Rhyddhad myn uffarn i! Gorffan un sgript a dechra un arall! Mae sgript ugain munud yn diawl o beth anodd i'w wneud mi a sylweddolais, heb son am ddau, felly ti'n 'sgwennu bob math o crap a gobeithio am y gorau. Mae fy mharch at sgriptwyr Pobol Y Cwm wedi codi gymaint!
Yn dweud hynny dw i'm wedi gwneud dim byd heddiw. Nesi lwyddo fethu fy narlithoedd oherwydd y bu imi ddrysu fy hun (eto) nath sbwylio trefn y diwrnod yn llwyr. A wedyn dyma fi'n mynd i gael baget o Dough's a doedd na'm corgimwch yn weddill, dim ond corgimwch a chranc, sy'm yn neis iawn mewn baget, ond mi a'i chefais eniwe a'i fyta. Ers bod yn fyfyrwyr dw i wirioneddol wedi stopio bod yn ffysi am fwyd a mi futa i rwbath o fewn rheswm. Rhywbeth tydi Owain neu Rhys ddim yn coginio, a dweud y gwir, achos mi fydd hi'n dod o'r meicrodon ac yn cael ei fyta gyda bara.
Dwisho cawod ond 'sgennai'm mynadd. Dw i wedi bod yn difyrru fy hun drwy wylio Neighbours (sef y rhaglen waethaf ar y teledu ond y mwyaf adictif) a mynd i Cyri Clyb Wetherspoons. Aeth fi a Dyfed a Haydn am dro, ac am unwaith roedd y Rogan Josh yn cynnwys cig oen yn hytrach na ffat cig oen, oedd yn eithaf pleserus. A dyma fi yma'n awr, chwarter i naw yn y nos, heb ddim i'w wneud ond pori Maes E a gyrru negeseuon MSN sarhaus i Dyfed a rhyw foi dw i'm yn abod ond ma'n dod o Warwickshire. Peth gwirion 'di bywyd.
Nessun commento:
Posta un commento