Gad imi feddwl am y dyddiau diwethaf 'ma. Dydd Mercher aeth 'na griw ohonom i'r Cynulliad am dro. Mae'n adeilad eithaf cwl mewn ffordd anniddorol hynod, a medrwch chi weld o'r galeri nad ydyn nhw'n gwneud dim ond edrych ar eu cyfeiriadau hotmail ar y cyfrifiaduron (go iawn rwan. Dw i'm yn un am gelwyddau, oni bai eu bod o fudd imi yn ariannol neu'n rywiol). Y boi Llafur Gibbons oedd yn gwneud hynny. Yn eironig mi sylweddolais ei fodo'n edrych fel gibbon, hefyd:
Eniwe i bethau llai pwysig a nos Iau. Dyma myfi, Gentleman Jason, gyda fy ffrind, Lady Ceren, yn ceisio mynd am beint i'r Hilton ond doeddan nhw cae agor y bar inni felly aethon ni i'r Goat Major yn lle wedi inni ganu We're In The Money wedi inni fod yn y twll yn wal yn Cathays a thynnu allan ugain punt yr un. Y diwrnod wedyn dioddefais y penmaenmawr gwaetha dw i erioed wedi ei chael.
Dim rhyfedd nad oeddwn i isho mynd allan nos Wener (penmaenmawr oedd fy esgus ond go wir roedd gwario noson allan gyda Dyfed yn digon i droi'n stumog). Aethon ni i'r Hard Rock Cafe a dyma rhyw ddynas y dwad fyny atom. Any of you single? gofynnodd. Fi a Haydn. Can you go and tell my friend that she's beautiful because she's been through a tough time splitting up with her boyfriend blah blah blah. 'Na,' meddaf i, 'ewch o 'ma. Rydych chwithau'n hyll hefyd ac yn oglau fel pwdin reis.' (Clwyddau a dweud y gwir. Er mwyn cael allan ohoni a gadael i Haydn neud prat o'i hun mi ddywedais i fy mod yn negatif ac yn hoyw. Dw i yn negatif, ond ddim yn hoyw. Heddiw, eniwe.)
Wel mi eshi gysgu yn O'Neills beth bynnag cyn mynd i lle'r genod a stwffio Jaffa Cakes i fyny trwyn Lowri Dwd a chael Lowri Llew yn pestro fi eisiau gwneud wy wedi'i ferwi imi. Oeddwn i'n iawn, wedi gwario f'olaf dima ar 6 chicken mcnugget oer o Macdonalds.
Nessun commento:
Posta un commento