Gwir yw fy ngeiriau. Ddoe, fues i’n cynllunio un wers a gymrodd, rhwng gwneud y PowerPoint, gwaith cartref a thaflenni (heb son am beth ddiawl ddyweda i yn ystod y wers) bedair awr imi. Nis dechreuais y traethawd yr oeddwn yn benderfynol o’i dechrau erbyn diwedd hynny. Stwffiais fy hun ar y soffa ac aros yno’n benderfynol am weddill y nos.
Heddiw, fodd bynnag, gyda gwers am y cynganeddion tu ôl imi, mi ddechreuaf y traethawd rŵan. Fe ges i ryw bwl o anhyder ddoe, a dechrau chwilio am jobs ar-lein yn hytrach na bod yn athro tan sylweddoli does dim byd arall sydd gennyf y ddawn i’w gwneud.
2 commenti:
nid oes gennyt ddawn mewn addysgu chwaith
Wyt ti'n gorfod anharddu fy mlog gyda dy Ddyfedsylwadau cyson?
Posta un commento