Ni fûm erioed yn betrus o gyhoeddi blog o'r blaen ond mi ydw i rywfaint y tro hwn. Ond weithiau mae'n rhaid i rywun ei fynegi ei hun, ac mae hyn wedi bod yn dod ers sbel.
Fe sylwch fy mod i yn cael ambell i ddig ar Gaerdydd yn eithaf aml. Efallai
ei fod yn bryd imi gyfiawnhau fy hun, achos tydi Caerdydd ddim rili yn haeddu
hynny. Y mae hi’n ddinas wych, a dwi wedi bod yn ffodus treulio fy ieuenctid
yno’n camfihafio. Na, tydw i ddim yn uniaethu efo’r lle. Tydw i ddim yn “caru’r”
lle. Ond mae o’n lle gwych, ac mae’n haeddu cael ei gydnabod felly.
Does ‘na fawr o amheuaeth gen i, er fy mod wrth fy modd â’r ddinas, fod
lwmp go dda o’m hagwedd at y ddinas yn deillio o’r ffaith fy mod i jyst isio
symud oddi yno, a dychwelyd i’r Gogledd, a fy mod i raddau’n chwerw am fy mod
i’n aflwyddiannus yn gwneud hyd yma.
Mae rhesymau go bendant gen i am symud i’r Gogledd – rywsut, mae o jyst yn
teimlo fel y peth “iawn” i’w wneud. Debyg fod ‘na elfen o euogrwydd fy mod i
yng Nghaerdydd yn mwynhau gormod yn hytrach na chyfrannu at yr ardal lle’m
magwyd. A soniais o’r blaen am berthyn, plentyn hiraeth.
Ond yn y cyfamser, o weld f’ardal i’n dirywio, mewn nifer o ffyrdd ond yn
benodol iawn yn ieithyddol, fedra i ddim ond â theimlo mai yma y dylwn fod.
Tydw i ddim yn meddwl y byddwn i’n edifar dychwelyd chwaith (o ddewis y
swydd/amser cywir). Wn i ddim neb sydd wedi gadael Caerdydd am eu hadref nhw ac
edifar; y mae pob un ohonynt yn teimlo i’r carn iddynt wneud y peth iawn, ac yn
dweud yn ddieithriad nad a symudent yn ôl i’r brifddinas fyth. A phan ydach
chi’n treulio amser i ffwrdd o Gaerdydd allwch chi weld agwedd wahanol arni nag
os ydych chi yn y swigen: y mae rhywbeth ffals amdani. Mae’n arwynebol: mae’n
ddiawledig o anodd esbonio, ond dwi’n meddwl y bydd pawb sydd
naill ai wedi symud o Gaerdydd, neu sy’n mynd yno’n aml am ba reswm bynnag, yn
dallt yr hyn sy gen i wrth ddweud hynny.
Ta waeth, amlinellaf y ddau reswm mae Caerdydd – er gwaethaf popeth – yn mynd
ar fy nerfau. Ac er mwyn ceisio bod yn gryno, mi hepgoraf CF1.
Y mae’r cyntaf yn un syml: pethau i’w gwneud. Dwi’n meddwl ei bod yn
hilariws cynifer o bobl (nid dim ond y rhai sy’n byw yng Nghaerdydd, gyda llaw)
yn dweud bod ‘na llwyth i’w wneud yng
Nghaerdydd ond ‘sdim byd ‘adref’. Dyma i chwi’r bobl sy’n mynd i’r un llefydd
bob wythnos, yn cwrdd â’r un bobl o hyd, ac yn gwneud yr un pethau o hyd, yn
gylch mawr o undonedd.
Dyma’r bobl sy’n cymdeithasu efo pobl sydd jyst fel nhw, achos mewn dinas
mi allwch ddod o hyd i bobl sy’n debyg i chi – yn wahanol i lefydd mwy cefn
gwlad, lle mae’ch ffrindiau yn eithaf tebygol o fod yn wahanol iawn i’w gilydd
jyst achos ‘na nhw sydd yno (sydd, os ca’i ddweud, ddim yn eu gwneud yn llai o
ffrindiau). A dyma’r bobl sydd â’r haerllugrwydd i alw Cymry Cymraeg cefn
gwlad yn ‘gul’. “Symudish i ffwrdd achos bod o’n gul, mae Caerdydd lot mwy
agored”.
Reit ... ac wrth gwrs mi ddywedan nhw bethau fel hyn heb feddwl eu bod nhw
efallai fymryn yn sarhaus i’r Cymry bach syml ‘na yn y gogledd a’r gorllewin.
Yr ail ydi’r Gymraeg; ac i raddau'r Cymry Cymraeg sydd yno. Nid pawb o bell
ffordd - taswn i’n mynd ati rŵan i wneud ymosodiad eang ar holl Gymry Cymraeg y
ddinas fydda gen i ddim ffrindiau, yn llythrennol - ond mae ‘na elfen gref (a
mentraf ddweud dosbarth canol, sydd ddim yn gyhuddiad dwi’n mwynhau ei luchio o
gwmpas) sydd mor, mor falch o Gymreictod newydd Caerdydd. “O,” medda nhw,
“fyddwch chi’n clywed Cymraeg ymhobman yng Nghaerdydd y dyddiau hyn”. Peidiwch
â chredu neb sy’n dweud hyn, maen nhw’n llawn shit. Mae’n wir y clywch Gymraeg
mewn rhai ardaloedd penodol - os nad penodol iawn - o Gaerdydd. Ac mae’n wir
fod ‘na rwydwaith Cymraeg cryf a bywiog yn y ddinas. Ond rhwydwaith ydi o, nid
cymuned, ac mae hynny’n wahaniaeth pwysig. Cymuned Gymraeg nid oes i Gaerdydd.
Ac mae’r pwyslais yma ar y dyfodol – mae ‘na ddyfodol i’r iaith yng
Nghaerdydd – sy'n fy mlino ac yn fy nhristáu. O, am gryfder fyddai gennym yn yr
hen gaerau pe gallasem fod wedi aros yn yr hen fröydd. Tydi’r economi ddim am ganiatáu
i hynny ddigwydd am rŵan, ond mae cynifer ohonom o Gaerdydd o ardaloedd mwy
gwledig, mwy Cymraeg, a allai wneud cymaint o wahaniaeth yn byw yn ein bröydd
genedigol. Ac mae lot fawr, fawr isio gwneud hynny, ond heb fodd i wneud hynny,
alla i sicrhau hynny i chi.
Ond dyma sy’n fy ngwylltio, y sôn am ‘gryfder’ yr iaith yn y ddinas.
11%.
Dyna gryfder y Gymraeg yng Nghaerdydd. Ydi pethau mor ddu arnom fel bod 11%
yn rhywbeth i’w ddathlu? Ydi cynnydd bach o 4,000 o siaradwyr (1%!) ym
mhrifddinas Cymru rhwng 2001-11 yn rhywbeth i’w groesawu, neu yn rhywbeth i’w gywilyddio
ynddo? Faint o’r 36,000 sy’n honni siarad Cymraeg sy’n byw eu bywydau gan mwyaf
yn yr iaith, neu'r â’r iaith yn brif iaith iddynt? Ddim nhw i gyd. Fyddai awgrymu hanner yn deg?
Dyma bobl sy'n dweud bod 'na fwy o Gymry Cymraeg yng Nghaerdydd nag sydd yng Ngheredigion bellach fel petai hynny'n beth da!
Ac felly mae’n gwawrio ar rywun yr hyn ydi’r Cymry Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae
cynifer yn licio meddwl eu bod nhw’n gyfran barchus o boblogaeth y brifddinas,
ar gynnydd o ran maint a hyder. Ond ddim dyna ydyn nhw. Lleiafrif dibwys,
amhwysig ydyn nhw – neu, mi ddylwn i ddweud, ydym ni. A dwi’n ymwybodol iawn o
hynny – yng Nghaerdydd dwi’n rhan o leiafrif pitw. Oes ots os ydyw’n lleiafrif
prysur, gweithgar? I raddau (bach). Ac mae'r hyder hwnnw'n aml yn gallu cael ei gyfleu fel hunanbwysigrwydd. Ta waeth...
11%. Mae hynny’n llai na Sir y Fflint. Go
figure.
Ac os dyna’r ‘dyfodol’ disglair y mae rhai’n ei addo, pan gyfeiriant at ‘ffyniant’
y Gymraeg yn y brifddinas - mai hwnnw ydi'r peth y dylem ymhyderu ynddo, yn obaith i Gymru gyfan - mi gânt ei gadw. Byddai’n well gen i farwolaeth yr
iaith na’n bod yn gweld y sefyllfa druenus pan fydd y Cymry Cymraeg yn 11% yng
Ngwynedd neu Fôn ... neu hyd yn oed yn Nyfed o ran hynny. A dwi’n meddwl, pan
ddaw ati, dyna sy’n fy nghorddi fwyaf. Mae llawer o Gymry Cymraeg Caerdydd,
boed yn frodorion y ddinas neu’n bobl sydd wedi symud yno, yn meddwl ei bod yn esiampl
dda o ran y Gymraeg. Dwi’n meddwl bod Caerdydd, pan mae’n dod ati, jyst yn
dangos pa mor erchyll o ymylol y gallasai'r Cymry Cymraeg fod yn eu gwlad eu hunain un diwrnod.
Ond waeth i mi orffen ar nodyn cadarnhaol ac ategu’r hyn a ddywedais i
ddechrau. Mae Caerdydd yn ffantastig – dwi ddim yn beio neb am fod isio byw
yno, yn enwedig pan fônt yn ifanc ac isio gwneud drygioni. Dwi wedi treulio
blynyddoedd hapusaf fy mywyd yn yr hen ddinas ddrwg ‘na. Ond o godi ‘mhen o’r
swigen, mi alla i weld yr ochr arall, lai dymunol, iddi, ac yn sicr byddwn i
byth bythoedd isio i’r gogledd na’r gorllewin ei hefelychu, achos yn y bôn, mae un Caerdydd yn ddigon.