A dweud y gwir roedd hi'n wicend hynod wahanol achos aethon ni ddim allan. Eshi ddim, eniwe. Nos Wener aeth y tŷ i'r Bae am fwyd, i Harry Ramsdens. Mi oeddwn i eisiau ffish pai ond doedd 'na ddim ffish pai felly bu'n rhaid imi gael hadoc oedd yn edrych yn sal iawn yn ei geleindod a phys nad oeddent wedi'u coginio'n iawn. Plys, mi ddaeth â'r gweinydd â botel o Bud imi wedi imi ddweud wrtho fy mod i eisiau peint o Carling. Rhoddodd pawb lwc ddrwg imi pan oeddwn i am gwyno, felly dyma fi'n cau fy ngheg a bwyta a dwyn bara.
Mai'n bwrw heddiw yng Nghaerdydd. Dim ots gen i, wrth gwrs, dw i'm yn bwriadu mynd allan o'r fedrai ei helpu. Bu i Mam ffonio a hithau'n Sul Y Mamau (yn amlwg ddim yn disgwyl y byddwn i'n gwneud!) a dw i newydd sylweddoli mai'n 1 o'r gloch ac nid yn ddeuddeg, a dw i methu newid yr amser ar fy ffôn. Mi ddôf o hyd i ffordd yn y man, dw i'n gobeithio, neu fe fyddaf yn hwyr i'm darlithoedd i gyd a methu mynd iddyn nhw...
Wythnos i 'fory dani ffwrdd oll i Prâg a 'sneb yn gallu disgwyl erbyn hyn! Dwinna'm chwaith, angen gwyliau. Ond wedi gwylio 'Hostel' nos Wener dw i'm yn or-optimistaidd (hyd yn oed yn llai na'r arfer a dweud y gwir). Dw i'n uffernol efo ffilmiau gwaedlyd. Bu bron imi chwydu pan aeth dril i mewn i goes un boi. Well gennai bethau seicolojical i bethau yn-dy-wyneb. Ond os na ddiweddarith rachub.blogspot.com ei hun wedi wythnos nesaf, fydda chi'n gwybod pam ...
Nessun commento:
Posta un commento