lunedì, aprile 27, 2009

Tair cynhadledd

Fydda i’n licio’r tymor cynadleddau gwleidyddol. Trist, mi wn, ond gwir. Fydda i’n licio clywed be sy gan y gwleidyddion i’w ddweud, er fy mod i’n ddigon sinicaidd o wleidyddiaeth erbyn hyn fel y gwyddoch.

Roedd un y Blaid ychydig wythnosau’n ôl, ac mae’n rhaid i mi ddweud roedd o’n uffernol o drawiadol os gwnaethoch ei gweld ar y teledu. Slic, proffesiynol – gweddol ddi-sylwedd ar y cyfan, er hyd y gwn i dydi trafod polisïau bellach ddim yn ffordd dda o ennill pleidleisiau – newid byd o’r Blaid cyn datganoli. Yn fwy na hynny fe ddaeth yn amlwg dros y teledu yr hyder sy’n treiddio drwy’r Blaid ar hyn o bryd, ac er gwaetha’r siomedigau yn ystod llywodraeth, ymdeimlad ei bod ar y trywydd cywir. Wn i ddim a ydw innau’n cytuno’n llwyr â hynny, wrth gwrs, ond er mwyn bod yn beiriant gwleidyddol effeithlon mae’n rhaid i blaid fod yn gyfforddus â’i hun ac yn hyderus yn ei pholisïau.

Pwy fyddai wedi darogan, mewn difrif, ddeng mlynedd yn ôl, mai Plaid Cymru o gryn ffordd fyddai’r cyfathrebwr gorau, y cyflwynydd mwyaf effeithlon? Mai’n dro byd ers hynny erbyn hyn, ond gellir gweld yn amlwg mai dyma blaid sydd heb eto gyrraedd ei hanterth.

Daeth yn amlwg iawn dros y penwythnos bod anterth Llafur wedi diflannu i niwl amser erbyn hyn. Ar y teledu edrychai’n gynhadledd wael. Dwi’n meddwl y dywedodd Vaughan Roderick ei bod yn amlwg mai dyma blaid sydd mewn trafferthion ariannol (o ystyried y set amaturaidd) ac sy’n heneiddio. Prin a welid wyneb di-rych yn y gynulleidfa. Mae’r blaid Lafur ar drai yng Nghymru – o ran cyllid, ei gallu i gyfathrebu, ei haelodaeth, ei chanlyniadau etholiadol – ac o’i safbwynt hi, mae’n ffaith sy’n boenus o amlwg.

Roedd yr areithiau a welais yn rhai ystrydebol ofnadwy, heb ganolbwyntio ar y sefyllfa sydd ohoni. Pwysleisio gwerthoedd traddodiadol, digon teg, ond am gynhadledd gyfan? Roedd araith Rhodri yn ofnadwy o fflat; gellid teimlo anniddigrwydd rhai aelodau Llafur pan ddywedodd fod Llafur o blaid datganoli, cyn mynd ati i enwi Torïaid gwrth-ddatganoli, wrth gwrs heb roi hysbys i’r diddiwedd niferoedd yn ei blaid ei hun sy’n ei gasáu.

Y peth tristaf, mae’n siŵr, o gynhadledd y blaid Lafur ydi mai felly y disgwyliodd pawb iddi fod. Ni siomodd neb yn hynny o beth – roedd yn flinedig, yn ddi-egni, yn ddiwedd taith.

Rŵan, wnes i ddim cymryd fawr o sylw o gynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol, ond gafodd hi fawr o sylw p’un bynnag. Roedd y set yn erchyll a phob araith a welais yn ddi-fflach. O safbwynt niwtral mi ellir gweld yn hawdd tra bod y Dems Rhydd yn rhyw fath o rym yn Lloegr maen nhw’n gwbl amherthnasol yng Nghymru. Yn gwbl, di-amheuaeth o amherthnasol. Y broblem ydi bod y blaid honno’n fwy Seisnigaidd na hyd yn oed y Ceidwadwyr yng Nghymru yn fy marn i, er mae’n siŵr na fyddan nhw’n cytuno â hynny.

Yn olaf, ar nodyn wahanol, ond ydi hi’n gwylltio rhywun arall bod straeon fel hyn yn ymddangos ar frig ffrwd newyddion hafan BBC Cymru ond ddim hyd yn oed yn cael lle yn unman ar BBC Wales? Bydd rhai’n dadlau nad ydi stori o’r fath o ddiddordeb i’r di-Gymraeg ond o ystyried y stori ei hun, yn yr achos hwn o leiaf, mae’n anodd gen i goelio hynny.

venerdì, aprile 24, 2009

A wnewch ateb y cwestiynau canlynol?

Peidiwch â phoeni, ‘does gen i ddim byd o sylweddol i’w ddweud heddiw a hithau’n ddydd Gwener. Er y rhyddid agos dwi ddim wedi mwynhau fy hun yr wythnos hon. Gellir yn aml gweld pa fath o dymer sydd arnaf drwy faint o flogiau y byddaf yn eu cynhyrchu. Os wyf fywiog a hapus, mi wna i un bob dydd. Os wyf ddifynadd a chrintachlyd, mi wnaf un gan fy mod yn teimlo ryw ffug ddyletswydd i wneud hynny.

Gellir felly dadansoddi fy mod wedi bod yn fasdad blin yr wythnos hon. Wrth gwrs, mi dreuliais y rhan fwyaf o’r blynyddoedd a fu yn flin, yn benodol yn ‘rysgol. Cofiaf un tro mewn ffug arholiad amhwysig nodwyd arno “A wnewch ateb y cwestiynau canlynol...” ac mi a ysgrifennais ‘na’ wrtho a symud ymlaen i’r dudalen nesaf.

Doedden ni ddim yn hapus iawn gwneud rhai yn Saesneg chwaith, yn dewis ysgrifennu ‘Ffwc Inglish’ ar y dudalen flaen a gwneud dim am weddill y wers. Mi ges rywfaint o ddileit gan un o’r athrawon fodd bynnag wrth iddo gyhoeddi, yn dra ddig, bod y cwricwlwm yn nodi bod yn rhaid i ni gael o leiaf un wers yn Saesneg y flwyddyn honno. “Gwrandewch yn astud,” meddai, “wan, tŵ, thri, ffôr, ffaif ... iawn, dyna lol ‘na drosodd”. Da ‘di Cofis.

Mi es i dŷ’r genod neithiwr am dro ac mi fytodd Lowri Llewelyn lond paced o grŵtons. Dyna pam ei bod hi’n gwrthod dod am rôl borc efo fi heddiw. Medda hi.

mercoledì, aprile 22, 2009

Dadansoddiad o effeithiau'r Gyllideb

As if bo gen i blydi clem!

Nefoedd yr adar, sôn am ddilyn y ddolen waetha' bosib...

The Fast Show ... a lol arall

Ydach chi’n cofio The Fast Show? Ro’n i wrth fy modd efo fo, a heb gyrraedd dau ddigid pan darodd y gyfres gyntaf y sgrîn tua ’94. Mi brynais y cyfresi ar DVD ychydig fisoedd nôl ond wnes i mo’u gwylio’n iawn tan i Rhys ddod i fyw ataf am fis (dros fis yn ôl erbyn hyn).

Dwi’n cofio ei gwylio yn nhŷ Nain – y math o raglen, er nad oedd o’n ‘ddrwg’, roeddech chi pan yn blentyn yn meddwl eich bod chi ychydig yn ddrwg yn ei gwylio. Doeddwn i heb chwerthin cymaint ers sbel cyn ailwylio’r cyfresi, mae nhw’n ffantastig (do, mi wnes orchfygu’r awydd i ddweud Brilliant! fanno). Dim ots gen i be ddywedith neb, dydi comedi’r 00au (sy bron â mynd, waaa!) methu cymharu â’r 90au o gwbl.

Y peth gorau am y Fast Show i mi ydi na fedra i ddewis fy hoff gymeriad. Yn y rhan fwyaf o sioeau tebyg mae o’n ddigon hawdd gwneud hynny, hyd yn oed Little Britain (er bod hwnnw’n shait ar ôl y gyfres gyntaf i fod yn onast), ond fedrwch chi ddim gwneud efo’r Fast Show, er (efallai yn apelio at fy ochr blentynnaidd – pan fûm blentyn a hyd at heddiw) roedd Chanel 9 wastad yn un o’n i’n licio’n fawr iawn iawn. P’un a oedd y sgets orau ai peidio, mae’n rhaid i chi fod yn athrylith gomedïol i gael pobl i biso chwerthin dim ond o ddweud Sminki Pinki hethethetheth pethethetheth pssssssssshit, yn does!

Ond ta waeth, o atgofion plentyndod, cofiaf nad plentyn mohonof mwyaf (er fy mod i’n fyr a thic a bod yn dal yn well gen i wylio cartŵns na Top Gear).

Clywais y diwrnod o’r blaen ddarn o gyngor a wnaeth i mi deimlo’n fodlon fy myd, rhaid i mi ddweud, sef “ti’n mynd yn hen pan fyddi’n cofio dy benblwyddi”. Do, mi gyrhaeddais y pedair ar hugain ddydd Sul, ond gan nad wyf yn cofio nos Sadwrn (yn llythrennol rŵan, bu i mi gael cic owt o’r Model Inn medda’ nhw, ond dwi ddim yn cofio bod yno – efallai mai celwydd ydi’r peth) mae’n rhaid bod hynny’n golygu y galla i estyn fy ieuenctid yn artiffisial am flwyddyn yn rhagor.

Mi ddywedon nhw ar newyddion bora ‘ma bod ‘na filiwn o eiriau yn Saesneg erbyn hyn. Miliwn yn ormod, uda i.

Hefyd, at ddibenion hunan-hysbysebu gwyliwch Byw yn yr Ardd ar S4C am 8.25yh nos Iau. Wel, os hoffech weld fy nghardd....

giovedì, aprile 16, 2009

Fy nghynhebrwng

Roedd edefyn ar Faes E yn ddiweddar iawn am ba fath o gynhebrwng yr hoffech ei gael. Dwi gyda fy ffrindiau wedi trafod y pwnc hwn ers cyn cof erbyn hyn, i’r fath raddau ei fod yn bwnc sgyrsio tra-phoblogaidd rhyngom. Roeddwn yn hapus mai nid y ni oedd yr unig rai a ystyriodd y peth, ond fel y bydd June Whitfield yn ein hatgoffa, mae’n beth pwysig i’w ystyried, a phwy all ddadlau â honno? Gellir hefyd dadlau’n llwyddiannus, fel unigolyn sy heb drefnu cynllun pensiwn hyd yn hyn oherwydd ei gred gref na fydd yn byw cyn hired â manteisio ar ei ffrwyth, dwi’n rhywun perffaith i ddwfn ystyried Y Cynhebrwng.

Mae’n siŵr, er fy swnian, nad Pabydd y byddwyf fyth yn y pen draw, felly hen gynhebrwng Anglicanaidd diflas y bydd. O, Fy Iesu Bendigedig fyddai’r emyn cyntaf a genid, gyda geiriau hynod canmoliaethus (ac, felly, celwyddgar) parthed fy mywyd yn y canol wedi’u dilyn gan Bantyfedwen. Pantyfedwen ydi’n hoff emyn, fel mae’n digwydd, wrth i mi ei ddewis i gynhebrwng Anti Blodwen flynyddoedd nôl, sy’n fan cychwyn rhyfedd i gael eich cyflwyno i’ch hoff emyn. Dwi’n siŵr nad oes gan Blodwen ots am hynny.

Y gân olaf, wrth fy hebrwng i’r bedd (ac i’r bedd y byddai, dwi ddim isio cael fy llosgi a’m lluchio i’r pedwar gwynt), wn i ddim. Byddai’r Brawd Hwdini’n amhriodol, ac Yma o Hyd yn gas (heb sôn am gael pawb yn swnian “dio’m isio clwad hwn eto myn uffarn!”), a Ble Ges Ti’r Ddawn? jyst yn cymryd y piss go iawn o ystyried mai y fi fyddai’n gelain. Mi adawa i rywun arall ddewis y gân ddelfrydol, fel Lowri Dwd – bydd yn dda ei chael i fod o iws i mi yn fy nghynhebrwng a hithau’n ddim o help yn ystod fy myw.

Maen nhw’n (ia, ‘y nhw’ ddirgel eto) dweud wrth i rywun fynd yn hŷn eu bod yn mynychu mwy o angladdau na phriodasau. Dydi hyn ddim yn wir i mi. Dwy briodas fues iddynt erioed, ac yn y ddwy priododd fy nghefnder. Dwi ‘di colli cownt ar angladdau erbyn hyn ond mae o deirgwaith gymaint ag o briodasau dwi’n sicr.

Ond ta waeth tai’m i fwydro gormod am farwolaeth heddiw a minnau’n edrych ymlaen i fynd i Wetherspoons heno, er mai un cyri doji ydym oll o gwrdd â’n creawdwr, ebe hwy.

mercoledì, aprile 15, 2009

Wiwer Cajun

Fues yn y Gogledd ar y penwythnos ac o ganlyniad ni chododd yr awydd i flogio, er i Nain ddweud ambell i beth dwl fel arfer, megis nad ydi hi’n licio John Hardy, sy’n ddigon teg. ‘Sgen i ddim barn ar John Hardy, ond mi a chwarddais arno’n fflyrtian â thrawswisgwr nos Iau ddiwethaf.

Hidia befo am hynny, wn i ddim a ddywedais i mi roi’r gorau i greision dros y Grawys, ac mi lwyddias, felly neithiwr penderfynais (gyda chymorth y Llew a Ceren) flasu’r rhai newydd y mae Walkers yn eu cynnig. Siomedig oeddent ar y cyfan.

