Dw i wedi ffwndro'n uffernol heddiw. Dw i jyst ddim yn gwybod be ddiawl dwi'n gwneud. Dw i wedi bod yn ista o flaen teledu drwy'r p'nawn yn gwylio hen fideos 'dan ni wedi recordio: pethau fel Ewoks a Henry's Cat. A mae nhw 'di mlino o yn fwy na dim, a mae 'mhen i'n crafu.
Pan fydda i'n bord dw i yn gwneud rhywbeth eitha wiyrd. Rhyw fath o condition ydi o dw i'n sicr achos dydi o'm yn normal, a dim ond un person arall dw i'n eu hadnabod sy'n (cyfadda) gwneud yr un peth a fi. Mae'n un peth siarad gyda ti dy hun, ond dw i'n siarad efo pobl sy ddim yna. Ia, fydda i'n smalio bod rhywun yno (bob amser rhywun dw i'n eu hadnabod, a dw i'n eu dewis ar sail be dw i'n fwydro am) a'n siarad iddyn nhw. Dw i 'di gneud hynny erioed. Oes 'na air ar ei chyfer (heblaw am wiyrd)? Fydda i'n ei wneud pan dw i 'di diflasu. A dw i wedi'n uffernol. Dw i'm wedi meddwi ers Ddydd Gwener ddiwethaf ac angen gwneud. A maen nerfau i'n racs heb sigarets, wrth gwrs.
Wel, yfory mae parti'r chwaer a wedi hynny mi ga'i ddychwelyd. Ond ga i'm meddwi achos fydd gennai ffycin darlithoedd. Dw i'n casau ehangu fy ngwybodaeth; dw i'n hapus efo be dw i'n gwybod yn barod. Dim byd yn benodol, ond y math o wybodaeth sy'n ennil punt ar y periannau cwis yn y pyb. Digon da, tydi?
Heno bydd pawb yng Nghaerdydd yn meddwi. Ffycars. Dw i am wylio teledu ac yfed Irn Bru. Dw i onast tw God yn tempted mynd a phrynu cwrw o Londis jyst er mwyn cael lysh o rhyw fath. Dw i'n mygu mewn sobrwydd. Mae'n brifo'r meddwl a'r galon (mae'r iau yn eitha hapus de, ond ffwcia fo).
Nessun commento:
Posta un commento