Sir
|
Sgiliau yn y Gymraeg yn 2011
|
Newid o 2001
|
Gwynedd
|
72.9
|
-3.2
|
Ynys Môn
|
68.6
|
-1.8
|
Sir Gâr
|
58.2
|
-5.4
|
Ceredigion
|
57.1
|
-5.1
|
Conwy
|
38.7
|
-1.0
|
Sir Ddinbych
|
34.7
|
-1.3
|
Powys
|
27.5
|
-2.6
|
Sir Benfro
|
26.9
|
-2.5
|
Castell Nedd PT
|
24.2
|
-4.6
|
Wrecsam
|
20.6
|
-2.3
|
Sir y Fflint
|
20.0
|
-1.4
|
RCT
|
19.2
|
-1.9
|
Abertawe
|
18.9
|
-3.6
|
Pen-y-bont
|
16.9
|
-3.0
|
Bro Morgannwg
|
15.9
|
+2.6
|
Caerdydd
|
15.7
|
-0.6
|
Caerffili
|
15.7
|
-1.0
|
Merthyr Tudful
|
14.7
|
-3.0
|
Sir Fynwy
|
13.7
|
+0.8
|
Torfaen
|
13.1
|
-1.4
|
Casnewydd
|
12.7
|
-0.7
|
Blaenau Gwent
|
11.2
|
-5.7
|
Un o ddamcaniaethau ffigurau uchel y cyfrifiad diwethaf oedd pobl yn honni bod ganddyn nhw, neu eu plant, fwy o allu yn y Gymraeg nag oedd ganddyn nhw mewn gwirionedd, ac efallai bod yr uchod yn ffordd dda o ddehongli hynny - yn wir, i raddau efallai ei fod yn well na'r ystadegau pennawd.
Mae'r cwymp a welwyd yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin yn debyg i'r cwymp a welwyd yn nifer y bobl a ddywedodd y medrant Gymraeg - mae hyn hefyd yn wir am Wynedd a Môn - sydd mewn ffordd yn gadarnhad anghysurus o ddirywiad yr iaith yn ei chadarnleoedd. Adlewyrchir hynny yn Abertawe a CNPT hefyd, sy'n ddangosydd trist arall o sefyllfa'r iaith yn y de-orllewin. Annhebygol fod goradrodd yn 2001 yn yr ardaloedd hyn. Mae rhai yn awgrymu tanadrodd a bod y Gymraeg mewn cyflwr gwell na'r hyn a awgrymir gan yr ystadegau swyddogol; yn bersonol, wn i ddim a ydi hynny'n wir i raddau a fyddai, neu a ddylai, ein cysuro.
Serch hynny, yn y Gogledd a'r Gorllewin yn benodol mae'n bosib fod y gwir nifer sy'n siarad Cymraeg yn rhywle rhwng y ffigurau pennawd a'r ffigurau o ran sgiliau yn yr iaith. Mae'r gwahaniaeth yn 14.3% yn Sir Gaerfyrddin ac yn 9.8% yng Ngheredigion. Dydw i ddim yn arddel gobaith ffug ond mae'r gwahaniaethau hynny'n enfawr. Efallai yng Ngheredigion mai mewnfudwyr sydd â chrap ar yr iaith ydi rhai o'r 9.8% ychwanegol, ac yn Sir Gaerfyrddin efallai bod llawer o'r 14.3% yn bobl sydd â diffyg hyder yn disgrifio'u hunain fel siaradwyr Cymraeg ond sydd serch hynny'n gwybod bod ganddynt sgiliau yn y Gymraeg - pobl a all i bob pwrpas siarad Cymraeg.
Wrth gwrs, damcaniaethu ydw i am yr uchod - ond dylen ni ystyred pam bod y ffasiwn wahaniaeth yn bodoli.
Hefyd, mae dirywiad yn y ganran a honnodd sgiliau yn y Gymraeg ledled y Cymoedd ac yn arbennig ym Mlaenau Gwent. Yn yr ardaloedd hyn, awgryma oradrodd mawr yn 2001, felly teg dweud bod cyfrifiad y llynedd yn rhoi darlun tecach, er tywyllach, o sefyllfa'r iaith. Serch hynny, mae gweld dirywiad yn rhywle fel Caerdydd, lle gwelwyd mewnfudo mawr o'r ardaloedd Cymraeg, yn rhywsut dawelu'r ddamcaniaeth fod y Gymraeg ar wir gynnydd yno hefyd, ac nad ydi mudo oddi mewn i Gymru, yn benodol i Gaerdydd, o fudd enfawr i gryfder y Gymraeg ar lefel Cymru gyfan,.