martedì, gennaio 17, 2006

Trefnu pethau ac arholiadau blah blah blah

Ac eithrio'r Blaid Lafur, Grolsch a phobl eraill, mae 'na ddau beth dw i'n eu casau yn y byd hwn: arholiadau a threfnu pethau. Gadewch imi ymhelaethu.

Trefnu. Fy ngwendid marwol ydyw. Clywed y dywediad couldn't organize a piss-up in a brewery? Mae hynny'n hollol weddus imi heblaw am y ffaith na fyddwn i'n medru cael hyd i fragdy yn y lle cyntaf, na neb i fynd yno, chwaith.

Felly sut ddiawl dw i am drefnu trip i Brâg? Oeddwn i fod wedi eisiau gwneud erbyn Ddydd Sadwrn ond aeth y pris i fyny. Wedyn dyma prisiau llefydd eraill ym Mryste a Chaerdydd yn mynd lawr, a wedyn mae nhw fyny eto heddiw a wedyn dydi pawb ddim yn fodlon ymrwymo'n hollol i'r daith. A pheidiwch a'm dechrau i ar hostel. Unwaith dw i wedi trefnu awyren dw i'n mynd adra am saib ynghanol y mynyddoedd a'r defaid. Dw i'n rhagweld yn iawn beth sydd am ddigwydd: mi wna i ffys mowr a endio fyny'n gwneud dim a gwario mis Ebrill yn Gerlan hytrach na Phrâg. Mae i'n criw ni dueddiad gwirion erioed o ddweud pethau mawr a gwneud pethau bach.

Arholiadau wedyn. WEL doeddwn i'm yn gwybod pa un oedd gen i tan neithiwr oeddwn i wedi drysu cyn gymaint! (Drysu = peidio boddran tsiecio be sy phryd). Pawb arall yn y lle efo rhyw geiriaduron mawr a'r math. Beiro oedd gen i. Eshi allan yn fuan 'fyd, yn teimlo'n iawn a gyrru adra gan bloeddio ganu i'm hun. A rwan mae ngwddf i'n stiff achos oedd 'na ddrafft eitha creulon yno, a minnau mewn top Maes E. Ha!

Dim ots dweud y gwir, achos Duw a wyr yn unig lle orffena i fyny. Ond mi fetia i fydd o'm yn blydi Prâg.

Nessun commento: