Os mai ymadroddiad hyfrytaf y Saesneg yw 'cellar door' felly mai tŵr gwaith yw un y Gymraeg. Unrhyw un yn cytuno? Mi feddylish i am hynny echddoe a theimlo'n glyfar iawn gyda mi'n hun am fedru meddwl am y ffasiwn ddwysbethau.
Dw i'm wedi blogio ers sbel (fel wnaethoch chi'm sylwi. 'Sneb yn darllan y crap 'ma heblaw am Ceren, a phrobabli Owain Ne canys un gwirion ydyw). Am ddim rheswm penodol, ychwaith, dw i'n eitha hapus ac iach (er dw i'n fflemio fel pleb o hyd) a bodlon fy myd, er fod Plaid Cymru (www sori PLAID dio rwan de y ffycin twats gwirion ar y top) wedi newid ei logo i rhyw fath o jeli wladgarol.
A dw i dal yn casau popeth yn y byd, fel babanod, potiau planhigion a chreithiau meddyliol cynoesol. Dw i'm yn byta rhyw lawer yn ddiweddar, a all fod yn dda yn y diwadd a'm gadael i deneuo. A dweud y gwir i chi (ia, Chi!) fydda i ddim yn colli na rhoid pwysau ymlaen bellach. Duw a'm gwnaeth yn 13 stôn a Duw a'm cadwa felly, hynny a pizzas (ond gan mai Duw yw Arglwydd Popeth mi a'i feiaf am hynny hefyd. Fydd o'm yn meindio).
Wel mi dw i ar brofiad gwaith ydach chi'n gweld, yn Sain Ffagan a dw i actiwli yn mwynhau! Dw i'n mwynhau gweithio! Faswn i'm 'di dychmygu hynny wythnos diwethaf. Mae Sian a fi yno a dani'n gweld bob mathia o betha, fel y stordai sy ddim wedi eu hagor i'r cyhoedd ac yn cynnwys dros 90% o eiddo Sain Ffagan, a'r eglwys Gatholic sydd ddim wedi agor eto. A rydym ni'n cael bwyd gyda staff discownt a gwisgo bajys. Dw i byth wedi teimlo mor bwysig a hynny, heblaw pan ennillais i raffl yn Sioe Flynyddol y Gwynedd School of Dance pan oedd y chwaer yn downsio yno a finna'n bôrd yno'n ei wylio bob blwyddyn am tua pymtheg awr.
Wel dyna ichwi ddiweddariad ddiweddaraf fy mywyd. Dal yn crap, tydi?
2 commenti:
Hwn ydi'r blogbeth gwaetha a chefais yr anffawd iw ddarllen ERIOED!
Ti mond yn jelys achos bo fi 'di llwyddo dy argyhoeddi bod Trevor Macdonald wedi marw bora 'ma mewn damwain car efo John Suche, DYFED!
Posta un commento