martedì, gennaio 24, 2006

5ed Awst, 2005

Dyna di'r dyddiad yn ôl y darn o grap o gyfrifiadur 'ma. Dw i'n parhau gyda'r ymdrech i ygrifennu blog y diwrnod tan Ddydd Sadwrn, lle cawn fy olaf gwyn yr wythnos hwn, ond mai'n eithaf anodd dod i fyny efo rhywbeth gwerth ei ddarllen os nad ydych chi'n gwneud dim. Afraid dweud nad oes gennai fawr o werth i'r ddweud beth bynnag.

Gorfod pigo Nain fyny wedyn. Mae Nain wastad yn gofyn sut mae pawb yng Nghaerdydd. Iawn fydda i'n dweud o hyd, er criw eithaf sal a llipa ydynt ar y cyfan. Ond dydi Nain byth yn cofio'u henwau, mae ganddi ei ffordd arbenning o gofio pob un...

  • Haydn - 'mab y canwr' (mae'n wyr i Trebor Edwards)
  • Kinch - 'Finch/Binch/Lynch/Sinch o Fodorgan' (unrhyw beth felly nad yw'n dechrau efo 'K'. Mae'n dod o Fodedern, nid Bodorgan)
  • Rhys - 'yr hogyn bach o Langefni'
  • Dyfed - 'yr hogyn bach arall o Sir Fôn'
  • Mike - 'yr hogyn main'
  • Owain - 'yr hogyn main efo sbecdols'
  • Lowri Dwd - 'Lowri'
  • Lowri Llew- 'Lowri arall efo'i nain ym Menllech, o Dalybont' (mae Lowri o Bontypridd)

Yno gorffenid unrhyw wybodaeth sydd ganddi am unrhyw un yn coleg dw i'n meddwl. Heblaw amdanaf i. Dydi Nain ddim cweit yn dallt sut mae o gymhwyster ydi'r Gymraeg, chwaith. Fel y dywedodd hi'r diwrnod o'r blaen:

Nain: Beth wyt ti am wneud ar ôl coleg?

Myfi: Dw i'm yn gwybod, Nain.

Nain: Beth am fod yn ddeintydd?

Myfi: Fedra i ddim, Nain, dw i'n neud Cymraeg.

Nain: Ia, wn i, ond mae nhw angen dentists Cymraeg, sti!

Nessun commento: