Mae 'na rai pobl yn anghytuno â'r datganiad "mae 'na ardal Gymraeg graidd yn bodoli" (sef, wrth gwrs, y Fro Gymraeg) gan licio mynnu, fel y dywedodd rhywun imi o'r blaen, "mae Caerdydd yn rhan o'r Fro Gymraeg erbyn hyn!"
Tydw i ddim am ddadlau am ba mor angenrheidiol ydi Bro Gymraeg yn y blogiad hwn o gwbl - fel y gwyddoch, dwi o'r farn ei bod yn hanfodol i ddyfodol yr iaith. Ac mae rhai pobl yn meddwl nad ydi hi'n bwysig o gwbl. Na, y cyfan dwisho neud ydi dangos dau fap i chi.
Dyma ddau fap. Yn y cyntaf, coch tywyll yw 70%, coch yw 50%, oren yw traean a melyn yw 20%.
Y cyntaf ydi, yn syml, 'gallu siarad Cymraeg'.
Byddai rhywun yn disgwyl i'r 'Fro Sgiliau' fod yn llai daearyddol ei naws - hynny ydi y byddai pocedi i'w cael y tu allan i'r ardal graidd yn y map uchod, ond wele'r Fro Sgiliau...
(coch tywyll 70%; coch 50%; oren 40%; melyn 30%)
Mae hwn yn eithaf rhyfeddol - hyd yn oed o ran sgiliau yn y Gymraeg mae 'na ardal bendant iawn a rhaniad gorllewin-dwyrain (gan mwyaf) gyda dim pocedi o bwys - a dim o gwbl yn y de-ddwyrain. Hynny ydi, mae o hyd ffin glir iawn iawn rhwng y Fro Gymraeg draddodiadol a'r ardaloedd di-Gymraeg o ran gallu ieithyddol, hyd yn oed pan fyddwch chi'n cynnwys ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn wan (sef dim ond 30% â sgiliau yn y Gymraeg - nid 'siaradwyr' cofiwch)
Tydw i'm am ddadansoddi dim o ran hyn, ond tuedda i awgrymu bod Cymru o hyd yn wlad ranedig o ran gallu ieithyddol, a ddengys yn glir nid o ran y Fro Gymraeg ei hun, ond y Fro Sgiliau.
martedì, aprile 16, 2013
lunedì, aprile 08, 2013
Magi lwyddodd
Y broblem efo pobl sy’n
cwyno am bobl sy’n cymryd y moral high
ground ydi eu bod nhw’n gwybod go iawn mai yn y fan honno y dylen nhw fod
hefyd. Felly tydw i ddim am fod yn boblogaidd iawn am y llith ganlynol. Ond does
fawr o ots gen i am hynny.
Mi geisiaf fod yn gryno,
serch hynny. Fe wyddoch mai am Fagi y bydda i’n sôn yn y blogiad hwn. Tydw i
ddim am amddiffyn Magi, afraid dweud. Tydw i ddim ychwaith yn coelio’n
ddieithriad na ddylid siarad yn ddrwg am y meirw. Roedd Magi yn ddynes ffiaidd.
‘Sdim pwynt imi ymhelaethu ar hynny – os ydych chi’n darllen hwn debyg ein bod
yn gytûn ein barn arni. Er na fedra i helpu â theimlo edmygedd amharod iawn am
ei phenderfyniad hi, fel gwleidydd roedd Magi yn wrthun imi.
Tydw i’n sicr ddim efo ots
bod Magi wedi marw.
Ond tydw i’n sicr ddim yn
dathlu.
Na, fedr rhywun f’oed i ac o’m
cefndir i ddim llwyr amgyffred â Thatcheriaeth yn ei hysblander erchyll, ddim i’r
graddau â rhai pobl yn sicr. Does dim yn bod â chasáu Thatcher am yr hyn a
wnaeth, chwaith, o ystyried nid o reidrwydd yr hyn a wnaeth, ond y ffordd y’i
gwnaeth. Does dim yn bod efo dweud ei bod yn hen gont er ei bod newydd farw,
chwaith. Mi oedd hi.
Ond fedra i ddim, nid gronyn
yn fy mod, ddathlu marwolaeth unrhyw unigolyn waeth pa mor afiach, ffiaidd
(nodwch eich ansoddeiriau’ch hyn os mynnwch) oedden nhw. A does dim lot o bethau ychwaith yn fy ngwneud
i mor wirioneddol anghyfforddus i’m craidd. Mae’n anodd gen i goelio fy mod i’n
lleiafrif yn hynny o beth – hyd yn oed yng Nghymru – ond mae meddwl fy mod i yn
peri mymryn o fraw imi. Fel y gwelwch o ffynonellau fel Twitter, Facebook, ond
hefyd efallai yn eich gweithle neu wrth siarad â ffrind, mae ‘na lot o bobl sy’n
hapus bod Magi Thatcher wedi marw. Tydi ymhyfrydu ddim yn air rhy cryf,
chwaith. Maen nhw’n falch ei bod yn farw. Rhyngddon nhw â’u pethau, amwni.
Es i fanylder mawr wrth gloi
jyst rŵan, cyn ceisio cronni popeth yn
baragraff. A dyma’r diweddglo ar ei gryno ffurf.
Thatcher greodd ein
cymdeithas fodern ym Mhrydain, ac i raddau mawr mae’n unigol nid cymunedol, yn anofalgar,
yn faterol eithriadol, yn coelio bod popeth heb werth ariannol yn ddiwerth, ac mewn
ffordd ryfedd – yn gas. Wedi'r cyfan, dyma'r gymdeithas lle nad oes dim sanctaidd mwyach, gan gynnwys bywyd. Yn syml, hi feithrinodd gymdeithas lle daethai’n dderbyniol i
ddathlu marwolaeth rhywun; ac yn digwydd bod hefyd ei marwolaeth hi. Teg dweud
felly ei bod yn iawn dathlu marwolaeth Magi Thatcher, achos hi â'n harweiniodd ni at y fan hon, at y gymdeithas hon, a’i gwnaeth yn
iawn gwneud hynny. Ond cofier drwy wneud hynny mae ‘na un gwirionedd, sydd imi
o leiaf, yn iasoer. Mae’n dangos mai Magi lwyddodd.
domenica, febbraio 17, 2013
Bro Gymraeg 1991 a 2011
Ymddiheuraf ymlaen llaw am graprwydd y lluniau isod ond dydw i heb weld map sy'n dangos yn syml yr ardaloedd lle mae 50% neu fwy yn medru Cymraeg.
