Ar yr hen flog oeddwn i'n son weithia am sut oeddwn i'n mynd i Farchnad Caerdydd yn aml. Mi dueddais i ymweld unwaith yr wythnos, yn ymhyfrydu yn y pennau moch rhad, y pysgod a'r caffis budreddiadus (oes ffasiwn gair? Oes rwan!). Dw i'n licio llefydd budur achos dw i'm yn berson parchus iawn, rhwng chwydu ar bob mathia o furiau bob nos Sadwrn a siarad i'm hun yn gyhoeddus. Rhowch imi Ramones dros yr Hilton unrhyw ddydd, hobo dros Dori neu frechan beicyn dros couscous a la carte avec les petits pois et le biftek (dw i'n llawn ymwybodol nad oes dim byd posh am yr un o'r rheiny).
Beth bynnag, dw i'n mynd i'r farchnad yn awr gyda fy nghyfaill annwyl Lowri Dwd. Ta ra!
Nessun commento:
Posta un commento