Pei pluog y wybren welw;
yr eryr pasteiog yw.
Eisteddai
Caryl Parry-Jones â’i llygaid yn llonydd anelu at yr wy. Eisteddai’r wy yn
llonydd hefyd gan syllu’n ôl. Roedd ei chadair bren yn anghyfforddus, ond ei
hunig gadair bren ydoedd, felly eisteddai arni’n eiddgar. Ni allai fforddio
colli un arall. Un wy oedd ar ôl ganddi, a chymerodd ato fel gwair at y pridd,
gan ei anwesu yn ei mynwes am bedair awr hir. Llwgai am na chawsai wy, ac nid
oedd ar ôl yn y tŷ fwyd eithr tameidiau caws y noson gynt, ac ymenyn.
Roedd y tŷ
mor unig ers ymadawiad Huw Chiswell, neu, fel y’i gelwid gan ei ffrindiau, “Huw”.
Lletyai yno am sbel, ond blinodd ar y deuawdu cyson dibaid a gadawsai’r noson
gynt, gan adael Caryl heb gwmni; heb ddim, yn wir, eithr ei dri sandal a’i un
esgid dda.
Ni segurodd hithau
drannoeth ymadawiad Huw. Aeth i’w phot celf, a chael ffelt pen glas allan. Gafaelai
am yr wy’n ofalus, a llunio arno ddwy lygad, trwyn smwt, tamaid o wallt a gwên
fawr garedig. Fe’i gosododd yn ofalus yn y twb ymenyn a’i roddi ar y bwrdd. Gwenai
iddi ei hun.
“Y mae gennyf
yn awr gwmni,” meddai’n fuddugoliaethus. Ac edrychodd ar yr wy. A’r wy a
edrychodd yn ôl. Gwenodd y ddau at ei gilydd am weddill yr wythnos. Ond nid
oedd hyd yn oed i Garyl Parry-Jones wy’n gwmni digonol. Suddodd ei chalon yn y
pen draw ac meddai at yr wy, “O, oni fyddet fyw. Byddwn fam iti”.
Roedd fflachiad
arian a’i dalliodd ennyd, ond pan welsai drachefn gwelsai dylwythen deg foliog
yno o’i blaen. “Henffych Garyl,” meddai’r dylwythen, “yr wyf yma i ateb eich
dymuniad. Myfi yw Tylwythen Deg yr Wyau.”
“Brensiach a
brawychiaeth,” ebe Caryl, “pwy ydych chi?”
“Clywais gri
eich calon. Deuthum i’w hateb, gantores gaboledig.”
“Pam ydych
chi yma?” holodd Caryl.
“Rhoddaf i’r wy
fywyd a chwi a fyddwch iddo’n fam!”
“A ydych yma
i roi bywyd i’r wy a’m gwneud iddo’n fam?”
“Yli,” meddai’r
dylwythen wyau, “stopia ofyn pethau dwi newydd ddweud. Mae’n blentynnaidd, ac
mi wyt ti’n ddynas yn dy oed a’th amser. Mae gen i gannoedd o ddymuniadau wy i
wneud heddiw fel y mae hi, heb orfod dioddef dy nonsens di. Wyt tisho’r wy ‘ma
fyw neu be?”
“Ydw,”
atebodd Caryl yn bwdlyd ar ôl saib, yn eiddgar eisiau ymddwyn yn anaeddfed.
Ennyd, yr oedd fflach arall. Rhwbiodd Caryl ei llygaid. Ac o’i blaen, gwelsai'r llygaid bychain del yn syllu arni, a’r geg fechan ar wyneb yr wy yn edrych arni’n
llon. “O fy wy bach!” gorfoleddai, “Wyt fyw! Fe’th alwaf yn Hermon a chawn
gyd-fyw yma hyd ddiwedd oes!”
Ond troes
gwên yr wy’n banig. “O Mam,” meddai’n drist, “pa beth a wnaethoch? Edrychwch arnaf.
Ni allaf gerdded canys nad oes gennyf goesau. Ni allaf ymestyn na gafael am nad
oes gennyf freichiau na dwylo. Ac rydych wedi fy rhoi mewn twb ymenyn, yn goron
ar y sarhad. Nid yw hyn yn ffordd i neb fyw!* O, paham a roesoch imi fywyd mor
greulon a disylwedd? Pa beth a wnaeth i chi feddwl mai syniad da byddai rhoi
bywyd i wy?”
“F’anwylyd,”
atebodd Caryl yn ddagreuol, “o, f’anwylyd. Rwyt yn gywir. Tyrd yma, ‘machgen”.
Ac ymafaelodd am yr wy bach, a rhoddi cusan dyner am ei gorun, a’i wasgu nes i’w
blisg ildio a’i bysedd drywanu’i felyn. Wylodd yn wyllt, fel na wylai neb ers
Llywelyn, gan rolio ar y llawr ym mherfeddion ei mab wyog, a rholiodd i’r
parlwr a rholiodd i’r ardd ac yna rholiodd i’r gegin.
Rhedodd
Golwg360 y pennawd “Caryl Parry-Wy” pan dorrodd y stori yn y cyfryngau,
oherwydd dyna’r math o bennawd y byddai Golwg360 yn meddwl amdani.
*heblaw am Dyl Mei.
*heblaw am Dyl Mei.