Dyma 1991 (o lyfr Y Celtiaid John Davies)
Dyma (a wnaed gen i ar Paint - felly unwaith eto maddeuwch y craprwydd) Bro Gymraeg 2011 - dim ond ugain mlynedd yn ddiweddarach chwi gofiwch (a hefyd nad ydyn nhw cyfateb yn unfath â data 1991 y llun uchod, mi dybiaf)
Mae'r newid yn y de-orllewin yn syfrdanol, ond wele hefyd newid enfawr yng ngogledd Powys. Wrth gwrs, mae hanesion gwahanol i bob ward, ond mae o dal yn ddirywiad cyflym iawn o fewn dim ond 20 mlynedd.
Ond, JYST ER HWYL COFIWCH, dyma'r Fro Gymraeg 'Sgiliau' - sef pobl efo o leiaf un sgil yn y Gymraeg.
Dyma ddarlun mwy cadarnhaol - ond i ba raddau? Tybed ai'r duedd ydi bod pobl yn mynd o ddweud eu bod yn siarad Cymraeg, i ddweud bod ganddil sgil yn y Gymraeg (e.e. gallu ei deall) i ddweud na fedran nhw mo'i deall o gwbl?

venerdì, febbraio 15, 2013
Amser i symleiddio'r iaith?
Efallai y bydd rhaid yn
synnu o ddarllen y canlynol yn dod gennyf i. Ond, dachi’n gweld, dydw i ddim yn
snob iaith, a dydi o ddim yn beth drwg cael trafodaeth chwaith. Ac mae'n beth da gwneud i chi feddwl - iach i'r brên, dachi'n gweld.
Efallai i chi gofio imi
grybwyll yn gyflym yn ddiweddar ei bod yn bosibl bod gan ein hiaith ramadeg sy’n
“anorfod gymhleth”. Fydda i’n tueddu i feddwl bod ‘na broblem gan iaith os ydi’r
llyfr sy’n egluro ei gramadeg yn fwy trwchus na’r rhan fwyaf o’i geiriaduron.
Wrth gwrs, cyfeirio at Gramadeg y Gymraeg
ydw i, sydd ddim fy hoff lyfr o bell ffordd beth bynnag, ac mae canllawiau
llawer mwy dealladwy a symlach ar ramadeg yr iaith i’w cael. Ond mae’r ffaith bod
cymaint o reolau gramadegol gennym i lenwi cynifer o dudalennau yn, wel, os nad
ydi hynny’n broblem, dydi o ddim exactly yn
fanteisiol.
Rŵan, dydi’r rhan fwyaf o
bobl ddim yn gwbl gyfarwydd â rheolau gramadeg yr iaith, er eu bod nhw’n gwybod y
rheolau ar glyw. Er enghraifft, byddai’n hollol annaturiol i siaradwr iaith
gyntaf ddweud ‘y merch a’i ci’, er efallai
nid mor annaturiol i nifer sy’n ail iaith. Felly dim dweud cael gwared ar dreigladau na
phethau sylfaenol felly ydw i.
Ni fyddai’r rhan fwyaf
ohonom chwaith yn dweud ‘dau ferch’
neu ‘tri dafad’ – mae cenedl enwau yn
bethau digon cyfarwydd i siaradwyr iaith gyntaf ar y cyfan, ac unwaith eto,
efallai yn llai cyfarwydd i siaradwyr ail iaith. Nid bod hynny’n ormod o
broblem wrth gwrs, dw i’n bendant iawn o’r farn bod yn well i rywun ddweud ‘dau ferch’ na ‘two girls’.
Er, dydw i ddim yn erfyn ar
i gyfieithwyr a phobl sydd ag iaith o safon uchel i anwybyddu gramadeg – ddylen
ni gadw ato, waeth beth ydi safon iaith pobl (sydd yn lot uwch nag y mae lot o bobl yn ei feddwl eu hunain, yn fy marn i). Ac nid cyfeirio at eiriau hyll
fel darparu neu gwirio – dau air o blith nifer sy’n cropian fyny mewn cyfieithiadau
sy’n hollol, hollol anghyfarwydd i’r rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg – ydw i. Na,
nid terminoleg sydd dan sylw heddiw. Dadl arall ydi honno – un ddiflas ond
nad ydych chi’n gyfieithydd, mi dybiaf!
Na, gramadeg sy’n dwyn fy
sylw y tro hwn. Ac fel dw i’n dweud, mae angen gramadeg er mwyn gosod safon,
sydd eto’n angenrheidiol – ac i’r rhai sy’n anghytuno, yn gryno: dachi'n rong. Yn hanesyddol mae ieithydd sydd heb eu safoni yn llawer, llawer mwy tebygol o farw
na rhai sydd wedi’u safoni.
OND...
oes ‘na rai rheolau gramadegol sydd, erbyn
hyn, jyst yn ddiangen?
Hynny ydi, ydi o’n bryd inni
ailystyried rhywfaint o ramadeg yr iaith er mwyn ei symleiddio?
Fel y dywedais, dydi’r
ffaith bod y Gymraeg mor gymhleth yn ramadegol ddim yn fanteisiol – os rhywbeth,
mae o ‘mbach o faich arni. Gadewch i mi roi un enghraifft berffaith i chi –
pum/saith niwrnod. Am reol fach
wirion. Pwy ddiawl sy’n dweud pum niwrnod?
Dw i’n gwybod be fydd rhai ohonoch chi’n gweiddi ar y sgrîn "OND BETH AM DDAU DDIWRNOD?" Wel,
mae ‘na wahaniaeth. Mae pobl yn dweud ‘dau ddiwrnod’. Dydw i ddim yn meddwl imi
erioed, yn fy mywyd cyfan, glywed neb yn dweud ‘pum niwrnod’.
