sabato, dicembre 27, 2014

Proffwydo 2015: Y Ceidwadwyr

I mi’n bersonol, mae’r hyn a allai ddigwydd i’r Ceidwadwyr yng Nghymru y flwyddyn nesaf yn fwy difyr nag unrhyw un o’r pleidiau eraill. Y rheswm dros hyn yn syml ydi UKIP. Er bod cynnydd UKIP i’w weld yn effeithio’n fwyfwy ar Lafur, teg dweud mai’r farn academaidd gyffredin o hyd yw y bydd yn effeithio ar y Ceidwadwyr yn fwy. Ond yng Nghymru, dwi’n amau’n gryf y gallai’r gwrthwyneb fod yn wir – hynny yw, y bydd Llafur yn colli mwy o bleidleisiau i UKIP nag y bydd y Ceidwadwyr. Y broblem i’r Ceidwadwyr ydi nad ydi eu seddi hanner mor ddiogel â rhai Llafur. Gallai Llafur golli mwy o bleidleisiau i UKIP na’r Ceidwadwyr, ond llwyddo i gipio seddi oddi ar y Ceidwadwyr serch hynny. Rhyfedd o fyd.

Heb isio mynd yn ôl gormod mewn hanes – dyma sut mae’r Ceidwadwyr wedi gwneud ers trychineb 1997.

Etholiad
Pleidleisiau
Canran
Seddi
1997
317,145
19.6
0
2001
288,623
21.0
0
2005
297,830
21.4
3
2010
382,730
26.1
8

Dwi’n meddwl ei fod yn deg dweud, erbyn 2010, roedd y Ceidwadwyr yn agos at wneud cystal ag y gallen nhw ddisgwyl ei wneud yng Nghymru y dyddiau hyn. Ar yr un olwg mae ystadegau 2010 yn rhai calonogol iddynt ond byddai hynny braidd yn gamarweiniol. Rhaid cofio, hon yw’r blaid gafodd hanner miliwn o bleidleisiau yng Nghymru, bron ar ei ben, mewn pedwar etholiad o’r bron rhwng 1979 a 1992. Erbyn heddiw, mae’n anodd iawn gweld y Ceidwadwyr yn gwneud cystal yng Nghymru byth eto.

Er, tydi’r patrwm yn y tabl uchod ddim yn unigryw. Mae’r bleidlais Geidwadol wedi cryfhau’n gyson yn etholiadau’r Cynulliad hefyd, gan godi o lai na 16% ym 1999 i bron 23% yn 2011. Y mae’r craidd Torïaidd i’w weld eto’n un gweddol gadarn, er nid yn un enfawr.

Ond o ran heddiw, yn hytrach na ddoe, roedd 2010 yn ganlyniad da i’r Ceidwadwyr, er yn bosib hoffen nhw fod wedi gwneud fymryn yn well o ran seddi. Serch hynny, mae’r Ceidwadwyr mewn llywodraeth ers bron pum mlynedd erbyn heddiw. A dydi hon ddim yn glymblaid boblogaidd. Mae’r blaid leiaf ynddi’n cael ei waldio yn y polau. Felly byddai disgwyl i’r Ceidwadwyr fod ar drai dirfawr yn y polau.

Wele dabl, wele ddifyrwch.

 
Ceidwadwyr
UKIP
Llafur
Etholiad 2010
26.1%
2.4%
36.2%
Polau Cymreig 2012-2013
22.9%
8.3%*
49.9%
Polau Cymreig 2014
23.4%
13.0%
40.9%
* 2013 yn unig

Mae’r gefnogaeth i’r Ceidwadwyr, fel sydd wedi cael ei ddweud mewn blogiau eraill o’r blaen, wedi bod yn rhyfeddol tu hwnt o sefydlog. Cefnogaeth Llafur sydd i’w gweld yn chwalu, gydag UKIP ar gynnydd. Roedd cefnogaeth UKIP ym mhôl olaf eleni 8% yn uwch na’r un adeg y llynedd, gyda Llafur 10% yn is, a’r Ceidwadwyr 2% yn uwch. A dyna’r duedd a fu yn mholau Cymreig eleni o ddechrau’r flwyddyn hyd ei therfyn; UKIP ar gynnydd, Llafur ar drai, y Ceidwadwyr yn dal eu tir. Y mae’r rhyng-gysylltiad, fel petai, rhwng sgorau pôl y tair plaid hyn yng Nghymru yn rhyfeddol o ddifyr. Pan ddywedodd Nigel Farage, “There’s something happing in Walesthat I don’t fully understand”, dwi’n unfarn â fo.
 
