Aaaaaah. Dim traethawd. Dyna 'di teimlad gorau'r byd! Mae gennai arholiad Ddydd Llun nesaf felly mi fedraf i gael wythnos o wneud diawl o ddim (adolygu? Ha! Lwcus bod darlithwyr Cymraeg yn greaduriaid rhy parchus i gael gwefan fel hwn ar eu Ffefrynnau!). Na, mi ddois mewn wedi rhoi'r sglyf beth i mewn yn y glaw a chael cawod (gan ddefnyddio'r hairdryer 'na ges i dros 'Dolig) a ceisio gwneud fy hun yn ddel ac ati. Bu bron iddi weithio, ond mae gen i ddolur annwyd unwaith eto wedi nos Sadwrn.
Dw i'm yn un sy'n hoff o law. Na haul. Dw i'n licio hi'n eitha dwl ar y cyfan ond yn glos 'fyd, mai'n ddiwrnod da am banad a bechdan yn y cynhesrwydd, os ydach chi'n deall be 'sgen i. Gwell imi rhoi rhywfaint o ddwr i'r planhigyn 'ma sy'n f'ystafell hefyd, achos dydi hi'm 'di cael diod ers cyn 'Dolig (mai dal yn fyw chwara teg) a dw i'm yn meddwl ei bod hi wedi gweld hwyneb yr haul erioed (Kinch yw ei henw hi, gyda llaw, ond dydi'r Kinch yma ddim yn streitnio'i gwallt. Yn rhannol oherwydd mai planhigyn yw hi, yn de).
Nessun commento:
Posta un commento