giovedì, febbraio 02, 2006

Colli crib, colli urddas

Dw i mor bôrd. Dw i wedi cael diwrnod blinedig a mae'n llaw i'n brifo wedi imi geisio taro Kinch, dim ond i'm llaw daro'r ffrij. Dw i'm yn licio llaw 'fo briw.

Dechreuodd y diwrnod efo 'Cymraeg I Oedolion'. Sef fi. Sorted. 'Hanes yr Iaith' yn uffernol o ddiflas. Son am hanes geiriaduron a ballu. Ffwc ots gen i. Dio'm help fod fy narlithydd yn obsesd efo gramadeg oedd RHAID iddo ddod a fo mewn i ffycin 'Hanes yr Iaith' doedd? A wedyn Cynllunio Ieithyddol gyda Colin Williams. Mae'n edrych i fod yn ddiddorol ond mae gan Colin Williams lais rhy swynol: oeddwn i'n teimlo'n high am awr yn gwrando arno. (O.N. dw i ddim yn ffansio Colin Williams, sylwebu ar ei lais ydw i. Dallt?)

A p'nawn 'ma fe gefais i arholiad stiwpid efo Sgriptio a do'n i methu a sgwennu'n dda iawn efo fy llaw ffrijbrifiedig. Oeddwn i'n eitha meddw neithiwr, a dweud y gwir. Dw i'n f'ystafell yn gwrando ar Dafydd Iwan ac yn gwisgo fy nghap Rwsiaidd. Mae hyn oherwydd dw i newydd olchi fy ngwallt ac os na'i wisgaf mae fy ngwallt yn mynd yn wallgof i bob man. A dw i wedi colli fy nghrib. Sy'n stiwpid. Dw i'm wedi brwsio fy ngwallt ers oes pys rwan. Dim rhyfadd dw i mor minging.

Beth bynnag, dw i wedi blino. Mi ddeffrois yn fuan (am 9) a dw i'n teimlo fel crempog (yn gwisgo het Rwsiaidd ac yn gwrando ar Dafydd Iwan). Dim yn aml fyddai'n teimlo felly, chwaith.

martedì, gennaio 31, 2006

Lobsgows, Lowri Dwd a babanod drewllyd

Ew, gennai lu o straeon i chi heddiw! Yn gyntaf dwisho brolio fy mod i wedi gwneud lobsgows o rhyw math hyfryd neithiwr a chytunasant bawb oll gyda mi. Ond, ar y cyfan, dyddiau annifyr y bu'r rhai diwethaf, yn enwedig wedi'r parti lle'r unig ddiddanwch imi'n bersonol oedd fy nain Eidaleg yn popio balwns a mynd yn gyffredinol wallgo (I 'ave to 'ave something to do, dywedodd) a chwerthin fel injan car sy cae dechrau.

Dechreuodd wrth i mi a Gwenan wneud ein ffordd i lawr o Gaer i Gaerdydd. Mae Amwythig, fel y tybiais, yn crap. Ond roedd y tren i Gaerdydd yn ORLAWN a roeddwn i'n sefyll yn y darn rhwng y carijys: wrth y toiled. A dyma rhyw foi a babi yn mynd mewn 'na a dod a allan a ffycin hel oedd 'na ddrewdod. Arclwy' oni'n teimlo'n sal. Dw i wedi dweud cant a mil o weithiau mae babanod yn sgym, ond roedd hwnnw'n afiach. Fo fydd y plentyn drewllyd yn y gornel 'sneb yn licio sy'n pigo'i drwyn ac yn bwyta clai. Ych a fi, cont iddo fo. Wedyn mi gefais bleser cwmni Huw Psych pan fu imi ffeindio lle i eistedd, wrth i ddyn dros y ffordd taro golygon milan arnom a'n hiaith estronol, anwar.

Heddiw mae'n ben-blwydd ar Lowri Dwd, Dwd mwyaf enwog Llanrwst a Thrwyn enwocaf y Gym Gym. Pen-blwydd hapus, Lowri ... byddwn i'n ddweud oni bai am yr ARTAITH mae hi wedi'n rhoi i drwodd heddiw! O. Mai. God. Tyrd efo fi i'r ddarlith cynta 'ma dw i efo, ella mond fi fydd yno a ella nei di newid i'r modiwl yma. Iawn, Lowri, f'anwylyd, i ti mi a wnaf.
Felly fe euthum i ddarlith I Fyd Y Faled (am deitl ponslyd!), cyn iddi Hi sylweddoli nad oedd Hi ychwaith wedi cofrestru i'r ddarlith, ac felly ddim angen bod yno ei hun. Mae'n un peth mynd a rhywun i ddarlith dydyn nhw ddim yn gwneud y modiwl, ond i fynd a rhywun i ddarlith does yr un ohonoch chi ynddo? W. Oni'n flin. Blin iawn. Yn enwedig o ystyried bod ein darlithydd (sy'n hynod annwyl a blewog) wedi gofyn imi o flaen pawb os oeddwn i'n canu baledau ar y carioci.

Do'n i'm yn rhyw hapus iawn yno achos oeddwn i'n drewi o genin a roddais i mewn i'r bwyd neithiwr drwy'r ddarlith. Felly gwell mi olchi 'nwylo.

sabato, gennaio 28, 2006

Ieeeei! Chwech diwrnod o flogio a dw i'm yn gorfod gwneud dim mwy! Diolch i Dduw achos dw i'n rhedeg allan o straeon i'w hadrodd. Wir-yr.

Oni'n Morrison's Bangor heddiw; roedd Mam wedi gyrru fi yno er mwyn cael 'chydig mwy o fwyd i'r parti fawr heno. Wel, breaded mushrooms, beth bynnag. Oeddwn i'n teimlo fel nob yn mynd rownd Morrison's yn chwilio amdanynt, a ches i mo hyd iddyn nhw a roedd gen i ormod o ofn gofyn "Sgiws mi, lle mae'r breaded myshrwms?" a mynd i'r tiliau efo dau fag ohonynt. Dw i'm isho neb meddwl 'na vegan dwi na'm byd (dyna pam dw i am gael Mam i wneud bechdan wy a bacwn imi rwan).

So dyna ddiwedd fy wythnos wirion i. Mae'n straen enfawr meddwl am beth fedrwn i falu cachu am yma yn ddyddiol so mi ga'i egwyl bach haeddianol rwan gobeithio (= welai chi 'fory).

Mi a gefais i caniau Fosters yn ty ben fy hun neithiwr yn gwylio The Two Towers fel lonar yn y sdydi. Felly yfaf i ddim heno achos dw i'n gyrru a rhyw gachu fel 'na. Fy mharti sobor gyntaf erioed. Mae nhw ddigon drwg fel arfer ond yn SOBOR! Erchylldra bydded. Mae'n argoelus ac yn fy mrawychu. A dw i rili, rili, rili isho meddwi'n gachu.

venerdì, gennaio 27, 2006

Problemau Seicolegol

Dw i wedi ffwndro'n uffernol heddiw. Dw i jyst ddim yn gwybod be ddiawl dwi'n gwneud. Dw i wedi bod yn ista o flaen teledu drwy'r p'nawn yn gwylio hen fideos 'dan ni wedi recordio: pethau fel Ewoks a Henry's Cat. A mae nhw 'di mlino o yn fwy na dim, a mae 'mhen i'n crafu.

Pan fydda i'n bord dw i yn gwneud rhywbeth eitha wiyrd. Rhyw fath o condition ydi o dw i'n sicr achos dydi o'm yn normal, a dim ond un person arall dw i'n eu hadnabod sy'n (cyfadda) gwneud yr un peth a fi. Mae'n un peth siarad gyda ti dy hun, ond dw i'n siarad efo pobl sy ddim yna. Ia, fydda i'n smalio bod rhywun yno (bob amser rhywun dw i'n eu hadnabod, a dw i'n eu dewis ar sail be dw i'n fwydro am) a'n siarad iddyn nhw. Dw i 'di gneud hynny erioed. Oes 'na air ar ei chyfer (heblaw am wiyrd)? Fydda i'n ei wneud pan dw i 'di diflasu. A dw i wedi'n uffernol. Dw i'm wedi meddwi ers Ddydd Gwener ddiwethaf ac angen gwneud. A maen nerfau i'n racs heb sigarets, wrth gwrs.

Wel, yfory mae parti'r chwaer a wedi hynny mi ga'i ddychwelyd. Ond ga i'm meddwi achos fydd gennai ffycin darlithoedd. Dw i'n casau ehangu fy ngwybodaeth; dw i'n hapus efo be dw i'n gwybod yn barod. Dim byd yn benodol, ond y math o wybodaeth sy'n ennil punt ar y periannau cwis yn y pyb. Digon da, tydi?

