Helô stalwm!
Ac na, mi wn i. Dwi ddim yn aelod o Blaid Cymru. Ond dydi hynny
ddim yn golygu nad oes gen i farn ar y ras arweinyddol sydd wedi bod yn mynd
rhagddi. A dweud y gwir, dwi wedi bod yn ei dilyn yn gymharol agos. Go brin y
byddai unrhyw un o’r ymgeiswyr yn gwneud imi ail-ymuno â’r Blaid (yn y byrdymor
o leiaf); fy niffyg disgyblaeth fy hun sy’n gyfrifol am hynny’n fwy na dim. Ond
gyda gwleidyddiaeth fel y mae, mae hyd yn oed fy mhleidlais i Blaid Cymru wedi
bod dan amheuaeth yn ddiweddar. Go brin fy mod i’r unig un sy’n teimlo felly.
Nid newid arweinydd ydi’r ateb i bopeth, wrth gwrs. Mae gan
Blaid Cymru broblemau a ffaeleddau eraill. Mi fuaswn i’n dadlau bod llawer o’r
rheiny wedi ymwreiddio yn ystod cyfnod Leanne Wood fel arweinydd. Ond mae angen
arweinyddiaeth o’r top hyd yn oed ar bethau y tu ôl i’r llen. ‘Does gen i’m cip
ecsgliwsif y tu ôl i’r llen ar hyn, ond mae’n bur amlwg fod pethau mawr yn bod yn
fewnol sydd angen eu sortio, a bod morâl ar y cyfan yn y Blaid wedi bod yn
isel.
Er nad ydw i’n aelod mwyach, dwi’n ffrindiau da efo llawer
iawn o aelodau cyffredin. Fedra i ddim siarad dros bawb, ond mae’r
rhwystredigaeth dwi wedi’i chlywed ganddynt am gyfeiriad a pherfformiad y Blaid
yn llachar o amlwg, ac mae’r arweinyddiaeth bresennol yn rhan o’r
rhwystredigaeth honno. Hefyd, mae’r shifft oddi wrth Leanne Wood dros yr
wythnosau diwethaf wedi bod yn amlwg iawn hefyd – fedra i nodi sawl unigolyn
sydd wedi cefnogi LW yn frwd dros y blynyddoedd (er gwaetha’u hamheuon
diweddar) sydd wedi newid i Rhun ap Iorwerth ac Adam Price dros gwrs y ras. Ac o
ran ambell un o’r rheiny, dwi’n synnu efo’u newid meddwl.
Ta waeth, p’un a ydych chi’n cytuno â fi ai peidio, dyma fy
marn ddidwyll i ar yr ymgeiswyr.
Leanne Wood
Dydi hi ddim yn newyddion nad ydw i’n ffan o Leanne Wood fel
arweinydd. Dwi wedi sôn am y pethau sawl tro dros y blynyddoedd diwethaf yma,
yma,
yma ac yma.
Ofer imi fynd dros yr un hen ddadleuon felly; erys imi bob beirniadaeth
flaenorol yn berthnasol o hyd. Ond mae jyst ambell beth i’w nodi yn ystod y
ras.
·
Leanne Wood wnaeth y sialens i bobl i’w herio.
Ar ôl i hynny ddigwydd mae hi’n amlwg yn hollol pissed off efo’i dau wrthwynebydd (Adam Price yn benodol) am
feiddio ateb yr her. Roedd gwneud y sialens ynddo’i hun hefyd jyst yn arwydd
arall o ddiffyg crebwyll gwleidyddol Leanne Wood, y mae’r enghreifftiau ohonynt
yn niferus.
·
Roedd yn berffaith amlwg ar Sharp End, ac yn ôl yr adar bach yn ystod yr hystings, fod y gagendor
rhwng Leanne Wood a’r ddau arall yn fawr, o ran syniadau ac o ran y gallu i
gyfathrebu. Dyna pam fod troad wedi bod yn y ras ei hun. Ond nid Leanne sydd
wedi perfformio’n arbennig o wael mewn dadleuon, yn hytrach, mae hi wedi
digwydd dod yn erbyn dau berson sy’n sylweddol well dan y fath amodau na hi.
·
Y mae ei thactegau hi dros y ras wedi bod yn
annifyr – mae hi wedi canoli ei hymgyrch o gylch fod yn wrth-Doriaïdd (teg
iawn) ond gan ensynio’n gryf y byddai Rhun ap Iorwerth neu Adam Price yn ddigon
hapus i’w gwahodd i lywodraeth, er bod y ddau wedi bod yn gwbl glir na wnaent
weinidogion o Geidwadwyr. Gwleidyddiaeth fudur ydi honno.
·
Mae ei hobsesiwn efo’r Rhondda yn mynd ar nerfau
pobl erbyn hyn – mae hi’n fwyfwy crebachu’n AC etholaethol nag yn arweinydd Cymru
gyfan.
·
Os mae Leanne Wood yn ennill bydd Plaid Cymru’n
cael ei hanalluogi fel Llafur dan Corbyn. Mae’r gefnogaeth iddi ymhlith aelodau
etholedig (nid cynghorwyr) yn drybeilig o wan. Mae’n amlwg nad ydi’r bobl sy’n
gorfod gweithio gyda hi fwyaf yn hyderu ynddi. Petasen nhw, mi fyddai ganddi
fwyafrif clir ohonynt yn datgan eu cefnogaeth iddi.
Mae’n annheg cyfeirio at gyfnod Leanne Wood wrth y llyw fel ‘arbrawf’.
Doedd o ddim yn arbrawf – hi enillodd y ras. Nid ‘methiant o arbrawf’ fu ei
hethol. Jyst methiant fu ei harweinyddiaeth hyd yma.
Adam Price
Mi allech chi ysgrifennu traethawd am Adam Price. Un hir a
difyr. Mae o’n sicr yn enigma yng ngwleidyddiaeth Cymru. Mae ganddo garisma,
mae ganddo syniadau, mae o llawn egni. Dwi’n parchu Adam Price yn fawr.
Rŵan, o ran syniadau fodd bynnag, mae Adam bach yn hit and miss. I fod yn deg, mae o’n lot
mwy hit na miss ond mae’r misses yn
gallu bod yn eithaf
mawr ac yn eithaf aml.
Hynny ydi, mae’n o’n cael ambell sdincar, ond dydi hynny ddim o reidrwydd yn
feirniadaeth. Mae’n dangos byrbwylledd ac efallai mymryn o ddiffyg crebwyll
gwleidyddol, ond os oes angen syniadau ar unrhyw wlad yn y byd, Cymru ydi’r
wlad honno. Dywedodd AP ar y Sunday Politics Wales sbel yn ôl na fyddai o fyth
yn ymddiheuro am fod yn ddyn syniadau, ac ni ddylai ychwaith. Ond fedra i ddim
ond â chael yr argraff y byddai well iddo eistedd lawr a meddwl pethau drwodd
yn fwy trylwyr cyn eu cyhoeddi i’r byd a’r betws.
Dydw i ddim yn gwybod beth yn union sy’n digwydd ym mhen
Adam, ond dwi’n gwybod nad ydw i’n ddigon clyfar i ddallt. Roedd ei gynigion
diweddar ar chwyldroi’r system dreth yn anhygoel. Fedra i ddim rhoi sylw ar eu
hymarferoldeb na dim felly, ond dwi’n parchu pobl yn meddwl mewn ffordd gwbl
wahanol, arloesol.
Ond mae un consyrn penodol sydd gen i am arweinyddiaeth
bosibl Adam Price (a dwi’n meddwl y byddai’n rhaid iddo wir weithio ar hyn
petai’n ennill). Nid ei syniadau na’i feddwl rhagorol ydi’r rheiny na’i garisma
diymwad – ond ei allu i gyfleu pethau i bobl gyffredin.
Un o leins gorau diweddar Price oedd ar y rhaglen Sunday
Politics Wales y cyfeiriais ati uchod. Wales
is an oasis of stasis in a sea of change. Mae honno’n chwip o frawddeg. Mae
hi’n wych ac yn wir a does gen i ddim amheuaeth y byddai’r rhan fwyaf o bobl sy’n
darllen hwn yn cytuno. Y broblem ydi byddai’r rhan fwyaf o bobl yn clywed hynny
ac yn meddwl ‘be ffwc?’ – a dyna’r broblem. Dwi’n amau gallu Adam Price i
gyfleu ei weledigaeth a’i syniadau i’r lliaws a’u gwerthu mewn ffordd
ddealladwy. Dydi Plaid Cymru ddim angen canolbwyntio ar bolisïau (er bod eu
hangen arnynt) ond yn hytrach ei neges, a dwi’n poeni y gallai’r Blaid dan Adam
Price gael ei gorlethu â pholisïau ar draul neges. Dyna, bosib, un o’r pethau
aeth o’i le yn 2016.
Rhun ap Iorwerth
Mae ‘na rai sy’n gweld Rhun ap Iorwerth fel ychydig bach o ‘Plaid
Cymru’n mynd ôl at fel yr oedd’ ond mae honno’n ddadl wan. Efallai bod RaI yn
dod drosodd fel gormod o steady hand
ond mi ddadleuwn i nad ydi hynny’n wir. Wedi’r cyfan, dechreuodd ei yrfa
wleidyddol drwy adael swydd fras yn y BBC i sefyll mewn isetholiad nad oedd
unrhyw sicrwydd y byddai’n ei ennill. Roedd honno’n risg bersonol ac roedd
hynny’n cymryd gyts i’w wneud – anodd peidio â parchu hynny. Digwydd bod, mi
chwalodd ei wrthwynebwyr y tro hwnnw, ac yn 2016 roedd o’n sefyll ar fwyafrif
mwyaf Cymru, gan drechu Llafur a’r Ceidwadwyr ill dau yn y rhannau o Fôn y maen
nhw gryfaf. Hynny mewn etholiad pan ostyngodd pleidlais y blaid mewn dros
hanner o etholaethau’r wlad
Yr un mater sydd wedi codi’i ben wrth drafod Rhun yn gyson
wrth gwrs ydi Wylfa ac ynni niwclear. Mae Adam Price a Leanne Wood wedi ceisio
manteisio ar hynny, ond dydw i ddim yn siŵr os ydyn nhw wedi llwyddo. Y gwir
ydi, dydw i erioed wedi clywed Rhun ap Iorwerth yn canu clodydd ynni niwclear;
i’r gwrthwyneb, mae’n gryf dros ynni adnewyddadwy. Efallai ei fod mewn sefyllfa
anodd yn ei etholaeth ei hun ond mae o wastad wedi bod yn ymarferol – os ydi
Wylfa newydd yn gorfod digwydd, rhaid
gwneud y gorau ohoni. Mae hynny’n rhesymol, a dwi’n parchu rhesymoldeb.
Dydi’r naratif sydd wedi ceisio cael ei roi o’i gylch am fod
yn ddyn â diffyg syniadau ddim yn un teg chwaith. Mae gan Rhun syniadau, gall
unrhyw un sy’n gwrando arno wybod hynny. Ond gall Rhun hefyd gyfleu neges ac
mae’n berffaith amlwg ei fod yntau’n deall taw’r neges sydd bwysicaf mewn gwleidyddiaeth. Wrth gwrs mae angen ei
hategu gan bolisïau a syniadau, ond negeseuon, nid maniffestos, sy’n ennill
etholiadau.
A phwy well na chyn-ddarlledwr i gyfleu’r neges honno mewn
difri? Dydi o ddim yn syfrdan fod Rhun yn dda ar y teledu ac yn ôl y sôn wedi gwneud
argraff fawr ar gynulleidfaoedd yr hystings gyda’i allu i gyfathrebu. Ond yr
hyn y galla i weld Rhun ap Iorwerth yn ei wneud ydi siarad efo pobl gyffredin o
bob cwr o’r wlad fel na alla i ddychmygu’r ddau ymgeisydd arall yn ei wneud, os
dwi’n onest.
Mewn adeg wleidyddol wallgof, mae’n bwysig cael lleisiau
call. Mae Rhun ap Iorwerth yn llais call. Peidiwch â diystyru’r fath gryfder yn
y cyfnod sydd ohono.
Mae hefyd wedi rhoi pwyslais mawr ar gynnwys cynifer o bobl
yn rhengoedd y Blaid â phosibl. Eto, mae hyn jyst yn strategaeth gall, nid mwy
na llai. Does dim angen i’r Blaid o reidrwydd symud i’r canol gwleidyddol, ond
mae’n bwysig i bobl o bob math (o fewn rheswm) sy’n coelio mewn annibyniaeth
deimlo’n gyfforddus oddi mewn iddi a thaw hynny yw ei chanolbwynt a all uno’r
lluoedd. A Duw ag ŵyr, mae dirfawr angen ar Blaid Cymru mwy o manpower.
Casgliad
Leanne Wood ydi’r
continuity candidate. Mae o i fyny i aelodau’r
Blaid a ydyn nhw am i’r 6 blynedd diwethaf barhau a ph’un ai a ydyn nhw’n
fodlon ar le y maen nhw rŵan fel plaid. Os ydi’r aelodaeth yn fodlon ar eu
sefyllfa bresennol, mae’n dangos imi fod y Blaid mewn lle cwbl anobeithiol.
Byddai Adam Price
yn dod ag egni a syniadau i’r arweinyddiaeth. Byddai’n gallu apelio’n ehangach
na Leanne Wood. Byddai o’n ffyrnig mewn dadleuon teledu ac yn y Senedd. Ond mae
ei fyrbwylledd chwedlonol yn risg i’r Blaid. Ai risg, yng ngwir ystyr y gair,
sydd ei hangen arni? Ai byrbwylledd mewn cyfnod mor fyrbwyll ydi’r ffordd
ymlaen?
Yn fy marn i, Rhun ap
Iorwerth ydi’r ymgeisydd cywir ar yr adeg hon. Gall gyfleu neges a deall
pwysigrwydd gwneud hynny. Gall siarad â phobl ac o flaen y camerâu. Gall hefyd
wrando ar syniadau eraill a chydweithio pan fo angen. Mae’n gall, ond wedi
dangos y bydd yn cymryd risg, hyd yn oed un bersonol, pan fo’r cyfle’n codi.
Gall yn sicr hefyd ymestyn apêl y Blaid.
Fy hun, mae’n berffaith glir pwy ydi’r dewis gorau. Gall
sefyllfaoedd newid. A phan fo sefyllfaoedd newid, gellir bod angen pobl newydd.
Ond ar gyfer y sefyllfa wleidyddol sydd ohoni, Rhun yw’r un.