lunedì, aprile 30, 2007

Edrych ymlaen i ryw lecsiwn a ryw ballu

Dydd Llun. Diwrnod gwaethaf yr wythnos, pan fydd rhywun yn dychwelyd i’r gwaith efo stamp Clwb Ifor Bach dal ar eu llaw, ond gwallt eithaf neis. Ddaru mi fwynhau’r penwythnos a fu yn eithriadol, fel ac y gwnes i’r un flaenorol. Mae Crôl Canton yn newid bach neis o bryd i’w gilydd (er fy mod i’n rhy hen a rhechlyd i fynd ar bob crôl erbyn hyn, wrth gwrs). Dw i heb fod i’r ardal am sesh ers hydoedd.

Clecs? Oes, digon. Ond rhannwn i mohonynt â chwi, canys anghyson a phrin yw fy nghof wedi wyth o’r gloch. Do, chwydais mewn blodau; do, cerddais i’r Mochyn Du gyda Dyfed (a mwynhau ei benmaenmawr ddydd Sul â diléit); do, es i doiledau’r genod yng Nghlwb Ifor (wn i ddim pam).

Yr wythnos hon byddaf yn dda. Nos Iau, mi fyddaf i fyny tan oriau mân y bore yn gweiddi’n groch dros Blaid Cymru (efo paned a chracyrs a chaws) a mynd i mewn i’r gwaith fore dydd Gwener yn sâl isio cwsg ond yn fodlon oherwydd mi fydd hi’n noson dda. Mae unrhyw noson sy’n cynnwys cracyrs a chaws yn noson dda yn fy marn onest i, gan etholiad ai peidio. Ond bydd cracyrs a chaws a chwymp Llafur yn codi gwên ar fy wyneb sarrug, y bydd yn aros yno am sbel go dda…

2 commenti:

Anonimo ha detto...

Uchafbwynt dy benwythnos oedd gwario'r holl benwythnos gyda fi. Bai ddy we, dwi dal yn marw heddiw ac mae pawb, hyd yn oed y mil chwe chant o ddisgyblion yr ysgol yn chwerthin am fy mhen gan weiddi mewn lleisiau hynnod siafaidd "Hy hy sir cant handle his beers!!!!" Dwi'n chwyrnu'n grug arnynt ac maent yn chwerthin ar hynny hefyd. Does gen i ddim parch yn y lle ma!

Hogyn o Rachub ha detto...

Ti'm yn cael parch yn unman! Trist wyf y bu imi dreulio drwy dydd Sadwrn gyda thi yn fwy na neb arall, ond er hynny a cheisio fy meddwi aflwyddiant fu'th ymgais i'm treisio!