giovedì, giugno 04, 2009

Dyma hi

Wel, mae'r diwrnod mawr yma.

Dwi wedi pleidleisio eisoes. Dwi'n meddwl fi oedd y cyntaf i'r orsaf bleidleisio achos roedd y bobl wrthi'n gosod yr arwyddion i fyny. What a saddo.

Piti mawr bod yn rhaid disgwyl tan nos Sul i weld y canlyniadau, ond mi fydda i'n chwilio am sïon o rwan tan hynny heb os!

martedì, giugno 02, 2009

Mai'n rhy boeth ac mae Eluned Morgan yn mynd ar fy nerfau

Dwi ddim yn gwybod be dwi’n fwy blin am – Eluned Morgan yn wirioneddol, o waelod calon, siarad shait ar Pawb a’i Farn neithiwr, ynteu’r tywydd chwilboeth ‘ma. Dwi ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi ysgyrnygu cymaint ar wrthrych di-enaid (y teledu yn yr achos hwn) wrth glywed y ddynas wirion yn gwadu hawliau i’r Gymraeg yn Ewrop, heb sôn am fod mor erchyll o drahaus a dweud nad ydi gwledydd bach Ewrop yn bwysig. Onid un o brif nodau’r Undeb Ewropeaidd ydi rhoi llais i’r gwledydd bychain, nid cael unigolion hunanbwysig yn eu habwybyddu?

Diolch byth na fydd honno’n fy nghynrychioli o hyn ‘mlaen.

Ond mae’r tywydd hefyd yn rhoi cur pen i mi. O, mi welwch y penawdau – cynhesu byd-eang, Prydain fel Ibiza ymhen degawd, pawb ar y traeth (mi es i draeth Aberogwr y diwrnod o’r blaen a mwynhau ond dwi wedi llosgi ‘nghoes sy ddim yn fanteisiol). Pawb arall yn eu shorts – rhaid i mi wisgo crys a throwsus o hyd, gan chwysu chwartia yn cerad o amgylch Caerdydd yn diawlio’r haul i mi’n hun.

Fydda rhywun byth yn meddwl fy mod i’n chwarter Eidalwr. Fydd hi’n cyrraedd chwech ar hugain ryw ben heddiw, medda nhw. Gobeithio ar y diawl y bydda i’n y cysgod bryd hynny. Dwi’n cofio adrodd yn Steddfod Dyffryn Ogs ‘stalwm darn bach sydd bellach yn gymwys i mi:

Dyn bach o eira
Ar lechwedd y bryn
Ei het yn ddu
A’i wallt yn wyn,
Dim traed o’i dano
A’i lygaid yn syn,
Pan ddaw yr haul allan

Fe doddith yn llyn.

venerdì, maggio 29, 2009

Etholiadau Ewrop - Rhan II

Ymhen wythnos bydda i, a chychwi, yn gwybod canlyniadau Etholiadau Ewrop. Dwi’n llai hyderus fy mhroffwydoliaeth ddiwethaf, sef y byddai Llafur yn ennill yng Nghymru. Mae ‘na ryw reddf ynof yn meddwl y gallai fod yn flwyddyn Plaid Cymru. Mae’r reddf honno wedi bod yn drychinebus o wael, a hefyd yn rhagorol, o’r blaen. Cofiaf yn 2003 y bu i mi ddarogan etholiad llwyddiannus i Blaid Cymru yng nghystadlaeth ddarogan Maes E, ac wrth gwrs roeddwn i’n gwbl anghywir.

Ond deunaw oeddwn i bryd hynny. Yn wir, yn 2007, y fi wnaeth y broffwydoliaeth gywiraf ar Faes E, gan felly ennill tair potel o win coch, ac roedd ambell broffwydoliaeth ar y blog hwn hefyd yn rhai da. Mae’n rhaid felly fy mod i’n gwella wrth heneiddio, ond gwell i mi beidio â bod yn rhy trahaus!

Yr hyn sydd wrth wraidd fy newid agwedd ydi’r busnes treuliau, sydd dal heb effeithio ar Blaid Cymru, ond sy’n parhau i effeithio’n echrydus o andwyol ar Lafur, ond hefyd ar y Ceidwadwyr. Pwy fydd yn manteisio?