Heno bydd pawb yng Nghaerdydd yn meddwi. Ffycars. Dw i am wylio teledu ac yfed Irn Bru. Dw i onast tw God yn tempted mynd a phrynu cwrw o Londis jyst er mwyn cael lysh o rhyw fath. Dw i'n mygu mewn sobrwydd. Mae'n brifo'r meddwl a'r galon (mae'r iau yn eitha hapus de, ond ffwcia fo).

giovedì, gennaio 26, 2006

Queen

Dw i'n dal at fy addewid o flogio beunyddiol drwy'r wythnos. A dw i dal i gasau'r sock mynci (bastad!!!). Ond dw i'n teimlo'n well heddiw, a dw i wedi bwcio tocyn tren at Ddydd Sul o Gaer i Gaerdydd. Mae 'na stop am awr yn yr Amwythig, sydd probabli y lle gwaethaf yn y byd i stopio am awr dw i'n dyfalu. Y llefydd gwaethaf dw i wedi gorfod stopio am amser sylweddol ydi Crewe a Bryste. Fues i'n Bryste am awr bryd hynny ar fy ffordd o Fangor i Reading. Eshi off yn Birmingham bai mistec de, a fues i hanner ffordd rownd yr ynys cyn cyrraedd y benodedig fan.

Ia, wedi'i fwcio felly. Mae gorsaf drenau Bangor yn lle rhyfedd ac annifyr: mae'n drewi o rech (YDI MAE O) a mae 'na boi sy'n edrych ac yn siarad fel fel Roy Cropper o Coronation Street yn gweithio yno (YDI MAE O). Tybed a oes cysylltiad?

O realiti, ac mae'r cyfnod hwn o freuddwydion gwirion yn dal i fynd yn ei flaen. Geshi freuddwyd fy mod i (ynghyd a Dyfed a Haydn am rhyw reswm) yn rhan o gast Queen: The Musical, a oedd yn cael ei gyfarwyddo gan Simon Cowell (a ddywedodd fy mod i'n ddawnsiwr o fri: dw i yn, yn mynd 'tha DI ar speed yn Clwb nos Sadwrn, weda i 'tho ti!). Dw i'm yn cofio llawer mwy ond fy mod i wedi gwisgo fyny fel boi o Clockwork Orange a'm jaced i'n rhy dynn amdanaf.

Ond fe wyddwn i o le y tardda'r freuddwyd hwn. Oeddwn i'n ty ddoe yn stwnshian ac yn canu i fi'n hun cyn dod ar draws rhaglen Queen: The Musical yn y cyntedd. A mae Haydn wastad yn son am y blwmin peth. A dwisho mynd i'w weld - yr unig sioe gerdd yn hanes y ddynolryw sydd gennai ronyn o chwant eisiau ei gweld. Gas gennai sioeau cerdd: mae'i wreiddiau o'r adeg y bum yn ddisgybl yng Nglanaethwy am flwyddyn. Ond aeth Cefin yn flin gyda fi unwaith a pwdais a cwitio (wel, rhywbeth fel 'na).

Mi awn i rwan a gwastraffu gweddill fy niwrnod yn mynd i rhoi petrol yn car a yfed paneidiau diddiwedd. A smalio mai Freddie Mercury ydwi, a mynd rownd y lle yn canu 'I Want To Break Free' efo un o sgertiau'r chwaer.

mercoledì, gennaio 25, 2006

Dal yn 5ed o Awst

Ffycin cyfrifiadur sdiwpid.

Ella neith llun o fwnci godi'n hwyliau:




Wel dydi o ffycin ddim dw i'n tepio mewn 'monkey in a suit' er mwyn meddwl ho ho doniol bydded hynny a dw i'n cael 'sock monkey'. BE FFWC YDI SOCK MONKEY?

Dw i'n blino'n hun rwan. A mae trenau Dydd Sul i Gaer o Fangor yn cansyld, dw i'n gorfod cyrraedd Gaer rhywsut yn gyntaf. A mae 'na stop yn Amwythig a fyddai'm yno tan yr hwyrnos.

Casau trenau. Casau sock mynci. Grrr!