Mi fûm i’n
synfyfyrio am y ddadl
ffyrnig sydd wedi digwydd dros y pwll mawr ynghylch baner y Taleithiau
Cydffederal. Dwi’n meddwl y rheswm pam ydi bod eitha tipyn o bobl ar fy
Facebook a Twitter yn ei gweld fel cam ymlaen cael gwared ohoni. Wedi’r cyfan,
mae’n cynrychioli egin wladwriaeth a gefnogai gaethwasiaeth.
Rhyw fath o, o
leiaf. Nid y faner honno oedd baner ‘genedlaethol’ y Taleithiau Cydffederal
eithr hon:
Felly mae yna
ychydig o gamddealltwriaeth o’r faner ei hun. Yn UDA, yn dibynnu ar eich
safbwynt, mae’n cynrychioli naill ai caethwasiaeth neu ryw fath o falchder
rhanbarthol. Mae’n anodd braidd i unrhyw un o’r tu allan i UDA gynnig barn gall
ar y mater, oherwydd does gynnon ni ddim wir deimladau dwfn yn ei chylch –
byddai honni fel arall yn anonest braidd.
Does gen i fawr o
farn ar y mater, ond yn reddfol, dwi’n rhyw feddwl y gall symbolau a ballu
newid dros amser, ac felly y gall y
faner gynrychioli heddiw rywbeth nas cynrychiolai mewn oes a fu; mae’n un o’r baneri
hynny y gellid dadlau iddi gael ei
hadhawlio o elfennau gwleidyddol mwy eithafol – wedi’r cyfan, dim ond eithafwyr
asgell dde a hedfanai faner Sant Siôr mewn cof byw, ond adhawliwyd y faner
honno ganddyn nhw i gynrychioli cenedl gyfoes, er dwi’n derbyn nad ydi honno’n
gymhariaeth uniongyrchol.
Y cwestiwn ydi
ymhle mae’r llinell? Os derbyniwn fod baner y Taleithiau Cydffederal o hyd yn
cynrychioli hiliaeth yna mae’n deg cael gwared ohoni. Er hynny, ni fu gan bobl
dduon i bob pwrpas yr un hawliau, ar bapur, â phobl wyn UDA hyd Deddf Hawliau Sifil 1964 –
roedd hynny bedair blynedd ar ôl mabwysiadu’r fersiwn bresennol o’r Sêr a’r
Stribedi (er mai parhad o fersiynau blaenorol ydi honno hefyd). Ydi baner UDA
ei hun hefyd felly’n cynrychioli adeg o annhegwch cymdeithasol yn y wlad honno ac a
ddylid ei newid?
Wn i ddim i fod yn
onest. Ond mae’n codi cwestiynau difyr ynghylch yr hyn y mae baneri yn eu
cynrychioli, a bod rhywfaint o ragrith yn perthyn i bobl yn nifer o genhedloedd
Ewrop sy’n gefnogol o gael gwared ar faner y Taleithiau Cydffederal (er, fel y gwelwch o'r isod, dydi'r feirniadaeth y byddaf yn ei chynnig ddim wir yn berthnasol i fawr ddim o ddarllenwyr y blog hwn).
Yr hyn sydd gen i
dan sylw ydi bod baneri nifer o wledydd yn Ewrop yn rhai sydd, i nifer o bobl
ledled y byd, yn cynrychioli gormes, erledigaeth a thrais. Mae baner yr Undeb
yn enghraifft berffaith.
Dydi ymerodraethau
ddim yn tyfu drwy fod yn neis. Ni fu erioed enghraifft o ymerodraeth neis. Fe’u
crëir drwy ryfel, gormes a chreulondeb – does dim eithriad i hynny. Mae llawer
o Brydeinwyr yn ymfalchïo yn eu baner heb ddeall yr hyn y mae’n ei golygu i
gynifer o bobl eraill mewn rhannau eraill o’r byd, ac mae hynny yr un mor wir
am honno â tricolores Ffrainc neu
Wlad Belg. Cynrychiolant ymddarostyngiad, rhaib a gwarth ar lefel y mae’n anodd
ei dychmygu: a ddylid felly gael gwared ohonynt, a hwythau wedi cynrychioli
rhywbeth mor ffiaidd ag imperialaeth a phopeth sydd a wnelo â hi?
Ym Mhrydain, rydyn
ni’n eithaf anymwybodol o wir erchyllter yr Ymerodraeth Brydeinig. Mae hyn am i’r
wladwriaeth lwyddo greu delwedd ddedwydd, waraidd ohoni (ac iddi gael ei
phortreadu felly yn y cyfryngau hefyd – mae Carry
on Up the Khyber yn ffilm dwi’n eitha ei licio ond mae’n enghraifft fyw o’r
ddelwedd a feithrinwyd) felly hyd yn oed heddiw nid yw’r hyn a wnaeth i sathru’r
gwledydd a'r bobl a orchfygasai’n hysbys iawn. Yn ‘ffodus’ i Brydain, roedd nifer o
ymerodraethau a gydfodolai â’i un hi, fel rhai Ffrainc, yr Almaen, ac efallai Gwlad
Belg fwyaf oll, wedi llwyddo bod yn waeth – er o drwch adain gwybedyn. Felly
yn llygaid hanes fe’i gwelwyd fel ymerodraeth unigryw waraidd a theg. Delwedd
gymharol efallai, ond anhaeddiannol tu hwnt.
Ond er yr hyn a
wnaed dan y baneri hynny (nid yr Almaen; yn wahanol i wledydd eraill wynebodd
yr Almaen yr hyn a wnaeth ac edifar, er o raid yn fwy nag angen, a hynny wedi
ei threchu ym 1945, ymhell ar ôl diwedd ei hymerodraeth) – oll yn waeth o gryn dipyn na’r hyn a wnaeth y Taleithiau
Cydffederal, ac roedd nifer o’r ymerodraethau hyn yn dal i orfodi dioddef ar
bobl ymhell wedi i’r Taleithiau Cydffederal ddod i ben – ni fu erioed sôn am eu
disodli.
Dylai Ewrop edrych
arni ei hun cyn beirniadu America.
Efallai’r
gwahaniaeth, dybiwn i y byddai rhai yn dadlau, ydi bod pobl dduon yn byw yn UDA
sy’n gwybod hanes eu pobl yn y wlad honno, a bod y faner sydd yno’n gyson yn
chwifio oddi uwch yn eu hatgoffa o’u dioddefaint.
Gall o leiaf rai
ohonom yng Nghymru gydymdeimlo â hynny, dwi’n meddwl, er na ddylem haeru cymhariaeth
uniongyrchol (byddai hynny’n gwbl anghywir). I mi fel Cymro Cymraeg, mae baner
yr Undeb yn cynrychioli gormes. Mae’n
gynrychioliad byw o syniadaeth wladwriaethol i ddileu fy hunaniaeth
ddiwylliannol, ieithyddol a chenedlaethol gynhenid i; yn fwriadol ac yn
faleisus. Dyna pam dwi’n teimlo rhyw ddicter distaw yn lle bynnag y gwela i’r
faner honno yng Nghymru; mae’n sarhad arnaf i’n bersonol ac ar fy mhobl i. Felly
mi fedraf ddeall sut mae pobl dduon yn UDA yn teimlo tuag at faner y Taleithiau
Cydffederal, er ar lefel ac mewn ystyr gwahanol.
Ta waeth, sylwedd
yr hyn dwi’n ceisio’i ddweud ydi hyn. Os gwaredu baner y Taleithiau
Cydffederal, oni ddylai nifer fawr o fflagiau cenedlaethol gwladwriaethau Ewrop gael eu roi i’r naill ochr hefyd?