Y gorau, ac mae’n rhaid i mi ddweud ro’n i’n fodlon iawn ar hyn, oedd y Wiwer Cajun. Dwi’n amau dim nad ydi o’n debyg i Wiwer o gwbl, ond roedd ben ac ysgwydd uwch y gweddill, ac yn bersonol mi wnes eithaf mwynhau. Yn ail felly ddaeth yr Nionyn Baji. Dydw i ddim yn licio’r rhain fel rheol ond mi wnaeth yn iawn fel creision, ond ddim yn ddigon nionllyd, fel onion rings efo llai o flas.

Yn drydydd oedd y siom fwyaf sef y Pysgod a Slogion, yr oeddem ein tri yn disgwyl pethau mawr ganddo. Roedd yn gas gen i’r rhain ond doedd Ceren a Llew ddim yn meindio. Maen nhw’n debyg i Scampi Fries a dwi’m yn licio’r rheini. Yn bedwerydd, ac rydyn ni’n cyrraedd lefelau ffieidd-dra fan hyn, roedd y Builders Breakfast a oedd yn blasu fel smokey bacon y mae rhywun wedi rhechu arno – na, dwi’m yn jocian, maen nhw.

Yn bumed daethai’r Chwadan a Hoisin, y cytunais â’r Llew ei fod yn blasu fel pot pourri. Blas cas ar y diawl, a siom arall i ni.

Ond yn olaf o bell ffordd ydi’r Siocled a Chilli. Peidiwch â phrynu hwn er mwyn dyn. Y peth ydi mae hwn YN blasu fel siocled a chilli, am wn i, a dydi o ddim yn neis. Dydi pobl gall ddim yn byta’r ffasiwn bethau p’un bynnag (nac wiwerod mae’n siŵr, ond dim ots am hynny).

Rhowch wybod i mi os ydych chi wedi trio un, mae gen i ddiddordeb mewn creision. Gobeithio mai’r wiwer aiff â hi.

giovedì, aprile 09, 2009

Pam blogio'n Gymraeg?

Galwais heibio blog Dyfrig, sy’n un o’r blogiau y bydda i yn ei ddilyn, a darllen y post diddorol hwn am pam y mae’n blogio yn Gymraeg yn unig. Does ‘na ddim llawer o’n haelodau etholedig yng Nghymru, hyd yn oed ymhlith rhengoedd Plaid Cymru, yn blogio yn Gymraeg yn rheolaidd, heb sôn am yn Gymraeg yn unig (Y Tŷ Mawr o’r Tu Mewn ydi un ohonynt gan Hywel Williams AS, ond dydi hwnnw heb ei ddiweddaru ers mis a hanner).

Mi wnes i feddwl yn sydyn pam fy mod innau’n blogio yn Gymraeg, achos dwi ddim yr unigolyn tebycaf i wneud mewn rhai agweddau. Yn dechnegol, Saesneg ydi’n iaith gyntaf i a dim ond ers Prifysgol y galla i ddweud yn onest bod fy Nghymraeg ysgrifenedig yn well na’m Saesneg ysgrifenedig; ac mi ddechreuais flogio cyn mynd i’r Brifysgol. A Saesneg ydi prif iaith fy nghartref yn Rachub, credwch ai peidio, er na chlywch air ohoni yn Stryd Machen.

Pe bawn isio cyfleu fy neges {ryfedd} i’r byd mi a flogiwn yn Saesneg, ond dydw i ddim isio gwneud hynny. Pe bawn isio ceisio cael cynulleidfa fawr, mi a flogiwn yn Saesneg, ond dwi’n fwy na bodlon ar y gynulleidfa gyfyngedig sydd gen i. Ac yn bersonol, dwi jyst ddim yn licio Saesneg fel iaith, mae hi’n ddiflas, a ph’un bynnag pan fydda i’n ei defnyddio mae hi’n gwbl aflafar.

I mi, yn hytrach na chyfleu rhywbeth i gynulleidfa a fedrai fod yn enfawr, ond yn amhersonol, gwell ceisio ei gyfleu i’r hyn o beth a garaf, sef y Cymry Cymraeg. Wedi’r cwbl, dyma fy mhobl i, y rhai dwi’n uniaethu â hwy, yn siarad ac yn chwerthin â hwy, yn treulio fy mywyd o’u cwmpas. Wn i ddim a ydi hynny’n gul, ond os mae o dwi’n ddigon bodlon bod yn gul ac ymdrybaeddu yn y Cymreictod hwnnw sy’n gwneud i mi feddwl bod y byd yn iawn ei le, ac sy’n gwneud i mi deimlo’n gynnes y tu fewn. Boed hynny drwy gymdeithasu’n Gymraeg, gweithio mewn gweithle Cymraeg neu drwy flogio’n Gymraeg.

Ond hefyd fyddwn i ddim am i neb gyfieithu’r blog ‘ma (gwn na fydd hynny’n digwydd wrth gwrs, ond wyddoch chi fyth...). Mae angen gwneud rhai pethau yn gwbl Gymraeg, fel y dywed Dyfrig. Gwn nad ydi’r blog hwn yn gyfraniad i’r Gymraeg ac nad oes gwerth iddo, ond mae o dal yn rhywbeth Cymraeg a byddai dim byd yn gallu fy argyhoeddi i’w wneud fel arall. Mae’n un cornel fechan iawn o’r byd lle nad yw Saesneg yn gallu treiddio a bo’r Gymraeg yn oruchaf.

Hefyd wrth gwrs, er nad ydyn ni Gymry Cymraeg yn dweud yn agored, ‘dan ni’n ofnadwy am siarad am bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg reit o’u blaenau, ac wedyn gweiddi’n groch nad ydyn ni byth yn gwneud ffasiwn beth.


Ond ein cyfrinach fach ni ydi honno, wrth gwrs!

mercoledì, aprile 08, 2009

Hiraeth

Artaith, a dim llai, ydi gweithio mewn swyddfa pan fo hi’n braf, a llai na blwyddyn nôl dywedais yn wir mai ar adegau fel hyn yr wyf yn methu’r Gogledd yn fwy na dim. Wrth gwrs, gall Caerdydd fod yn lle hynod braf yn y tywydd hwn, a ‘does ‘run man yng Nghymru all gystadlu gyda nifer ac amrywiaeth y gerddi cwrw, a heb fod yn ymhongar ar adeg fel hon mae Bae Caerdydd ymhlith y llefydd mwyaf braf a geir yng Nghymru gyfan.

Ond ynof ar y funud, ac ar bob ryw adeg lle y mae’r haul yn gwenu a’r tywydd yn fwyn, y mae awydd cryf am fy mro fy hun; i glywed distawrwydd Cwm Llafar a cherdded traethau Menai. Bryd hynny mae byw yng Nghaerdydd yn agos at frifo.

Melltith cariad, hiraeth. Y broblem fwyaf, mi dybiaf, ydi bod gen i ddelwedd ramantus am Ogledd nad yw'n bodoli. Ffwl dwi.

martedì, aprile 07, 2009

Cystadleuaeth

Gall rhai freuddwydio am roc a rôl ac enwogrwydd byd-eang, ymrwbio’n y mawrion a chyffuriau a rhyw a phrynu pymps sy werth dros £25 (tai’m i wneud ffasiwn beth) ond myfi a fyddwn fodlon pe cawn lwyfan bach a phiano wrth f’ymyl, yn canu i dorf o hen bobl tra bod eu hwyrion a’u hwyresau yn gwneud sŵn yn cefn yn gwneud popeth y gallant i beidio â gwrando arnaf. Ac mi a ganwn drwy’r nos, yn swyno’r gynulleidfa gyda ryw ddau foi arall, â’n harmonïau yn esgyn ar wynt tawel noson o haf.

Fydd hynny ddim yn digwydd achos dwi ddim y person gorau i gael fel rhan o dîm pan ddaw at gystadlu, sy’n gwyro o’r enghraifft uchod yn fwy nag y gobeithiais cyn ysgrifennu. Waeth i mi barhau, byddai peidio ‘mbach o gywilydd.

Mae’n siŵr mai dyna pam fy mod yn licio chwarae badminton a thenis ac yn casáu chwarae pêl-droed a rygbi. Fel rheol dwi’n unigolyn erchyll o anhunanol, ond dwi’n licio’r gogoniant a ddaw o fuddugoliaeth unigol. Mi wnes uno lluoedd gyda Ceren mewn gêm o Fonopoli unwaith – ffurfiem “Y Bartneriaeth” yn wyneb y golled o’n blaen yn erbyn Haydn Blin a’r Lowri Llewelyn (a oedd pen eu hunain) – ac wrth gwrs gwnaethom rogio. Collasom pan ganfu Haydn Blin ein twyllo a lluchio’r bwrdd chwarae. Gorymatebodd, ond cont blin fu hwnnw erioed.

Ond un peth a ddywedaf ydi, mewn amgylchiadau o’r fath, mae’n gas gen i chwarae yn erbyn pobl nad ydynt yn gystadleuol. Enghraifft berffaith o hyn a gododd eto yn Monopoly (gyda llaw dwi ddim yn chwarae Monopoly yn aml, er gwaethaf yr awgrym o hynny a roddir yn y neges hon) pan landiodd y Llewelyn ar eiddo Lowri Dwd a hithau heb fawr o bres, gan achosi’r Dwd i ddatgan nad oedd yn rhaid iddi dalu.

W, mi gochais. Mae’r strîc gystadleuol yn ddwfn ynof p’un ag yw’n Fonopoli neu sboncen yn erbyn Ellen. Mae Ellen, y person a drodd fy meddwl oddi ar drywydd diniweidrwydd, yn ei thro wedi troi’n gystadleuol. Pan fydda i’n colli shot fydda i’n cicio’r wal, tra ei bod hi’n waldio’r bêl tuag ataf (y bitch uffar). Mae’n dangos bod cystadleuaeth yn magu cystadleuaeth.

Yr unig achos fedra i feddwl amdano lle y byddai’n hwyl bod yn erbyn gelyn digystadleuol ydi mewn rhyfel, neu o bosibl drafftiau achos am ryw reswm dwi BYTH yn ennill drafftiau. Dwi’n siŵr o waelod calon mai’r tro diwethaf i mi ennill gêm o’r bastad gêm honno oedd flynyddoedd yn ôl yn erbyn Nain, sydd, er gwaethaf aflwyddiant cyffredinol fy mywyd, yn gyflawniad digon pitw.

lunedì, aprile 06, 2009

Colomennod

Cenhadon budreddi
Ffieiddiaid yr Wybren
Adar Annwn

Uchod mae rhai o’r enwau dwi’n rhoi i golomennod. Nid colmennod y wlad, wrth gwrs, ond colomennod dinesig a threfol. Dyma chi anifeiliaid afiach.

Fel un anaeddfed bydda i’n hoffi taro fy nhroed i lawr neu neindio ar ôl un o bryd i’w gilydd i gael gwared ohonyn nhw, er nad oes gan golomennod fawr o ofn ohono i. Ddaru mi boeri ar golomen unwaith, a oedd yn hwyl achos doedd dim ots ganddi, ond parhaodd i sefyll yno efo saleifa yn hongian o’i hadain.

Wythnos diwethaf mi welais rywbeth arall a drodd arnaf, sef colomen yn bwyta sigaret. Wn i ddim amdanoch chi, ond dydi hynny ddim yn iawn i mi. Nid o ran byd dynion yn tarfu ar drefn naturiol natur eithr pa fath o ffieiddbeth a fyddai isio bwyta sigaret yn y lle cynta?

Yr ateb ydi’r golomen. Hen aderyn budur ydyw.

giovedì, aprile 02, 2009

Arolwg barn bonigrybwyll arall gan Beaufort

Mae Beaufort Research, ar ran Plaid Cymru, wedi cyhoeddi arolwg barn arall ar fwriad pleidleisio’r Cymry.

Mi soniais am hyn beth amser yn ôl pan gyhoeddwyd yr arolwg diwethaf, ac mae eraill wedi gwneud yr un fath. Dydi’r rhain jyst ddim yn ddibynadwy a phan fydd ambell un yn ceisio eu clodfori, rowlio’n llgada wna i. Er enghraifft, mae’n honni pe cynhelid etholiad cyffredinol yng Nghymru heddiw mai +1% y byddai’r Torïaid a Llafur yn –2%; o ystyried yr hinsawdd wleidyddol oes rhywun call yn fodlon credu mai dyna fyddai’n digwydd, hyd yn oed yng Nghymru?

Yn ogystal â hynny mae’n anodd gen i gredu y byddai pleidlais y blaid Lafur yn cynyddu mewn etholiad Cynulliad, er y gellid dadlau nad hawdd yw dyfalu beth fyddai’n digwydd i’r Ceidwadwyr o ystyried eu hanffawd diweddar yn y Bae.

Dwi ddim ychwaith o’r farn bod Plaid Cymru eto wedi ail-gyrraedd lefelau ’99 fel yr awgrymir – dwi’n mwy na bodlon beio IWJ am hynny hefyd. O droi ei hun yn wleidydd trawiadol yn ymgyrch ’07 a’r trafodaethau dilynol mae o wedi syrthio’n ddirfawr yn fy meddwl i erbyn hyn, ac mae’n rhaid i rywun synfyfyrio am ba hyd y gall ddal ati i ddiystyru barn aelodau ei blaid ei hun.

Gall y Blaid o dan arweinyddiaeth IWJ yn 2011 gael siom enfawr, ond mae dwy flynedd tan hynny, dwy flynedd, gobeithio, lle y gellid ymwared ar Ieuan Wyn Jones. Cawn weld. Dwi’n argyhoeddedig na welir ailadrodd o berfformiad 1999 y blaid gyda hwn wrth y llyw.