I fod yn onest, i’r clustiau
hyn, mae pum/saith diwrnod yn swnio’n
fwy naturiol beth bynnag! Ond yn ôl ein gramadeg ni, dydyn nhw ddim yn gywir.
Oes wir angen rheol o’r fath
felly? Oni chawn ni ei rhoi i’r naill ochr?
Un enghraifft (dda, yn fy
marn i) ydi honno o reol ddiangen. Mae mwy i’w cael – dwi’n siŵr bod gennych
chi rai! Wrth gwrs, y broblem wrth adolygu gramadeg yr iaith ydi lle i stopio? Enghraifft
dda o’r broblem honno ydi’r ateb llafar i’r cwestiwn Ble wyt ti? a phan fo’r lle hwnnw’n dechrau efo ‘b’. Byddai rhywun
bob amser ym Methesda, ond eto yn Blaenau (Ffestiniog) – ac i ychwanegu
at y broblem byddai llawer iawn o bobl yn
Fangor...
Yn yr un modd byddai rhywun
yn aml yn Gaerdydd ond byth yn Gaersws – dim ond yng Nghaersws neu efallai yn Caersws!
Felly rhyw joban fach anodd,
ddiddiolch a thrwsgl fyddai ailystyried rhywfaint o’n gramadeg ni. Ond dwi’n
rhyw deimlo bod angen gwneud ychydig o dwtio, yn enwedig gyda rheolau nad ydi
fawr neb yn eu defnyddio nac yn ymwybodol ohonynt. Fel y dywedais i, dydi
gramadeg gorgymhleth ddim yn fuddiol i’r iaith. Mae’r gagendor enfawr sy’n
bodoli rhwng yr iaith lafar a’r iaith ysgrifenedig yn wirion braidd – dwi o’r
farn mai’r iaith ysgrifenedig ddylai wneud y cam cyntaf at geisio lleihau’r
bwlch hwnnw, achos waeth i ni fod yn realistig, dydi o ddim am ddigwydd y ffordd arall.
Dydi hynny ddim yn meddwl
ffarwelio ag iaith lenyddol, fawreddog – nac ydi wir, prin fod yna ffurf
brydferthach i’w chael ar y Gymraeg. Nac ychwaith iaith safonol. Ond mi ddylen
ni hefyd fod yn agored i’r ffaith fod yn rhaid i iaith newid. Fel cyfieithydd,
fydda i’n ceisio osgoi geiriau fel darparu
a gwirio, ac mi wn i fod ‘na ddigon o
gyfieithwyr yn gwneud yr un peth. Ond nid dim ond geirfa gymhleth ac yn aml
anghyfarwydd sy’n her i’r iaith, ond cymhlethdod anorfod ei gramadeg.
Siŵr o fod y gallwn ni
luchio o leiaf rai o dudalennau Gramadeg
y Gymraeg i’r bin?
giovedì, febbraio 07, 2013
Addysg Gymraeg, pobl ifanc a'r iaith
Cafwyd llawer o ddadlau yn ddiweddar ynghylch diffyg addysg Gymraeg Sir Gâr a bod hyn yn ffactor mawr yn nirywiad y Gymraeg yn y sir; dywed rhai nad ydi hynny'n wir o gwbl (dw i wedi clywed un person yn dweud bod addysg Gymraeg yn gallu troi pobl yn erbyn y Gymraeg hyd yn oed), gydag eraill yn nodi enghraifft "ryfeddol" y de-ddwyrain.
Yn yr un gwynt, soniwyd hefyd am bobl ifanc yn peidio â siarad Cymraeg â'i gilydd - mae'n nhw'n gydgysylltiedig. Da chwi ddywedwch wrthyf os ydych chi'n anghytuno!
Ambell sylw brysiog, yn seiliedig ar ganfyddiadau, ydi'r canlynol, yn seiliedig ar ganfyddiadau.
Y peth cyntaf i'w nodi ydi nad ydi cyfeirio at De-ddwyrain Cymru yn gymhariaeth dda - dydi'r de-ddwyrain ddim yn Gymraeg ei iaith, ac mae hynny ynddi ei hun yn ddigon o reswm i beidio â chymharu. Serch hynny, dydi llwyddiant addysg Gymraeg yr ardal honno ddim y wyrth yr hoffai rhai pobl feddwl - mi ddylen ni fod yn onest am hynny. Ar lefel gymunedol, mae mewnfudo o ardaloedd Cymraeg wedi gwneud mwy i atgyfnerthu Cymraeg y de-ddwyrain (nid lleiaf o ran cyflenwi athrawon yr ysgolion Cymraeg) nag addysg. Heb fynd i orfanylder, dydi'r system addysg Gymraeg ddim yn creu siaradwyr Cymraeg, ac mae 'na blant yn gadael ysgolion Cymraeg ar ôl degawd o gael eu haddysgu yn yr iaith nad ydyn nhw'n rhugl ynddi. Wn i ddim pam - ond mae o'n digwydd ac mae rhywbeth mawr o'i le.
Ydi, mae'n creu rhywfaint o siaradwyr Cymraeg. Mae rhai o'r rheini'n siarad Cymraeg â'i gilydd. Ond dydi'r mwyafrif ddim, a lot yn colli'r iaith yn fuan iawn, iawn ar ôl gadael yr ysgol. A'r rheswm ydi nad ydi'r ardaloedd hynny'n rhai Cymraeg. Yn syml, rydyn ni wedi hen dwyllo'n hunain i feddwl y gall addysg achub y Gymraeg, ond twyll fuo hynny erioed.
Gyda llaw, nid swipe ar waith gwych yr ysgolion Cymraeg ydi hynny, ond cydnabyddiaeth bod y ffactorau i gyd yn eu herbyn. Er hynny, efallai bod angen ailfeddwl rhywbeth, achos mae rhywbeth o'i le - yr hyn sy'n anodd ydi dweud beth yn union ydi hynny!
Rydyn ni hefyd yn ein twyllo'n hunain i feddwl bod y ffaith bod y Gymraeg yn weledol yn gyfraniad mawr at hyn. Mae Cymry Cymraeg Caerdydd yn licio brolio pa mor weledol ydi'r iaith yn y brifddinas erbyn hyn (sy ddim yn eithriadol o wir) - ond nid gweld iath sy'n bwysig, eithr ei chlywed. Mi allwch o hyd fyw eich bywyd yn rhannau helaeth o Gymru heb fyth clywed Cymraeg, neu o leiaf heb wybod i chi ei chlywed.
Y mae iaith sydd i'w chlywed ar lawr gwlad mor, mor bwysig - a dyma pam bod tynged y broydd Cymraeg mor, mor bwysig. Ac ar un ystyr, allwn ni ddim wir ddisgwyl i blant ysgol siarad Cymraeg efo'i gilydd pan nad ydi hi'n iaith gymunedol, a hwythau hefyd o gartrefi Saesneg. Nid fel 'na mae'r byd yn gweithio.
Soniodd Carwyn Jones fod ei blant yntau'n siarad Saesneg â'i gilydd. Daw yntau a minnau o'r un math o gartref - tad yn siarad Cymraeg, mam yn siarad Saesneg, a finnau a'r chwaer yn rhugl yn y ddwy iaith, ond yn siarad Saesneg â'n gilydd. Ond prin y siaradais i Saesneg y tu allan i'r cartref - fe'm magwyd mewn cymuned Gymraeg, ac roedd hynny'n ddylanwad pwysicach arna i na hyd yn oed y teulu, ac yn sicr addysg.
Ond un peth mae addysg yn ei roi i rywun ydi hyder. A dyma lle y dylid gwneud cymhariaeth uniongyrchol rhwng Gwynedd a Sir Gâr.
Mae llawer o sôn wedi bod am ddiffyg hyder pobl yn Sir Gâr yn eu hiaith - dydi hynny ddim yn broblem yng Ngwynedd gan mwyaf. Yn wir, mae mwyafrif llethol eithriadol o bobl Gwynedd a fedrant Gymraeg yn hyderus eu bod nhw'n gallu ei siarad - a'i siarad yn iawn. Oce, mi wnawn nhw ddweud "dw i'm yn gwybod geiriau mawr" neu "fedra i'm siarad Cymraeg iawn sti" (chwedyla nhw - yn amlach na pheidio mi fedran nhw wneud y ddau!), ond mi wnawn nhw ddefnyddio'u Cymraeg. O be wela i, nid dyma'r achos yn Sir Gâr.
Does gen i ddim amheuaeth bod hynny'n deillio'n uniongyrchol o addysg Gymraeg Gwynedd. 'Does dim cymharu systemau addysg y ddwy sir, mae un Sir Gâr yn Saesneg iawn ar lefel yr ysgol uwchradd, ond nid dyna'r achos yng Ngwynedd. Ac oherwydd hynny, mae pobl yn hyderus, neu yn achos Sir Gâr ddim mor hyderus, y gallan nhw siarad Cymraeg i lefel y maen nhw'n ei ystyried yn dderbyniol. Ac rydych chi'n llawer mwy tebygol o wneud unrhyw beth os ydych chi'n hyderus yn ei wneud, waeth beth ydyw.
Ac mi fetia' i unrhyw beth, er na fedra i ddweud fy mod i'n gwybod hyn fel ffaith, fod 'na gysylltiad cryf iawn rhwng canfyddiad pobl o'u gallu ieithyddol a pha mor debygol ydyn nhw o drosglwyddo iaith i blentyn.
Dydi o ddim yn syndod felly bod canran uwch o lawer yn siarad Cymraeg yng Ngwynedd na Sir Gâr - mae addysg yn rhan hollbwysig o hynny - fe sefydlwyd cyfundrefn Gymraeg (yn ymarferol - 'dwyieithog' yn swyddogol) yng Ngwynedd tra bod y Gymraeg yn gryf iawn ohono, ond ni welwyd tebyg yn Sir Gâr.
I'r rhai sy'n amau'r ddamcaniaeth, ystyriwch hyn - mae Bangor, o ran addysg Gymraeg a dirywiad ieithyddol, yn debyg iawn i Sir Gaerfyrddin. Nid dim ond un lle y mae'r ddamcaniaeth yn berthnasol iddo.
Gyda llaw, cyn addysg Gymraeg roedd rhywbeth arall a gadwai hyder y Cymry Cymraeg yn eu gallu ieithyddol - yr ysgolion Sul a'r capeli. Dydyn nhw ddim yn rym mwyach, ac a hwythau'n cilio mae eu gallu i gyflawni 'swyddogaeth' addysg Gymraeg wedi lleihau'n arw.
Ond i'r rhai sy'n dal addysg Gymraeg mewn bri ac yn galw am achub yr iaith yn Sir Gâr drwy ei mabwysiadu a chwyldroi system addysgol y sir, mae 'na broblem sy'n cyd-fynd â'r cyfan a ddywedais uchod.
Sefydlwyd y gyfundrefn addysg yng Ngwynedd pan mai hi oedd iaith y mwyafrif llethol. Rhoes hynny hyder i bobl ddefnyddio'r iaith ac a wnaeth, heb amheuaeth, gynnal yr iaith. Hyder yn eu Cymraeg, gystal â gwleidyddiaeth neu weinyddiaeth Plaid Cymru, ydi un o'r rhesymau y gweinyddir y Sir yn Gymraeg. Bu addysg Gymraeg yn asgwrn cefn i'r cyfan.
Gan hynny cynhaliwyd y Fro Gymraeg yng Ngwynedd, a hynny er gwaetha'r ffaith mai dim ond 67% o'r boblogaeth sydd bellach wedi'u geni yng Nghymru - ffigwr cyfatebol Sir Gâr ydy 76%. Lot uwch.
Erbyn hyn, dim ond 44% o bobl Sir Gâr sy'n medru Cymraeg. Llai na hanner. Felly i raddau mae Sir Gâr bellach mewn sefyllfa debyg i'r de-ddwyrain - hynny ydi, dydi addysg Gymraeg ddim am adfer yr iaith ynddi'i hun.
