**Yn amlwg mae Calan Trwyn yn gymeriad dychmygol. Dim ond rhywun gwallgof fyddai'n honni bod cymeriad mor hynod yn seiliedig ar rywun go iawn**
Coffa da am yr hen frawd Calan Trwyn – awdur, bardd, bon viveur,
gwnïwr – a fu farw. A fu erioed i Gymru gymeriad mor lliwgar? Yr oedd ei
fywyd yn llawn straeon difyr nad oes lle eu hadrodd oll yma am efe’r bywddarluniwr brwd.
Yr oedd iddo’r ochr ysgafn a chwareus na ŵyr y lliaws amdani. Yr oedd yn gydweithiwr difyr a diog, na hoffai ddim yn fwy ond am fynnu gan bawb arall yn y swyddfa bob blwyddyn wy Pasg. Cawsai lu ohonynt bob tro canys na feiddiai neb beryglu gwireddu’r bygythiadau a daflai atynt pe gwrthodent. Yna fe’u rhoddodd yn ei ddesg a’u cadw yno am flwyddyn gyfan, canys na fwytai siocled ei hun, ond gadawodd iddynt bydru yno a drewi’r swyddfa gyfan ag arogl hen siocled nychlyd. Denodd gan hynny bryfaid a threuliai ei ddiwrnodau yn y gweithle’n eu dal, ac yn eu rhoddi mewn bocs a alwai Y Fynwent Bryfed gan wneuthur i bawb arall gyfogi. Ond un felly oedd yr hen Galan a maddeuid bob tro ei gamweddau direidus yn y pen draw.
Hoff ydoedd hefyd o gerdded coedwigoedd, er nas cerddai drwyddynt eithr trostynt. Aethai â’i lif gadwyn ag ef gan ddifa coed dirifedi o amgylch Ynys Môn. Ar ôl eu gosod yn rhes drefnus dinoethai’n gyfan gwbl a cherddai trostynt yn gweiddi at y gwiwerod: ‘Wele, myfi yw brenin y goedwig!’ ac yna saethu atynt yn aflwyddiannus â’i ddryll. Yr oedd yn wir gas ganddo goed a byddai’n digio pob tro y gwelsai un yn ddi-ffael. Meddai rhai y gallai gwympo coed gan un edrychiad, ond ni phrofid hynny fyth ac ni welais i mo hynny, dim ond y casineb tanllyd y tu ôl i’w sbectol anffasiynol.
Chwerthin sy’n rhaid. Ond mor frwd ei gasineb at y goedwig a’i lythyru blin diflino at Cyfoeth Naturiol Cymru’n mynnu diwedd arnynt (ni chawsai ond ymatebion swyddogol, a’i gwylltiodd yn rhagor; os oes un peth yn wir am yr hen Galan, ni wyddai neb sut i ymateb iddo) yr oedd ganddo un diléit, sef paneidio. Paneidiasai ar ei ben ei hun yng nghaffi’r pentref, neb ond efe a’r hen Idwal, canys gadawsai pawb arall yn frysiog fel haid o wyddau gwylltion pan glywsant y si ei fod ar ddyfod. Eisteddai’n bytheirio Idwal am ddwyawr, yn aros nes i’w baned wan o de oeri’n llwyr cyn ei llymeitian yn fwriadol swnllyd, ac yna’n gadael cyn i Idwal gael dweud dim. Nid mewn deugain mlynedd o gyfeillgarwch agos y cawsai air i sgwrs â Calan, ond un felly oedd yr hen Galan, yn siarad yn ddi-baid waeth p’un a wrandawsai gwrthrych ei fileindra arno ai peidio.
Unwaith, bwytodd iâr gyfan gerbron cyfarfod llawn Cyngor Gwynedd.
Gorffwys mewn hedd, yr hen Galan Trwyn.