martedì, gennaio 04, 2011

giovedì, dicembre 30, 2010

Degawd newydd da

Ro'n i am ddymuno degawd newydd hapus i chi ond dim ond rwan dwi'n sylweddoli mai llynedd ddylwn i wedi wneud hynny.

Ffyc.

Sut bynnag, gyda nifer y darllenwyr eleni 50% yn uwch na llynedd o leiaf mi fydda i'n smyg iawn dros y flwyddyn newydd. Go on, ffeindiwch rywbeth i fod yn smyg amdano eich hun, mae'n werth chweil, yn enwedig i darfu ar wyll y mis gwaethaf sydd ar y gweill. Ionawr. Casáu Ionawr.

Blwyddyn newydd dda i chi gyd!

gol. ac ydw, dwi yn gwbod na'r 30ain, nid y 31ain ydi o, ond dwi ddim am flogio fory so ddêr

lunedì, dicembre 27, 2010

Goleuadau'r Nadolig

Sut Nadolig wnaeth hi felly? Iawn? Cymedrol? Gwych? Dydyn nhw byth yn wych yn y pen draw nac ydyn. Ac nid y gwychaf na’r gwaethaf a gafwyd unwaith eto eleni. Ond mi wnes fwynhau yn fy ffordd fach fy hun.

Fe’m codwyd tua 8.30 y bora gan y chwaer a Mam mewn het Siôn Corn, sy’n ddigon i ddychryn y dewraf a dweud y lleiaf. Er i mi yfad mwy na’r arfer yn Stryd Pesda ar Noswyl y Nadolig (traddodiad pwysig) ni’m trechwyd gan ben mawr drwy gydol y dydd. Buddugoliaeth ynddi’i hun ydoedd, oherwydd fel arfer mi fydda i’n teimlo’n sâl dros ginio ac yn mynd i’r gwely am y rhan fwyaf o’r pnawn gan fwy neu lai sbwylio Dolig pawb arall.

Mi es lawr grisha felly i weld pa erchyllterau a adawsai Siôn Corn i mi. Er gwaethaf ei bwriadau, mae gan Mam duedd i brynu anrhegion nad oes mo’u heisiau na’u hangen arnaf. Wn i fod hynny’n swnio’n anniolchgar ond dydi o ddim, ac mae’r hen dîar yn cadw’r derbynebion i gyd chwara teg. A hithau’n draddodiad teuluol agor un anrheg ar y Noswyl, nid oedd pethau’n argoeli’n dda pan ddatgelwyd bryd hynny fag plastig i ddal dillad i’w golchi.

Ar y cyfan, cyfuniad o bethau a ddychwelir i’r siop neu na welir mohonynt eto a gafwyd. Hunangofiannau Ned Thomas a Roger Roberts (mae gas gen i hunangofiannau, a nid dyma’r ddau i’m hargyhoeddi – ‘nenwedig Roger blydi Roberts), padell ffrio ar gyfer un wy, pâr hyll o jîns (a chanddo tua 12 pâr eisoes nid oes angen jîns ar yr Hogyn) a’r hwdi hyllaf ar y Cread crwn.

Am unwaith fe werthfawrogodd Dad ei bresant, sef the Pocket Book of Manchester United. Fe’i darlleno, a fydd ryfeddod achos dydi o byth wedi darllen llyfr yn ei fywyd – yn ei feddwl o mae darllen y Daily Star bob dydd yn gwneud iawn am hyn – ac arferol ddiolchgar oedd y Mam a’r chwaer.

Cafodd Nain ei gwahardd gan Mam rhag plygu’r papur lapio yn ddel “er mwyn ei ddefnyddio eto” achos bod digonedd ohono acw’n Sir Fôn ac yn ddigonedd nas defnyddir fyth. Lapith honno mo bresant i neb fyth, heb sôn am brynu un.

Dwi’n mynd i fwydro rŵan, felly cadwn ail hanner y dydd yn fyr. Roedd y cinio’n hyfryd, a’r twrci nid sych ond bwytadwy iawn, y’i bwytasid wrth glywed straeon doniol Nain am ‘stalwm ac Anti Blodwen yn rhoi cweir i ryw ferch arall am galw hen Nain yn ‘dew’. “Wel ‘rargian fawr, mi wyt ti’n dew,” oedd ymateb hen Daid meddai hi.

Ta waeth cafwyd pnawn diog ond mi welwyd y peth rhyfeddaf tua deg munud wedi pump. Yn digwydd bod, ro’n i’n ista ar y sedd yn wynebu tua Moel Faban, ac yn sydyn reit dyma ‘na olau oren yn dod o Gwm Llafar, y tu ôl i Foel Faban, er y taeraswn iddo ddechrau ar ochr orllewinol Foel ei hun, achos ro’n i’n meddwl mai tân ydoedd i ddechrau.

Ymhen dim, a’r golau cyntaf yn esgyn uwch Foel a ninnau wedi hen ddeall nad hofrennydd mohono (sef yr ail olau) esgynnodd un arall i’r awyr, y tro hwn yn bendant iawn o Gwm Llafar. Mi ddiflannodd yr ail yn syth bin – un funud roedd yn olau a’r eiliad nesa’ nid oedd, wrth i’r llall raddol ddiffodd megis fflam ddiwedd cannwyll. Roedd y ddwy funud hynny yn rhai rhyfedd ar y diawl.

A minnau ddim yn credu mewn UFOs a pobol fach o blanedau eraill, nid am unrhyw reswm ond am f’ystyfnigrwydd fy hun, fedra’ i ddim meddwl am eglurhad. Ond fela mai a fela fydd, Dolig arall a oroeswyd!

lunedì, dicembre 20, 2010

Dolig Llawen ac ati

Mai'n rhy oer i flogio. Mae Caerdydd yn wyn a dwi'n rhynnu ac yn poeni na fydda i hyd yn oed yn y Gogs y Dolig hwn. Ta waeth, dyma fi'n dweud 'Dolig Llawen cynnar ac mi a'ch gwelaf faes o law!

giovedì, dicembre 16, 2010

S4C i ddangos rhaglenni Saesneg?

Egwyddorion ac ymarferoldeb. Dwi wedi sôn am hynny o’r blaen. Dyma erthygl arferol o fer ar Golwg360 lle mae Arwel Ellis Owen yn dweud ei bod yn ‘anochel’ y bydd S4C yn ailddechrau dangos rhaglenni Saesneg.

Yn egwyddorol, mae hynny’n gwbl, gwbl anghywir. Sianel Gymraeg ydi S4C a dyna ddiwedd arni. Mae hi’n sianel Gymraeg cyn ei bod yn sianel i Gymru hyd yn oed. Ei bwriad ydi hyrwyddo’r Gymraeg a sicrhau ei bod yn rhan o’r byd modern. Pa gyfraniad a wna dangos rhaglenni Saesneg at hynny? Dim. Rhaid dweud yn gwbl glir: ni ddylai fod unrhyw le i raglenni Saesneg ar S4C atalnod llawn ffwl stop – does ‘na ddim dadl am y peth.

Ond y gwir ydi mae’r peth yn wirion o anymarferol hefyd, i’r graddau ei bod yn stiwpid – a dwi’n defnyddio’r gair ‘stiwpid’ achos fedra i ddim meddwl am ffordd gryfach na gwell o’i gyfleu. Pa raglenni Saesneg, dwad? Rhaglenni gan y BBC? Rhaglenni gan Channel 4?