Ni ellir tanystyried effaith pleidlais UKIP ar y Ceidwadwyr yng Nghymru. Un enghraifft berffaith o hynny yw canlyniad Bro Morgannwg yn y Cynulliad yn 2007. Methodd y Ceidwadwyr ag ennill y sedd o 83 o bleidleisiau, a llwyddodd UKIP ddenu 2,310 o bobl i bleidleisio drosynt. Nid athrylith yn unig allai ddallt pe na bai UKIP wedi sefyll, byddai o leiaf 83 o’r pleidleisiau hynny wedi mynd at y Ceidwadwyr, a byddai’r Fro yn las.

O edrych ar ganlyniadau tebyg, mae dadl gref mai UKIP fydd prif fuddiolwr unrhyw bleidleisiau a atgyfeirir oddi wrth y Ceidwadwyr. Pe na bai UKIP yn bodoli yn 2007, y Ceidwadwyr yn bur hawdd fyddai ail blaid Cymru o ran pleidleisiau yn yr etholaethau. Mae’n parhau’n wir y gall nifer weddol fach o bleidleisiau ennill a cholli seddau.

Yng Nghymru, mae’n anodd gweld pwy ond am Blaid Cymru allai gael budd o unrhyw bleidleisiau a ddaw oddi wrth Lafur. Mewn rhai ardaloedd gellid dweud mai’r Democratiaid Rhyddfrydol fyddai’n elwa fwyaf, ond ni ellir ychwaith diystyried a) effaith y busnes treuliau ar y blaid honno na, b) pa mor wan yw’r blaid yng Nghymru. Ac yn y cyd-destun Cymreig, gallwn hefyd ddiystyru’r BNP, a diolch byth am hynny.

Gan ystyried felly y byddai angen i UKIP a/neu’r Democratiaid Rhyddfrydol ennill degau o filoedd o bleidleisiau yn fwy yng Nghymru, ar adeg y bydd y nifer sy’n pleidleisio yn llawer is na’r tro diwethaf, i ennill y bedwaredd sedd – wel, mae’n ymylu at fod yn annhebygol iawn i’r naill a’r llall.

Ond yn ôl at Blaid Cymru. Gall y Blaid ennill mwy o bleidleisiau o’r newydd oddi wrth Lafur na’r Ceidwadwyr. Byddwn yn dadlau bod uchafbleidlais Plaid Cymru yn uwch nag uchafbleidlais y Ceidwadwyr yng Nghymru – hynny ydi bod nifer uchaf y bobl a fyddai o bosibl yn ystyried pleidleisio dros Blaid Cymru yn uwch na nifer y bobl a fyddai o bosibl yn ystyried pleidleisio dros y Torïaid yng Nghymru. Mae hynny’n seiliedig ar y ffaith mai prif ‘farchnad’ Plaid Cymru o ran denu pleidleisiau newydd ydi o blith pobl a fyddai fel arfer yn pleidleisio Llafur, sef y grŵp mwyaf o etholwyr yng Nghymru hyd heddiw.

A thra bod popeth yn awgrymu nad ydi Plaid Cymru eto wedi ad-ennill y gefnogaeth a gafodd ddegawd yn ôl, mae’n hysbys bod Llafur Cymru yn wannach o bethwmbrath. ‘Does ychwaith unrhyw arwyddion gwirioneddol yn awgrymu bod y glymblaid wedi cael effaith wirioneddol wael ar bleidlais Plaid Cymru, er gwaethaf rhai o’i methiannau.

Ac mae hyn mewn adeg lle mae Llafur Cymru yn rym bur annrhawiadol a blinedig. Y cwestiwn mawr ydi, pan ddaw ati, a fydd Llafur yn colli digon o bleidleisiau, a’r Blaid neu’r Ceidwadwyr yn ennill digon o bleidleisiau?

Mae angen bod yn ofalus fan hyn. Ar ddiwedd y gân rhaid cofio, hyd yn oed mewn oes lle y mae Llafur ar drai, mae ei phleidlais graidd yn gryfach na phleidlais graidd yr un blaid arall. Nid y bobl hyn o reidrwydd yw’r rhai sy’n pleidleisio dros Lafur doed â ddêl, ond yn hytrach y rhai sy’n pleidleisio drosti pan fônt yn synhwyro bod eu hangen ar y blaid. A ydi’r grŵp hwn yn parhau’n grŵp digon mawr a dylanwadol i newid llif yr etholiad hwn? Wn i ddim am hynny bellach, mewn degawd deuwn at adeg, mi dybiaf, na fydd y grŵp hwn o etholwyr yn bodoli – ond tybed a ydi’r cryfder hwnnw, gwir gadernid y blaid Lafur Gymreig, yno o hyd?

