martedì, marzo 28, 2006

Tiger! Tiger!


Lot o straeon o ddoe, felly os oes gynnoch chi rwbath gwell i'w wneud heblaw am ymweld, ewch i'w wneud rwan. A dewch drachefn wedyn. Iawn?

Eshi siopa dillad ddoe. Dw i'n casau siopa dillad, a byth wedi bod ben fy hun, ond eshi'r tro hwn. I Primark a TK Max. Oes gwell na jîns am £4? Nis chredaf! Eshi am dro i Debenhams wedyn i brynu tei achos mi oeddwn i angen un i'r nos. A parker newydd. Roedd yr un hen wedi torri dachi'n gweld - roedd y zip wedi datod a doeddwn i methu ei wella. Felly ro'n i'n cerad o amgylch y lle efo parker oeddwn i methu tynnu ffwrdd oni bai am dros fy mhen, ac edrych fel twat wrth wneud, a nid hawdd tynnu dy drwsus i fyny efo bagiau Primark a Debenhams, ychwaith. Oni'n chwysu fel twat drw'r dydd.

Ia, y tei. Fe'i phrynwyd achos roedd hi'n ben-blwydd ar Owain. Dim i Owain cofiwc: i fi. Y peth oedd roedd yn rhaid imi wisgo jaced hefyd achos roedd y crys a brynais yn rhy hir imi (yn cyrraedd fy mhennaglinia i fod yn fanwl gywir) a ro'n i'n edrych fel twat tew oni bai amdano. I Tiger Tiger aethon ni (wedi bod yn y Tavistock a chael pawb yn gofyn pwy oedd wedi marw). Roedd hi fod yn noson Playboy Mansion yn TT neu rhywbeth, ond dim ond ni oedd wedi gwisgo felly. A dweud y gwir dw i'n meddwl bod Owain yn dweud clwydda.

Rhwng bwyta mini eggs am ddim a chwarae gyda heliwm cafon ni ddiawl o hwyl, actiwli. Ro'n i'n teimlo'n posh iawn am unwaith, a mae'n neis teimlo fel'na weithia. Mi drodd hwnnw o chwith yn sydyn iawn wrth imi ofyn faint oedd y sigars yna. Naw bunt udodd y boi ochr draw i'r bar. Well gennai aros yn dlawd medda fi, wedi cael sioc fy mywyd a gofyn am y 'potel rhataf o win coch sy gynnoch chi'. Dw i'm i fod mewn llefydd posh sy'n gwerthu gwin gwael, dw i'm yn meddwl.

Bydd yn rhaid ichi fy esgusodi, dw i'm yn cofio dim byd arall (dim byd addas i'r byd Gristnogol, beth bynnag) ond mae gennai draethawd dw i angen ei wneud a chaiff hi ddim mo'i wneud gyda fi'n blogio. Chaiff hi ddim mo'i wneud heno eniwe. Dw i'n drewi o goctel pinafal a dwisho gwrando ar Celt.

Nessun commento: