lunedì, marzo 06, 2006

Cneifio

Dw wedi cael fy ngwallt wedi ei dorri. Am y tro cyntaf ers dros chwe mis, dw i'n siwr, a dw i'm yn siwr beth i wneud ohono. Dw i wastad wedi licio cael fy ngwallt 'mbach yn hir (hir iawn a dweud y gwir), felly'n anaml y bydda i'n ei dorri. Golyga hyn ei fod yn denau ac yn seimllyd am y rhan helaethaf o'r flwyddyn, a rwan dw i'n sylweddoli ei bod yn cael ei golli'n fwyfwy.

Gas gennai dorri gwallt; mae'n well gennai fynd i'r deintydd neu'r doctor, a dw i'm yn licio'r un ohonyn nhw rhy lawer chwaith, rhwng daeargrynnu 'nannedd a chael bys yn din (stori hir). Er, y niwed gwaethaf a chefais oedd gan rhywun pan oeddwn i'n cael torri gwallt ym Mangor yn hogyn bach ifanc, a dyma'r ast yn llwyddo torri fy nghlust. Fflesh wound, wrth gwrs, nid unglust mohonof, ond fe roddodd hwnnw fi off y bastads am byth wedyn.

Mae o hefyd yn gwneud imi edrych yn dew. Fel bochdew, a 'chydig bach fel afocado, 'fyd (efo coldsore arall fyth. Bastad dolur annwyd, maesho'i saethu). Ond rwan mae'n rhaid imi sortia allan fy nghyfrifiadur. Bu imi brynu Battle For Middle Earth II ddoe, a wedi bod yn edrych ymlaen yn arw at ei chwarae am beth amser, ond dydi hi ddim yn gweithio ar fy nghyfrifiadur i nac un Owain Oral. Dw i'n gytud, fel pe bai rhywun 'di marw neu bod diwedd yr iaith ar fin neu fy mod wedi cael torri fy ngwallt. O ia, anghofio am hynny. Bastad torri gwallt. Casau torri gwallt.

domenica, marzo 05, 2006

Steddfod a ballu

Wel dyna ni Aberystwyth wedi ennill y 'Steddfod Rhyng-gol unwaith yn rhagor, ond maen nhw'n dda am baratoi ac ati, tydan ni ddim. Y peth tristaf am y peth o safbwynt Caerdydd oedd diffyg cefnogaeth y flwyddyn gynta, yn enwedig ar ddechrau'r 'Steddfod. Ond dyna ni, mae'r hen do y bedwaredd a'r drydedd yn marw allan, gwaetha'r modd. Jiw jiw. (nid marw felly, gyda llaw, dim ond ymadael a'r brifysgol)

Dw i'm yn cofio nos Wenar yn dda iawn oni bai bod rhywun yn chwarae yn Callaghan's a doedd gennai'm syniad pwy. Dw i'n methu Clwb Ifor, dw i'm wedi bod yno am cyn gymaint o amser dw i'n teimlo'n ddiarth iawn. Dw i'n 'sgwenni'r blog hwn o'r gwely ac yn marw isho toiled ond fedra i'm codi a bellach dw i'm yn siwr os oes gynnai goesa. Na, dw i'n goro mynd. Ta ra!

giovedì, marzo 02, 2006

Tŵr Gwaith

Os mai ymadroddiad hyfrytaf y Saesneg yw 'cellar door' felly mai tŵr gwaith yw un y Gymraeg. Unrhyw un yn cytuno? Mi feddylish i am hynny echddoe a theimlo'n glyfar iawn gyda mi'n hun am fedru meddwl am y ffasiwn ddwysbethau.
Dw i'm wedi blogio ers sbel (fel wnaethoch chi'm sylwi. 'Sneb yn darllan y crap 'ma heblaw am Ceren, a phrobabli Owain Ne canys un gwirion ydyw). Am ddim rheswm penodol, ychwaith, dw i'n eitha hapus ac iach (er dw i'n fflemio fel pleb o hyd) a bodlon fy myd, er fod Plaid Cymru (www sori PLAID dio rwan de y ffycin twats gwirion ar y top) wedi newid ei logo i rhyw fath o jeli wladgarol.
A dw i dal yn casau popeth yn y byd, fel babanod, potiau planhigion a chreithiau meddyliol cynoesol. Dw i'm yn byta rhyw lawer yn ddiweddar, a all fod yn dda yn y diwadd a'm gadael i deneuo. A dweud y gwir i chi (ia, Chi!) fydda i ddim yn colli na rhoid pwysau ymlaen bellach. Duw a'm gwnaeth yn 13 stôn a Duw a'm cadwa felly, hynny a pizzas (ond gan mai Duw yw Arglwydd Popeth mi a'i feiaf am hynny hefyd. Fydd o'm yn meindio).
Wel mi dw i ar brofiad gwaith ydach chi'n gweld, yn Sain Ffagan a dw i actiwli yn mwynhau! Dw i'n mwynhau gweithio! Faswn i'm 'di dychmygu hynny wythnos diwethaf. Mae Sian a fi yno a dani'n gweld bob mathia o betha, fel y stordai sy ddim wedi eu hagor i'r cyhoedd ac yn cynnwys dros 90% o eiddo Sain Ffagan, a'r eglwys Gatholic sydd ddim wedi agor eto. A rydym ni'n cael bwyd gyda staff discownt a gwisgo bajys. Dw i byth wedi teimlo mor bwysig a hynny, heblaw pan ennillais i raffl yn Sioe Flynyddol y Gwynedd School of Dance pan oedd y chwaer yn downsio yno a finna'n bôrd yno'n ei wylio bob blwyddyn am tua pymtheg awr.
Wel dyna ichwi ddiweddariad ddiweddaraf fy mywyd. Dal yn crap, tydi?

lunedì, febbraio 27, 2006

Iwerddon

Waaaaaaahaha dw i'n caru Iwerddon! Newydd ddod yn ein holau o'r Ynys Werdd a wedi mwynhau o gymaint! Hynny yw heblaw am y ffaith y gwariais i dros 160 ewro a bod y tafarndai i gyd yn drewi o rech Guinness. Fel ddudodd un boi You Welsh are brilliant, you come here and spend yer money and do a good atmosphere, but you bloody stink! Doedd 'na bron dim Gwyddelod allan, dw i'm yn meddwl bod meddwi'n gachu'n rhan mor hanfodol o'u diwylliant nhw ac y mae i ni, a'r Cymry oedd y mwyafrif ymhob un lle yr es i. Da 'da ni, de? Diolch i Dduw bod y Cymry'n well yfwyr na mae Gavin Henson o chwaraewr rygbi...!

Roeddwn i'n shatyrd erbyn nos Wenar. Doeddwn i heb gysgu ers tua 38 awr ac wedi meddwi ac wedi marw. Fe lwyddem ddod o hyd i le oedd yn gwerthu peintiau am saith y bora o'r enw Slatterleys a Guinness a gafwyd gan bawb heblaw am Haydn a gafodd banad. Fe arhosem ni yna cyn symud ymlaen i'r Boar's Head a chefais f'argyhoeddi nad oeddem ni'n cael canu tan 2.30 achos dyna pryd oedd disgwyl i'r Frenhines farw. O diar. (Buo hi fyw, gyda llaw).

Wel roedd hynny'n fuan oll a doeddwn i methu a chowpio heb gwsg nos Wener, felly dyma fi'n mynd adra i'r hostel yn eitha fuan dw i'n siwr. Piti 'fyd achos roeddan ni'n cael bwyd hollol hyfryd mewn rhyw fwyty. Roeddwn i wrth fy modd gyda fy Mhasta Molly Mallone ond wedi meddwi gymaint nad ydw i bellach yn cofio sut flas oedd arno. Digwyddodd hyn oll wedi imi chwarae ar biano mewn rhyw pyb mor galed fel y bu i fy mawd waedu drosto i gyd, ac wedi rhyw Wyddel ein dwyn a chynnig 22,000 mil o gynnau imi er mwyn rhyddhau Cymru!

