Shwmai! ys dywedant yn Sir Gaerfyrddin a rhyw lefydd felly. W, dw i'm wedi bod yn mynd i'm darlithoedd. Un mewn pythefnos ddim yn dda iawn. Dim rhyfadd bod yr Adran yn fy nghasau gyda chas perffaith!
A dweud y gwir mae'r diweddariad yma yn fy mywyd yn mynd i fod yn un digon di-ddigwyddiad. Ond mi dw i wedi cael ambell i beth diddorol yn digwydd, rhwng mynd i wylio Lucky Number Slevin a derbyn e-bost o flodau gan Haydn. Lucky Number Slevin oedd y gorau o'r rheiny o bell ffordd, er doeddwn i'm yn ei ddallt o tan tua wyth deg munud i mewn iddi. Dw i'm yn un am ffilmiau cymhleth, a ddealltish i fyth pam fo'r blôc 'na isho saethu Mam Bambi (er ei bod yn hynod ddoniol).
Reit, mae gennai bethau i'w wneud am unwaith. Dwisho gyrru ffwrdd rwbath i TT (dw i wedi bod isho gwneud ers wythnosau, ond sut fedrwn i, a minnau'n blogio cyn gymaint?). Mae'r planhigyn yn fy ystafell wedi marw, 'fyd. Oeddwn i wrth y cyfrifiadur a dyma hi jyst yn plygu lawr o'm mlaen i (sy ddim yn digwydd yn aml imi) a marw (digwydd llai fyth. Bron). Felly maesho'i thaflu hi ffwrdd cos mai'n drewi 'ma, er efallai bod gan hynny ei wreiddiau yn y pentwr o ddillad budur yn y gongl 'cw, neu bo ogla'n cegin ffiaidd yn treiddio drwy'r hen le 'ma. Wn i ddim.
Gennai ddiwrnod i ffwrdd 'fory. Mi wna'i rwbath efo'n amser. Awgrymiadau?
Nessun commento:
Posta un commento