Ylwch, y pwynt ydi hyn: mae addysg Gymraeg ar ei mwyaf effeithiol mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith. Gan hynny, cyfle a gollwyd ydi Sir Gaerfyrddin. Dri deg mlynedd yn ôl gallai fod wedi achub yr iaith yno - neu arafu'r dirywiad. Erbyn hyn, dydw i ddim yn meddwl y gwnâi'r naill na'r llall. A dydi addysg Gymraeg yn sicr ddim yn mynd i gael nifer y bobl ifanc, a fydd yn hŷn ac yna'n hen, yn siarad Cymraeg â'i gilydd. A'r unig ffon fesur y gallwn ni ei defnyddio wrth fesur llwyddiant y Gymraeg fel iaith ydi nid nifer y bobl sy'n ei medru, eithr nifer y bobl sy'n ei defnyddio.
Dydw i ddim yn dweud ei bod yn anobeithiol yn y de-orllewin gyda llaw - ddim o gwbl. Fe fyddai newid y system addysg gosod sylfeini cadarn; waeth inni fod yn onest, yn y Gymru gyfoes dydi 44% yn medu siarad Cymraeg ddim yn rhy ddrwg ar un ystyr.
Ond ateb hirdymor ydi addysg Gymraeg, a rhan o'r ateb yn unig. Peidiwch â rhoi gormod o bwyslais arni, a pheidiwch â disgwyl iddi wneud gwyrthiau dros nos. Mi fydd adennill mwyafrif Sir Gaerfyrddin yn broses galed, boenus - a hirdymor.

mercoledì, gennaio 30, 2013
Heb Fangor, heb Aber, heb Gaergybi: Rhan II
Dydw i ddim am fynd i fanylder enfawr, ond cyhoeddwyd heddiw'r canlyniadau yn ôl wardiau ar gyfer nifer o ystadegau, a'r Gymraeg yn eu plith. Ambell flogiad yn ôl, mi ddadansoddais gryfder y Gymraeg yn y pedair sir Gymraeg yn 2001 (sy'n ddwy erbyn hyn) heb yr ardaloedd mwyaf Seisnig - Bangor yng Ngwynedd, Ynys Cybi ar Fôn, Aberystwyth yng Ngheredigion a Llanelli yn Sir Gâr.
Yn gyntaf, dydw i heb ddadansoddi Llanelli mae arna i ofn. Mae dau reswm am hyn - y cyntaf ydi nad ydw i'n ddigon cyfarwydd â ffiniau Llanelli i wneud hynny'n iawn (roedd data parod gennyf am 2001), ond yn ail, o edrych yn fras ar rai o'r canlyniadau, ymddengys bod y dirywiad yno ar y cyfan yn debyg i ddirywiad cyffredinol gweddill y sir, gan amrywio o ward i ward fel yr amrywia sefyllfa Sir Gâr o ardal i ardal.
Serch hynny, mae 'na ambell gasgliad diddorol o'r tair sir arall. Yn gyntaf, Ynys Môn.
Fel y gwelwn, roedd 'na ddirywiad mwy ar Ynys Cybi nag ar weddill Môn, sydd fawr o syndod, er bod y dirywiad yn llai na'r hyn a welwyd yn 2001 mi gredaf. Serch hynny - yn wahanol i ddamcaniaeth a gafwyd yn sylwadau y blogiad blaenorol am hyn - ni welwyd cryfhau ar yr iaith ar weddill yr ynys. Yn wir, dirywiad digon cyson a welwyd - heblaw, yn ddigon diddorol, yn rhai o'r ardaloedd mwy Seisnig fel Benllech, y Fali a Biwmares. Y gwir amdani ydi, ni ellir priodoli dirywiad yr iaith ar Fôn i ardal Caergybi yn unig - mae'n digwydd ym mhob cwr o'r Ynys. Yn groes i'r ddamcaniaeth, ni chryfhaodd y Fro yng nghanol Sir Fôn.
Sefyllfa debyg oedd hi yng Ngheredigion mewn ffordd. Roedd y dirywiad yn Aber yn fawr, ond yng ngweddill y sir yn llai. Yn wir, yng Ngheredigion fwyaf mae'r Cymry Cymraeg yn parhau'n fwyafrif ystadegol, er o drwch blewyn. Yr hyn a ddangosir yma (er bod ffactorau fel myfyrwyr ar waith) ydi bod dirywiad iaith yn aml iawn yn beth cronnol yn hytrach nag yn beth cyson. Dydi hi ddim yn gyd-ddigwyddiad bod yr iaith yn dal ei thir yn well yn y gogledd-orllewin na'r de-orllewin oherwydd ei bod eisoes yn gryfach yno.
Efallai mai Gwynedd ydi'r mwyaf diddorol. Roedd 'na ddirywiad yng Ngwynedd fwyaf ar y cyfan - gwelodd rhai ardaloedd ddirywiad, ac mi lwyddodd eraill i dal eu tir, ac mewn ambell eithriad cymharol brin cryfhaodd y Gymraeg. Ond cynyddu wnaeth y bwlch rhwng Bangor a gweddill Gwynedd. Roedd y dirywiad ym Mangor y tro hwn yn cymharu'n hawdd ag unrhyw ddirywiad a welwyd yn Sir Gâr. Mae ffactorau penodol am hyn - trosglwyddo iaith, myfyrwyr a chynnydd mawr yn y boblogaeth yn cyfuno i greu sefyllfa argyfyngus i'r iaith yn y ddinas.
Y peth sydd angen ei ddadansoddi ar fyrder, dwi'n teimlo, ydi sut y llwyddodd rhai ardaloedd yng Ngwynedd i ddal eu tir ieithyddol - yn Arfon gan mwyaf - yn groes i bron pobman arall yng Nghymru, a sut y gellir efelychu hyn.
Yn anffodus, wn i ddim a ydi hynny'n bosibl. Fel y dywedais uchod, mae dirywiad ieithyddol yn beth cronnol yn hytrach na chyson. Fydd achub yr iaith yn Sir Gâr a Cheredigion yn anoddach o beth wmbrath na'i chynnal yng Ngwynedd. Serch hynny, ei chynnal sy'n rhaid yno, achos oni wneir hynny, mi fydd Gwynedd yn dilyn trywydd ieithyddol Sir Gâr.
Ta waeth, mi adawaf y dadansoddi dwys i eraill!

|
Poblogaeth
|
Siarad Cymraeg
|
Canran
|
Newid ers 2001
|
Ynys Cybi
|
13,138
|
5,449
|
41.5%
|
-4.2%
|
Gweddill y sir
|
54,265
|
33,119
|
61.0%
|
-2.3%
|
Ynys Môn
|
67,403
|
38,568
|
57.2%
|
-2.9%
|
Fel y gwelwn, roedd 'na ddirywiad mwy ar Ynys Cybi nag ar weddill Môn, sydd fawr o syndod, er bod y dirywiad yn llai na'r hyn a welwyd yn 2001 mi gredaf. Serch hynny - yn wahanol i ddamcaniaeth a gafwyd yn sylwadau y blogiad blaenorol am hyn - ni welwyd cryfhau ar yr iaith ar weddill yr ynys. Yn wir, dirywiad digon cyson a welwyd - heblaw, yn ddigon diddorol, yn rhai o'r ardaloedd mwy Seisnig fel Benllech, y Fali a Biwmares. Y gwir amdani ydi, ni ellir priodoli dirywiad yr iaith ar Fôn i ardal Caergybi yn unig - mae'n digwydd ym mhob cwr o'r Ynys. Yn groes i'r ddamcaniaeth, ni chryfhaodd y Fro yng nghanol Sir Fôn.
|
Poblogaeth
|
Siarad Cymraeg
|
Canran
|
Newid ers 2001
|
Aberystwyth
|
12,797
|
3,950
|
30.9%
|
-5.5%
|
Gweddill y sir
|
61,050
|
31,014
|
50.8%
|
-3.8%
|
Ceredigion
|
73,847
|
34,964
|
47.3%
|
-4.7%
|
Sefyllfa debyg oedd hi yng Ngheredigion mewn ffordd. Roedd y dirywiad yn Aber yn fawr, ond yng ngweddill y sir yn llai. Yn wir, yng Ngheredigion fwyaf mae'r Cymry Cymraeg yn parhau'n fwyafrif ystadegol, er o drwch blewyn. Yr hyn a ddangosir yma (er bod ffactorau fel myfyrwyr ar waith) ydi bod dirywiad iaith yn aml iawn yn beth cronnol yn hytrach nag yn beth cyson. Dydi hi ddim yn gyd-ddigwyddiad bod yr iaith yn dal ei thir yn well yn y gogledd-orllewin na'r de-orllewin oherwydd ei bod eisoes yn gryfach yno.
|
Poblogaeth
|
Siarad Cymraeg
|
Canran
|
Newid ers 2001
|
Bangor
|
15,928
|
5,801
|
36.4%
|
-9.9%
|
Gweddill y sir
|
101,861
|
71,199
|
69.9%
|
-1.8%
|
Gwynedd
|
117,789
|
77,000
|
65.4%
|
-3.6%
|
Efallai mai Gwynedd ydi'r mwyaf diddorol. Roedd 'na ddirywiad yng Ngwynedd fwyaf ar y cyfan - gwelodd rhai ardaloedd ddirywiad, ac mi lwyddodd eraill i dal eu tir, ac mewn ambell eithriad cymharol brin cryfhaodd y Gymraeg. Ond cynyddu wnaeth y bwlch rhwng Bangor a gweddill Gwynedd. Roedd y dirywiad ym Mangor y tro hwn yn cymharu'n hawdd ag unrhyw ddirywiad a welwyd yn Sir Gâr. Mae ffactorau penodol am hyn - trosglwyddo iaith, myfyrwyr a chynnydd mawr yn y boblogaeth yn cyfuno i greu sefyllfa argyfyngus i'r iaith yn y ddinas.
Y peth sydd angen ei ddadansoddi ar fyrder, dwi'n teimlo, ydi sut y llwyddodd rhai ardaloedd yng Ngwynedd i ddal eu tir ieithyddol - yn Arfon gan mwyaf - yn groes i bron pobman arall yng Nghymru, a sut y gellir efelychu hyn.
Yn anffodus, wn i ddim a ydi hynny'n bosibl. Fel y dywedais uchod, mae dirywiad ieithyddol yn beth cronnol yn hytrach na chyson. Fydd achub yr iaith yn Sir Gâr a Cheredigion yn anoddach o beth wmbrath na'i chynnal yng Ngwynedd. Serch hynny, ei chynnal sy'n rhaid yno, achos oni wneir hynny, mi fydd Gwynedd yn dilyn trywydd ieithyddol Sir Gâr.
Ta waeth, mi adawaf y dadansoddi dwys i eraill!
lunedì, gennaio 07, 2013
Snobyddiaeth ieithyddol
Does neb erioed wedi gadael sylw ar y blog hwn sy wedi 'ngwylltio i'n gacwn - dydw i ddim fel rheol yn ymateb fel'na i bethau ar y rhyngrwyd, gan bobl ddienw yn arbennig. Ond heddiw dw i wedi gwylltio. Na, sori, dwi 'di ffycin gwylltio. Mi adawyd y sylw hwn ar y blogiad diwethaf:
Be sy wedi fy ngwylltio yn benodol ta? Ddyweda i wrthoch chi. Y frawddeg olaf, a pharodrwydd diddiwedd cymaint o bobl i luchio'r cyhuddiad 'snobyddiaeth iaith/ieithyddol' at rywun am feiddio dweud bod rhywbeth yn is-safonol neu'n anghywir. Mae o'n bathetig a dw i wedi cael llond twll fy nhin ohono.
Oes, mae 'na snobyddiaeth ieithyddol yn digwydd - ro'n i'n meddwl bod hanes Robyn Lewis yn enghraifft berffaith a dweud y gwir. A dwi'n cydnabod ac yn dallt mewn ambell i gyd-destun dydi Cymraeg 'rhy Gymraeg' (os dach chi'n dallt be sy gen i) ddim yn beth da o gwbl. Mae 'na lot bethau yn cael eu cyfieithu yn 'rhy posh' neu mewn ffordd rhy fawreddog - gan gyfieithwyr gwael weithiau, ond yn amlach na pheidio gan bobl sydd ddim yn gyfieithwyr.
Ond wir-yr, ydi safon yr iaith mor isel ein bod ni'n barod i alw pobl sy'n cwyno am gamsillafu a chamdreiglo yn 'snobs ieithyddol'? Wir-yr? Cym off it!
Cyfeirio'n benodol at Twitter oeddwn i yn y blogiad gwreiddiol, a dw i'n sticio at be ddywedais i, mae rhai o'r cyfieithiadau yn "ffycin uffernol" ac isio'u newid. Rhaid bod rhywfaint yn dod o Google Translate ac mi ddyweda i hyn y funud yma mae Google Translate yn shait peidiwch â'i ddefnyddio i gyfieithu uffar o ddim. Ac mae'r ffaith i rai pethau gael eu cymeradwyo yn ddigalon ddigon ynddo'i hun. Ond nid sôn am Twitter ydw i yn y blogiad hwn so dyna daw ar hynny.
Iasgob, 'snobyddiaeth ieithyddol'? A fuasech chi'n galw rhywun yn cwyno am gamsillafu cyson yn Saesneg yn ieithsnob? Nafsach, fydda chi blydi wel ddim. Buaswn i ddim yn galw hanesydd yn 'snob hanes' tasa fo'n dweud wrtha i fod Brwydr Hastings yn 1066 yn lle 1166 achos mi faswn i'n rong. Efo gramadeg mae 'na reolau, ac maen nhw'n gywir neu'n anghywir (ydi, mae gramadeg ein hiaith yn anorfod gymhleth o bosib, ond dadl arall ydi honno).
Felly dyma gri arall, sydd y tro hwn yn flin yn hytrach nag yn awgrym. A neith pobl plîs stopio gweiddi 'snob ieithyddol' bob tro mae rhywun yn pwyntio allan bod rhywbeth ysgrifenedig yn anghywir neu'n wael? Dydi dweud y dylai rhywbeth fod yn gywir neu ei fod yn crap ddim yn gwneud rhywun yn 'snob ieithyddol'.
Ond efallai wir mai fi sy'n anghywir, ac y dylen ni gyd jyst sillafu, cystrawennu a chreu treigladau ym mha bynnag ffordd y mynnom!
Beth sydd angen yw wneud ydi cymeradwyo pobl am gymryd rhan i gyfiethu Twitter i'r Gymraeg. Ydi mae nhw'n defnyddio Google Translate, Ydi mae eu threigliadau a sillafu yn warthus ond pwynt y prosiect ydi gwella iaith rhywyn.
Dwi wedi cyfiethu rhai ymadroddion ac yn gwybod fod nhw'n anghywir drwy obeithio fe fydd rhywyn yn dod ac yn rhoid fersiwn gwell ymlaen.
Fe fydd Twitter i'r Gymraeg ddim yn barod i'r cyhoedd am tua flwyddyn arall. Mae yna lawer o waith profi i'w wneud cyn hynny.
Yn ôl yn mis Rhagfyr mi oedd ni'r Cymru yn cwyno am dirywiad yn y nifer oedd yn siarad a ddefnyddio y Gymraeg. Beth sydd ddim angen ydi mwy o snobyddiaeth iaith.
Be sy wedi fy ngwylltio yn benodol ta? Ddyweda i wrthoch chi. Y frawddeg olaf, a pharodrwydd diddiwedd cymaint o bobl i luchio'r cyhuddiad 'snobyddiaeth iaith/ieithyddol' at rywun am feiddio dweud bod rhywbeth yn is-safonol neu'n anghywir. Mae o'n bathetig a dw i wedi cael llond twll fy nhin ohono.
Oes, mae 'na snobyddiaeth ieithyddol yn digwydd - ro'n i'n meddwl bod hanes Robyn Lewis yn enghraifft berffaith a dweud y gwir. A dwi'n cydnabod ac yn dallt mewn ambell i gyd-destun dydi Cymraeg 'rhy Gymraeg' (os dach chi'n dallt be sy gen i) ddim yn beth da o gwbl. Mae 'na lot bethau yn cael eu cyfieithu yn 'rhy posh' neu mewn ffordd rhy fawreddog - gan gyfieithwyr gwael weithiau, ond yn amlach na pheidio gan bobl sydd ddim yn gyfieithwyr.
Ond wir-yr, ydi safon yr iaith mor isel ein bod ni'n barod i alw pobl sy'n cwyno am gamsillafu a chamdreiglo yn 'snobs ieithyddol'? Wir-yr? Cym off it!
Cyfeirio'n benodol at Twitter oeddwn i yn y blogiad gwreiddiol, a dw i'n sticio at be ddywedais i, mae rhai o'r cyfieithiadau yn "ffycin uffernol" ac isio'u newid. Rhaid bod rhywfaint yn dod o Google Translate ac mi ddyweda i hyn y funud yma mae Google Translate yn shait peidiwch â'i ddefnyddio i gyfieithu uffar o ddim. Ac mae'r ffaith i rai pethau gael eu cymeradwyo yn ddigalon ddigon ynddo'i hun. Ond nid sôn am Twitter ydw i yn y blogiad hwn so dyna daw ar hynny.
Iasgob, 'snobyddiaeth ieithyddol'? A fuasech chi'n galw rhywun yn cwyno am gamsillafu cyson yn Saesneg yn ieithsnob? Nafsach, fydda chi blydi wel ddim. Buaswn i ddim yn galw hanesydd yn 'snob hanes' tasa fo'n dweud wrtha i fod Brwydr Hastings yn 1066 yn lle 1166 achos mi faswn i'n rong. Efo gramadeg mae 'na reolau, ac maen nhw'n gywir neu'n anghywir (ydi, mae gramadeg ein hiaith yn anorfod gymhleth o bosib, ond dadl arall ydi honno).
Felly dyma gri arall, sydd y tro hwn yn flin yn hytrach nag yn awgrym. A neith pobl plîs stopio gweiddi 'snob ieithyddol' bob tro mae rhywun yn pwyntio allan bod rhywbeth ysgrifenedig yn anghywir neu'n wael? Dydi dweud y dylai rhywbeth fod yn gywir neu ei fod yn crap ddim yn gwneud rhywun yn 'snob ieithyddol'.
Ond efallai wir mai fi sy'n anghywir, ac y dylen ni gyd jyst sillafu, cystrawennu a chreu treigladau ym mha bynnag ffordd y mynnom!
domenica, gennaio 06, 2013
Cri'r Cyfieithydd
Does 'na ddim lot o yrfaoedd sydd ag elfen fwy personol iddynt na chyfieithu, a dydi cyfieithwyr ddim yn licio gwaith ei gilydd yn aml iawn - neu, yn hytrach, elfen gref o 'fi sy'n iawn ac fi sydd orau' ydi o. Ac mi ydan ni'n cwyno amdanom ein gilydd hefyd, o gwyno am gyfieithwyr llawrydd sydd methu â chyfieithu ond yn ennill arian gwell na rhai mewn cwmnïau, i gwmnïau sy'n argyhoeddedig mai dim ond y nhw all gyfieithu'n safonol, i gyfieithwyr y Llywodraeth a allai gyfieithu'r Cofnod cyfan yn fewnol, a llawer mwy yn gwbl ddidrafferth, petaent yn cyfieithu cymaint o eiriau y diwrnod ag unrhyw gyfieithydd arall sydd ddim yn gweithio i'r Llywodraeth...
Mae rhai yn cyfieithu'n llawer rhy llythrennol, eraill yn rhy llafar, ac eraill yn gwneud i'r pethau symlaf swnio fel dogfen gyfreithiol gymhleth. Mae eraill yn meddwl y gallan nhw gyfieithu jyst achos bod ganddyn nhw Gymraeg da, ac eraill sy'n arloesol i'r graddau eu bod yn creu treigladau newydd sbon na welwyd mohonynt erioed.
O be mae o werth, fydda i'n licio meddwl fy mod i'n dda wrth fy ngwaith, a bod gennyf fy arddull fy hun a bod honno'n un addas a darllenadwy. Fydda i hefyd yn meddwl, yn ddigon trahaus, fod gen i rywfaint o ddawn am droi pethau cymhleth yn Saesneg yn bethau syml yn Gymraeg. Ond dw i'n gwybod bod 'na gyfieithydd yn llechu'n rhywle a fyddai'n darllen fy ngwaith ac yn meddwl ei fod o'n dda i ddim. A beryg mi feddyliaswn yr un peth amdano yntau. Byd bach felly ydi byd y cyfieithydd.
Dydi hynny ddim yn meddwl bod cyfieithwyr yn bitchy. Dydyn nhw ddim - mae rhai o'm ffrindiau gorau i'n gyfieithwyr. Er, dw i'n dallt yn iawn y disgrifiad a wnaed ohonynt gan ffrind i ffrind - paranoid bunch of freaks. Mi ydan ni'n gallu bod yn paranoid iawn am ein gwaith ein hunain, ac mae cyfieithu yn un o'r gyrfaoedd hynny sydd yn atyniadol iawn i bobl, wel, od. Od iawn ar adegau.
Ddywedish i wrthoch chi erioed fod gen i benglog o Ffrainc yn y bathrwm?
Ta waeth, rhyw ddadleuon felly y byddwn ni'n eu cael ym myd bach cyfieithu ond mae 'na un peth 'dan ni i gyd yn gytûn amdano - dydach chi ddim yn gallu cyfieithu. Na, dydach chi ddim. Does 'na dim yn gwylltio cyfieithydd yn fwy na rhywun yn dweud "dw i'n cyfieithu yn gwaith hefyd (noder rheswm)" pan nad ydyn nhw actiwli yn gyfieithydd. Dealladwy yn tydi? Sgil ydi cyfieithu, a dydi o ddim yn sgil y gall pawb ei meistroli - hyd yn oed os oes ganddyn nhw Gymraeg cystal â William Morgan.
Yrŵan, mi ges ddadl fach efo Siân Tir Du (sy'n blogio hyd yn oed yn llai aml na fi erbyn hyn) am gyfieithu Twitter, ar Twitter. Ddaru mi awgrymu ei bod yn well i gyfieithwyr beidio â heidio ato i helpu allan gan ei fod yn well i gael pobl 'gyffredin' (er diffyg gair gwell, ond i gyfieithydd mae unrhyw un sydd ddim yn gyfieithydd yn gyffredin iawn) greu'r peth er eu budd nhw. Prin fod yna gyfieithydd sydd heb o leiaf unwaith syrthio i'r fagl 'cyfieithu er cyfieithwyr eraill', sy'n dueddol o ddigwydd yn arbennig mewn swyddfa gan y bydd rhywun arall yn prawfddarllen eich gwaith.
Ond na, ebe Siân.
A Siân oedd yn iawn.
Dw i 'di bod yn cyfieithu bach o Twitter yn ddiweddar, yn benodol achos dydw i ddim yn y gwaith ar y funud - wedi'r cyfan, peth diwethaf dwisho'i wneud ydi cyfieithu'n wirfoddol ar ôl diwrnod o gyfieithu. Argoledig. Mae 'na lot iawn iawn o gyfieithiadau Twitter - nifer a gymeradwywyd - yn ffycin uffernol. Dydw i ddim yn jyst cyfeirio at y ffordd mae pethau'n cael eu geirio, ond yn hytrach pethau sylfaenol fel sillafu a threiglo. Fydd Twitter, pan gyhoeddir y fersiwn Gymraeg, yn siop siafins.
Iawn, bitshiad da oedd lot o'r uchod, ond wir-yr, apêl fach hefyd i rywun sy'n licio'i Dwityr erbyn hyn - os ydach chi ar Twitter a bod ganddo chi Gymraeg da, rhowch gynnig ar ei gyfieithu neu jyst dewis o blith y cyfieithiadau mae eraill wedi'u cynnig, achos y ffordd mae hi beryg fydd y fersiwn Gymraeg mor wael na fydd neb isio'i defnyddio hi beth bynnag

Iscriviti a:
Post (Atom)