venerdì, novembre 06, 2015

Eryrod Pasteiog II: Mins

John Ogwen
Weithiau ceir ar Twitter sgyrsiau deallus – fel rheol pan fydda i’n sgwrsio ar Twitter – ac ni fu ddoe’n ofnadwy o wahanol yn hyn o beth. Ceisiaf addysgu pan gwyd yr angen. Mor ddifyr ydoedd clywed atgofion y diweddar John Ogwen (nid ‘diweddar’ yn yr ystyr ‘marw’ sydd gennyf dan sylw yma eithr y ffaith bod John Ogwen, fel ŷm oll, wedi bodoli’n ddiweddar a  hynny yw’r sefyllfa a bery) yn trafod ar raglen radio Siân Coffi, yn ei ffordd unigryw ddiansoddair ei hun, arfer y Cymry o ddefnyddio mins fel arian cyfred.
                                                                                                
I’r rhai sy’n amau hyn – pobl ifanc led-addysgedig bid siŵr; Cymry Caerdydd na wyddant ddim am gefn gwlad – fe’ch cyfeiriaf at hunanfywgraffiad y dyn ei hun, ‘Hogyn o Sling’ gan Wasg Gwynedd, a gyhoeddwyd yn wir fel jôc fewnol ar y dechrau, ond a aeth ymlaen i werthu nid llai na 12 copi, sef y llyfr Cymraeg mwyaf llwyddiannus erioed ac eithrio’r Beibl ac ‘Hanas Gwanas’ gan Fethan Gwanas, sy’n adrodd bywyd y ddarlledwraig ffwrdd-â-hi ar ffurf llyfr lliwio.  

Bethan Gwanas yn darllen ei hunanfywgraffiad, yn llawn direidi
 
Ta waeth, rwy’n ymhelaethu gormod. Cofia John Ogwen â phob rhych ar ei wyneb yr arfer o ddefnyddio mins i dalu am bethau. Ar dudalen 74, egyr Bennod 7 gyda “Gellid cael, wrth lwc, am hanner pwys o fins datws newydd, powdr golchi a thafell drwchus o gaws, ond âi pethau’n gymhleth â phwrcasiad ‘mins-am-fins’ lle cyfnewidid – megis yr ensynnir -  mins am fins”. Ni chawn eglurhad mwy cynhwysfawr gan mai dyna Bennod 7 yn ei chyfanrwydd, sef y bennod fyrraf o gryn dipyn.

Cyd-ddigwyddiad oedd i sgwrs arall godi ar bwnc Noson Tân Gwyllt yr un diwrnod, a hefyd inni droi’n ôl at berlau John Ogwen i’n haddysgu am hen oes. Ar dudalennau 62-4 sonia am ‘Noson Mins’ a gynhelid yn Nyffryn Ogwen yn hytrach na thân gwyllt; hwythau’n bethau prin wedi’r rhyfel, ond y mins oedd gyforiog. Clymid felly fins i roced gartref a’i thanio, gan greu effaith nad annhebyg i dân gwyllt go iawn. ‘Mins awyr’ y’i gelwid gan lanciau’r pentref, ond byddai’r hen do’n defnyddio’r ffurf draddodiadol, ‘yr wybren gig’. Arferid dal y cig yn y geg wrth iddo syrthio o’r awyr a byddai cnoi mawr hyd yr oriau mân.

Newidiodd y sgwrs Dwityraidd fymryn, ac atodaf yma ddolen iddi. Fe’m cyfeiriwyd gan ‘Siân Gryffudd’ (nid wyf yn un i beidio â rhoddi fy ffynonellau neu gyflawni llên ladrad) at ganu Aneirin am hanes briwgigoedd cyntaf y Cymry o’r 6ed ganrif – ‘Knouent vrechdan vruwgig o lid llawryt’. Wrth gwrs bu’n rhaid imi egluro iddi’n ddiamynedd braidd bod ystyr ‘briwgig’ wedi hen newid ers y 6ed ganrif.

Grensiawg ei uedd, kyg da droellaw

Brython tross dân, Lloegyr kenfygennaw,

Enaid Owain ab Urien.

Agryma’r uchod, sydd o ganu Aneirin hefyd, ond y cyfeiriodd John Ogwen ato yn ei lyfr mawreddog Hogyn o Sling (t. 88) – sydd ar y cyfan yn gasgliad helaeth ond hirwyntog braidd o straeon sy’n ymwneud â mins yn hytrach na bywgraffiad – mai ffurf ar facwn oedd ‘briwgig’. Os hynny.

Llyfryddiaeth:
‘Hogyn o Sling’, John Ogwen, Gwasg Gwynedd.

venerdì, ottobre 02, 2015

Gair o gyngor i Leanne Wood wrth drafod annibyniaeth

Dydw i ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi mwynhau ysgrifennu blogiad mwy nag Eryrod Pasteiog, sy'n mynd â fi'n ôl at wleidyddiaeth felly. Neithiwr mi wnes i’r camgymeriad mawr o wylio Question Time o Gaerdydd. Roedd Kinnock yn ofnadwy; roedd Leanne Wood yn drybeilig; darodd Stephen Crabb fawr ddim ergyd ar neb; y Sais boi ‘na yn gall ond yn ddiflas a Charlotte Church fawr gwell na’r un ohonyn nhw mewn difrif – heb sôn am gynulleidfa arferol o Anghymreig am QT yng Nghymru.

Byddaf hynod, hynod o gryno yn hwn o flogiad.

Mae’r dull mae Leanne Wood yn benodol (ac, i raddau llai, y Blaid) wedi’i fabwysiadu i drafod annibyniaeth yn wleidyddol hurt. Yn hytrach na rhoi unrhyw ddadl dros annibyniaeth, dyma ddywedodd hi neithiwr – ac yn wir rhywbeth tebyg y mae hi wedi bod yn ei adrodd ers peth amser...

 
Our economy is too weak. We’re already facing a situation where workers in Wales earn 85% of the UK average.

Oes, mae yna wendidau lu gan economi Cymru – boed hynny’n ymwneud â’n GDP, y cyflogau is sy’n cael eu hennill yma, ein hanallu i godi trethi, a’r ffaith bod tlodi plant a diweithdra’n uwch yng Nghymru na gweddill y DU ymhlith, fwy na thebyg, ddegau o ffactorau eraill; hyd yn oed y ffaith bod mwy o ddibyniaeth ar fudd-daliadau yma.

Yr hyn mae Leanne Wood yn ei wneud ydi cytuno efo'r rhai sy’n dadlau yn erbyn annibyniaeth i Gymru, gan atgyfnerthu’r syniad ein bod ni yn rhy dlawd i fod yn annibynnol. Mae’r dacteg yn un gwbl, gwbl anghywir ac eithriadol o niweidiol i’r achos cenedlaethol.

Yr hyn y dylid ei ddweud ydi hyn: ydi, mae economi Cymru’n wynebu heriau economaidd difrifol, a hynny ers degawdau. Ond dydi’r ffactorau hynny ddim yn cau’r drws ar annibyniaeth, ond yn hytrach maen nhw’n cyfleu yn y ffordd gliriaf posibl pa mor ddiawledig o wael y mae Cymru wedi’i gadael i lawr gan y wladwriaeth Brydeinig.

Syml o ddadl. Ond dadl wir.

Efallai na ddylai Plaid Cymru ganolbwyntio gormod ar annibyniaeth. Ond dylai hi ddim fod yn ei thanseilio ac atgyfnerthu amheuon pobl yn ei chylch sef yn union y mae’n ei wneud gyda'r ddadl ‘dydyn ni ddim isio annibyniaeth achos mae Cymru’n rhy dlawd ar y funud’. Dylai hi fod yn cyfeirio at lwyddiant gwledydd eraill – mae Estonia’n un da iawn – ac yn gosod y bai am wendidau Cymru ar garreg drws Llundain. Cyfleu’r ffaith mai Llundain sy’n ei cadw rhag ffynnu; nid mai ni sy’n rhy dlawd felly nad oes gobaith.

Mae’r nifer sy’n coelio mewn annibyniaeth yng Nghymru’n isel. Lein y Blaid ydi nad ydi hyn yn syndod am nad oes neb erioed wedi dadlau drosti; sy’n eithaf cadarnhau un o unig ergydion Crabb neithiwr ar QT “Then what’s the point of Plaid Cymru?”

Oce, Blaid Cymru, os dydach chi ddim isio gweiddi’n groch dros annibyniaeth dwi’n dallt hynny’n iawn – a dwi’m yn bod yn goeglyd, dydi’r fantais wleidyddol sydd i’w hennill o wneud hynny efallai ddim yn fawr. Ond drwy, i bob pwrpas, fwydo’r naratif Brydeinllyd yn ei chylch, rydych chi’n cyfrannu nid at ei sicrhau ryw dro, ryw bryd, ond at ei hatal a hynny efallai’n barhaol.

mercoledì, settembre 02, 2015

Portreadau o Gymry ein hoes


Yr hogia o Ben Llŷn, John a'i frawd/cymar, Alun


Y Gymraes a gyflwynodd yr iaith Gymraeg i Loegr, Alex Jones



Un o wir drysorau Cymru gyfoes, yr actores a'r cardotyn amryddawn, Gillian Elisa


Arwr Cymru a'r Llewod a thîm ieuenctid Glantaf, Jamie Roberts


Cerddedwr a naturiaethwr brwd yw Iolo Williams, sydd ar y teledu weithiau yn cerdded a naturiaethu


Y swynwr o Solfach ei hun, Meic Stevens (1910)


Y gyflwynwraig hoffus, Mari Løvgreen, na ŵyr neb amdani'n awr


"Mae'r gwin yn troi'n sur"
- Caryl Parry-Jones


Y gwerinwr gwreiddiol, Rhodri Morgan


Un o sylwebyddion craffaf Cymru, Vaughan Roderick


Ac, wrth gwrs, mae Dafydd Iwan "Yno o Hyd" hefyd

sabato, agosto 29, 2015

Eryrod Pasteiog

Roedd y dail yn hynod o wyrdd y bore hwnnw, a ddylwn i ddim fod wedi synnu achos mae dail fel arfer yn wyrdd, felly synnais i ddim. Roedd yn ymateb call. Ni ŵyr y lliaws fod, fel rheol, fwy o ddail ar goeden nag sydd i goeden foncyffion. Ond fe fûm innau wastad yn un sylwgar, yn un gân o flaen y gweddill, a dyna pam nad oes neb yn fy hoffi, ac yn taflu ataf wrthrychau lu, boed yn gerrig, yn gyllyll neu’n gadeiriau ac unwaith stôl odro. Fe’i cedwais a’i defnyddio at ei phriod fwriad. Does gen i ddim buwch felly smaliais.

Stôl ar ôl,
Ar ôl mae stôl,
Ond be ddaw wedyn?
Sosej rôl.

Roeddwn fardd ym more glas fy llencyndod gynt.

Sosej rôl yn
RHEIBUS
fel eryr
pasteiog.

Ydi, mae’r hen chwedlau’n wir. Beirdd ddoe yw’r bwytwyr mawr; ac ar ôl oes o gynganeddu, hen gelf na ddeall neb ac na ddiolch neb amdani eithr cynganeddwyr, gan draflyncu cywyddau ânt dew gan swmp eu gallu; archwilient finiau’r archfarchnadoedd yn eu blys am englynion newydd ond methiant ddaw iddynt bob un oherwydd ni chewch mewn archfarchnad farddoniaeth a dyna pam fod Mei Mac bellach yn ugain stôn ac ni fydd yn gadael ei dŷ mwyach ond i odli.

Nid oes yn rhaid i feirdd penrhydd odli felly maen nhw’n dewach fyth fel rheol.

Ond methu’r pwynt ydwyf – yn ôl ato. Cerddais ar droeon i lawr y lôn fach tua’r ffridd brudd, grimp gan sychder, lle gwelsai’r hynafiaid ryfeddod yn y rhedyn a gwirionedd yn yr wybren faith gynt oddi fry; ac ynddi sêr gwib rif y gwlith yn ... gwibio.

Welais i mo hynny erioed, ond mi welais yno Dewi Llwyd, ac mi wn fod Dewi Llwyd yn licio wy wedi’i ffrio achos mi fydd weithiau’n gwisgo wy wedi’i ffrio am ei ben fel het, fel rockstar y werin bobl. Aethpwyd ag ef i’r ddalfa am fod rhaid; ofnai’r plant ei benwisg ac fe’i hymosodwyd arno gan wylanod a chan gathod, yn ffyrnig eisiau wy. Heidiodd am ei gylch bryfaid a rhedodd oddi wrthynt nerth ei draed ac yn wylofain – rhedodd i fyny’r bryn a lawr i’r glyn, rhwng yr eithin a’r grug a’r Melyn Mair, i geisio’u gwaredu, nes dod i orweddian yn lwmp di-anadl ar weiriau’r wern. Erbyn hynny, roedd yr wy wedi hen ddisgyn oddi ar ei ben gyda’r holl redeg, ac ar ôl hel ei feddyliau am ei ddiwrnod diweddaraf, ymlusgai’n wrthodedig tua thre, cyn parhau â’r cylch dieflig eto drannoeth.

Bu farw Dewi Llwyd yn ddeunaw oed.