Rydyn ni’n yr oes ddigidol, neno’r tad. Ers dyfod teledu digidol, os mae rhywun isio gwylio raglen sydd ar Channel 4, fe wnânt hynny. Hyd yn oed os mae o ar yr un pryd ar S4C, Channel 4 fydd pobl yn ei gwylio i weld y rhaglen. ‘Sneb yn troi at S4C gyda’r bwriad o wneud unrhyw beth ond am wylio rhaglen Gymraeg.

Ailddarllediadau o raglenni ar sianeli eraill? Eto, mae hynny’n stiwpid. Gall pobl recordio rhaglenni yn hollol ddidrafferth, fynd i wefannau sianeli neu yn achos Channel 4 gwylio Channel 4 +1. Erbyn hyn, mae’r gynulleidfa i raglenni Saesneg ar S4C, i bob pwrpas, yn llai nag i’r rhaglenni Cymraeg. Hyd yn oed ar ôl y toriadau erchyll sy’n dyfod, ‘does ‘na ddim sens yn y peth.

Ychydig eiliadau dwi wedi’u cymryd i feddwl bod hwn yn syniad hurt ac esbonio pam. Tasa S4C yn blentyn swni’n gafal arno, yn rhoi sgytwad iawn iddo a deutha fo ffwcin callio.

mercoledì, dicembre 15, 2010

Refferendwm 2011 - myfyrio bras

Y mae pob pôl a wnaed hyd yn hyn yn awgrymu buddugoliaeth ddidrafferth i’r Ymgyrch ‘Ie’ yn refferendwm mis Mawrth, a hynny’n sicr ymhlith y rhai sy’n bwriadu pleidleisio. Hynny ohonynt a fydd yn pleidleisio, wrth gwrs. Ym mêr fy esgyrn dwi’n rhyw deimlo y bydd llai na hanner pobl Cymru yn bwrw pleidlais ar Fawrth 3ydd, ac er fy mod yn disgwyl buddugoliaeth, fydd hynny yn ei hun yn rhywbeth negyddol iawn i’n democratiaeth ifanc – hynny ydi, trosglwyddir pwerau i’r Cynulliad heb fandad gwirioneddol.

Ond a ydym ni am ennill y flwyddyn nesaf a beth fydd maint y fuddugoliaeth honno? O ran y cwestiwn cyntaf dwi fy hun yn hyderus iawn o ganlyniad y refferendwm, ac y caiff y Senedd bwerau deddfu llawn yn y meysydd datganoledig i gyd ar unwaith, gan ddisodli’r system drwsgl sydd ohoni. Ond mae maint y fuddugoliaeth yn ddadl arall, ddiddorol, a fydd yn dweud llawer i ni am y Gymru gyfoes.

Dwi’n hyderus y bydd pob sir a bleidleisiodd o blaid sefydlu cynulliad yn gwneud hynny unwaith eto yn 2011, ac eithrio Ynys Môn – yn wir, fe alla’ i’n hawdd weld Môn yn dweud ‘na’. Mae dros y degawd diwethaf elfen o elyniaeth wedi dod i’r amlwg yn y Gogledd tuag at y Cynulliad, a’r hen llinell a ddywedwyd gangwaith ac nid yn ddi-sail “mae popeth yn mynd i Gaerdydd”. Mae’r teimlad hwnnw’n gryf – ac mae Seisnigeiddio’r Ynys (ynghyd â’r Gogledd cyfan) yn bwrw amheuaeth dros y canlyniad yno.

Mae’n hawdd gen i hefyd weld gynnydd yn y bleidlais ‘ie’ yng ngweddill siroedd y Gogledd (ac eithrio o bosibl Wynedd) ond nid i’r graddau y bydd yr un ohonynt yn pleidleisio o blaid. Gallwn o bosibl weld buddugoliaethau bach yng Nghonwy a Sir Ddinbych, neu’n fwy tebygol Wrecsam, ond bydd Sir y Fflint eto’n gymharol gadarn yn erbyn mi dybiaf. Felly mae’n bosibl yn y Gogledd o leiaf y bydd y bleidlais o blaid yn cynyddu ond mai Gwynedd fydd yr unig sir o blaid. Gogwydd, ond nid pleidlais o hyder, a geir o’r Gogledd.

