sicr, mae etholiadau cyngor 2008 yn awgrymu hynny hefyd. Dim ond 26 o seddau sydd yn yr etholaeth, ond mae gan Lafur o hyd 17 o’r rheini, sef dros hanner ei chynghorwyr yn y sir gyfan. Gwyddom oll ddirywiad Llafur yn y sir ar lefel y cyngor, ond yn y rhan hon o’r etholaeth mae hi’n dal ei thir yn gymharol.
Os edrychwch ar ganlyniadau’r etholiad hwnnw yn yr etholaeth, gwelwch fod Llafur wedi ennill yn gymharol hawdd, a hi oedd yr unig blaid i gystadlu pob un sedd. Gwnaeth y Ceidwadwyr yn aruthrol o wael mewn sawl ward (er nad oes fawr o obaith iddynt yma beth bynnag), a llwyddodd Plaid Cymru ond sefyll pedwar ymgeisydd. Er, lle safodd y BNP, gwnaeth yn gymharol dda. Dydi hi ddim y tu hwnt i’r dychymyg meddwl bod cefnogaeth iddi mewn sedd fel hon.
Un set arall o ganlyniadau sydd, sef rhai Ewrop. Dyma’r canlyniad:
Llafur 4,004 (29%)
Plaid Cymru 1,905 (14%)
UKIP 1,821 (13%)
Dem Rhydd 1,642 (12%)
Ceidwadwyr 1,577 (11%)
Er i Lafur ennill yn hawdd yma, byddai Plaid Cymru wedi bod yn fodlon dod yn ail, a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn siomedig i ddod yn bedwerydd. Mawr dybiaf hefyd y byddai’r Ceidwadwyr yn anfodlon iddynt ddod yn bumed, a hynny y tu ôl i UKIP.
Eleni, felly. Mae’r BNP yn sefyll yma, a synnwn i ddim petai’n cyrraedd mil o bleidleisiau, yn bennaf ar draul Llafur. Bydd llawer yn dibynnu ar y niferoedd sy’n pleidleisio – 52% wnaeth yn y ddau etholiad blaenorol, gall yn hawdd lai na hanner wneud eleni. Llafurwyr fyddai’r rhai a fydd yn aros adref. Dyma’r math o sedd y bydd hi bron yn amhosibl i Lafur gynyddu ei phleidlais ynddi – ‘sdim math o gymhelliant i bleidleisio mewn sedd â mwyafrif mor fawr, lle nad oes bygythiad o unrhyw du, dros lywodraeth amhoblogaidd.
Pwy fydd yn elwa? Mi all y Ceidwadwyr wneud yn weddol, daeth Plaid yn ail y llynedd, a gall llwyddiannau’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y gorllewin orlifo i’r sedd hon. Teimlaf mai Llafur, Dem Rhydd, Ceidwadwyr a Phlaid fydd y drefn eto’r tro hwn, gyda’r tair yn elwa’n ddigon cyfartal o unrhyw ddirywiad ym mhleidlais Llafur, er dwi o hyd yn disgwyl i Lafur ennill tua hanner y bleidlais yma.
Proffwydoliaeth: Mwyafrif rhwng 7,000 a 9,000 i Lafur.
Nessun commento:
Posta un commento