Yr awgrym cryf ydi bod gogwydd mawr o Lafur i UKIP yn digwydd yng Nghymru, a bod y gogwydd oddi wrth y Ceidwadwyr yn llai, efallai’n wir yn sylweddol lai. Ond wrth gwrs, fel y crybwyllais uchod, problem y Ceidwadwyr ydi bod eu seddi nhw’n llawer, llawer mwy tebygol o gael eu colli, yn syml am fod y mwyafrifau’n llai, a bod demograffeg rhai o’r seddi a gadwant yn eithaf ffafriol i UKIP amharu ar eu gobeithion o’u cadw.
 
Sedd
Mwyafrif
Ail blaid yn 2010
Mynwy
10,425
22.4%
Llafur
Gorllewin Clwyd
6,419
16.8%
Llafur
Preseli Penfro
4,605
11.6%
Llafur
Bro Morgannwg
4,307
8.8%
Llafur
Aberconwy
3,398
11.3%
Llafur
Gorll. C’fyrddin a De Penfro
3,423
8.5%
Llafur
Trefaldwyn
1,184
3.5%
Democratiaid Rhyddfrydol
Gogledd Caerdydd
194
0.4%
Llafur

O edrych yn fras ar yr uchod, mae’n anodd dadlau, dwi’n meddwl, mai’r Ceidwadwyr ydi’r ffefrynnau clir iawn mewn pedair – Mynwy, Gorllewin Clwyd, Preseli Penfro a Threfaldwyn (a hynny am resymau penodol yn ymwneud â’r etholaeth honno). Mae’r mwyafrif ym Mynwy yn rhy fawr i Lafur ei oresgyn fel y saif pethau, a thybia rhywun y bydd David Jones, Stephen Crabb a Glyn Davies oll yn ddiogel diolch yn bennaf i bwy ydyn nhw. Dwi’n hapus y funud hon i alw pob un o’r seddi hynny i’r Ceidwadwyr.
 
 
 
Ar yr un pryd, does ‘na ddim wir amheuaeth y bydd y Ceidwadwyr yn colli Gogledd Caerdydd – roedd pôl etholaeth yr Arglwydd Ashcroft ym mis Mai yn awgrymu bod y Ceidwadwyr ar ei hôl hi 40 i 33 pwynt canran i Lafur. Teimla rhywun, er bod Llafur o hyd yn gwanychu yn y polau Cymreig, nad oes ffordd yn ôl yma.
 
Mae Ashcroft yn eithaf handi pan ddaw i edrych ar etholaethau unigol – rhyddhawyd pôl arall (sydd â manylion hynod ddifyr ynddo os ewch chi drwy’r ffigurau) fis yma, ond hynny am Orllewin Caerfyrddin a De Penfro. Awgryma gwymp sylweddol ym mhleidlais y Ceidwadwyr, a chynnydd sylweddol i UKIP, ond gyda’r gefnogaeth i Lafur yn segur (yn wir, fymryn yn is nag yn 2010) yno, maen nhw’n edrych fel cadw’r sedd. Fodd bynnag, ym mis Rhagfyr rydyn ni hefyd wedi gweld Llafur yn ymestyn y bwlch dros y Ceidwadwyr yn y polau Prydeinig. Sedd arall ydi hon sy’n gwbl, gwbl ddibynnol ar oddi ar bwy mae UKIP yn denu eu cefnogaeth.
 