Gallai newidiadau cymdeithasol yng Ngheredigion, Powys, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro arwain at gynnydd yn y niferoedd sy’n dweud ‘na’ yn fy marn i. Fel Môn, gallai canlyniad Ceredigion fod yn sioc, er nad ydw i’n gweld hynny’n digwydd. Yn sicr, alla i ddim gweld Powys yn pleidleisio o blaid. Fawr o newid ydi ‘nheimlad i yn y bôn.

A beth am y De? Wn i ddim a fydd newidiadau enfawr yn y De, ond un peth dwi’n sicr yn ei ddisgwyl ydi y bydd Caerdydd yn pleidleisio o blaid. Mae’r agwedd at ddatganoli yn y ddinas wedi gweddnewid dros ddegawd, ac yn wir gall y fuddugoliaeth yno fod yn un gadarn. Dwi’n meddwl y bydd ‘na ddifaterwch mawr yn rhai o’r Cymoedd, sy’n fwy tebygol o ffafrio’r ymgyrch ‘ie’. Synnwn i ddim a fydd siroedd Torfaen a Bro Morgannwg yn pleidleisio o blaid y tro hwn. Beth bynnag fydd yn digwydd, anodd gen i weld gogwydd at ‘Na’ yn Ne Cymru.

Dadansoddiad bras iawn ydi’r uchod wrth gwrs. Ydw, dwi’n rhagweld buddugoliaeth, ond buddugoliaeth all fod fymryn yn wag oherwydd nifer isel yn pleidleisio. Ac mewn rhai ardaloedd, gall y canlyniad fod yn arwydd o’r newidiadau llawr gwlad sy’n mynd rhagddynt, ac achosi dirfawr bryder am ganlyniad arall, sef rhai’r Cyfrifiad a gynhelir hefyd yn 2011.

martedì, dicembre 14, 2010

Pobl flin, pobl ddig

Yn ôl pob tebyg, fyddwch chi sy’n dilyn helynt y blog hwn yn cael sioc o’r datganiad canlynol: ar y cyfan, dydw i ddim yn fasdad blin. Dwi’n aml yn rhwystredig, ac yn aml yn ddadrithiedig, ac mae fel y gwyddoch gant a mil o bethau yn y byd sy’n mynd ar fy nerfau - ond does fawr o dymer arnaf yn y bôn.

Mae’r ffordd a wylltiwn yn un o’n nodweddion. Cyn iddo gael strôc flynyddoedd nôl, roedd fy nhaid yn berson na wylltiai fyth. Mae’r hen Lowri Llewelyn fach felly hefyd mewn difri. Wedyn mae ‘na rai pobl, fel Steff (sydd isho mensh ar y blog) sy’n hynod hawddgar ac yn anodd tu hwnt i wylltio. Ond pan mae’n gwylltio, mae’n gwylltio’n gacwn (dywed ef, dwi ddim actiwli yn ei gredu yn y mymryn lleiaf – deud hynna i edrych yn tyff mae o). Ac wedyn mae ‘na bobl, megis Haydn blin, sy wastad yn flin. Efallai y gwelwch eich hun yn un o’r disgrifiadau uchod.

Nid felly fi. Yn gyffredinol, dwi’n rhywun sydd â ffiws ofnadwy o fer ond sydd, ar y cyfan, yn distewi yn gymharol hawdd ... er fi fydd y cyntaf i gyfadda fod gen i dueddiad i bwdu! Prin iawn y gwna i wylltio o’r enaid ar rywun neu rywbeth. Mi fedraf fod yn siarp iawn a chodi’n llais, ond y funud nesaf wenu ‘tha giât.

