Do wir aeth Lowri Dwd a mi i'r farchnad ddoe, y tro cyntaf inni wneud 'stalwm. Dw i braidd yn brin o arian wedi menthyg £50 i Haydn achos bo'r no-hoper wedi llwyddo i golli ei waled nos Sadwrn, ond doedd dim am fy rhwystro i!
Fel ddwedodd Blogel mae 'na lot o rygiau bach neis yno, ond nid i weld rygiau yr euthum eithr y trotters a'r pysgod aur. Roedden nhw gyda cwn bach yn un o'r stondinau (oni'n gorfod diodda Lowri yn mynd 'awwww ma nhw mooor ciwt!' am tua chwarter awr) a wedyn fe euthum i'r caffi am fwyd. Wel, mi ges i fwyd, hynny yw. Dw i'n caru bwyd y farchnad, mai'n syml a ddim yn or-fudur, chwaith. Dau wy, dau sosij a sglods ges i, a roedd o'n blasu cyn gystal a wnaeth y tro diwethaf imi fynd yno. Wrth gwrs, cafodd Lowri ddim byd, hithau'n byw ar facwn a thatws mash yn unig, felly mi brynodd hi fara a lot o dda da's.
Aethon ni wedyn am banad yn Yr Aes (diolch i mi a'm mhres mwaha!) ac edrych a sbeitio dynion bach eiddil a hen ddynas oedd wedi gor-wneud ei cholur. Mi brynais i gerdyn Sul Y Mamau i Mam (am y tro cynta erioed, dw i'n siwr) a dyna ddiwedd diwrnod bach diddorol.
Mi dorrodd fy rhyngrwyd hwyrach ymlaen, felly dyma fi'n gwylltio a chael gafael ar y ffycin peth Belkin 'ma a'i thaflud ar hyd y 'stafall. Mae'n gweithio wan. A fe gaeth amryw ohonom beint wedyn, yn ceisio dadansoddi ridyls a dweud jocs wychgwael (how do you make a Swiss Roll? you push him down the hill...!). Ah, gwychder! Dw i'n siwr roedd 'na griw o ddysgwyr yno hefyd yn ymdrafod gyda'i gilydd. Dw i wedi clywed bod criw o ddysgwyr yn cwrdd yno weithiau'n y Tavistock ond byth wedi ei weld o'r blaen. 'Chydig bach fel tylwyth teg neu Elfiaid.
O ia, mi wnes gawl anhygoel arall ddoe. Mae Dyfed angen gymaint o fwyd imi ma'n wirion. Ma'n ca'l cawl bob wsos a'n cynnig dim. Hen hogyn hunanol ydyw. Ond eto rydym ni'n trafod dyn sy'n hoffi bwyta byrgyrs a pasta mewn fajitas yma, felly ella mi esgeulusaf ei anniolch yn y gobaith tragwyddol na gynygith dim imi fyth. Mingar.
Nessun commento:
Posta un commento