Dw i mor bôrd. Dw i wedi cael diwrnod blinedig a mae'n llaw i'n brifo wedi imi geisio taro Kinch, dim ond i'm llaw daro'r ffrij. Dw i'm yn licio llaw 'fo briw.
Dechreuodd y diwrnod efo 'Cymraeg I Oedolion'. Sef fi. Sorted. 'Hanes yr Iaith' yn uffernol o ddiflas. Son am hanes geiriaduron a ballu. Ffwc ots gen i. Dio'm help fod fy narlithydd yn obsesd efo gramadeg oedd RHAID iddo ddod a fo mewn i ffycin 'Hanes yr Iaith' doedd? A wedyn Cynllunio Ieithyddol gyda Colin Williams. Mae'n edrych i fod yn ddiddorol ond mae gan Colin Williams lais rhy swynol: oeddwn i'n teimlo'n high am awr yn gwrando arno. (O.N. dw i ddim yn ffansio Colin Williams, sylwebu ar ei lais ydw i. Dallt?)
A p'nawn 'ma fe gefais i arholiad stiwpid efo Sgriptio a do'n i methu a sgwennu'n dda iawn efo fy llaw ffrijbrifiedig. Oeddwn i'n eitha meddw neithiwr, a dweud y gwir. Dw i'n f'ystafell yn gwrando ar Dafydd Iwan ac yn gwisgo fy nghap Rwsiaidd. Mae hyn oherwydd dw i newydd olchi fy ngwallt ac os na'i wisgaf mae fy ngwallt yn mynd yn wallgof i bob man. A dw i wedi colli fy nghrib. Sy'n stiwpid. Dw i'm wedi brwsio fy ngwallt ers oes pys rwan. Dim rhyfadd dw i mor minging.
Beth bynnag, dw i wedi blino. Mi ddeffrois yn fuan (am 9) a dw i'n teimlo fel crempog (yn gwisgo het Rwsiaidd ac yn gwrando ar Dafydd Iwan). Dim yn aml fyddai'n teimlo felly, chwaith.
Nessun commento:
Posta un commento