Arafodd llif y cwrw nos Sadwrn ond aethom ni i dafarn wych a gwylio band byw a chontio Saeson gyda'r lleolion. Mae 'na fandiau byw ymhobman dros Iwerddon a mae nhw'n wych ac yn canu popeth dan haul a lleuad. Y broblem oedd bod bobman yn cau'n fuan a dim ond rhyw chwech ohonom a aeth ymlaen a thrio Lagyr Cryfaf Y Byd sy'n 14% ac yn blasu fel chwys tin gafr. Llwyddem ni gael cic owt o dacsi hefyd diolch i Savage yn agor y drws pan oeddem ni'n ganol stryd a dechrau chwydu a'r gyrrywr yn gweiddi What ye doing? What the bloody hell ye doing?
Diwrnod hyfryd iawn oedd hwnnw, gyda'r Alban yn curo'r Saeson a thafarn o Wyddelod a Chymry'n cyd-gefnogi'r Albanwyr. Dw i'n caru bod yn Gelt!

Www ma'r blogiad ma'n hir! Dydd Sul a doeddwn i methu yfad iot a roedd gennai binau bach achos roeddem ni'n eistedd ynghanol y llawr caled heb seddau yn weddill. Ond wedi'r golled siomedig dyma'r band yn dod ymlaen a chodi calonnau'r Cymry. Dw i'm yn cofio enw'r dafarn ond roedd o'n llawn dop (crysau cochion i gyd oni bai am un Gwyddel barfiog blin) a chael peint yn hunllef, yn hunllef, cofiwch! Oooo diar roedd pethau'n mynd o ddrwg i waeth o ddrwg i waeth mewn difri calon er mwyn y nefoedd![/mode hen ddyn Haydn/Ellen]

Yn y diwadd aeth Ellen a fi adra yn eitha fuan ac o ystyried bod Owain Ne yn sadist drwg ac isho pawb godi am chwech er bod y fferi ddim yn dechra tan 8.30 roedd hi'n syniad eitha da a dweud y gwir yn onast. Gwelsom ni'r cwpl hyllaf yn y byd yn snogio ar y ffordd adra a jyst mynd yyyyyyyych! wrth basio, sydd braidd yn anghwrtais. Ond diawl oeddan nhw'n hyll. Ond dw i'm yn Picasso 'chwaith (jôc mewnol, na phoenwch).

Araf ydoedd y cwch nôl, a'r bys yn arafach byth rhwng Ellen yn bitshio pawb, Haydn a fi'n trafod cael partneriaeth sifil (jôc! Ma'r boi'n drewi) a'r gyrrwr bys yn mynd rownd Byrmingham er mwyn cyrraedd Caerdydd. Er mwyn y Nefoedd!

Ieeeei llunia!



O. Mai. God. Dydi'r hogan siriysli methu helpu ei hun.

Ellen y dyfodol: alcoholic trist.

'O Iesu, mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth!' - nis fwynhaeid y panad gan Haydn

Y llun gorau erioed o Lowri Dwd; yn syml oherwydd y ffaith nad ydi hi ynddo fo. Nath Haydn taflud darn o rew arni wrth imi geisio tynnu llun ond rhoi timer y camera ar yn lle a dyma Lowri'n neindio fel llyffant o'r ffordd, a dyma'r llun a gaed. Hihi!

Band nos Sadwrn. Hen a gwych y tri ohonynt, ac yn ganwyr well na Ceren.