Ar hyn o bryd mae’r ffiws yn fyrrach na’r arfer. Cyfuniad o bethau ydi hyn. Rhyngo chi a fi a’r Gymru Gymraeg, ac eithrio’r Nadolig ei hun, lle bydda i er gwaetha fy nghwyno yn ddigon bodlon, ryw gyfuniad o bwdu, anfodlonrwydd cyffredinol ar fywyd a chwerwder ydyw. Er bod gen i resymau penodol, yn gyffredinol mi fyddaf rywbeth tebyg bob blwyddyn rhwng diwedd mis Tachwedd nes dechrau’r Chwe Gwlad.

SAD? Wel, dwi ‘di cael fy ngalw’n waeth....

lunedì, dicembre 13, 2010

Siopa 'Dolig

Fel arfer fydda i’n cwyno ac achwyn am y Nadolig. Dydi ‘leni fawr wahanol – mae masnacheiddio a materoleiddio’r ŵyl yn rhywbeth y dylai unrhyw un call ffieiddio arno. Hyd yn oed os nad ydych yn grefyddol, onid amser i’r teulu ddod ynghyd (i ffraeo a checru ar ei gilydd, dwi’m yn deud) ydyw a threulio amser ddi-hid â’r bobl sydd agosach atoch? Efallai mai fi sy’n or wrth-faterol am bethau felly.

Neu efallai ei bod hi i gyd am y presanta rŵan, wn i ddim. ‘Sgen i fawr o fynadd cael anrhegion Dolig achos, gan o bosibl swnio’n anniolchgar, dwi’n gwybod y bydda i’n gorfod smalio fy mod i’n falch o gael y rhan fwyaf ohonynt, cyn eu rhoi i lechu mewn rhyw anghysbell gornel o’r llofft a gobeithio byth eu gweld eto.

Rŵan, er i mi ddweud uchod fy mod yn ffieiddio ar fateroldeb ar y cyfan, dwi fel rheol yn hen fasdad cynnil efo arian; hynny ydi dwi’m yn licio gwario. Serch hynny, mae gwario ar bresanta yn rhywbeth dwi ddim yn meindio gwneud – mi fentraf ddweud fy mod yn cael llun o deimlad cynnes ynof o wario ar rywun arall heblaw amdanaf fy hun. Ar fy nheulu, o leiaf, i bawb arall mae gofyn i mi brynu hyd yn oed beint yn ddigon i ennyn tragwyddol gasineb.

Ac, eleni, yn ôl f’addewid, mae’r siopa Nadolig wedi’i wneud mewn da bryd. Rhywbeth bach i Dad, achos ddiolchiff mo hwnnw petawn i’n prynu Man Utd ei hun iddo. Rhywbeth bach i Nain ei sarhau, sef ei ffordd hi o ddweud diolch. Aiff yn anrheg fwyaf ystyriol i Mam – wedi’r cyfan, er gwaetha’r ffaith ei bod hi’n Saesnes boncyrs y mae ei meddwl yn aml blanedau i ffwrdd o’m un i, mae hi’n fam i mi ac yn haeddu mwy na alla’ i ei fforddio eniwe.

Yn eironig, aiff yr anrheg ddrutaf i’r chwaer. Mae’n eironig oherwydd, fel sydd wedi’i grybwyll ar y blog yn y gorffennol, nid yn unig ydi’r Hogyn a’i chwaer yn bobl debyg mewn unrhyw fath o ystyr, a maen nhw’n cecru fel nas gwelwyd. Yn aml iawn dydyn ni ddim hyd yn oed yn hoffi’n gilydd fawr ddim, ond rydyn ni’n ddi-ffael yn amddiffynnol o’n gilydd. Cyfuniad rhyfedd de? A’r unig adag o’r flwyddyn y cydnabyddir y ffaith ddibwys honno ydi’r Nadolig, efo anrheg ddrud gan ei brawd mawr.

A dyna’r agosaf dwi’n dod at bod yn ciwt.