Mae gennai deimlad fy mod i am flogio pob dydd wythnos yma. Ydi, mae'r cyfrifiadur yn Rachub yn araf a mwy na thebyg wedi ei llunio ar gyfer yr henoed a phobl araf yn gyffredinol, ond dw i dal am flogio ACHOS 'SGEN I'M BYD I'W WNEUD. Mae pawb, PAWB yn y byd wedi mynd i'w prifysgolion a mae'n unig yma, a dw i ddim rili isho mynd beint efo Dad, chwaith.
Dw i'n gorfod gyrru Nain i bob man achos does ganddi ddim leisians gyrru ar y funud, sy'n iawn heblaw am y ffaith ei bod hi'n neindio o amgylch y car os mae 'na rwbath tua 50 llath o'm mlaen yn stopio neu bod y gwynt yn gryf. A mae'r hen diar yn mwydro. Cefais i wybod holl gynnwys Beti a'i Phobl diwrnod o'r blaen am 'yr hogyn yma o Lanrwst nath hapnio mynd i jel ac oedd o ar drygs a ballu'. Anodd iawn ydi ceisio gyrru a gwrando ar Nain yn siarad. Mae'n gallu bod yn anodd gwrando ar f'annwyl Nain o gwbl weithiau. Oedd hi'n mynd drwy fy ngheiriadur gynnar ac yn pwyntio allan mai Chwefror ydi February.
Mae'r egni ynof yn wan ar y funud. Afraid dweud dw i'n difaru dod adra mor fuan cyn pen-blwydd fy chwaer (a fel y gwyddoch dw i'm yn edrych ymlaen i hwnnw chwaith). A dwi jyst newydd bod ar y ffon efo Gwenan am trenau Ddydd Sul a dywedodd hi "wn i ddim dweud y gwir achos nath rhyw Paki atab y ffon a geshi'm sens allan ohono fo" felly dydw i ddim callach pryd yn union dw i'n dychwelyd.
Bywyd? Overrated.
Nessun commento:
Posta un commento