Noson allan yn Sir Benfro (h.y. K.O. mewn bar yn Nulyn)

Mae'r llun hwn yn symio fyny trip Dulyn imi gan mai dyma'r olaf drip Gym Gym yr awn ni arno. Trydydd flwyddyn a thair mlynedd gwych y buo hi. Bastad ail a chyntaf flwyddyn!

mercoledì, febbraio 22, 2006

Ymwellhau

Braf ydyw gwella. Dw i'n gwella wedi'r penwythnos adra, ac yn teimlo'n well fy myd yn gyffredinol a dweud y gwir. Dal ambell i ffleman yn treiddio drwodd ond fela mai.
Aeth Lowri Llew a fi i Lidl ddoe. Mae Lidl yn wych o le, dw i'n ei charu'n bersonol achos mai'n rhad a dw i'm yn dallt dim byd sy 'di 'sgwennu ar y cartons. Oeddwn i wrth fy modd achos dyma'r tro cyntaf y defnyddiais rhyw declyn rhoddodd Nain i mi. Fatha keyring ydyw wedi'i siapio fel punt a medrwch chi ei ddefnyddio yn lle punt i trolis. Gwych. Fe benderfynem ni'n dau wneud cawl o rhyw math neithiwr. Roedd o'n neis iawn ond am y cig cnoillyd (a gymrodd lot o gnoi) sydd yn nodweddiadol o Lidl.

Ia wir felly y gwnaed hi. A mae'n hanfodol cael cenin mewn lobsgows tydi? Sy'n golygu bod pawb o Rhuthun yn rong. Ardal rhyfedd fuodd hwnnw erioed, ardal o wneud lobsgows gwallus, mi a dybiaf.

Fodd bynnag mi af i'n awr. Pethau i'w wneud, pobl i siarad efo (sgen i neb i siarad i dw i mor unig. Na dim i'w wneud a dweud y gwir. O anffrwythlon, ddieflig fywyd!). Ta ra!

domenica, febbraio 19, 2006

Yr Axe and Cleaver - yr ailymweliad

http://hogynorachub.blog-city.com/yr_axe_and_cleaver.htm

Cofio'r uchod ar yr hen flog, rhywun? Ia wir, roeddem ni ar ein ffordd i lawr o'r gogledd a phenderfynem y byddem ni'n galw draw yr yr Axe and Cleaver y tu allan i Henffordd. Tro diwethaf, roedd ofn dirfawr arnom; myfi, Haydn, Lowri Dwd a ffrind Haydn, Jemma. Y tro hwn y ni'n tri ydoedd gyda Llinor o'r cyffiniau a dyma ni'n meddwl y byddem yn mynd am dro.

Mae'r lle dan reolaeth newydd. Dim mympwyon, dim Igor yn ei gwasanaethu OND roedd yr UNION hen bobl mud yn eistedd yn y gornel o hyd (cyn diflannu heb smic). Datblygiad mwyaf cyffrous y lle yw mai Elfyn Llwyd bellach sy'n berchennog, a'i bod yn hoffi gweiddi 'eureka-ka-ka!' wedi iddo lwyddo cael y peth talu 'fo cerdiau i weithio. A mae'r sosijys bellach wedi mynd off (ac yn rili afiach, ond roedd yr wy a'r chips yn neis).

Y peth mwyaf wiyrd am hyn oll yw yn hollol anymwybodol ein bod wedi mynd yn ol yno blwyddyn yn union namyn diwrnod i'r tro diwethaf! Mae'r lle dal yn ryfedd. Cadwch draw!

sabato, febbraio 18, 2006

Taith Ceren drwy'r goedwigoedd hudolus ger Tonteg a'i sgwrs gyda Dyn Y Bont fel y'i chofnodwyd