Gadewa hynny ddwy sedd arall, sef Bro Morgannwg ac Aberconwy, dwy sedd lle byddwn i’n tybio bod UKIP am ddenu mwy o bleidleiswyr Ceidwadol na Llafur. Yn ôl yn 2007, safodd UKIP ym Mro Morgannwg gan ennill dros 2,000 o bleidleisiau, a thybiodd lawer bryd hynny, heb eu hymyrraeth nhw, mai’r Ceidwadwyr fyddai wedi mynd â hi (os cofiwch chi, Llafur enillodd o 83 pleidlais).
 
Mae hefyd bleidleisiau i UKIP yn Aberconwy – mae demograffeg y sedd yn awgrymu hynny’n ddiamheuaeth. Dybiwn i fod gobeithion y Ceidwadwyr o gadw’r ddwy sedd hyn yn cymharu rhywfaint â Gorllewin Caerfyrddin – maen nhw am golli miloedd o bleidleisiau i UKIP, ond os gall UKIP hudo hyd yn oed rai cannoedd gan Lafur, gallai fod yn ddigon.
 
Dybiwn i fod Aberconwy’n fwy diogel na Bro Morgannwg ar y funud. Mae pleidleisiau i’w hennill a’u colli i bob cyfeiriad yn Aberconwy, ond ras rhwng dau ydi Bro Morgannwg, fydd efallai’n gwasgu ar bleidleisiau fymryn yn fwy. Cawn weld.
 
Mae UKIP, fodd bynnag, yn broblem fawr i’r Ceidwadwyr yng Nghymru. Os bydd UKIP yn denu digon o bleidleisiau ganddynt yng Ngorllewin Caerfyrddin, Bro Morgannwg, Aberconwy a hyd yn oed, ar ddiwrnod da iddynt, Gorllewin Clwyd, gallai’r seddi hyn gael eu colli. Dydi’r gwrthwyneb ddim yn wir o ran Llafur – bydd Llafur yn colli degau o filoedd o bleidleisiau i UKIP hefyd, ond ni welaf unrhyw sedd yng Nghymru lle mai’r Ceidwadwyr sydd debycaf o fanteisio ar hynny.  
 
Petaem ni’n byw mewn hinsawdd wleidyddol gyffredinol, mae ‘na ambell sedd arall y tu allan i’r wyth sydd ganddynt lle gallai’r Ceidwadwyr fod yn gystadleuol. Ond fel ag y mae hi, hyd yn oed petaent yn cadw pob un o’r seddi uchod, dim ond un sedd y gallen nhw gobeithio ei chipio eleni, sef (fel y trafodais wrth drafod y Democratiaid Rhyddfrydol) Brycheiniog a Maesyfed. Awgryma Ashcroft nad ydi hynny am ddigwydd. Dwi’n tueddu i feddwl, yn y sedd benodol honno yn yr etholiad penodol hwn sydd ar y gorwel, mai job y Ceidwadwyr ydi cynnal eu pleidlais graidd. Job syml, anodd fydd hynny, ond gallai fod yn ddigon a throi Powys gyfan yn las.
 
Serch hynny, fel hyn dwi’n ei gweld ar y Ceidwadwyr y tro hwn. O’u hwyth sedd bresennol, ond eu hanner sy’n ddiogel, maen nhw’n debygol o ennill mewn dwy (Aberconwy a Gorll. C’fyrddin), yn debygol o golli un (Bro Morgannwg) ac yn sicr o golli un (Gog. C’dydd). Os ydyn nhw’n dal eu tir yn y polau Cymreig – efallai’n ennill rhyw ganran neu fwy yn genedlaethol nag sy’n cael ei awgrymu yn y polau – gallai hynny fod yn ddigon i gadw 7 o’u seddi a chipio un.
 
Pa beth bynnag eu ffawd yn 2015, mae dyddiau duon ’97 a ’01 yn hen, hen hanes erbyn hyn. Y mae’r blaid Geidwadol yma i aros am sbel.
 
Yn y flwyddyn newydd byddaf yn dadansoddi gobeithion Plaid Cymru.

martedì, dicembre 16, 2014

The Hobbit: Battle of Five Armies - Adolygiad

I fi, does ‘na fawr gwaeth sarhad na chael fy ngalw’n gîc. Ond o ran Lord of the Rings, dwi’n amharod dderbyn y label. O, dwi’n caru’r hen Middle Earth, a hynny ers gweld y drioleg wreiddiol ddegawd yn ôl. Wedi hynny y darllenais i’r llyfrau. Ac yna The Hobbit, The Silmarillon a llyfrau lu yn ategu’r peth. Mae’r holl beth yn anhygoel imi. Does unman dwi’n ymgolli ynddo mwy. Ond llai o nonsens cyn i mi swnio fel mwy o gwd nag ydw i.
 
Ro’n i’n eiddgar ddisgwyl trioleg The Hobbit felly. Dyna’r tro cyntaf i mi fod i’r sinema ben fy hun, oedd yn beth mawr achos dwi'm rili yn foi sinema na ffilmiau. Wnes i fwynhau’r gyntaf a’r ail – yr ail yn benodol. Lord of the Rings nid oeddynt ond wnes i fwynhau’n fawr o hyd. Felly ar ôl blwyddyn o aros mi gefais i weld rhan derfynol y drioleg ddydd Gwener. Dwi ‘mond yn cael bwrw ‘mol achos nesi addo i Steff o gwaith na dywedwn unrhyw beth o gwbl yn unman nes iddo fo ei gweld/clywed rhag ei sbwylio.
 
Rŵan, tydw i’m yn burydd Tolkien o gwbl a ‘sgen i ddim mynadd â phurdeb efo pethau fel’na – blydi stori ffuglen ydi hi wedi’r cwbl. Ond ow, wnaeth The Hobbit: Battle of Five Armies fy siomi i gymaint. Hynny ydi, o’n i’n teimlo’n isel ar ôl gadael y sinema, achos oedd ‘na jyst cymaint yn rong – disgynnodd fy myd i’n ddarnau. Does dim ots gen i os na ddarlleno unrhyw un y blogiad hwn. Rhaid imi gael hyn allan o’m system. Ac os dydach chi’m isho spoilers, peidiwch â darllen ymhellach.
 
Wna i restr yn lle traethawd, achos ma’n haws a dwi’n caru rhestrau o waelod fy nghalon (sy ddim yn fy ngwneud i’n gîc):

 

1.    Y Frwydr Fawr. Ond dyma’r peth. Doedd o ddim mor epig ag y gallai o fod. Iawn, dydi o ddim i fod yn Pelennor arall, ond prin o frwydr oedd mewn difrif, wrth i’r ffilm neidio i gymeriadau eraill yn lle rhoi ffeit iawn i ni. Roedd o’n annigonol. Yn lle neidiodd y ffilm at bobl fel...

2.    Tauriel. Hon ydi’r peth prydferthaf yn Middle Earth ac eithrio Galadriel (er bod hi’m yn y llyfrau). Do’n i’m yn meindio hi yn yr ail ffilm gormod, ond roedd y peth cariad efo Kili jyst ddim wedi dod ynghyd – doedda ni ddim isio gweld hyn. A nath y berthynas ddim datblygu digon i ni fod efo ots beth ddigwyddodd beth bynnag – plot filler diog, arwynebol ac amlwg oedd o. Hefyd, oedd o jyst bach yn wirion ac annioddefol gawslyd. A nath y love rivalry posibl â’r gŵr dwi am ei drafod nesa ddim gweithio chwaith...

3.    Legolas. Ar wahân i Galadriel a Tauriel, Legolas ydi’r peth deliaf yn Middle Earth. Swni’n hapus iawn yn mynd am Italian efo fo. Ac roedd o’n un o’r cymeriadau mwyaf poblogaidd yn LOTR. Rŵan, doedd cael ymddangosiad gan Legolas yn y ffilmiau ddim yn wirion o gwbl – mae’n neud synnwyr o ryw fath, â Mirkwood yn filltir sgwâr i’r boi. Ond y broblem oedd cafodd o lawer gormod o sylw yn y ffilm hon. Llawer gormod – dynnodd o’r sylw oddi ar y prif blot a’r prif gymeriadau, a hynny gyda stori wan, flêr. Ddim ffilm amdano fo oedd hon i fod. Ac yna ar y diwedd dyma’i dad, Thranduil (cymeriad wnes i rili mwynhau yn y ffilmiau hyn) yn mwydro rwbath amdano’n mynd i ffeindio Aragorn, a bod ei fam yn ei garu. O’n i’n ista yn y sinema yn meddwl “o le ddaeth hynny o?”. (O.N. dwi’n dal i garu Legolas, newidith hyn fyth)

4.    Canlyniad y frwydr. Welsom ni mo hyn mewn difrif. Oedd pethau’n mynd fel shit i fyddin y Dynion, ac ar ôl iddyn nhw benderfynu fwrw ati am un last stand, efo hyd yn oed y merched yn penderfynu ymladd wrth eu dynion (tŵ blydi rait ‘fyd de hogia?); ym, wel, nath hynny gyd jyst ddigwydd yn ddiarwybod i ni. Welsom ni ddim galaru dros Fili a Kili (er criodd Tauriel dros Kili ond, fel y dywedais, doedd ddim ots gan neb erbyn hynny), dau etifedd Thorin. A wnaeth byddinoedd yr Elffyns a’r Corachod jyst cael eu lladd i gyd? Wyddom ni ddim am na welsom ni. Ac yn fwy na hynny, pan oedd pethau’n duo mwy, roedd ail fyddin y coblynnod yn cyrraedd. Aparyntli, nath yr Eryrod jyst chwalu honno. Un fyddin enfawr. A welsom ni fawr ddim o hynny’n digwydd. A welsom ni ddim...

5.    Yr Arkenstone. Un o’r pethau pwysicaf yn yr holl ffilm. Pwy â ŵyr beth ddaeth o hwn.

6.    Cymeriad Billy Connolly – Dáin. Doedd o’m yn ddoniol, ac roedd y CGI yn eithaf amlwg (dybiwn i fod o’n CGI achos nad ydi Connolly’n ddigon iach i chwarae’r rhan ar y funud). Roedd lot o CGI gwan yn y ffilm – wn i ddim a sylwodd unrhyw un arall bod yr holl Elffyns i gyd ag union yr un wyneb â’i gilydd jyst bod rhai bach yn dalach na’i gilydd. Hefyd, Dáin sy’n dod yn Frenin ar y Lonely Mountain ar ôl y frwydr. Ddylen ni fod wedi cael gwbod hynny rywsut, siwrli? Just cliw hyd yn oed?

7.    Perthynas Galadriel/Gandalf. O’r holl bethau allan o le yn y ffilm hon, roedd perthynas y ddau yma yr odiaf beth o’r cyfan. Ar ôl achub Gandalf, dyma Gandalf yn pledio efo hi i fynd efo fo, tra bod ‘na blydi llwyth o Nazgûl o gwmpas y lle, a chafodd hi drafferth i’w adael fynd. Roedd yr holl beth yn ensynio rhyw fath o gariad, neu hyd yn oed berthynas, rhyngddynt. Da chwi wrandewch arna i pan dwi’n dweud hyn: mae hyn yn ensyniad y tu hwnt i hurt.

8.    Saruman. Un personol ydi hwn. Saruman ydi efallai fy hoff gymeriad mewn ffilm erioed – mae lot o hynny achos portread Christopher Lee ohono. Dwi’n licio fo yn y llyfrau hefyd. Blydi hel, dwi’n licio Saruman. Do’n i methu aros i’w weld yn cicio tinau. Yn y trailer i’r ffilm, un foment safodd allan yn fwy na dim sef Saruman yn dweud yn benderfynol ac yn ddramatig “LEAVE SAURON TO ME. Ond, wel, wnaeth o ddim. Doedd ‘na ddim math o ffeit rhwng Saruman a Sauron. Wnaeth o fawr ddim, a dweud y gwir. Ddywedodd o hynny, a dyna ddiwedd ar antics fo, Galadriel ac Elrond. Roedd meddwl am weld y White Council (sef nhw i bob pwrpas yn y ffilm hon) in action yn rhywbeth o’n i’n glafoerio drosto. Ges i fy siomi gan y peth yn y ffordd waethaf.

9.    Y portread o’r rhan fwyaf o’r Corachod. Amhosibl fyddai cael pawb i malio am bob un o’r rhain, mae ‘na ormod ohonynt. Yn y ffilm gyntaf a’r ail, roedd ambell un yn dechrau datblygu i fod yn fwy cyflawn, ond anghofiwyd am bob un (minws Thorin a Kili) i bob pwrpas, felly erbyn y diwedd doedd ‘na fawr o ots amdanyn nhw. Ro’n i’n arbennig o siomedig nad oedd ‘na fymryn yn fwy o Balin (yr hen foi), achos roedd ei eiliadau prin o ar y sgrim ymhlith y goreuon.

10.  Y ddeialog ar adegau. Nath bron pob darn o gomic rilîff yn y ffilm ‘ma fethu, achos roedden nhw bob amser ar adeg rong. Ac roedd rhai o’r cymeriadau fel petaen nhw’n dweud pethau oedd wedi’u sticio mewn yn hytrach na’u sgriptio’n gall a threfnus ar adegau. Ymdrech fwriadol i greu llinellau sy’n sticio yn y cof – sef y ffordd rong o lunio sgript.

Wnes i fwynhau unrhyw beth? Wel, do. Roedd portread Richard Armitage o Thorin yn wych. Wnes i rili mwynhau cymeriad Brand hefyd – Cymro ai peidio, roedd o’n gymeriad bach da, ac yn un o’r rhai mwy credadwy (o ystyried ‘na ffilm ffantasi oedd hon). Ac mi wnes i fwynhau Martin Freeman fel Bilbo er nad oedd o yn y ffilm hon ryw lawer. A, do, wnes i licio gweld Smaug eto, y diawl drwg iddo fo.
 
Ond y gwir ydi gadawodd y rhan olaf o’r drioleg hon flas cas iawn yn fy ngheg i. A dwi mor ddiawledig o siomedig am y peth. Er yn dweud hynny mae o bron yn sicr y bydda i’n dal i brynu’r blydi DVD.
 
Sy ddim yn beth ‘sa gîc yn ei wneud, gyda llaw. Jyst rhag ofn i chi feddwl fel arall.

domenica, dicembre 14, 2014

Proffwydo 2015: Y Democratiaid Rhyddfrydol

Wel, yn gynt na’r disgwyl, dyma sut dwi’n ei gweld hi o ran gobeithion y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

Mae’n anodd iawn cynnig unrhyw gysur i Ddemocratiaid Rhyddfrydol at 2015 - yng Nghymru neu’n unman arall. Does neb yn amau bod eu bod am wneud yn wael flwyddyn nesa’. Gallai pethau fod wedi bod mor wahanol.


Blwyddyn
Pleidleisiau
Canran
Seddi
2001
189,254
13.8
2
2005
256,249
18.4
4
2010
295,164
20.1
3

 
Roedd cynnydd sylweddol iawn yn eu cefnogaeth yn negawd cyntaf y ganrif, ond lwyddon nhw ddim drosi hynny’n llwyddiant o ran seddi, er y buon nhw drwch blewyn o lwyddo mewn sawl sedd yn 2010. Yna daeth y glymblaid a throdd pethau’n sur iawn dros nos. Dydi’r Democratiaid Rhyddfrydol heb gael mwy na 9% mewn unrhyw bôl Cymraeg ers etholiad 2010 – ar gyfartaledd yn 2014, maen nhw wedi sgorio 7.4% gan hyd yn oed lithro mor isel â 5% mewn dau bôl. Yn gryno, mae’r gefnogaeth i’r Dems Rhydd yng Nghymru wedi mwy na haneru.

Un ffordd o wir gyfleu’r argyfwng sy’n wynebu’r blaid yng Nghymru ydi hyn: petai’r un nifer o bobl yn pleidleisio flwyddyn nesaf ag yn 2010, a bod y Dems Rhydd yn cael y 7.4% ‘na yn yr etholiad, byddai hynny gyfystyr â thua 107,000 o bleidleisiau. Mae hynny ddwy ran o dair yn is na 2010. Awtsh. Ar ben hynny mae wir-yr yn anodd gweld unrhyw beth o gwbl yn digwydd a fydd yn cynyddu eu poblogrwydd rhwng rŵan a’r etholiad.  

Roedd ‘na arwydd o faint y gallai pethau fynd o chwith yn 2011 yn etholiadau’r Cynulliad – cafodd y blaid ddihangfa drwy golli ond un o’i chwe sedd y flwyddyn honno. Cafodd y blaid 10.6% o’r bleidlais yn yr etholaethau– mi fyddan nhw’n lladd er mwyn cael canlyniad cystal yn 2015 – ond doedd hynny ddim yn dangos y darlun yn ei gyfanrwydd chwaith. Cafodd y blaid lai na mil o bleidleisiau mewn 10 sedd (a llai na 500 mewn pedair o’r rheiny) a chollodd ei hernes mewn 17 o seddi. Mi fydd hi’n debygol o golli ei hernes mewn mwy yn 2015.

Y broblem fawr i’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn bur eironig, ydi eu cryfder mwyaf nhw: strategaeth. Yn draddodiadol maen nhw wedi llwyddo targedu seddi a’u cadw, gan gyfeirio adnoddau at y seddi hynny a ffurfio cynghrair eang yn erbyn deiliaid y sedd. Pe na baent yn rhan o lywodraeth, mae seddi yng Nghasnewydd, Abertawe a hyd yn oed Merthyr a fyddai ar y rhestr darged ond sydd erbyn hyn yn freuddwyd gwrach. Llwyddo i fod yn ddewis arall oedd prif fantais y blaid, yn aml i Lafurwyr, ond wrth gwrs ni all y blaid ei chyfleu ei hun felly mwyach. Sy’n dod â ni at fap.

 

 

 

Yn ystod y dadansoddiadau plaid fydda i’n grwpio seddi’n dri chategori – y rhai nad oes gan y blaid obaith o’u hennill, rhai y mae’n bosibl iddynt eu hennill (sy’n cynnwys seddi lle bydd y canlyniad yn agos), a rhai y maent yn debygol/sicr o’u hennill. Fedra i ddim gweld gobaith mul i’r blaid yn 37 o seddi Cymru; ac os dwi’n onest, dwi wedi bod yn hael wrth liwio’r uchod.

Fel y dywedais uchod, sail llwyddiant y Democratiaid Rhyddfrydol fel rheol oedd llwyddo i greu cynghrair o fath i ddisodli’r blaid oedd yn dal y sedd, rhywbeth yr oedden nhw’n llwyddiannus iawn yn ei wneud. Lwyddon nhw wneud hyn yng Nghanol Caerdydd a Cheredigion yn 2005, gan ddal y seddi ers hynny, a daethon nhw’n agos mewn sawl lle yn 2010, er am resymau penodol fe gollwyd Trefaldwyn. Ond wrth gwrs, drwy fynd i lywodraeth, mae’n anoddach cadw’r “wrth-bleidlais” y gwnaethon nhw ei meithrin mewn cynifer o seddi.  

O ystyried y glymblaid, mae’n anodd gweld y Dems Rhydd yn llwyddo i ddenu pobl i bleidleisio’n dactegol yn erbyn y Torïaid. Dyna ydi’r broblem fawr yn seddi Powys, achos dim ond dwy blaid sydd ynddi – y Dems Rhydd a’r Ceidwadwyr. I fod yn deg, mae gan y blaid gefnogaeth erioed yn y seddi hyn, yn hytrach na gorfod ennyn cefnogaeth yn erbyn plaid benodol, ond eto mae rhywun yn tybio bod ‘na ddigon o bobl ym Mhowys sydd wedi benthyg pleidlais i’r Dems Rhydd i atal y Ceidwadwyr. Anodd gweld hynny’n digwydd mwyach, p’un ai a ydi’r pleidleiswyr hyn yn eu cannoedd neu eu miloedd. Gobaith y Dems Rhydd yw mai’r cyntaf sydd agosaf ati yn hyn o beth, a bod eu cefnogaeth graidd yn dal i’w cefnogi.

Mewn difrif, mae’n anodd eu gweld yn disodli Glyn Davies yn Nhrefaldwyn, y tro hwn o leiaf, ac mi fydd hi’n agos ym Mrycheiniog a Maesyfed, i’r graddau fod y sedd honno’n amhosibl ei darogan ag unrhyw sicrwydd. Fydd ymyrraeth UKIP yn gwneud fawr ddim i’w gobeithion, neu anobeithion efallai – mewn ardal fel Powys maen UKIP yr un mor debygol o effeithio ar y Dems Rhydd ag ydyn nhw ar y Ceidwadwyr.

Yng Ngheredigion, bydd angen i Blaid Cymru ddwyn hen dacteg y Democratiaid Rhyddfrydol o geisio ffurfio cynghrair yn erbyn y blaid sy’n dal y sedd. Heb amheuaeth rhoddodd nifer o Lafurwyr bleidlais i’r Dems Rhydd yn 2010 yn y sedd, pleidleisiau nad ydyn nhw am eu cadw y tro hwn. Ond er gwaethaf gobeithion y Blaid yma erys un ffaith: mae gan Mark Williams fwyafrif enfawr yma, a ddylai fod yn ddigon i gadw’r sedd. Yn bersonol dwi’n meddwl os ydi’r Dems Rhydd am gadw sedd yng Nghymru, hon ydi’r bet gorau o bell ffordd (nid fod hynny’n beth dewr i’w ddweud o bell ffordd!). Bydd, mi fyddant yn colli pleidleisiau yma, ond byddai’n ganlyniad trychinebus iddynt golli. Mi ymhelaetha i ar y rhesymau fy mod i’n meddwl y dylen nhw gadw’r sedd mewn blog diweddarach, gan fod Ceredigion yn sicr yn sedd sy’n haeddu’r sylw.

Mi dybiaf fod y Dems Rhydd yng Nghymru yn gwybod yn iawn fod yn rhaid iddyn nhw ganolbwyntio ar y tair sedd hyn ac y byddan nhw’n defnyddio eu holl adnoddau i’w cadw, tra bydd gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru’n seddi eraill i’w hymladd, boed i’w cadw neu eu cipio. Mae hynny’n ei gwneud yn haws i’r blaid allu dal Ceredigion a Brycheiniog. Petai AS Ceidwadol Trefaldwyn yn llai poblogaidd, efallai y byddai mwy o obaith yno iddynt hefyd, o ddewis ymgeisydd cryf a thargedu’r sedd.

Byddwch chwi anoracs yn sylwi fy mod i heb drafod eu trydedd sedd Gymreig – Canol Caerdydd. Ond mi wyddoch pam mewn difrif: does ganddyn nhw ddim gobaith caneri o’i chadw. Os ydyn nhw’n gall, mi ganolbwyntian nhw ar y tair sedd yn y canolbarth yn hytrach na’u hunig sedd yn y brifddinas. Mae honno wedi hen fynd.

Felly ar hyn o bryd, o ystyried eu hamhoblogrwydd enfawr a’r ffaith nad oes ‘na fawr strategaeth y gallan nhw ei mabwysiadu i gadw eu pleidlais heb sôn am ddenu pleidleisiau newydd, mae’n edrych yn ddu iawn ar y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru. Synnwn i’n fawr petaent yn cynnal ymgyrch o unrhyw fath y tu allan i 4-5 sedd, a dyna fyddai gallaf iddynt wneud.

I grynhoi, mae’n anodd rhagweld sefyllfa lle bydd gan y blaid fwy na dwy sedd yng Nghymru yn 2015, a dydi naill ai Brycheiniog na Cheredigion yn sicr. Waeth beth fo’r canlyniadau Cymru gyfan, y gwir yw bydd cadw’r ddwy sedd hynny’n cyfrif fel etholiad llwyddiannus i’r blaid, hyd yn oed os ydi hi’n dod yn bumed o ran nifer y pleidleisiau, sydd bron yn sicr o ddigwydd erbyn hyn. Ond mae ‘na gyfle gwirioneddol y gallant golli pob sedd Gymreig, a allai wir arwain at dranc y blaid yng Nghymru. Yn yr etholiad hwn, y gwir ydi bod dyfodol y blaid Gymreig yn y fantol.