giovedì, gennaio 19, 2006

Cyn Arholiad


Dyma chi flas ar fy myd cyn arholiad. Mae hi'n hanner awr wedi unarddeg, a mae fy arholiad i am un. Dydw i heb ddechrau adolygu, ac afraid dweud ei bod braidd yn rhy hwyr dechrau. A dweud y gwir bu ond imi ddeffro am unarddeg achos dw i wedi blino'n ddiweddar. Pwysau arholiadau yn drwm arnaf; mor ddrwm fel fy mod i heb adolygu iot, gorffen off y Budweiser a slobian o gwmpas am wythnos gyfan.

Ydwyf, dw i'n rhy laid back. Dyna fy mhrif broblem (mae Rhys yn flin fy mod i'n ormodol felly). Ond dw i'n fwy consyrd efo bwcio Prâg a phwdu oherwydd does neb arall yn y tŷ i siarad gyda ar y funud ... mae pawb yn adolygu neu'n gwneud traethodau neu waith o rhyw lun neu modd yn fy ngadael i o flaen y teledu yn synfyfyrio sut ddiawl mae Cai Pobol Y Cwm wedi endio fyny ar hysbysebion Extra.

Reit gwell i mi fynd a pharatoi. Mi fyta i afal rwan - mae afal yn well na cwpan o goffi i'ch deffro, ac yn addasach imi oherwydd mae'n iachach (a dw i ddim) a dw i'm yn hoffi coffi beth bynnag.
Ffyc, chwarter i ddeuddeg. Gwell mi neud mŵf.

Nessun commento: