Dyma ni sedd all fod yn ddiddorol os y mynn. Crëwyd Gorllewin Clwyd ym 1997, a hi yw prif olynydd Gogledd-orllewin Clwyd. O ran diddordeb, y Ceidwadwyr oedd deiliaid y sedd honno yn ddigon cadarn am hyd ei bodolaeth rhwng 1983 a 1997.
Iawn ta, beth am ambell ffaith am yr etholaeth? Mae hi’n ymestyn yn helaeth iawn, o Fae Colwyn ac Abergele yn y gogledd, i Gerrigydrudion yn y de a Rhuthun a thu hwnt i’r dwyrain. Mae dros chwarter yr etholwyr o oedran ymddeol, a dim ond 53% aned yng Nghymru, a 29% o’r trigolion yn Gymry Cymraeg. Yn debyg i Aberconwy gyfagos, mae rhan helaeth o’r etholaeth yn y Fro Gymraeg ond mae’r mwyafrif yn byw ar yr arfordir poblog.
Gallwn ond dechrau ein taith ym 1997 felly, a hynny a wnawn. Gareth Thomas o’r Blaid Lafur ddaeth yn aelod cyntaf y sedd newydd, gan drechu’r Ceidwadwyr, ond er iddo lwyddo ennill bron i bymtheg mil o bleidleisiau (37%), y gwir amdani oedd nad oedd ei fwyafrif yn gadarn o gwbl - llai na 1,900, gyda’r Ceidwadwyr fymryn y tu ôl gyda 13,000 o bleidleisiau. Cafodd y Blaid a’r Rhyddfrydwyr dros bum mil o bleidleisiau yr un, ond roedden nhw ymhell y tu ôl.
Yn reddfol, sedd Geidwadol ydi Gorllewin Clwyd, o bosibl o ganlyniad i nifer uchel y bobl o oedran ymddeol a’r gymuned amaethyddol yma, ac i fod yn onest, dyma’r math o sedd y dylai’r Ceidwadwyr ei hennill, os nad â mwyafrifoedd enfawr, yn rheolaidd. Cafwyd gogwydd tuag atynt yn 2001, ond roedd mwyafrif Llafur o hyd dros fil. Collodd y ddwy blaid bleidleisiau wrth i’r niferoedd a bleidleisiodd syrthio 11%. Nid y ddwy brif blaid oedd yr unig rai a ddioddefodd. Y tu allan i’w chadarnleoedd, roedd yn un o’r unig seddau yng Nghymru y bu i ganran Plaid Cymru o’r pleidleisiau ddisgyn y flwyddyn honno, a chofiaf yn iawn i hynny fod yn destun siom.
Roedd yn destun siom oherwydd canlyniad 1999. Er y daethai’n drydydd, daeth y Blaid o fewn llai na mil o bleidleisiau i gipio’r sedd, gan ennill bron i saith mil o bleidleisiau. Enillodd Alun Pugh i Lafur gyda dim ond 31% o’r bleidlais, tri y cant yn uwch na chyfanswm y Ceidwadwyr.
Cafodd Plaid Cymru etholiad siomedig arall yma yn 2003 – fel bron ymhobman yng Nghymru; disgynnodd ei phleidlais 6%. Llwyddodd Llafur a’r Ceidwadwyr gynyddu eu canran o’r bleidlais, ond Llafur orchfygodd o 436 o bleidleisiau. Cafodd tua 200 o bleidleisiau yn llai nag yn 2003, gyda’r Ceidwadwyr yn cael tua 200 o bleidleisiau yn fwy. Nid da lle gellir gwell.
Dechreuodd y rhod droi yn 2005 pan ddaeth y Ceidwadwyr yn ôl i wleidyddiaeth Cymru go iawn. Dyma un o dair sedd y gwnaethant eu hennill y flwyddyn honno, ond gyda’r mwyafrif isaf. Er gwaethaf popeth, mwyafrif o 133 o bleidleisiau yn unig lwyddodd David Jones ei sicrhau, ar ogwydd o 1.8%. Ni newidiodd pleidlais y naill blaid yn aruthrol. Llwyddodd y Democratiaid Rhyddfrydol gipio’r trydydd safle, wrth i’r Blaid barhau i ddirywio.
Isod ceir y newid yn nifer pleidleisiau’r pleidiau yma ers 1997, ynghyd â’r newid yn y ganran o’r bleidlais mewn cromfachau:
Ceidwadwyr -161 (+3.7%)
Dems Rhydd -428 (+0.5%)
Plaid Cymru -1,546 (-2.6%)
Llafur -2,142 (-1.2%)
Mater syml o bwy sydd wedi colli’r mwyaf o bleidleisiau ydyw felly. I mi, yr ystadegyn mwyaf syfrdanol ydi pleidlais Plaid Cymru, o ystyried ei bod wedi dechrau o sail weddol isel, mae colli 1,546 o bleidleisiau yn aruthrol, mae’n cyfateb i ddirywiad o 29%.
Dwi’n ystyried erbyn heddiw bod cyfnod modern unrhyw un o seddau Cymru yn dechrau gydag etholiadau 2007. Yn yr etholiad hwnnw, llwyddodd y Ceidwadwyr gipio ambell sedd ledled Cymru, a ‘doedd hi fawr o syndod bod Gorllewin Clwyd yn eu mysg. Y syndod mwyaf oedd ei bod wedi bod yn goch am gyhyd!
Y Ceidwadwyr ddaru ‘ennill’ y sedd hon hefyd, gan gipio tua 1,700 o bleidleisiau yn fwy na’r tro cynt. I fod yn deg ag Alun Pugh, a wnaeth yn dda i gadw’r sedd am wyth mlynedd mewn difrif, dim ond 400 o bleidleisiau gollodd yntau, ond fe ddisgynnodd y bleidlais Lafur 7%. Y flwyddyn honno hefyd tarodd Plaid Cymru yn ei hôl, gan ddod llai na chant a hanner o bleidleisiau y tu ôl i Lafur a sicrhau mai ras deirffordd fydd hi yn 2011 eto. Gyda 6.5%, roedd y Rhyddfrydwyr yn ffodus cadw eu hernes.
Rŵan, ‘does gen i ddim ffigurau parod am etholaeth Orllewin Clwyd ar lefel y Cyngor, a byddai’n cymryd cryn ymchwil i wneud hynny’n gall, ond mi enillodd y Ceidwadwyr tua theirgwaith yn fwy o bleidleisiau na Llafur yma yn 2008. Yn amlwg, roedd Llafur ar drai a’r Ceidwadwyr (a gafodd tua thraean) yn cadw eu tir yn fwy na dim.
Cymerodd pethau dro diddorol y llynedd. Dyma’r canlyniad:
Ceidwadwyr 31%
Plaid Cymru 22%
UKIP 14%
Llafur 12%
Buddugoliaeth dda i’r Ceidwadwyr, a byddai Plaid Cymru hefyd yn fodlon iawn ar y ffaith iddi ddod yn ail cyfforddus a pharchus iawn. Ni all Llafur ddianc o’r ffaith bod 12% yn ganlyniad sydd, i bob pwrpas, yn ildio’r sedd i’r gorlan las eleni – roedd pedwerydd mewn sedd a ddaliai yn San Steffan gwta bedair blynedd yn ôl yn echrydus o ganlyniad.
Amgyffreda rhywun mai’r Blaid a’r Ceidwadwyr allai’n wir frwydro am y sedd yn Etholiadau Cynulliad y flwyddyn nesaf, ond beth am eleni? Dyma’r math o sedd y byddai rhywun yn disgwyl i bobl a bleidleisiodd i UKIP y llynedd drosi eu pleidlais i’r Ceidwadwyr y tro hwn, ond gyda UKIP yn sefyll yma eleni dydi hynny ddim o reidrwydd yn wir.
Mae UKIP yn rhywfaint o ‘unknown quanitity’ eleni. Gwyddys ei bod wedi gwneud yn rhagorol y llynedd, ond mae’n anodd gwybod i ba raddau y bydd yn amharu ar yr etholiad hwn. Mewn sedd fel hon, tuedda rhywun i feddwl bod pleidleisiau iddi. Cafodd bum cant y tro diwethaf, a gall gyrraedd y mil, ond dydw i ddim yn gwybod pe mor debygol ydi hynny, yn enwedig yn erbyn aelod fel David Jones, sy’n rhywun y byddai dyn yn amgyffred y byddai’n ddigon bodlon yn rhengoedd UKIP. Canfyddiad ydi hynny, wrth gwrs, yn hytrach na dealltwriaeth fanwl o feddwl y dyn!
Mae’n anodd hefyd rhagweld beth fydd yn digwydd i bleidleisiau Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Yn gryno, gwnaeth Plaid Cymru yn dda yma yn 2007 a 2009, a ddaru’r Dems Rhydd ddim - mae pob rhesymeg yn awgrymu y bydd y Blaid yn adhawlio’r trydydd safle o leiaf, a mentraf ddweud dyna fydd yn digwydd.
Mae rhai pobl yn dweud y gallai Plaid Cymru guro Llafur yma eleni. Fe fyddai hynny’n gamp, ond mae demograffeg yr etholaeth yn awgrymu y bydd hi’n anoddach i Blaid Cymru ddenu pleidleisiau wrth Lafur yma na mewn ardaloedd megis y Cymoedd. O ystyried hefyd bod 25% rhwng y ddwy blaid yn 2005, wel, rydyn ni’n annhebygol o weld gogwydd o 12.5% rhyngddynt! Hefyd, tybia rhywun fod pleidlais naturiol y Blaid mewn sedd fel hon (fel efallai ym Môn neu Geredigion) yn fwy ceidwadol ei naws na sawl lle arall – efallai mai’r Ceidwadwyr, ac efallai’r Rhyddfrydwyr, y dylai eu targedu, nid Llafur.
Ta waeth, mae Plaid Cymru wedi gwneud yn dda yn ddiweddar, a dydi cyrraedd 15% neu fymryn yn fwy yn sicr ddim y tu hwnt i obaith. Ar lefel San Steffan, ‘does dim peryg iddi ennill, fodd bynnag.
Mae’n debyg iawn bod y sedd ei hun y tu hwnt i Lafur, fodd bynnag. Yn fy marn i, ni fydd Llafur yn ennill sedd oddi ar blaid arall yng Nghymru eleni, ac mae Gorllewin Clwyd yn dawel ond yn sicr dychwelyd at ei gwreiddiau Ceidwadol. Oni fo’r niferoedd sy’n pleidleisio yn sylweddol uwch, mae’n anodd iawn gen i weld Llafur yn ennill mwy na 13,000 o bleidleisiau. O ystyried etholiadau’r Cynulliad ac Ewrop, teimlaf fod 9,000 yn isafswm teg.
O ran y Ceidwadwyr, anodd gen i eu gweld yn peidio ag ennill o leiaf 13,500 o bleidleisiau yma o dan unrhyw amgylchiadau. Yn wir, disgwyliaf iddynt gael tua 40% o’r bleidlais. Gyda nifer ychydig yn uwch yn pleidleisio byddai hynny tua phymtheg mil o bleidleisiau. Er bod y sedd yn naturiol Geidwadol i raddau helaeth, nid yw’r Ceidwadwyr yr un mor boblogaidd â Llafur ym 1997, felly gallai 15,000 fod yn uchafswm realistig yn yr achos hwn.
Proffwydoliaeth: Byddai’n ganlyniad gwael i’r Ceidwadwyr pe na baent yn trechu Llafur gyda mwyafrif a fydd o leiaf yn bedair mil.
Nessun commento:
Posta un commento