Yn ôl at y pôl, wn i ddim pa ddull o arolygu a ddefnyddiodd Beaufort ond mae’n anodd gen i gredu ei fod yn fwy cywir na’r dulliau blaenorol a ddefnyddiwyd ganddynt – fyddai’n awgrymu bod yr arolwg yn anghywir. Oni fyddai’n fwy o les i Blaid Cymru, a gwleidyddiaeth yng Nghymru yn gyffredinol, pe mabwysedid dull Cymreig o gynnal arolygon barn? Hoffwn weld pwy a holwyd fesul grwpiau, jyst er diddordeb.

mercoledì, aprile 01, 2009

600fed post y blog newydd - Pasteion

Brwydr fawr y meddwl ydi’r frwydr honno rhwng y cydwybod a’r awydd; y rhyfel parhaus rhwng gwneud yr hyn yr hoffech ei wneud, a’r hyn y dylech ei wneud. Er ei fod yn bosibl mai basdad tew ydw i.

Byddaf, mi fyddaf yn licio bwyd da ond chewch chi’m gwell na chlamp o drawiad calon mewn pastai a elwir yn Greggs. Na, does dim ots gen i fod y cynnyrch yn rhad, sydd yn debygol iawn yn deillio o anifeiliaid y’u camdriniwyd a bwyd wedi’i brosesu (ffwc ots gen i am ffwcin iâr) – mae rhywbeth blasus am lai na phunt yn beth digon anodd ei ganfod ac mi fanteisiaf arno bob cyfle a gawn.

Er mi wnes arbrofi ddoe. Nid yn anaml yr af i Greggs, AR ÔL cael fy nghinio, am rywbeth bach i’w fyta. Tai’m i gyffwrdd ar y cacennau, er bryd hynny yr hoffwn fod yn ‘berson cacan’, sef rhywun sy’n hoffi cacennau ac nid clamp o sbwnjbeth waeth i mi egluro. Angelcake fyddwn i, debyg, tawn i’n ‘berson cacan’ yn llythrennol, ond ta waeth am y bolycs ‘na. Mi fydda i’n hoff o bastai, a bob tro bron yn mynd am y chicken bake.

Rŵan, fel gwybodusyn o’r radd flaenaf gwn nad yr iachaf o fwyd y byd mohono, ond dydi bwyd iach fel rheol ddim yn flasus, ac mae pobl sy’n treulio’u bywydau’n ddi-gig gan lyncu hadau ac afocados yn bur aml yn bethau bach tila, gwelw eu gwedd sy’n mynd i gaffis masnach deg, ond dwi’n mwydro fy rhagfarn rŵan. Ta waeth, abrofais, gan archebu bake gwahanol efo caws, selsig a bîns.

Peth blasus ydoedd, fedr neb ddadlau, ond weithiau mi gaiff rhywun rywbeth sy’n BLASU yn afiachus, er ei fod yn taro’r sbot, ac neno’r tad petawn wedi cael strôc yn y fan a’r lle nid a synnwn.

Dwi’m yn ymddiried mewn unrhyw un sy’n dweud bod hyn a’r llall yn dda neu’n ddrwg i chdi, beth bynnag. Dwi’n siŵr i mi ddarllen mewn papur newydd yn ystod yr un wythnos o yfed gwin coch bod fy nghyfle o gael cancr yn uwch, ac wedyn ei fod yn lleihau ar clefyd y galon. Yn ddisymwth braidd hefyd mae wy bod diwrnod yn dda i chdi ar ôl bod yn ‘ormodedd’ am hanner canrif. Byd bach gwirion ydyn ni’n byw ynddo de.

martedì, marzo 31, 2009

Hanes gwrthffeithiol a Chymru

Mae’r hyn a allasai wedi bod yn fy swyno. Hanes gwrthffeithiol ydi’r enw a roddir ar yr astudiaeth, lle bydd rhywun yn damcaniaethu’r hyn a allai fod wedi digwydd pe bai rhai pethau wedi bod yn wahanol.

Prynais ddwy gyfrol ddoe ar y pwnc, sef llyfrau o’r enw What If? Maent yn gyfres o draethodau gan haneswyr academaidd yn synfyfyrio ar hanes gwrthffeithiol. Nid y pethau amlwg a ystyrir o naws Beth fyddai wedi digwydd petai’r Almaen wedi ennill yr Ail Ryfel Byd? ond yn hytrach Beth fyddai wedi digwydd petai’r Almaen wedi ymosod ar y Dwyrain Canol yn hytrach na Rwsia? Yn yr achos hwnnw gallai Hitler fod wedi meddu ar olew gwerthfawr y rhanbarth ar draul Prydain.

Neu beth pe na ddifawyd byddin yr Assyriaid 700 CC o flaen muriau Jerwsalem, sef cadarnle olaf y bobl Iddewig ar yr adeg, gan haint ddisymwth? Roedd Ymerodraeth yr Assyriaid wedi hen ddinistrio dros ddau ddwsin o ddinasoedd caerog terynas Judah bryd hynny, a byddai Jerwsalem wedi syrthio. Y canlyniad? Diwedd Iddewiaeth, fwy na thebyg. Dim Cristnogaeth. Dim Islam. Dim byd a ddeilliodd o’r byd Ambrahamig. Mae’n amhosibl meddwl pa fyd y byddai ohono erbyn hyn pe concwerid Jerwsalem 2700 o flynyddoedd yn ôl.

Beth pe cymhwysid hanes gwrthffeithiol i Gymru? Wn i nad oes gwerth difrifol mewn ystyried y ffasiwn bethau, ond mae’n ddifyr, a dweud y lleiaf! Ystyriwch pa Gymru fyddai ohoni, os byddai Cymru o gwbl, os digwyddodd y canlynol:

  • Enillodd Cymry Powys Frwydr Caer yn 616 OC
  • Mabwysiadodd Tywysogion Cymru ddull etifeddu’r Saeson (h.y. y mab hynaf i etifeddu’r tir cyfan, nid rhannu’r tir rhwng meibion) – beth pe bai Hywel Dda neu Rhodri Fawr wedi gwneud hynny?
  • Cilmeri – er gwaethaf canlyniad y frwydr, ni laddwyd Llywelyn
  • Ni fu heddwch rhwng Ffrainc a Lloegr yn ystod gwrthryfel Glyndŵr
  • Ni chyfieithwyd y Beibl i’r Gymraeg
  • Llwyddodd y Ffrancwyr gipio Abergwaun ym 1797
  • Sefydlwyd Plaid Cymru ym 1925 ar egwyddorion cenedlaetholgar a sosialaidd
  • Ni foddwyd Tryweryn
  • Collwyd refferendwm ‘97

lunedì, marzo 30, 2009

Gêm gachlyd

Distaw fu’r penwythnos. Es i’r stadiwm i weld Cymru a’r Ffindir yn chwarae. Mi ddywedish yn ddigon plaen wrth Rhys mai’r callaf yno oedd y 50,000 a allai wedi bod yn y seddi gwag. Sôn am gêm gachu, dwi heb weld Cymru’n chwarae cynddrwg ers, wel, wn i ddim faint a dweud y gwir, ond flynyddoedd mae’n siŵr. Diffyg ymdrech y chwaraewyr â’m gwylltiodd yn fwy na dim arall; ar wahân i Bellamy does fawr neb ohonynt isio chwarae dros Gymru hyd y gwela i. ‘Sdim rhyfedd mai rygbi ydi’r gêm genedlaethol.

Bron fy mod yn ailystyried mynd i gêm yr Almaen, ond mi af yn y pen draw mi wn.

Ond ta waeth, fel rheol profiad poenus ydi cefnogi chwaraeon yng Nghymru, pa gamp bynnag fo dan sylw. Glywish i ein bod ni’n dda yn ‘sgota, er o’m profiadau diffrwyth i ar greigiau Sir Fôn efo’r blewfran wn i ddim a ydi hynny’n wir chwaith.

Pum Casineb Ddechrau’r Wythnos

1. Yr arfer o ysgrifennu ydi fel ‘ydy’
2. Y blondan tew ar Come Dine With Me neithiwr
3. Y ffaith bod têc-awê Pizza Hut cymaint yn waeth na’r bwyd ista mewn
4. Fy obsesiwn efo dillad rhad, chavaidd

5. Y ffaith nad yw ‘Lloegr’ yn ymddangos yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru

venerdì, marzo 27, 2009

Doniol ydi'r Blaid Lafur II

DIWEDDARDIAD: Dwi'n cael diwrnod grêt. Edrychwch UNRHYW LE ar y we Gymreig heddiw, ac erbyn hyn y we Brydeinig wleidyddol, ac fe welir faint o smonach mae Llafur wedi gwneud efo'r wefan Aneurin Glyndwr. Wn i ddim a fu erioed yn hanes gwleidyddiaeth Cymru fach gam gwacach na hwn, mae'r blaid yn cael ei lladd arni ymhob man.

Wn i ddim chwaith a fu'r fath gamddehongliad o hiwmor. Gan ddweud hynny dwi'n gwenu fel giât.

Gobeithio yn wir y bydd hyn yn cyrraedd sylw ar lefel genedlaethol, neu hyd yn oed Brydeinig. O, mi chwarddwn pe bai!

Awgrymaf yn gryf i holl elynion y Blaid Lafur ledaenu'r wefan hon at bedwar ban! Mor brydferth plaid wleidyddol ar ei thrai.

Doniol ydi'r Blaid Lafur

Os mae un peth y gellir ei ddweud am Blaid Cymru, mae hi’n slic. Y mae’r Ceidwadwyr, rhaid dweud, yn broffesiynol, a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn effeithiol eu targedu. A Llafur?

Wel sbïwch, mewn difri calon.

Mae gan Lafur hanes diweddar o greu gwefannau cachlyd, ond rhaid i mi ddweud mi chwarddais wrth weld yr ymdrech ddiweddaraf. Mae Eluned Morgan yn ymwneud lot â’r peth, ac mae’n rhaid gofyn ar ôl yr adroddiad ar ennill pleidleisiau’r Cymry Cymraeg a oes dechrau i’w thalentau? Dwi ddim yn gwybod pam ar wyneb y ddaear na’r alaeth y mae rhai aelodau amlwg o’r blaid Lafur wedi rhoi eu sêl bendith i hwn, mae’n rhyw fath o fersiwn gwael o’r blog hwn – sy’n dweud y cyfan.

Fyddai dim ots i Lafurwyr, wrth gwrs, petae Glyndŵr yn troi yn ei fedd o weld ei enw yn cael ei ddefnyddio i’r achos (os taw dyna’r gair cywir), ond dwi ddim yn meddwl y bydd Aneurin Bevan wrth ei fodd chwaith.

Ond ta waeth. Rhaid i mi ddweud doeddwn i ddim yn arfer ffendio clowns yn ddoniol, ond mae llond plaid ohonynt yn eithaf hwyl! Sôn am hunanladdiad gwleidyddol. Gan ddweud hynny mae’n drist meddwl mai dyma’r bobl sy’n arweinwyr i ni, er, bodloni ar gyffredinedd a diffyg talent fu prif nodwedd Llafur Cymru erioed.

Ond dyna ni, os ydi Eluned ac Alun yn fodlon ar ei gwaith, dwinnau hefyd!

Wn i ddim be arall i’w ddweud. Y mwy dwi’n edrych ar y wefan y mwy ‘stunned’ ydw i bod y ffasiwn beth wedi cyrraedd y rhyngrwyd yn y lle cyntaf! Ydy rhywun yn chwarae jôc arna i??

giovedì, marzo 26, 2009

Dau beth i'w casáu

Ddylwn i ddim datgelu gormod ond fydda i ar Byw yn yr Ardd mewn ychydig wythnosau. Mae bellach teim, mintys a thatws yn tyfu yn yr ardd gefn, sy’n iawn i mi sy’n licio meddwl ei fod yn byw ar datws drwy crwyn, heblaw nad wyf. Wn i ddim sut beth ydw i o flaen camera, dim hanner mor ddel ag wyf yn y cnawd, ni synnwn. Argyhoedda i fy hyn o hynny, p’un bynnag.

Mae gan bawb yn y byd ddau beth y maen nhw’n eu casáu cofiwch – dwi yn union yr un peth. Y cyntaf ydi gweld eich wyneb o’r ochr. Mae o gymaint hirach nag y mae rhywun yn ei ddisgwyl ac yn gwneud i rywun deimlo’n hyll iawn. Fydda i bob amser yn meddwl fy mod yn edrych fel possum o weld fy wyneb o’r ochr, a dydi hynny ddim yn beth da. Maen nhw’n dweud mai mwncwns ydi un o’r unig anifeiliaid sy’n gallu gweithio allan beth ydi drych, ond dydyn nhw ddim yn glyfar achos maen nhw’n byta’u cachu eu hunain, ddim ots gen i be udith neb.

Yr ail beth na fydd rhywun yn hoff ohono ydi clywed ei lais ei hun. ‘Sdim ots faint y byddwch yn clywed eich llais mae’n rhaid dweud yn uchel NO WÊ BO FI’N SIARAD FEL’NA! Bryd hynny fydda i’n meddwl fy mod yn swnio’n rili gê, sy’n shait. Un peth nad ydw i byth wedi dallt ydi pam fod rhai pobl hoyw yn ffansïo ei gilydd a hwythau’n rili merchetaidd – onid ydi hynny’n wrthgyferbyniad?

Be fyddai’n digwydd petaet yn mynd at Sais ag yn dweud, “how it’s going, the old leg”?

Pam nad ydw i byth yn cofio ar ba ochr dwi’n deffro?

Pam nad ydw i’n prynu’r Daily Star yn rheolaidd ac yntau’n 20c a minnau’n hoffi’r tudalennau problemau cymaint?

martedì, marzo 24, 2009

Pwdlyd

Fedra i ddim dweud celwydd wrthoch chi, ni theimlais y fath iselder am hanner wedi saith bnawn Sadwrn na wnes ers y golled i Fiji ddwy flynedd nôl. ‘Doedd ‘na ddim hwyl arna i, a chyda dre’n llawn ‘doeddwn i ddim am aros allan i ddathlu camp lawn gwlad arall, Iwerddon ai peidio. Yr ochr pêl-droed i mi ydi honno, nid collwr graslon mohonof, a fydda i ddim yn licio llongyfarch neb ar ei lwyddiant os ydi hynny ar fy nhraul i.

Ond ta waeth, yn ôl y sôn mae pwysicach bethau i’r byd na’r Chwe Gwlad. Fydd rhai yn troi eu sylw at y Llewod rŵan, ond ffyc otsh gen i am y Llewod, i’r fath raddau y bydda i’n ddigon fodlon eu gweld yn colli.

Hoffwn droi fy sylw at y pêl-droed rŵan ond fel cefnogwr Man Utd pybyr dwi’n dechrau pryderu am hynny eisoes. Mae tîm pêl-droed Lerpwl ymhlith uchaf gasinebau fy mywyd i – yn wir, yn uffern f’enaid wrth ochr y blaid Lafur a Magi a Phrydeindod a phethau felly o wir bwys, mae wastad lle i Lerpwl. Byddai eu gweld hwythau’n cipio’r bencampwriaeth neu Gynghrair y Pencampwyr hyd yn oed yn difethaf fy mlwyddyn.

Ond i’r ochr â hynny, dwi’n dal i deimlo’n eitha fflat ers y penwythnos, a phwdu mi wnaf am fis go dda waeth beth arall a ddigwyddiff yn y byd hwn.

venerdì, marzo 20, 2009

Pobl Od Wetherspoons

Pan fyddo’r nos yn hir, a phell y wawr, mae ‘na siaws go dda y bydda i’n chwil. Dwi’n un o’r bobl hynny sy’n gwerthfawrogi Wetherspoons. Iawn, maen nhw’n llefydd hollol ddi-gymeriad a’r mae’r peintiau’n crap, ond mae’r peintiau’n rhad a dyna’r peth pwysig. Ac maen nhw’n gwneud cyri bendigedig.

Fel rheol tai’m i dwtshad chwerw, ond mi yfais dri pheint ohono neithiwr oherwydd ei fod yn 99c yn y Gatekeeper. Yfa i ddŵr sinc am 99c, felly mi wnaeth yn iawn am ambell i gwrw.

Ond ‘rargian mae ‘na bobl od yn Wetherspoonsys. Y cwpl tlawd sy’n meddwl eu bod nhw’n posh yn mynd allan i Wetherspoons am fwyd, y merched canol oed yn cael stêc a photel o win, y teithiwr gyda’i nodiadau, yr hen ddyn sy ddim efo tafarn leol mwyach, ac mae pawb bron yn ddi-ffael yn ddyn a dyn neu’n ferch a merch. O, mi chwarddasom yn newid yr enw i’r Gaykeeper – doniol ydoedd ar y pryd. A pham hefyd bob tro mewn Wetherspoons mae ‘na foi yn gwisgo het cowboi?

Pam fod pobl yn gwisgo hetiau cowboi yn y lle cyntaf? Dwi wastad wedi cysylltu hetiau cowboi efo pobl wiyrd sy’n meddwl eu bod nhw’n cŵl, neu’n gwneud ymgais i fod yn cŵl, ond fel arfer yn methu’n ddigon ofnadwy. Wyddoch chi pwy ydach chi.

mercoledì, marzo 18, 2009

Du a Gwyn

Rhoddodd Vaughan Roderick yn ddiweddar sylw i’r Black & White Cafe ar Heol Penarth yng Nghaerdydd. Yn y stryd nesaf dwi’n byw. Roedd yn fisoedd ar ôl i mi symud i Grangetown cyn i mi fentro i mewn. Nid am unrhyw reswm penodol mewn difri, ‘doeddwn i heb â chael yr amser a ‘doedd neb yn dod i’m gweld i. Dwi’n hoff o gaffis bach fel hwn – gwyddoch y math, y rhai sy’n agor tua 7, yn cau am 2 ac yn arbenigo mewn brecwastau.

Tan yn ddiweddar doeddwn i heb fod yno heblaw cyn gemau rygbi ar ddydd Sadwrn. Rhaid i rywun bob amser cael llond stumog o saim cyn dechrau yfed yn gynnar mi gredaf. Onid yw’n dweud felly yn y Deg Gorchymyn? Ella fy mod wedi’u darllen yn anghywir, wn i ddim, ond y pwynt ydi euthum yno â chyfeillion ar y cyfryw ddiwrnodau, a’r un peth a wnaf yr hwn Sadwrn.

Y bore ‘ma mi es ben fy hun. Ar y cyfan dwi ddim yn rhywun sy’n union hoffi mynd i lefydd ben ei hun, ond ar y llaw arall tai’m i encilio rhag y peth. Fydda i’n ddigon cyfforddus ben fy hun mewn rhyw dafarn yn cael peint ar ôl gwaith neu rywbeth cyffelyb, ond ai’m i’r dafarn leol ben fy hun am beint yn y nos, mae o braidd yn rhyfedd.

Roeddwn wedi bod ddwywaith mewn pythefnos i gael bwyd cyn gwaith. Y tro cyntaf diog oeddwn i, ond yr eildro a heddiw doedd ‘na ddim bwyd yn y tŷ i wneud brecwast. Byddwn wedi gallu gwneud rhywbeth ond roedd yr amser yn brin felly mi es i’r Blac a Weit.

Ar ôl dau ymweliad y peth cyntaf a gefais wrth fynd drwy’r drws oedd “You ‘avin egg and sausage roll yeah?”. Dyna beth a gefais y ddau dro blaenorol. Wn i ddim p’un ag wyf yn ddyn amlwg fy ngwedd neu ychydig yn od fy ngwedd ond dwi ddim yn licio cael f’adnabod cweit fel’na, the Egg and Sausage Roll Bloke. Yn fy Saesneg, a all fod yn ddarniog ar y gorau ben bora, iawn ddywedais i, er mai rôl beicyn oedd yn dwyn fy ffansi.

Ta waeth gwell i mi gael brêc o’r lle. Iawn ydi cael dy adnabod mewn ambell le, ond pan fo pobl caffi saim yn gwybod be ti’n ei gael, ti’n mynd yno gormod! Ddim yn dda i’r galon, ebe hwy.

martedì, marzo 17, 2009

Y Synhwyrau Nid a Gollwn

Petai’r dewis o’ch blaen, pa synnwyr byddech chi’n ei golli? Cofiaf i’r cwestiwn hwnnw gael ei ofyn i mi flynyddoedd nôl yn ‘rysgol fach gan Mr Oliver. Chofia i mo’r wers ei hun, ond yn wahanol i bawb arall fy ateb i oedd fy ngolwg gan fy mod isio ci. Ddaru o byth ddod i’r meddwl nad oes pwynt cael ci fel anifail anwes os dwyt ti methu ei weld. Dwi’n cofio gwers ysgol uwchradd yn Saesneg yn gofyn a oedd pawb yn optimist neu besimist a dim ond y fi a ddywedodd pesimist ond stori arall (yr wyf newydd ei hadrodd yn ei chyfanrwydd) ydi honno.

Erbyn hyn dwi’n ŵr ifanc gwancus hawddgar sy’n gwybod mwy am bethau felly, yn ddoeth fel y mynyddoedd a byrlymus fel y llif, ac nid fy ngolwg a gollwn, er bod manteision amlwg i hynny, fel osgoi pobl Metro a dweud “lle ydwi?” jyst er mwyn mynd ar nerfau pobl.

Fy nghlyw nid a gollwn gan fy mod yn licio Hogia’r Wyddfa. Meind iw fyddwn i’m yn gorfod clywed rap Cymraeg, ond medraf osgoi hwnnw ar hyn o bryd beth bynnag. Dydw i ddim yn clywed yn dda iawn beth bynnag.

Byddai colli teimlad yn ddiddorol, ond byddai’n sbwylio fy moreau.

Blas nid a gollwn ychwaith oherwydd fy mod i’n caru bwyd a sawr gormod.

Dwi’n meddwl mai arogl a gollwn i pe bai’n rhaid colli synnwyr. Ar yr un llaw byddai methu ag arogli bacwn, bara, gwair neu fore clir yn torri fy nghalon, ond mae ‘na ddigon o arogleuon afiach yn y byd hwn y gallwn fyd hebddynt e.e. Haydn.

Gan ddweud hynny y prif gasgliad ydi na hoffwn golli un o’m synhwyrau. ‘Sgen i ddim chweched ac mae unrhyw un sy’n dweud bod ganddo yn siarad bolocs.

lunedì, marzo 16, 2009

Isafswm pris unedau alcohol? Ffyc off!

Nid anodd mo casáu’r llywodraeth. Fel cenedlaetholwr mae’n ddigon hawdd dweud pa lywodraeth bynnag a geir yn San Steffan y byddaf yn ei chasáu, ond mae’r cam arfaethedig nesaf i geisio roi isafswm cost ar unedau o alcohol wirioneddol wedi fy ngwylltio i.

Oni bai eich bod yn llwyr-ymwrthodwr, a phrin ydi’r rheini, byddwch yn mwynhau mynd yn joli, neu gael ambell i gan neu fotel o win gyda’r nos, neu joch o hyn a’r llall, wn i ddim. Yn ôl y cynlluniau bydd potel o win o leiaf yn £4.50, sy’n wirion – ‘does ‘na ddim problem ag alcohol rhad. Mae’r peth yn hurt. Mae ‘na dreth fawr ar alcohol fel ag y mae sy’n codi miliynau ar filiynau i’r llywodraeth.

Dwi ‘di bod i’r ysbyty ‘di cael damwain fach pan yn chwil, ond â phob parch, dwi yn talu fy nhrethi arferol heb sôn am y dreth ar bopeth arall, a chael triniaeth fyddai fy hawl, p’un ag oeddwn wedi bod yn gyfrifol ai peidio.

Byddai peidio â rhoi triniaeth i mi gyffelyb â gwrthod triniaeth i rywun sy’n bwyta gormod o Facdonalds, sef ei hawl ef neu hi. Mae gennym hefyd yr hawl i wneud yr hyn a fynnem â’n cyrff, yn fy marn i, ar yr amod nad ydym yn amharu ar eraill. Dyna pam fy mod yn cefnogi’r gwaharddiad ysmygu, ond eto’n anghytuno efo’r trethi eithriadol sydd ar fygyns.

Ta waeth, os ydym i gredu bod y llywodraeth am i bobl yfed llai, ydyn nhw wir jyst am godi isafswm pris ar alcohol? Mae prisiau alcohol wedi cynyddu a chynyddu ers blynyddoedd maith, ac eto ar yr un pryd mae ymddygiad gwrthgymdeithasol a phobl yn mynd i’r ysbytai wedi cynyddu, nid gostwng. Welwch chi batrwm? Wela i...

Y gwir ydi, mae pobl yn eithaf licio meddwi (a ddim jyst pobl ifanc), ac os mae prisiau alcohol yn mynd i fyny, yn hytrach na chael ambell i beint mae pobl yn mynd yn syth am y fodca, archers, rym ac ati. Dyna sy wedi digwydd bob tro mae prisiau alcohol wedi cynyddu – mae’r peint traddodiadol wedi cilio yn lle’r stwff cryfach, a fydd yn eich meddwi yn gynt ac felly rydych chi’n gwario llai.

Pam nad oes neb wedi ystyried hynny? Mae’n eitha syml; dydi gwleidyddion, nac ychwaith rhai pobl fel yr uwch feddyg a awgrymodd y syniad twp hwn, yn byw yn y byd go iawn; dydyn nhw ddim yn gwybod be mae pobl go iawn yn licio’i wneud na pham ac yn byw mewn byd o edrych lawr ar y gweddill ohonom.

Os am ddatrys y broblem honedig oni fyddai addysg yn ddechrau, yn hytrach na chosbi pawb, o’r yfwyr achlysurol i’r rhai sy’n licio penwythnos meddwol heb amharu ar neb?

Waeth i ni gaeth treth ar anadlu myn uffern i! Pam na wneith y llywodraeth roi llonydd i ni?

domenica, marzo 15, 2009

Cwningod

Mae’n waith gwneud gwaith yn ystod yr wythnos, heb sôn am y penwythnos. Yn ffodus i mi, dwi byth yn gweithio ar benwythnosau. Ymlacio wnes i. Roedd Pesda yn gelain nos Wener – dwi ddim yn cofio’r tro diwethaf i mi fod allan yn stryd a bod bywyd llond y lle. Mae’n drist braidd. Dydi o ddim fel bod gan neb ddim arall i’w wneud.

Un peth nad wyf wedi’i weld yn Rachub dirion deg stalwm ydi cwningod. Yn ystod dyddiau fy ieuenctid, sy’n dal i fodoli mae’n siŵr, arferwn eu gweld yn rhedeg o gwmpas y caeau yn chwareus i gyd, ond nid ers blynyddoedd. Fel dwi’n ysgrifennu’r pwt hwn mae ‘na rai yn y cae y tu allan i’r ffenest, a hefyd rhai yn y caeau tu ôl yn ôl Dad, sy ddim y ffynhonnell fwyaf dibynadwy o wybodaeth o unrhyw fath, ond mae’n gwybod be ‘di cwningan. Fwy na thebyg.

Arferai’r chwaer fod yn berchen ar gwningen o’r enw Floppy, sydd afraid dweud yn enw anffodus ar hogyn pa rywogaeth bynnag ydyw, cyn i hwnnw redeg i ffwrdd i ymuno a’r cwningod gwylltion, ar ôl iddo ffwcio Piper, sef cwningan Rita. Hogyn oedd Piper ‘fyd, ond mi ffwcith gwningan rywbeth yn ddi-ganlyniad. O, i fod yn gwningan!

Gydag ail-ddyfodiaid y cwningod mae’r barcutiaid yn dyfod. Fydda i wrth fy modd efo barcutiaid – yn fwy na dim arall maen nhw’n symbol o adref i mi. Mae’n newid braf o wylanod a llygod mawr Grangetown, a’r gath gotsan ‘na sy’n ista ar silff gegin pan fydda i’n cwcio chicken.

venerdì, marzo 13, 2009

Yr Wylaidd Lemon

Ar ôl penwythnos trwm dydi hi ddim yn anarferol i mi deimlo’n erchyll am ddyddiau wedyn, ac nid oherwydd y pen mawr anochel a ddaw i’m canlyn ddydd Llun (fydda i’n weddol ddydd Sul fel rheol), a’r dŵr poeth sy’n para dyddiau.

Fy ngorn gwddw i sy’n brifo, a ‘sdim ots pa ffisig dwi’n ei gymryd mae gwellhad yn anobeithiol. Mi roddaf gynnig ar bopeth, Strefen (sef strepsils efo ibruprofen – dwi’n siŵr i mi grybwyll o’r blaen pa mor hoff ydw i o flas ibruprofen – tasa ‘na dda da blas ibruprofen mi a’u prynwn), ffisig go iawn, Smoothers, hylifau. Erbyn hyn mae’r gwddw’n brifo ers pedwar diwrnod a dwi’n diolch na fyddaf allan y penwythnos hwn, er y bûm allan neithiwr. Camgymeriad neu be!

Ond mae un arf wedi dod i’m sylw, y lemon. Na, nid bod yn sarhaus oeddwn, ond lemon y ffrwyth ydi’r achubiaeth (gyda llaw cawsom drafodaeth ryw bryd am ba fwyd na hoffech gael eich galw, sef lemon, rwdan a nionyn – mae’n siŵr bod mwy – sa chdi’m yn sarhau rhywun yn Saesneg drwy eu galw’n parsnip nafsat?), gyda dŵr poeth a rhywfaint o siwgr i leddfu ar y chwerwder.

Y peth ydi, mae lemon yn wrth-facteria, ac mae o’n gwneud mwy o les i’r gwddw na’r un ffisig neu dabled dwi wedi’i gymryd yn ddiweddar. Dwi wedi dweud erioed mai pethau naturiol sydd orau. Mae hefyd yn bryfleiddiad, ac wele ffaith ddiddorol, ddibwpas

A halved lemon is used as a finger moistener for those counting large amounts of bills such as tellers and cashiers

Da ‘di gwybodaeth!

giovedì, marzo 12, 2009

Cadwch y Facebook yn bur

Unwaith y bydda i’n dweud NA dwi’n ei olygu. Fydda i’n disgwyl i rywun wrando ar hynny. Wna i ddim swnian ar bobl i wneud pethau fy hun (yn enwedig os nad ydw i isio iddyn nhw wneud rhywbeth) ac yn derbyn yr ateb cyntaf bob tro.

Yn ddiweddar fydda i’n cael negeseuon ar Facebook am bob math o bethau. Negeseuon preifat ydyn nhw, yn gofyn i mi ymuno â grwpiau a mynd i ddigwyddiadau. Dwi wedi cael tair neges o wahoddiad i Celtfest ond dwi’m yn blydi mynd. Dwi’n ychwanegu’r ‘blydi’ yn bennaf oherwydd fy mod yn syrffedu ar gael fy ngofyn yn hytrach na bod y syniad yn wrthun i mi.

Yn ogystal â hynny mae’n gas gen i dîm rygbi Iwerddon a dwi ddim yn rhywun sy’n licio gwylio gêm efo ffans y gwrthwynebwyr, gan nad pwy fônt. Ac mi ddyweda i hyn: ma’r Gwyddelod ‘na’n gallu bod yn griw coci pan ddaw at rygbi, sy’n chwara teg, mae’n siŵr, o ystyried eu bod nhw heb ennill y Chwe Gwlad ers oes y blaidd a’r arth (diolch i flogmenai am y dywediad bach del hwnnw).

Ond bydda i’n cael fy ngwahodd i bethau rhyfedd hefyd. Yn wahanol i rai pobl dwi ddim yn gweld pwynt ymgyrchu dros Facebook ac anfon negeseuon drwyddo. Er enghraifft mae’r grŵp Cymru Yfory yn rhoi llwyth o negeseuon i mi ar Facebook, a’r unig ymateb sy gen i ydi STOPIWCH. Dydi o ddim yn fy ymgysylltu, nac yn ennyn fy niddordeb mwy, achos dydw i ddim yn mynd ar Facebook er mwyn gwleidydda, ymgyrchu neu gael gwybodaeth. Dwi’n mynd yno i fusnesu ar fy ffrindiau a gweld a oes rhywun wedi fy nhagio mewn rhyw fân nos Sadwrn lun.

Bai fi ydi hi am ymuno efo’r grŵp yn lle cynta, mwn, ond mae’n rhaid i rywun ddangos ei ochr weithiau.

Yr unig beth mae’n ei wneud i mi ydi gwneud i mi GOLLI diddordeb, erbyn hyn fe fyddaf yn dileu negeseuon felly heb hyd yn oed eu darllen. Alla i mond ei gymharu â chwain mewn trôns - ma’n ffycin annoying. Dwi ddim yn meddwl bod y bobl sy’n ystyried Facebook fel ‘ffordd dda o gyfathrebu ac ennyn diddordeb’ (nid dyfyniad ydi hwnnw gyda llaw) yn dallt hynny.

Hefyd mae’n gas gennai’r bobl yma sy’n meddwl eu bod nhw’n gwneud rhywbeth da drwy ymuno efo grwpiau fel Support the Monks Protests in Burma, er enghraifft. Fydda i’n licio grwpiau fel I Hate Cats, achos dyna ydi pwynt Facebook am wn i, sef ffordd digon ysgafn o basio’r oriau hirion, a busnesu ar dy fêts. Nid pulpud mohono.

Os ydach chi isio colli cefnogaeth i unrhyw achos, bombardiwch rhywun efo negeseuon preifat ar Facebook. Mae ‘na le ac amser, bobol bach.

mercoledì, marzo 11, 2009

Cloc y corff

Gallwn ymddiheuro am fy niffyg blogio yr wythnos hon hyd yn hyn, ond teimlaf nad wyf cymaint o golled â hynny ac na fyddai’r math o bobl fyddai’n darllen y llithflog hon yn gwerthfawrogi ymddiheuriad p’un bynnag.

Fy mai i ydi’r cyfan. Wnes i ddim cyrraedd adra tan wedi 7 nos Wener, sef wrth gwrs ar ôl saith o’r gloch fore dydd Sadwrn ac nid jyst cyn i Angharad Mair oresgyn y sgrîn am 7yh nos Wener. O ganlyniad i hyn ni chodais tan dri p’nawn Sadwrn. O ganlyniad i hynny roedd yn rhaid dechrau yfed am chwech nos Sadwrn (neu bosib iawn cynt, dywedwn 6) a doeddwn i ddim adra yn Stryd Machen tan bump fore Sul.

Ped ystyriem mai fy mhenwythnos fu ar ôl gorffen gweithio tua 4.30 nos Wener a chyn i mi ddechrau eto 8.30 fore Llun, roeddwn i’n yfed 39% o’r amser, gan lwyddo gysgu tua 22% o’r amser. Mae hynny’n ddifrifol wael, neu’n dda, yn dibynnu sut ydych chi’n ystyried y pethau hyn.

Bellach, fel y gwyddoch, mae’n ddydd Mercher a dwi dal yn dioddef sgîl-effeithiau un o’r penwythnosau trymaf ers i mi ei gofio ers blynyddoedd. Y peth drwg am hyn ydi’r nosweithiau hwyr sy wedi chwarae hafoc gyda chloc fy nghorff. Ar hyn o bryd dwi’n teimlo y dylwn fod naill ai’n cael brecwast neu’n gwylio Eggheads, dwi jyst ddim yn gwybod ddim mwy – a heb sôn am stwffio’n hyn llawn Remegel, Soothers a Strefen drwy’r wythnos, dydw i ddim yn cael hwyl.

Gogledd i mi penwythnos hwn. Caf yno iachad am fy mhechodau dinesig.

venerdì, marzo 06, 2009

Y Ddewi Lwyd

Pan farwaf a nefoedd fydd i mi’n gartref yn ôl pob tebyg soffa fydd, efo potel ddiddiwedd o win coch £3.99 o Lidl a rhifynnau niferus o Bawb a’i Farn ar y teledu. Byddaf, mi fyddaf yn hoff iawn o gyfuno Pawb a’i Farn ag alcohol, a gwrando ar y Ddewi Lwyd yn dweud ‘beth amdani?’ dro ar ôl tro. Tasa fo’n gofyn hynny i mi byddwn yn tagu ar fy nghreision.

Sôn am greision dydw i ddim yn cael eu bwyta oherwydd y Grawys ac wedi rhoi’r gorau iddynt. Mae hyn yn anodd i un mor addfwyn â mi, gan fy mod yn hoff iawn o greision. Y broblem ydi fe’m cyflwynwyd i Greggs go iawn wythnos diwethaf gan Rhys fy ffrind. Mi fydd gan rywun wendid am chicken sleisys, ac maen nhw’n rhatach yn Greggs nac yn unman arall.

Mae ‘na Greggs ymhobman yng Nghaerdydd, fedra i feddwl am bump yn ardal canol y ddinas. Mi fydd yn dweud Y Pobyddion ar eu harwyddion, er i mi gael syndod y tro cyntaf i mi weld y cyfryw arwyddion gan i mi feddwl mai Y Pabyddion roedden nhw’n ei ddweud.

Un peth drwg am Greggs, heblaw am botensial y bwyd i arwain at drawiad ar y galon, ydi’r brechdanau gan fod pob un yn cynnwys y nialwch mayonnaise ‘na. Fel un o’r lleiafrif y mae’n gas ganddo’r stwff fydd hyn yn eithaf problem ymhobman. Bu’n broblem fawr yn Amsterdam achos mae’r Iseldirwyr wrth eu bodd â’r stwff, a ddim yn licio pysgod ryw lawer; i mi mae hynny’n gyfuniad echrydus.

Ta waeth gyfeillion, mwynhewch y penwythnos, ac os daw’r Ddewi Lwyd atoch a gofyn ‘beth amdani?’ – wel, fydda i ddim yno i gynorthwyo.

mercoledì, marzo 04, 2009

Yr Ymbarél Aflwyddiannus

Roedd yn bwrw glaw yng Nghaerdydd ddoe a cherddai dynes folfawr o amgylch gyda chluniau mor fawr nes y peri i mi feddwl y dylai’r Cynulliad wahardd y fath bethau. Nid anodd sylwi bod ei chluniau’n socian oherwydd bod ei hymbarél mor fach fel na chwmpasai ei chluniau. Ystyriais hyn yn aflwyddiant ar ei rhan hi a'i dulliau dethol ymbarél, a cherddais i ffwrdd i chwilio am selotêp du. Ni chanfûm y cyfryw selotêp.

martedì, marzo 03, 2009

...a cherdd fach

Dacw Mam yn dŵad
Wrth y gamfa wen,
Dad â'i ddwylo'n 'boced
Yn piso ar ei phen,
Y fuwch yn y beudy
Â’i choesau am y llo,
A’r llo ochr arall
Yn ffwcio Jim Cro.
Jim Cro Crystiog
Wanc, pŵ, dod,
A mochyn bach a’i fys yn din
Mor ddel ar y stôl.

Pam fod Cân i Gymru mor shait?

Cyn i mi fynd ymlaen ar rant, dwi’n fodlon cyfadda, na, ni allwn fod wedi gwneud yn well. Ond fedra i ddim cyfansoddi na chanu ar lwyfan. Yn yr un modd dwi ddim yn dallt plymio ond pe deuai’r plymiwr i drwsio ‘nhoiled a boddi’r bathrwm yna cwyno a wnawn. Â hynny’n sail i mi felly, rhaid i mi ofyn pam fod Cân i Gymru yn cynhyrchu caneuon shait bob blwyddyn?

Y gân dda ddiwethaf, er dwi’n siŵr nad yw at ddant pawb, i ennill oedd Harbwr Diogel. Licio hi ai peidio, daeth y gân honno’n gân boblogaidd Gymraeg y mae pawb yn ei hadnabod. Mae ‘na ddigon o enghreifftiau o ganeuon eraill cyn honno hefyd. Ta waeth oedd hynny flynyddoedd yn ôl ac mae’n mynd o ddrwg i waeth erbyn hyn. Mae’n gwneud i mi gywilyddu braidd bod y caneuon hyn yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn yr ŵyl ban-Geltaidd. Dyn ag ŵyr be mae ein brodyr Celtaidd yn meddwl.

Oes, mae ‘na ambell i gân iawn wedi ennill, ond ‘sdim un yn sticio’n y cof rili. Dydi’r gân fuddugol ddim am fod felly bob blwyddyn, ond dydi hi ddim ers oes pys. Mae nifer o’r rhai anfuddugol gymaint yn well. Y broblem ydi bydda ni’r Cymry bob amser yn pleidleisio dros rywun sy’n byw’n agosach na’r gân orau.

Y broblem fawr eleni oedd bod pob cân yn swnio’n un fath, heblaw am yr un Gi Geffyl ‘na oedd yn un o’r pethau gwaethaf i mi ei glywed erioed. Doedd yr un gân yn fachog, a dyna’r math o gân yr arferai Cân i Gymru ei chynhyrchu; boed hi’n un canol y ffordd neu ychydig yn wahanol. Doedd ‘run yn fachog o bell ffordd nos Sul. Bydd rhywun yn cael ias oer wrth feddwl pa mor wael oedd y 110+ o ganeuon eraill a gynigiwyd os mai dyma’r hufan o’u plith.

Heb sôn am yr un nodau diflas a chaneuon sydd i bob pwras yn ceisio efelychu caneuon pop Saesneg, un o’r pethau gwaethaf bob blwyddyn ydi’r beirniaid. Dwi’n cofio llynedd efo Kim Pobol y Cwm yn canu pob nodyn allan o diwn dyma Rhys Mwyn yn dweud rhywbeth fel “roedden ni’n disgwyl i ti fod fel diva a dyna gawsom ni”. Golcha dy geg ddyn. Roedd y cwestiynu nos Sul yn strwythuredig a phrennaidd, yr atebion yn dînlyfiaeth lwyr. Wel dewch ‘laen wir, mae’n ddigon hysbys bod y Cymry Cymraeg ymhlith pobl fwyaf bitchy’r byd, ‘sdim angen bod yn neis er mwyn neisrwydd. Byddai hyn yn oed beirniadaeth adeiladol wedi bod yn chwa o awyr iach rhag Rhydian yn ailadrodd ‘ffantastig’ hyd syrffed.

Yn ogystal â hynny roedd y panel yn llawn pobl sy’n ‘dallt’ miwsig a’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. A dyma’u dewis? Ffycin hel. Duw â helpo wlad y gân!

Y peth ydi mae ‘na ddigon o ganeuon da Cymraeg o gwmpas ac yn cael eu cyfansoddi bob blwyddyn, o bob genre. Sut nad oes ‘run yn cyrraedd Cân i Gymru flwyddyn ar ôl flwyddyn ers blynyddoedd wn i ddim.

Yn gyntaf maesho cael y gynulleidfa i sefyll a chael ambell beint ‘fyd – dydi’r peth ddim yn Steddfod wedi’r cwbl – yn ail maesho dewis caneuon amrywiol yn seiliedig ar be sy’n dda (yn hytrach na cheisio cael rhywbeth o bob ardal a rhywbeth i bawb fel y tybiaf sy’n digwydd) ac er mwyn dyn stopio ceisio efelychu’r crap canu pop Seisnig.

Diolch byth er lles fy iechyd nad oeddwn yn gallu stumogi’r lol drwyddi draw ac y gallwn droi at Come Dine With Me yn ôl yr angen.

Rant drosodd tan y flwyddyn nesa, pan fydd yn mynd o waeth i waethaf synnwn i ddim.

lunedì, marzo 02, 2009

Nanna banana

Ddylwn i ddim chwerthin ar demensia ond mae’r Nain Eidalaidd yn ei gwneud hi’n anodd weithiau.

Mae’n gyflwr digon annifyr – os nad ydych yn gyfarwydd ag ef – a bydd yr unigolyn yn anghofio pethau dydd i ddydd yn gyfan gwbl. Ddim y pethau mawrion fel rheol, fel y ceir gyda amnesia, ond mae’n debyg.

Bydd Dad a’i ddwy chwaer yn gorfod sicrhau ei bod yn bwyta’n gywir ac yn rheolaidd a phethau felly. Rŵan, mi fydd hithau’n cwyno am hyn, fel y gellid disgwyl gan ei bod wedi’r cyfan yn hen a wyddoch chi sut mae’r henoed. Mi fydd yn dweud ei bod wedi bwyta (neu nad ydyn nhw’n bwyta brecwast yn Yr Eidal), ond wrth gwrs yn dweud celwydd, neu anghofio’n llwyr. P’un bynnag prin iawn ei bod yn llwglyd a’r unig beth a wna ydi cwyno am hynny pan fydd pryd o’i blaen.

Ta waeth roedd Sheila fy modryb wedi bod draw i’w thŷ yn y bore i fynd â bwyd draw ati ar gyfer y tŷ. Mi ddaeth draw ychydig oriau wedyn a’r bwyd wedi mynd. Aeth at dŷ Rita, y chwaer arall, yn meddwl ei bod hi wedi mynd â’r bwyd gyda hi – wel naddo.

Aethent draw a byddwch wedi dyfalu erbyn hyn bod Nanna wedi bwyta’r bwyd i gyd iddi hi ei hun, darn ar ôl darn achos ei bod wedi anghofio ei bod wedi bwyta. Llwglyd neu ddim roedd wedi difa slab o gaws, dau baced o gig wedi’i goginio’n barod a dim llai na deg banana.

“’Sdim rhyfadd ei bod hi’n deud dydi hi’m isio buta o hyd” ddywedodd Rita.

giovedì, febbraio 26, 2009

Siopa dillad ben fy hun

Wn i, rydych chi’n meddwl nad ydw i’n hanner call yn dweud y fath beth, ond mae anfanteision i fod yn foliog a byr. Mae’r rhestr o fanteision yn sicr yn hirfaith, a phe bawn â’r mynadd mi fyddwn yn nodi’r rhestr honno fan hyn, rŵan, yn ei chyflawnder.

Wrth gwrs, dydw i ddim am wneud hynny. Mae’n dro byd ers i mi drawsffurfio o fod yn hogyn gwallthir 9 stôn tenau i fod yn gyfieithydd bol cacan sy’n dechrau mynd yn foel. Sut siâp fydd arna i pan fyddaf ddeg ar hugain wn i ddim - cyn belled nad a wnelo’r cyfnod hwnnw yn fy mywyd â chardiganau tai’m i boeni’n ormodol - ond dwi’n symud o’r pwynt rŵan.

Yr anfantais, fel efallai y crybwyllais rhywsut yn “Jîns” isod, ydi nad oes fawr o drowsusau i hogiau sydd angen 34 modfedd o’i amgylch a dim ond 30” o goes. Deuthum o hyd i’r fflêrs - ffitiodd ‘run - roedd y rhai 32” yn obsîn, ‘swn i ‘di cael fy ngneud gan y moch taswn i’r cerad lawr stryd efo’r rheini, heb sôn am ddychryn plant a’r gwylanod.

I fod yn onest, y mwya’ dwi’n ei ddallt am ffasiwn ydi be ‘di hosan.

Fydda i ddim yn rhy hapus yn siopa ben fy hun am ddillad yng Nghaerdydd. Mae Topman llawn hogia yn minsio o amgylch y lle yn eu jîns tynn a’u breichiau T-Rex a Primark yn llawn pobol Sblot a Butetown, a wyddoch chi fyth be sy’n mynd ‘mlaen dan fyrca. A tai’m i fynd i’r siopau yn yr arcêds, achos does neb arall yno a bydd y bobl siop isio fy helpu i ddewis dillad, a fydda i’n teimlo’n wirion yn edrych yn flêr ddigon a gorfod cyfadda ‘sgen i’m syniad.

Mae’n ddigon o embaras eu cael nhw i fynd rownd cefn yn Topman i chwilio am jîns sy’n ffitio – a deg munud wedyn clwad nad oes. Byddai Mam yn dweud fy mod i’n rhy dew, ond rong ‘di hi – rhy fyr dwi!

martedì, febbraio 24, 2009

Jîns

Un peth y bydda i’n chwilio amdano mewn pâr o drowsus ydi pocedi da. Ar nos Sadwrn ar ôl ychydig o ddiod mae hynny’n wahanol, ond wrth ystyried p’un a brynaf bâr ai peidio, mae pocedi da yn hanfodol.

Bydd rhywun yn licio jîns. Dwi’n un o’r criw bach o bobl jîns nas gwisgant fel trowsysau ymlacio, ond fel rhywbeth i fynd allan ynddo’n smart. Y dracwisg ydi fy newis drowsus ymlacio, ond eto i fynd allan, boed hynny ar gyfer gêm rygbi neu nos Sadwrn arferol, jîns y bydd yr Hogyn yn eu gwisgo. Fel y mae’r rhan fwyaf o bobl, wrth gwrs.

Serch hynny fydda i’n cael trafferth ffendio jîns sy’n dwyn fy ffansi ac, fel y nodwyd uchod, sydd â phocedi i ddiwallu fy angen – sef cadw fy waled a’m ffôn lôn yn ddiogel pan fydda i’n stymblo o amgylch y lle’n chwil ar ôl llymaid o shandi. Oni ddaethoch ar draws y ffasiwn benbleth ‘rioed?

Y peth ydi fy nghyfeillion a mân eraill wancars (wyddoch pwy’r ydych) fy mod yn un ffysi ei chwaeth jîns. Fedrai’m gwisgo’r pethau slim fit achos dwi’n edrych fel croes rhwng sosij a thrawiad calon, a byddai gwisgo’r rhai isel yn peri gofid i ddegau o bobl. Wyddoch chi fi, hawdd a hwyl ydi peri gofid o bobl, ond ‘sdim isio gwneud yn y ffasiwn fodd.

Jîns fflêr ydi fy mheth i. Rŵan, nid pethau hawdd i’w canfod ydi’r rhain i ni’r hogiau – a dweud y gwir maen nhw’n brinnach na pholisi ym maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol – a phan fydd rhywun yn canfod yr un perffaith ei liw a’i wedd (fydda i’n ffysi efo’r lliw ‘fyd) yna mae’r byd yn mynd i’r diawl achos ‘snam poced gall i’w chael.

A dyna ‘di penbleth os bu un erioed.

lunedì, febbraio 23, 2009

Troi'n Ddigidol Drachefn

Felly fuodd yn Stryd Machen y penwythnos hwn yr aethpwyd y tŷ yn ddigidol. Penderfynodd Ceren fy ngyrru i’r Comet ‘agosaf’, yn y ffwcin sir nesaf, sef Bro Morgannwg sy’n llawn wirdos, ac mi ddewisais arial a bocs digidol i mi’n hun. Fel y gwyddoch o bosibl y tro diwethaf i mi fentro efo digidol bu’n aflwyddiant mawr – gyda arial newydd a syniad od yn fy mhen bod y signal cyffredinol yn gwella, ro’n i’n hyderus.

Brydiau felly mae’n anodd gen i ddychmygu pam ar wyneb y ddaear dwi’n hyderus am unrhyw beth, byth bythoedd. Yng nghacendod fy mywyd i, mae’r seiliau sbwnj yn gadarn a moethus ar y cyfan, ond os rhoia i gynnig ar roi ‘mbach o eisin ar ei phen mae’n mynd yn slwj ac yn difethaf gweddill y gacen. Nid fy mod i’n licio cacennau.

Y wyrth oedd i’r holl giriach weithio nos Sadwrn. Dwi’n dweud gweithio - roedd o’n pigo fyny un o ddwy set o sianeli, ac yn anwybyddu bodolaeth S4C yn llwyr, sy’n iawn ond dwisho gallu cael S4C, os nad o reidrwydd ei gwylio. Ar y llaw arall mi fedraf fyw heb Five.

Dyna fues i, tan tua thri o’r gloch y bora (do’n i methu cysgu dim – ac yn licio’r jôc fach honno fwy nag y dylwn), yn mynd o raglen i raglen, ac yn reit fodlon fy myd. Ro’n i’n cael sianeli digidol! Heblaw wrth i’r trenau fynd heibio, sy’n eitha blydi aml yn Stryd Machen.

Fel popeth da (‘nenwedig hynny) ni pharodd yn hir. Y diwrnod wedyn, wrth i mi godi cyn mynd o amgylch fy arferion Sul mi droais y teledu nôl ‘mlaen. Drwy ddydd Sul, heblaw am sianeli’r BBC, doeddwn i methu cael dim arall. Yn y diwedd, rhwng dicter a siom a’r awch dwyfol i wylio Celebrity Come Dine With Me, analog enillodd y dydd. Felly er i mi deimlo’n hapus a hyderus ddydd Sadwrn, erbyn dydd Sul o’n i’n teimlo’n ddigon fflat ac yn gorfforol £53 yn dlotach.

Rhoddaf gynnig arall arni heno o bob ongl. Sy’n swnio’n secsi ond dio ddim.

venerdì, febbraio 20, 2009

Compêr ddy Mîrcat (dot com)

Gwela i mo’r pwynt i gelwydda (oni bai ei fod o fudd i mi, afraid dweud) a thydw i heb grio ers yn 11 oed, sef hanner bywyd yn ôl erbyn hyn. Wel, hanner fy mywyd i (hyd yn hyn – a mwy), a sawl bywyd eog, ac efallai oes ci, ond dach chi’n dallt be sy gen i, fwy na thebyg. Ond weithiau mi fydda i’n teimlo fel crio.

‘Sdim dadlau, efo ‘mreichiau bach tila a’m bol cwrw dwi’n siwtio crio lot, yn benodol mewn cornel min nos yn fy nghwrcwd, ond well gen i wylio Simpsons. Y pwynt ydi un o’r pethau sy wirioneddol sy’n neud i fi isio crio ydi’r hysbyseb Compare the Farchnad efo’r swricat, sef meerkat yn Gymraeg. Heblaw am fod yn echrydus o annoniol, dwi wastad wedi meddwl mai dyma’r math o hysbyseb sy’n apelio at fyfyrwyr o Loegr a fydd yn ei ganu’n chwil, a hefyd pobl fel Mam, sy’n meddwl bod rhywbeth felly yn ‘glyfar’.

Y broblem fwyaf sy gen i (parthed yr hysbyseb, ‘sgen i ddim drwy’r dydd) ydi’r gân. ‘Roll dwi’n ei glywed ers dyddiau ydi’r gân, a llais y ffycin tyrdyn swricat Rwsiaidd ‘na, neu Isalmaenig; dwi heb weithio allan yn iawn o ble y daw’r sganc beth, sydd eto’n rhywbeth sy’n fy ngwylltio.

