lunedì, febbraio 13, 2006

Y Corff Yn Diffygio

Dw i'm yn licio'r nos. Methu cysgu ia. Neithiwr mi es i gwely am hanner 'di hanner, a tro diwetha imi edrych ar y cloc cyn llwyddo cysgu roedd hi'n chwarter i chwech. A wedyn mi ddeffroais am naw. Sy'n golygu fy mod i wedi blino gymaint nad ydw i wedi mynd i'm darlithoedd heddiw. Sy'n feri sad.

Cyn nos Sul roeddwn i wedi bod yn yfed ac wedi mynd yn hamyrd tair noson mewn rhes, ac erbyn Dydd Sul bu bron imi lewygu'n cegin y genod roeddwn i wedi blino cyn gymaint. Gyda pawb arall o'm cwmpas yn eitha meddw erbyn diwedd y p'nawn mi es i adra a tiwnio fy nheledu yn fy llofft (mai 'di bod 'na ers mis Medi heb ei thiwnio).

Nos Sadwrn ychydig o blyr, heblaw dw i'n cofio ista wrth ddiawl o ddynas hyll yn Dempseys ac yn galw hi 'y bastad' (dim i'w hwyneb, wrth reswm, roedd hi'n fwy na fi). A mae Clwb hefyd yn blyr ond mi wnes i ddisgyn i gysgu ar un pwynt a dwyn botel o Newci Brown off bwrdd rhywun cyn chwydu. A dw i dal i deimlo'n sal a dw i angen newid fy nillad gwely ond maesho mynadd efo gwneud hynny. Beth bynnag dw i newydd dacluso'n 'stafall i ddoe a dydi hi'm digon cluttered. Dw i'n licio clytyr, poeraf yng ngwyneb trefn, mi giciaf din taclusrwydd (cyn rhedeg i ffwrdd yn sydyn sydyn).

Rwan mi dw i am gwylio fy nheledu newydd-diwnedig drwy'r dydd a darllen a phigo nhrwyn.

Nessun commento: