Ond dwi’n cadw llygad go fanwl ar wleidyddiaeth ambell wlad arall – Ffrainc, yr Eidal ac, wrth gwrs, yr Unol Daleithiau. O ran UDA, mae hyn am ei bod mor wahanol i’r math o wleidyddiaeth a gewch yn Ewrop ond mae hi’n wleidyddiaeth fywiog, ddifyr hefyd. Dwi ddim am fynd i drafod Democratiaid yn erbyn Gweriniaethwyr yn y blogiad hwn, mater arall ydi hwnnw, ond yn hytrach trafod y camsyniad cyffredinol sydd gan bobl, dwi’n meddwl, fod goriadau’r Tŷ Gwyn yn anochel fynd i un arall o dylwyth Clinton.
Y mae ymgeisyddiaeth Clinton yn gwbl sicr, ond mae gan y Gweriniaethwyr lond pentref o ymgeiswyr i ddewis ohonynt o hyd. Rŵan, er gwaetha’r ffaith fod y ddau sydd ar y blaen yn wallgof (er, dwi ddim yn argyhoeddedig fod Trump yn wallgof o gwbl, dwi wastad wedi teimlo mai licio corddi mae o ac nad oes ganddo fo fawr ddim ideoleg y mae’n ei dilyn – dwi bron yn meddwl ei fod o’n neud y cyfan am laff) a bod yr ymgeisydd ei hun am gael effaith ar y canlyniad, mae yna arwyddion y bydd pethau’n agos o hyd. O ran y polau cenedlaethol, yn gyffredinol mae’r gwahaniaeth rhwng Clinton a’r prif wrthwynebwyr Gweriniaethol (Trump, Carson, Rubio – er dwi’n ceisio edrych ar bawb fel ‘cyfanswm’ o ryw fath) yn fach. Yn y ddau bôl diweddaraf (RealClear a HuffPost) mae hi’n arwain ar gyfartaledd o 4% yn erbyn yr amryw Weriniaethwyr, ond yn erbyn TCR mae hynny’n llithro i 1.7% (yn wir, mae hi tu ôl i Carson yn y ddau). Ymhell o fewn yr hen margin of error.
Serch hynny, nid nifer y pleidleisiau sy’n bwysig yn y pen draw eithr pa daleithiau a enillir, i’r fath raddau bod y polau cenedlaethol yn eilradd i raddau wrth ddarogan buddugwr. I symleiddio’r system Americanaidd i’r rhai ohonoch nad ydych yn llwyr gyfarwydd â hi, i bob pwrpas mae “pwyntiau” wedi’u pennu i bob un o daleithiau UDA ac os wyt ti’n ennill y mwyaf o bleidleisiau mewn talaith ti’n mynd â’r holl bwyntiau ar gyfer y dalaith honno. Mae Califfornia, y fwyaf, yn werth 55 – gelli di ennill yno o un bleidlais un unig â mynd â’r 55 ‘pleidlais etholiadol’. Nid yw’n system gynrychioliadol mewn unrhyw ffordd.
Ac o ganlyniad, fel yng Nghymru, llond dwrn o lefydd fydd yn penderfynu ar bwy sy’n fuddugol. Yn UDA mae yna lu o daleithiau sydd 90%+ yn sicr o bleidleisio fel a ganlyn...
Rŵan, fel y
gwelwch o hynny, o ran y taleithiau cwbl sicr, mae gan y Democratiaid fantais
fechan – rhain yw’r taleithiau, gyda llaw, lle na fydd yr ymgeisydd yn newid y
canlyniad y tro hwn. Dyma Ferthyron Tudful America, fel petai.
Dau beth bach i’w nodi cyn bwrw ymlaen. Y cyntaf ydi, does dim disgwyl i’r Gweriniaethwyr golli unrhyw un o’r taleithiau a enillwyd ganddynt yn 2012 – dim un (North Carolina yw’r eithriad annhebygol, nid yw’n goch ar y map uchod o ganlyniad i agosrwydd y bleidlais yn 2012 – ond o gymryd y bydd yn aros yn driw iddynt yn 2016 rhydd hynny 206 o bleidleisiau etholiadol go bendant i’r Gweriniaethwyr – mantais i’r cochion felly). Ac er bod y polau’n awgrymu na wnaiff Clinton gystal ag y gwnaeth Obama yn 2012 (sydd fawr o syndod o ystyried y bydd UDA wedi cael 8 mlynedd o Arlywydd Democrataidd erbyn blwyddyn nesaf, a bod pob Arlywydd yn amhoblogaidd wedi’r cyfnod hwnnw bron yn ddieithriad) does dim awgrym hyd yma bod y polau i’r Gweriniaethwyr fawr gwell nag yn 2012; sy’n golygu nad oes sicrwydd sanctaidd y byddant yn cipio unrhyw un o’r taleithiau gleision. Serch hynny, mae’n anodd gweld y byddant yn segura i’r fath raddau.
Golyga hynny mai 11 talaith, gydag 78.5 miliwn o bobl yn byw ynddynt – lot llai na thraean o’r boblogaeth - sydd am benderfynu ar bwy fydd arweinydd gwlad bwysicaf y byd. Yn eironig bron, dyna faint poblogaeth Iran.
Rŵan mae rhai o’r rhain sy’n debygol o droi’n goch, ond mae cryn fynydd gan y Gweriniaethwyr i gipio ambell un arall fel Mecsico Newydd (angen gogwydd 5.1%). Er o graffu arnynt nid yw’r un yn amhosibl. Y peth pwysicaf i’w gofio ydi nad oes angen i’r Gweriniaethwyr gipio pob un o’r un dalaith ar ddeg hyn. Y rhain, ac eithrio ambell un sy’n llai tebygol o newid dwylo, yw’r swing states – a does angen ennill pob un ar y naill blaid i gipio’r Arlywyddiaeth.
I egluro’r dull o ddadansoddi sut y gallai pethau weithio allan dwi wedi, wrth gwrs, ystyried y polau cenedlaethol ond hefyd y polau fesul talaith. Yn rhai o’r rhai dydi’r wybodaeth ddim yn rhy ddiweddar ond mae’n bosib efallai drwy ddefnyddio patrymau cenedlaethol gael syniad o ba ffordd mae’r gwynt yn chwythu. Hefyd rhaid cofio mai Clinton fydd yr ymgeisydd i’r Democratiaid, ac er ei bod yn anos darogan pwy aiff â’r Gweriniaethwyr i faes y gad, erbyn hyn Trump, Carson a Rubio ydi’r ffefrynnau. Anodd gweld Bush yn llwyddo dringo’i ffordd yn ôl i mewn i’r ras; bet dyn call fyddai ar un o’i tri hyn.
Yn fras iawn, dyma dabl yn crynhoi’r sefyllfa o ran arolygon barn yn yr 11 talaith. Er fy mod i wedi ystyried hanes etholiadau arlywyddol, dyna’r unig etholiadau eraill dwi wedi’u hystyried – mae’r gyfatebiaeth yn UDA rhwng y mathau gwahanol o etholiadau’n wannach o lawer nag a geir yma.
Cofiwch hefyd, y tro diwethaf, roedd pob un o’r isod yn daleithiau ‘glas’. Yr ail golofn ydi’r fantais Ddemocrataidd, a’r tabl olaf ydi sut dwi’n amau y byddai’r dalaith yn pleidleisio pe cynhelid etholiad heddiw. Sori ymlaen llaw am y ffaith fod y tabl yn rhy fawr i'r blog!

Mecsico Newydd
|
10.2%
|
Dim data
diweddar, ond awgrym cryf iawn o’r Democratiaid yn dal – gormod o fwlch i’r
Gweriniaethwyr, ond gallai Rubio o bosibl fod yn ymgeisydd delfrydol i agosáu
pethau yma. Bush yn fuddugol yma yn 2004.
|
DEM
|
Minnesota
|
7.7%
|
Gogwydd diweddar
a phendant i’r Gweriniaethwyr – TCR oll yn curo Clinton (6% cyfartaledd) yn y
polau, ond heb bleidleisio i’r Gweriniaethwyr ers Richard Nixon – anodd gweld
y Democratiaid yn colli
|
DEM
|
Wisconsin
|
6.9%
|
Polau oll yn rhoi
buddugoliaeth glir i Clinton dros unrhyw Weriniaethwr – cyson er nad yn gwbl
gadarn i’r Democratiaid ers blynyddoedd
|
DEM
|
Nevada
|
6.7%
|
Bob pôl ers dros
flwyddyn yn dangos Clinton ar y blaen i’r Gweriniaethwyr yn rhyfeddol o
gyfforddus. Enillodd Bush yma ddwywaith.
|
DEM
|
Iowa
|
5.9%
|
GWE*
| |
New Hampshire
|
5.6%
|
Arfer bod yn
gadarnle od i’r Gweriniaethwyr yn y gogledd-ddwyrain, ond tueddu’n fwyfwy at
y Democratiaid yn ddiweddar; mantais glir gan Clinton yn y polau diweddaraf.
|
DEM
|
Colorado
|
5.4%
|
Dim data
diweddar, awgrym o ogwydd at y Gweriniaethwyr
|
GWE
|
Pennsylvania
|
5.4%
|
Agos iawn – ond mae’r
gogwydd wedi symud o Clinton i unrhyw Weriniaethwr mewn polau diweddar. Tueddu
i bleidleisio dros y Democratiaid yn ddiweddar ond nid o fwlch mawr ar y
cyfan.
|
GWE*
|
Virgina
|
3.9%
|
Ar y cyfan polau’n
awgrymu mai’r Gweriniaethwyr aiff â hi
|
GWE
|
Ohio
|
3.0%
|
Mantais i’r
Gweriniaethwyr yn y polau, hanes o ogwyddo rhwng y ddwy blaid.
|
GWE
|
Fflorida
|
0.9%
|
GWE*
|
*rhy agos i'w galw
Iawn, dwi wedi bod
yn bach o gachwr gyda thri o’r uchod. Ond taswn i’n ychwanegu’r canlyniadau dwi’n
amau uchod i’r map, fel hyn byddai pethau:
Rhaid ennill 270 o bleidleisiau etholiadol (pwyntiau!) i ennill yr etholiad Arlywyddol. Debyg gen i ar y funud, o’r 11 talaith sy’n nwylo’r Democratiaid ar hyn o bryd ac a fydd yn penderfynu ar y canlyniad, bydd y Gweriniaethwyr yn cipio 3 a 5 yn aros yn las. Ond wrth gwrs, mae hynny’n gadael y fantais nid â’r Democratiaid, ond y Gweriniaethwyr, waeth faint o bleidleisiau a gânt yn genedlaethol. Mae hyn yn rhoi’r Gweriniaethwyr mewn sefyllfa gadarn oherwydd petaent yn cipio Virginia ac Ohio (tebygol) ac yna Colorado ar ben hynny (sy’n gwbl realistig), ni fyddai angen iddynt ond ag ennill yn Fflorida i gipio’r Arlywyddiaeth. I bob pwrpas, ni fyddai buddugoliaethau ym Mhennsylvania ac Iowa, sy'n dalcenni caletach, ond yn fonws. Ar y llaw arall rhaid i Clinton ennill yn Fflorida a hefyd naill ai yn Iowa neu ym Mhennsylvania i ennill. Mae yna oblygiadau logistaidd ynghlwm wrth y fath ofynion strategaethol.
Rŵan, nid rhyw astudiaeth academaidd ddwys mo’r uchod o gwbl. Mae’r ffactorau sy’n rhaid eu hastudio mewn etholiad arlywyddol Americanaidd yn llawer gormod i un person eu dadansoddi (am ddim, beth bynnag). Mae’n nhw’n hurt o gymhleth, a dydi pobl yr ochr hon i’r cefnfor ddim bob amser yn ymwybodol ohonynt e.e. mae’r Gweriniaethwyr yn gallu gwneud yn dda iawn ymhlith pobl o dras Sbaenaidd, a thra bod Protestaniaid yn pleidleisio’n drwm o blaid y Gweriniaethwyr tuedda Catholigion i ddewis y Democratiaid, heb sôn am dueddiad pobl sy’n ystyried eu hunain yn ‘annibynnol’ i fwrw pleidlais dros y Gweriniaethwyr yn y pen draw. Ac eto, mae hynny heb i ni wybod eto’n sicr pwy fydd yr ymgeiswyr. Bydd y ras Weriniaethol ynddi’i hun yn werth ei gwylio.
Serch hynny, er gwaethaf y ffaith ein bod dan yr argraff yma mai’r Democratiaid sy’n codi yn UDA y dwthwn hwn, byddwn i’n awgrymu bod y fantais at flwyddyn nesaf yn nwylo’r Gweriniaethwyr, o bosibl waeth pwy fo’r ymgeisydd.
Mapiau wedi’u creu o wefan 270towin.com

Gwybodaeth polau o amryw ffynonellau Wikipedia (cenedlaethol
a thaleithiol)
a RealClearPolitics.com
yn bennaf