“Hawddamor, Arianrhod,” dywedodd, “nis ddywedaf i chwi.”
“O,” atebais. “Synnaf ar eich haerllugrwydd. Paham y dywedwch y math beth a minnau heb fyth â chwrdd â chwi o’r blaen?”
Ysythodd ei ysgwyddau sythion yn fygythiol. “Chwi a ‘mofynnwch imi’r hyn gwestiwn?” poeroedd ataf, a’i ddannedd yn wynnach na hufen Dyfnaint, neu dannedd yr Iesu ei hun. “Chychwi a feddyliwch yr hawliech yr hawl hwn drosof i’m holi?”
“Nis fwriadais sarhad,” cychwynnais o’r diwedd / o'r diwedd cychwynnais, “a ni ddylech ei chymryd felly. Yn wir, chychwi a ddaethasoch ataf ac ymatal hawddamor heb eglurhad. Nid dim ond holi’r wyf paham yr ataliwyd yr hawddamor, er mwyn deall eich meddwl yn gywir.”
“Rydych yn haerllyg ac yn ifanc, Gwenllian, ond mi a egluraf.”
“Diolchwn.”
“Tawed, Emily," pwerys-orchmynnodd, wrth i'w drowsus ddisgyn i'r llawr. "Myfi a drigais gynnau dan y bont fan draw. Astudiais garlamdaith yr afon hyd y dorlannau, a fe’m hymgollwyd yn hyfrydwch y byd a’i manion bethau than y bont hwnnw fan draw y cyfeiriwyd ati’n y frawddeg gynt. Canrifoedd! Aethasant hwy fy heibio a nis sylweddolais ar newydd wedd y gwynt nac oerni’r tymhorau, a’m salad datws a basiodd y sell by date. Na, nis wnaf yr un camgymeriad drachefn. Hawddamor sydd imi yn angen, i tithau’n fraint. Nid fy lle i yw gosod braint.” Ysgwydodd ei ben yn brudd, gan sylweddoli bod ‘na chewing gum ar ei sawdl.
“O syr! Maddewch im!” crochlefais. “Nid oeddwn yn gwybod! O na chawn innau ddeall eich doethineb ac ymdrybaeddu yn haul eich tragwyddoldeb!”
Bu iddo farw’n y fan a’r lle. Dwynais ei salad datws a rhedeg i ffwrdd gan chwerthin. Yr oedd wedi bod yn ddiwrnod da.

06 Awst, 2005 unwaith yn rhagor

Iep, dw i adra'n Rachub a dydi'r cyfrifiadur dal heb fod eisiau gwneud dim math o frys nac ychwaith hyd yn oed ystyried y dyddiad.

Wrth gwrs, adra'n sal ydwyf i. Dydi hi ddim yn neis bod adra'n sal, ond mai'n well na coleg (llawer mwy o sympathi ar gael yn lle pawb yn dweud 'ti'n hollol iawn y bastad tew'. Llawer gwell cael Mam yn prynu eis lolis imi i wneud fy ngwddf i'n well! Hihi!). Er dydw i dal heb gysgu mwy na chwech awr ers bron i bythefnos. Ella fy mod i'n insomniac neu dydw i ddim yn gwneud digon o ymarfer corff. A dweud y gwir dw i'n gwneud dim, er mi goda i allan o 'ngwely pan goda'r awch. A blogio, sy'n waith caled ar y bysedd a'r meddwl.

Y glands sy 'di chwyddo dachi'n gweld. Gwneud llyncu'n boenus iawn a phoeri'n loes calon. Dw i ar gwrs o Penecillin sy'n gweithio i'r gwddw ond mae'n rhoi ffwc o gur pen imi. Felly mi es i'r gwely'n fuan neithiwr a gwylio rhyw gyfweliad gyda Meic Stevens ar S4C ac ar f'enaid gwelais i fy hun mewn deg ar hugain o flynyddoedd yn yfad ac efo gwallt hir ac yn meddwi ac yn gwisgo het cowboi a sbecdols haul (a hynny oll namyn y ddawn gerddorol). Dw i'm isho bod yn Meic Stevens. Dwisho bod yn Michael Douglas (efo gwraig ifanc hyfryd) neu Bill Gates (cyfoeth) neu efallai'r Pab (het cwl).

Reit ma'r 'stafall yn troi sy'n golygu dw i angan mwy o fediceshyn. Ys dywed y Ffrancwyr: la vache n'est pas heureuse.