Ew, gennai lu o straeon i chi heddiw! Yn gyntaf dwisho brolio fy mod i wedi gwneud lobsgows o rhyw math hyfryd neithiwr a chytunasant bawb oll gyda mi. Ond, ar y cyfan, dyddiau annifyr y bu'r rhai diwethaf, yn enwedig wedi'r parti lle'r unig ddiddanwch imi'n bersonol oedd fy nain Eidaleg yn popio balwns a mynd yn gyffredinol wallgo (I 'ave to 'ave something to do, dywedodd) a chwerthin fel injan car sy cae dechrau.
Dechreuodd wrth i mi a Gwenan wneud ein ffordd i lawr o Gaer i Gaerdydd. Mae Amwythig, fel y tybiais, yn crap. Ond roedd y tren i Gaerdydd yn ORLAWN a roeddwn i'n sefyll yn y darn rhwng y carijys: wrth y toiled. A dyma rhyw foi a babi yn mynd mewn 'na a dod a allan a ffycin hel oedd 'na ddrewdod. Arclwy' oni'n teimlo'n sal. Dw i wedi dweud cant a mil o weithiau mae babanod yn sgym, ond roedd hwnnw'n afiach. Fo fydd y plentyn drewllyd yn y gornel 'sneb yn licio sy'n pigo'i drwyn ac yn bwyta clai. Ych a fi, cont iddo fo. Wedyn mi gefais bleser cwmni Huw Psych pan fu imi ffeindio lle i eistedd, wrth i ddyn dros y ffordd taro golygon milan arnom a'n hiaith estronol, anwar.
Heddiw mae'n ben-blwydd ar Lowri Dwd, Dwd mwyaf enwog Llanrwst a Thrwyn enwocaf y Gym Gym. Pen-blwydd hapus, Lowri ... byddwn i'n ddweud oni bai am yr ARTAITH mae hi wedi'n rhoi i drwodd heddiw! O. Mai. God. Tyrd efo fi i'r ddarlith cynta 'ma dw i efo, ella mond fi fydd yno a ella nei di newid i'r modiwl yma. Iawn, Lowri, f'anwylyd, i ti mi a wnaf.
Felly fe euthum i ddarlith I Fyd Y Faled (am deitl ponslyd!), cyn iddi Hi sylweddoli nad oedd Hi ychwaith wedi cofrestru i'r ddarlith, ac felly ddim angen bod yno ei hun. Mae'n un peth mynd a rhywun i ddarlith dydyn nhw ddim yn gwneud y modiwl, ond i fynd a rhywun i ddarlith does yr un ohonoch chi ynddo? W. Oni'n flin. Blin iawn. Yn enwedig o ystyried bod ein darlithydd (sy'n hynod annwyl a blewog) wedi gofyn imi o flaen pawb os oeddwn i'n canu baledau ar y carioci.
Do'n i'm yn rhyw hapus iawn yno achos oeddwn i'n drewi o genin a roddais i mewn i'r bwyd neithiwr drwy'r ddarlith. Felly gwell mi olchi 'nwylo.
Nessun commento:
Posta un commento