A phwy fath o ben rwdan sy’n drysu ‘meerkat’ a ‘market’ beth bynnag? Dyma bwynt arall, ydi’r hysbyseb wedi deillio o’r ffaith bod pobl yn ysgrifennu un yn lle’r llall? Neu ydi rhywun efo dychymyg cachlyd wedi penderfynu y byddai hyn yn ddoniol? A dydw i ddim yn licio’r awgrym bod swricat yn fwy llwyddiannus na mi (er bod posibilrwydd bod hyn yn wir yn y byd go iawn).

O leiaf fy mod wedi hynny allan o’r system rŵan, gobeithio yn wir y bydd Busys Bach y Wlad neu rywbeth yn trechu Compare the Meerkat yn fy mhen neu dwi am ladd rywun. Neb penodol, allwch chi ddim fod yn ffysi am bethau felly – a gwae unrhyw swricat a welaf dros y dyddiau nesaf, gall hynny droi’n gas.

giovedì, febbraio 19, 2009

Lesbiansys ymhobman

Lle bynnag y bydda i’n mynd bydda i’n gweld lesbians. Na, dwi ddim yn jocian a does gen i ddim byd yn erbyn lesbians (a dweud y gwir dwi’n eu licio nhw’n fawr) ond am ryw reswm alla i ddim mynd wythnos heb weld cyplau lesbaidd. A ddoe mi welais drag queen (neu ddynas hyll iawn, er fy chwaethau amrywiol dwi ddim yn meddu ar ddull o wahaniaethu pobl ar sail pethau felly – ro’n i’n fy hwyr arddegau cyn dallt bod Dame Edna’n ddyn – go iawn wan). Wn i ddim beth ydi drag queen yn Gymraeg ond dwi ddim yn meddwl bod ‘na lawer o rai Cymraeg p’un bynnag, ‘nenwedig yn Rachub.

Fedra i feddwl am rywun sy’n siwtio bod yn un, ond tai’m i ddweud pwy, ond dydw i ddim yn berson cas, yn enwedig pan gwyd y posibilrwydd o enllib ei ben. Mae wastad mantais i gadw ail wyneb wrth gefn.

Fydda i wedi mynd o gasáu dydd Iau yn llwyr i eitha mwynhau. Dwi’n teimlo y gallaf ddechrau ymlacio erbyn hyn, sy’n aml yn arwain at ambell i gan a chreision yn y nos o flaen Pawb a’i Farn a Hustle. Dwi’n licio Hustle, ac yn licio meddwl fy mod i’n ddigon clyfar i weld be sy’n digwydd ac y gallwn efelychu’r triciau, ond twyllo fy hun ydw i mewn difri calon.

Fydda i hefyd yn licio Pawb a’i Farn ac yn licio meddwl fy mod i’n dallt materion pwysig y dydd ac y gallwn gyfleu fy marn pe bawn yno, yn llawn diwyg a dawn. Twyllo fy hun ydw i, mewn difri calon. Hen ddiwrnod twyllodrus ydi dydd Iau. Un peth fydda i a’r Dwd yn hoffi ei wneud ydi gwneud iau ar nos Iau, pan fyddwn yn coginio Iau. Mae’n gwneud sens, o leiaf.

martedì, febbraio 17, 2009

Gwyddoniaeth a phethiach

Pe bai Ffrancwr, neu Ffrances (ni wahaniaethir ar sail rhyw ar y flog hon), yn ceisio dweud “I’r Gâd!” byddai’n swnio’n fel teclyn gwarchod clust yn y Saesneg. Os nad wyf athrylith wyf ffŵl – heblaw nad ydw i’n meddwl bod gwahaniaeth mewn difri. Athrylith ydi ffŵl sy’n mynegi ei hun yn well.

Rŵan, er fy mod i’n grefyddol dydw i ddim yn credu i Dduw greu’r byd mewn saith diwrnod (neu chwech os gorffwysodd Ef ar y seithfed?) ond os maen nhw un criw o bobl dwi ddim yn ymddiried ynddyn nhw, gwyddonwyr ydyn nhw. Wel, ddim gwyddonwyr fel y cyfryw, mae’r rhai sy’n chwilio am wellhad i gancr er enghraifft yn gwneud gwaith gwerthfawr, a fedra i ddim meddwl am well hwyl na phrofi minlliw ar hwch (a dwi ddim yn sôn am y City Arms ar nos Sadwrn).

Efallai mai fi sydd ond ‘sgen i fawr o ddiddordeb mewn pethau fel y peiriant big bang ‘na fu falu ychydig fisoedd nôl, neu’r bobl sy’n chwilio am fywyd call ar blanedau eraill (er enghraifft maen nhw’n dyfalu bod rhwng 30 a 10 miliwn o blanedau tebyg i hon yn bodoli yn y bydysawd - ‘swn i wedi gallu dyfalu hynny myn uffarn), a ddim lol fel bacteria. Chwaeth bersonol ydi hynny mae’n rhaid, ond os dwisho gweld dynion bach gwyrddliw fedra i fynd i dop Rachub i weld yr hipis.

Well gen i weld pethau’n symlach na gwyddoniaeth, i mi:

Mars – blasus
Haul – cynnes
Sêr – cast Pobol y Cwm
Neifion – boi hanner ffish neu Eifion negyddol

Jiwpityr – rhaglen i blant Iddewig

lunedì, febbraio 16, 2009

Hogyn call

Y ffordd dwi’n deimlo’n awr dwi’n amau dim fy mod newydd gael penwythnos rygbi. Yn rhannol gysylltiedig â chyfrifoldebau’r wythnos, ro’n i’n hogyn da ac ni chefais sesiwn anferth ar y penwythnos. Roedd rhywbeth gwag am dim ond ennill y Saeson o wyth pwynt ar ôl y gyflafan a broffwydolwyd, ond curo Sais ydi curo Sais ac mi a’i cymeraf. Fe wyliem y gêm yn Nos Da sydd gyferbyn â’r stadiwm. Trodd hwnnw’n ddigon diddorol ond roedd ‘na lwyth o genod yno’n tynnu lluniau a malu cachu yn hytrach na chymryd sylw o’r gêm oedd braidd yn ddiflas.

Ategwyd hynny wrth i mi gael trafferth yfed o ddifri. Dwi ddim yn cofio gorffen gwaddod ‘run beint heb bron â chwydu. Roeddwn hefyd yn flinedig ond dwi wastad yn flinedig y dyddiau hyn – henaint ydi o, uda i rŵan.

Roedd ‘na awyrgylch go dda yn Nos Da hefyd (welish i Edi Bytlar yn ffilmio’i ddyddiadur fideo ‘na) ond fedra i ddim yn fy myw ymuno pan fydd pobl yn gweiddi ‘Way-ules! Way-ules!’, hyd yn oed pan fyddaf yn y stadiwm. Dwi’n siŵr nad fi ydi’r unig un sy’n ffendio rhywbeth yn wrthun am y gair hwnnw.

Felly ro’n i adra erbyn 10.30 yn gyfrifol fy myd. Pan fydda i isio bod yn gyfrifol mi fedraf fod ac yn hynod felly. Gan ddweud hynny gallaswn fod wedi mynd allan drwy’r nos a theimlo mor ddi-lun ag ydwyf ar y funud. Am y tro cyntaf ers hydoedd deffroais y bore hwn yn glaforio, ac chyda clust wleb. Ro’n i’n meddwl mai gwaedu oeddwn i, ond na, eithr clusthylifog.

Wnes i hyd yn oed gael cawod ar fora Llun am y tro cyntaf ers cyn cof. Dydi peidio â chael cawod yn y bora ddim yn beth newydd, gyda llaw. Fydda i’n un o’r rhai hynny sy’n hoffi cael cawod gyda’r nos, a theimlo’n ffres o flaen Pobol y Cwm a Chwis Meddiant, achos ‘blaw am Nant Conwy mae’r gogs i gyd i’w gweld yn curo’r Hwntws, ond mae trefn naturiol i bopeth mwn.

giovedì, febbraio 12, 2009

Chwyrlïo'r Gwaed

Fysa chi yn dueddol o feddwl fy mod yn rhywun sy’n fodlon curo’r Saeson ac aberthu popeth arall i gyrraedd y nod hwnnw, ond nid felly’r achos. Gan ddweud hynny, p’un a ydynt yn dîm Camp Lawn neu’n dîm o amaturiaid (noder y presennol), Lloegr ydi’r tîm y mae pob Cymro, Albanwr, Gwyddel neu Ffrancwr isio’i guro. Dw i’n dyfalu mai Ffrainc y mae’r Eidalwyr isio’i churo yn fwy na neb. Mae ‘nheulu yn yr Eidal wrth eu boddau efo Saeson; i fod yn onast dwi’n meddwl yr oeddent braidd yn siomedig o glywed nad Saeson ydym ni pan es i’r Eidal. Do’n i ddim yn hapus efo hynny; tai’m i licio cael fy nghamgymryd am Sais, waeth pa mor lipa ac erchyll wyf fy ngolwg.

Ar ôl treulio dechrau’r wythnos yn edifar ac yn flinedig dwi bellach yn well ac yn edrych ymlaen at y penwythnos. Fydd ‘na rai yn wahanol i mi ond ni lwyddodd Cymru v Gwlad Pwyl ym Mhortiwgal wirioneddol danio’r enaid cymaint ag y bydd dydd Sadwrn.

A dydd Sadwrn fydd hi ‘fyd. Dydw i ddim yn cytuno efo chwarae gemau ar ddydd Sul, mae’n annheg ar y cefnogwyr. Wrth gwrs, ‘sdim rhaid i rywun fynd allan nac yfed i werthfawrogi gêm Chwe Gwlad, ond eto mae’n rhan o’r profiad. Dyna be fydda i’n ei licio am y Chwe Gwlad, mae’n gystal profiad ag yw’n bencampwriaeth. Ond mae’r elfen o ofal a geir ar gêm ddydd Sul yn sbwylio’r peth rhywfaint.

Fydd y nos Wener yn erbyn Ffrainc yn ddiddorol. Mae gennyf i hanner diwrnod ar gyfer y gêm honno. Er bod yn rhaid i mi ddweud na hoffais y syniad, yn ddiweddar mae gêm nos Wener yn swnio’n ddigon braf o syniad. Fydd yn brofiad gwahanol, a fydda i’n licio amryw brofiadau.

Ond dyna ni, i mi dydi’r Chwe Gwlad ddim yn cychwyn go iawn cyn bod rhywbeth yn chwyrlïo’r gwaed ac yn deffro’r galon; ni ddigwyddodd cweit cyn yr Alban, ac wn i ddim pam, ond mae hi yma rŵan a dwi’n y swing.

mercoledì, febbraio 11, 2009

Y tew a'r tenau

Dwi am fod yn gas ennyd, am unwaith. Fydda i ambell waith yn licio gwylio’r rhaglen Supersize vs Superskinny. Rŵan cewch ddweud wrthyf fod gan y bobl hyn broblemau a chyflyrau ati a dwi’n cytuno ond mae ‘na un rhan o’r rhaglen hon, sy fel rheol ddim y math o raglen dwi’n ei licio, sy’n neud i mi wenu bob tro sef pan mae’r peth tenau a’r peth tew yn bwyta bwyd ei gilydd. Mae un yn mynd bŵ-hŵ-hŵ mae’n rhaid i mi fyta mwy cyn mynd bŵ-hŵ-hŵ dwi ddim isio buta hyn, gyda’r llall yn mynd bŵ-hŵ-hŵ dwi angen bod yn denau cyn mynd bŵ-hŵ-hŵ dwisho bwyd.

Fydda i hefyd yn eitha licio’r person tenau yn bwyta bwyd yr un tew a phwdu drwy’r broses gyfan yn dweud bod y bwyd yn afiach ac wnim sut allwch chi fyta’r ffasiwn beth, gan weld yr un mawr bron â marw isio rhoi hedbyt i’r llall am ddweud ffasiwn beth ac yn glafoerio ger y plât.

Dydw i heb â blogio’r wythnos hon hyd yn hyn oherwydd y gwir amdani ydi dwi wedi bod yn rhy flinedig. Wn i ddim p’un a ddywedais wrthych am gynllun y Sul sef gwylio’r gêm, cael ambell i beint a chael bwyd cyn mynd adra a bod yn ffresh i’r gwaith? Wedi bod allan efo gwaith nos Wener a chofio fawr ddim ar ôl tua 10, a mynd i’r Mochyn Du cyn cael cyfla i sobri ddydd Sadwrn, allwch chi ddychmygu fuo ‘na fawr o siâp arna i, na’m gwddw (stori hir), ddydd Sul.

Gallwn adrodd ar sut le ydi’r Fuwch Goch, a minnau yno ddwy noson mewn rhes, ond ‘sdim pwynt achos dwi rili heb syniad, ond nôl i ddydd Sul...

Cefais un beint a llwyth o Bepsi wrth wylio’r gêm, ond ar ôl hynny ‘doedd ‘na fawr o siâp arna i. Ro’n i’n fy ngwely erbyn wyth heb lwyddo cyrraedd y bwyty, a doeddwn i ddim yn ‘ffres’ echdoe na ddoe. I fod yn onast ro’n i mor flinedig mi gollais gêm o sboncen yn erbyn Ellen Angharad am y tro cynta.

Dwi’n iawn rŵan. Fydda i ddim yn mynd mor wirion y penwythnos hwn er mai’r gêm fawr sy’n dyfod. Tan hynny, neith ‘di relacs bach.

venerdì, febbraio 06, 2009

Buwch goch, goch, goch ie fin-goch fin-goch fin-goch

Efallai y byddwch wedi clywed am agoriad tafarn Y Fuwch Goch heno ‘ma – mae’r e-byst wedi bod yn mynd i bob cyfeiriad a hefyd roedd darn arni yn Wedi 7 neithiwr (byddaf, mi fyddaf yn gwylio Wedi 7 o bryd i’w gilydd, a ‘sgen i ddim cywilydd). Dwi’n meddwl piciad heibio ‘na heno i weld sut fath o siâp sydd ar y lle.

Bar Shorepebbles oedd yn yr adeilad yn flaenorol. Bydd rhai ohonoch yn gwybod y bu’r lle hwnnw’n gyrchfan i Gymry Cymraeg am fisoedd lawer cyn iddo gau cyn wythnos yr Eisteddfod (o bob wythnos!). I bob pwrpas roedd yn denu pobl a oedd wedi diflasu ar Glwb Ifor neu’n teimlo’n rhy hen i fynd yno bob wythnos, heb sôn am bobl yn cael peint cyn ac ar ôl Clwb, a phobl nad oeddent yn gallu mynd i mewn i Clwb oherwydd y ciwiau enfawr – ond hefyd roedd y berchnoges a oedd yn Gymraes yn boblogaidd iawn.

Roedd ‘na fwlch pan gaeodd. Newidiodd y lle i Kaz-bah, a doedd y perchnogion newydd ddim yn or-hoff o Gymry Cymraeg. Cawsom sgwrs â hwy rywbryd yn ddigon ddi-niwed yn dweud bod mwyafrif y cwsmeriaid yn Gymry Cymraeg, ond doedden nhw ddim yn hapus efo hynny, a dweud yn blaen na fyddant yn gwneud ymdrech benodol i’w croesawu. Digon teg, eu lle nhw ydoedd, ond dydi o ddim yn synaid da troi dy gefn ar ffynhonnell bwysig o’th incwm, na bod mor ddirmygus ag oedden nhw i ni y noson honno.

Caeaodd y lle ychydig fisoedd wedyn, a dwi ddim yn synnu. Pan ddaw at agweddau llugoer tuag at y Gymraeg mewn siopau a llefydd cyhoeddus mae’r Cymry Cymraeg yn weddol apathetig, ond pan ddaw at dafarndai a bariau maen nhw’n gallu troi cefn yn eu niferoedd. Rhyfedd, ond hollol wir.

Clwb Ifor sy wedi prynu’r lle erbyn hyn. Tybiaf fod Clwb yn ddigon ymwybodol bod llwyth o Gymry Cymraeg yno, ac yn gwybod y rhesymau a nodais uchod o ran pam eu bod yn mynd yno. Dwi’n gobeithio y daw’r lle eto’n gyrchfan i ni ac yn meddu ar naws debyg. Roedd cymaint o bobl wahanol yno bob nos Sadwrn: pobl o brifysgol, pobl o gwaith, pobl roeddech chi’n eu hadnabod heb wybod pam na sut – diflannodd hynny ar ôl tranc Shorepebbles, cawn weld a fydd Y Fuwch Goch gystal!

giovedì, febbraio 05, 2009

Fydda pengwin yn iawn, felly minnau 'fyd

Dwi newydd sylwi ar rywbeth hudol. Sut, er mwyn Duw, y mae styffylau yn aros at ei gilydd mewn rhesi cyn i chdi eu rhoi nhw mewn styffylwr? Ew, mae’r hen fyd ‘ma dal yn llawn lledrith os edrychwch yn y llefydd cywir.

Mae’r eira wedi penderfynu ailymddangos yng Nghaerdydd heddiw. Mae’n fy ngwneud i chwerthin sut y mae’r wlad wedi sefyll yn stond oherwydd ychydig o eira. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion Caerdydd wedi cau heddiw, sy’n hollol bathetig. I fod yn onast efo chi, mae’n fy ngwneud i chwerthin braidd, yn enwedig gan fod y bobl propaganda a’r papurau newydd Seisnig mor aml yn hoffi sôn am ba mor wydn ydi Prydeinwyr efo’u ‘Bliz Spirit’ ac ati. Haha! Maen nhw’n rong!

Gan ddweud hynny, bydda pobl ‘stalwm heb wneud y ffasiwn lol allan o bopeth. Dyma’r arferol nid yn ofnadwy o bell yn ôl. Un ifanc dwi, a dwi’n cofio mynd i’r ysgol pan fo’r eira’n ddigon drwm. Dwi hyd yn oed yn cofio gwneud unwaith yn yr ysgol uwchradd, sydd wir yn dangos pa mor uffernol ydi pobl ein dyddiau ni. Pobl ddinesig ydi’r gwaetha, dybiwn i.. Bydda Nain yn dweud o leiaf fod rhywun yn gweld y bobl ddu rŵan, ond gan fy mod i’n 23 a ddim i fod efo rhagfarnau gwell i mi beidio â dweud hynny.

Fyddan nhw’n iawn ar y cyfandir, ac mae hyd yn oed yr Iancs yn llwyddo mewn llawer gwaeth na hyn chwara teg. Y ffordd dwi’n ei weld, os ‘sdim ots gan begwin, ddylwn i fod yn iawn, achos petha tila ydi’r rheini mewn difri calon.

mercoledì, febbraio 04, 2009

Pethau beunyddiol sy'n mynd ar fy nerfau rhif #6133

Pam fod pob cam dwi'n ei wneud yn swnio'n wahanol waeth faint y bydda i'n ceisio gwneud i bob cam swnio 'run peth? Sut fod y ddau droed yn gwneud hyn? IECHYD roedd o'n gwneud i mi wallgofi wrth gerad i gwaith heddiw!

martedì, febbraio 03, 2009

Mae'r eira 'di mynd yn barod y basdad

Bydd eira’n mynd ar fy nerfau i. Fel pawb arall, p’un a ydynt yn ifanc fel y fi neu’n hen a ffôl (25+), bydd eira yn deffro’r plentyn o ddwfn fy mod. Dwi’n cyffroi. Dwi’n licio ei weld ymhobman, yn gorchuddio’r llawr ac yn disgyn yn fwyn o’r nefoedd. Ond bydd gweld yr eira’n diflannu yn ddigon i sathru fy hwyliau.

Felly fu heddiw a neithiwr. Ni ddaeth yr eira go iawn tan iddi nosi neithiwr y Llun, ac mi ddechreuodd bob man droi’n wyn. Bora ‘ma, roedd o wedi dechrau diflannu, ac er i ni weld eira trwm bora ‘ma eto, mae holl eira Caerdydd wedi hen ddiflannu erbyn hyn. Dyna ddigalon.

Mae’n golygu bod yr haul allan yn smyg i gyd, y wancar, a’r llawr yn wlyb. Am ryw reswm dyma fy nghas beth i, sef haul a gwlypni, achos fydda i ddim yn licio gwneud pethau drwy haneri, a dydi llawr gwlyb ac awyr heulog ddim yn cyd-fynd. Wn i ddim sut i deimlo, ond mae o bob amser yn gwneud i mi deimlo’n ddrwg, boed hynny ar ôl cawod o law, neu ar ôl toddi’r eira.

Un peth a’m tarodd ar y diawl oedd y ddynas ar y newyddion neithiwr yn sôn am y plant yn chwarae yn yr eira – dyma’r tro cynta i’w cenhedlaeth nhw weld eira go iawn. Yn wir, pobl f’oedran i ydi rhai olaf sy wirioneddol yn cofio eira yn beth digon cyffredin yr adeg hon o’r flwyddyn, ac erbyn hyn mae hynny’n nyfnion y co’. Rhaid bod cymaint o blant heddiw yn gweld gaeaf gwyn yn beth hollol estron – sôn am deimlo fel deinosor!

lunedì, febbraio 02, 2009

Teulu od

“Amen
Dyn pren
Wedi colli’i ben”
-- Nain

Mae fy nheulu yn od. Soniais gynt am y merlod sy’n y caeau acw. Mae Mam wrth ei bodd gyda hyn, ac yn wir mae’r merlod yn cael eu bwydo’n well ganddi na neb arall erbyn hyn. Dydi Dad ddim yn eu licio nhw fawr ddim, ond y gwir ydi dydi Dad ddim yn licio dim fawr ddim mwyach – mae’n well ganddo lusgo’i hun o amgylch y tŷ yn edrych yn ddigon annifyr cyn bod rhywbeth sy’n ei ddiddori ar y teledu.

Fydd o’n fy ngwylltio yn gwneud hyn dro ar ôl tro, a Mam hefyd. Mae hi’n gwybod erbyn hyn hoffterau gastrig y merlod – maen nhw wrth eu boddau efo lemwns, er enghraifft, ac yn lafoer i gyd wrth eu bwyta – a bydd Mam yn chwerthin yn ddosbarth canol i gyd wrth roi sbarion bwyd iddyn nhw.

Fydd Grandad yn dweud rhyw bethau gwirion hefyd. Y peth mwya gwirion iddo fo ei ddweud yn ddiweddar ydi bod o’n “stiwpid” bod pobl yn dod adra o’u gwaith ac yn newid o’u oferôls. Dyn ag ŵyr o le y caiff hwnnw’n cael ei syniadau, ond fel â phob dyn dros ei hanner cant maen nhw fwy na thebyg ynghlwm wrth ryw ragfarn neu’i gilydd.

‘Runig beth y bydd y Nain Eidalaidd yn ei ddweud ydi “my mind it’s-a goin’”. O leiaf fod gwirionedd yn hynny o beth, ond oherwydd ei demensia bydd yn ei ailadrodd hyd syrffed. Ond fuo hi byth yn gall ar ei gorau chwaith.

Y gwir ydi dydi pethau ddim yn edrych yn rhy addawol i mi pan fydda i’n hŷn. Gobeithio fy mod wedi fy mabwysiadu, neu’n ganlyniad i raglen fridio wyddonol rhwng Beti George a phaced o Goco Pops.

sabato, gennaio 31, 2009

Dyfyniadau Nain dros fecwast

"Cês" [am Lowri Llewelyn]

"Mai'n job cadw job"

"Y gwahaniaeth rhwng heddiw a 'stalwm ydi bod athrawon heddiw angen addysg"

venerdì, gennaio 30, 2009

Grefi

Mae cogyddion seleb (y gair gwaethaf a fathwyd) yn fy nghorddi fel rheol. Yr unig reswm dwi’n gwylio cymaint o raglenni coginio ydi er mwyn corddi, ond mae ambell un yn waeth na’i gilydd. Fel y crybwyllais rhywbryd roedd y rhai Rwbath Cooking Made Easy yn dweud celwydd gan nad oedd y coginio’n hawdd. Roedd Heston Blwmintal yn ceisio gwneud i bobl fwyta pethau gwirion a drud yn Little Chef yn chwerthinllyd (pwy a daliff £15 am bryd yn Little Chef, waeth beth fo’r ansawdd?), ac er bod gweld mochyn yn cael ei sbaddu yn un o’r pethau wirioneddol erchyllaf i mi ei weld, tai’m i gefnogi dim a wna Jamie Oliver achos mae’n gocni ac yn dwat hunangyfiawn, gwefusfawr.

Peidiwch â siarad i mi am y boi Huw Cyw Iâr; fel pawb â chyllideb rhad âf innau amdano bob tro.

Mae hyd yn oed y ddau ar Masterchef yn gallu mynd ar fy nerfau gan fwydro am gyflwyniad bwyd. Ffyc off. Dydi cyflwyniad ddim yn bwysig, y blas sy’n bwysig. Byddwn i byth yn gyrru bwyd yn ôl mewn bwyty gan ei fod wedi’i gyflwyno’n wael, ac mae pwy bynnag sy’n gwneud angen dod o’u byd, sydd fwy na thebyg hefyd yn cynnwys cerddoriaeth amgen a BBC4, a chael slap. Gennyf i, os bosib.

Fydda i’n licio Gordon yn mynd o gwmpas ac yn rhegi (Rhamsi, nid Brown), er bod y cont crychlyd yn gont crychlyd trahaus yn aml, ond daw â mi at deitl y blogiad. Cofiaf unwaith iddo fynd i dafarndy a cheisio’i wella, ac un o’r ffyrdd o wneud hyn oedd y Campaign for Real Gravy, cyn cynhyrchu’r dŵr brown ‘ma a feiddiodd alw yn grefi. Wel, o’n i’n flin.

Mi fydd pob cogydd ar y teledu yn gwneud grefi gwael. Mae’n denau, a tai’m i licio grefi tenau. Efallai bod pobl posh yn licio grefi tenau, wn i ddim – oes angen i mi eich hysbysu i chi i ble y dylent fynd?

Mae grefi i fod yn dew. Dydan ni ddim yn sôn am dew Huw Ffash fan hyn – nid clamp o beth lwmpiog, anfwytadwy, ond hylifog ac â sylwedd (dwi’n siŵr bod sylwedd i Huw Ffash yn y bôn, alla i ddim fod yn rhy gas ar ddydd Gwener, na fedraf?). Ond bob tro y bydd unrhyw gogydd ar y teledu yn dangos sut i wneud grefi mae’n denau ac yn amlwg yn mynd yn oer yn sydyn. Yn wahanol i’r werin datws, dydi’r bobl hyn ddim yn gallu gwneud grefi.

Ys ddywed y gerdd:
Grefi tew,
Grefi da,
Grefi tenau,

Ffoc off.

martedì, gennaio 27, 2009

lunedì, gennaio 26, 2009

Oakwood ac Awkward

Ai fi ydi’r unig un sy ‘di sylwi bod Gogs yn dweud Oakwood ac awkward yn union yr un peth?

Enghraifft:
“Wnaeth o fihafio yn y ffair?”

“Na, roedd o’n (cwblhewch)”