Dyma’r etholiad yn anad ‘run arall y cawn weld hynny.

Cofiwch hefyd hawdd yw dweud mai dyma’r blaid a gafodd etholiad ‘trychinebus’ yn 2007 – llai hawdd yw cyfaddef er gwaethaf hynny llwyddodd o hyd ennill 11 o seddau’n fwy na’r ail blaid fwyaf, sy’n nifer sylweddol o seddau yn y Cynulliad.

Y gwir ydi, dwi ddim yn meddwl y gall neb wir broffwydo pa ffurf fydd ar dir gwleidyddol Cymru wythnos i heddiw. Y peth anhygoel ydi bod rhai yn dechrau sôn am y ras am y bedwaredd sedd fel un ddeuwedd rhwng Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr. Nid dyna’r realiti, wrth gwrs, ond mae hi’n dechrau edrych fel photo finish, a dwi’n mwy na fodlon cyfaddef y tro hwn, er gwaethaf fy mhrofwyddoliaeth gynt, dwi wirioneddol ddim yn gwybod pwy sydd am ennill y sedd olaf.

Newidia i ddim mo’r broffwydoliaeth honno, ond tasa chi’n fy ngorfodi heddiw i roi papur pumpunt ar bwy fydd efo dwy sedd ... bydda’n rhaid i mi fod yn onest a rhoi bet ar Blaid Cymru. A chredwch chi ddim pa mor rhyfedd ydi dweud hynny!

mercoledì, maggio 27, 2009

Cawliach meddyliol

Mae’n rhaid fy mod i’n falch iawn o gael fy rhewgell newydd. Cefais freuddwyd ei bod wedi malu neithiwr a bod angen cynnal profion arni. Diolch byth ‘na breuddwyd ydoedd achos mi fyddwn i’n ofnadwy o ypset pa na bai hwnnw’r achos.

Fel y gwelwch dwi heb flogio’r wythnos hon. Ddylwn i ddim fod yn anniolchgar ond mae’n gas gen i wythnosau gŵyl y banc. Wrth gwrs, dwi’n hoffi gwyliau cymaint â neb arall, ond mae ‘na rywbeth erchyll am gael y dydd Llun i ffwrdd o’r gwaith. Rhywsut, drwy ryw ledrith, mae’n gwneud i’r pedwar diwrnod o weithio deimlo’n hirach nag wythnos lawn, yn ogystal â chynnwys dau ddiwrnod gwaethaf yr wythnos, sef dydd Mawrth a dydd Iau.

Dylem ni gael gwyliau banc ar ddydd Gwener. Rhywsut byddai hynny’n teimlo fel penwythnos hir llawnach a mwy boddhaus, yn bysa?

Wn i ddim amdanoch chi, ond dwi’n gwylio’r Apprentice yn driw. Dwi wrth fy modd efo’r rhaglen, ac wrth fy modd yn casáu pawb sy’n cystadlu. Mae cymhelliant, synnwyr busnes da ac ysgogiad i gynyddu’n faterol yn bethau y mae llawer o bobl yn eu parchu, ond dwi ddim o gwbl, sy’n gwneud methiant yr ymgeiswyr yn felysach o bethwmbrath. Ond fydda i methu gwylio heno oherwydd ffeinal Cynghrair y Pencampwyr. Tai’m i sôn am honno rŵan – mae fy nerfau yn dechrau meddu fy nghorff eisoes. Yfory mi fyddaf yn drist neu’n orfoleddus – gall chwaraeon fod yn gas yn ogystal â gwych.


Reit, nôl i’r caib a’r rhaw.

venerdì, maggio 22, 2009

O na ddeuai chwa i'm suo?

O na ddeuai chwa i’m suo
O Garnfadryn ddistaw bell?
Fel na chlywn y gynau’n rhuo,
Ond gwrando ar gân y dyddiau gwell.


Hoffwn i chwa ddod i’m suo ar hyn o bryd, o unrhyw le (heblaw am Garnfadryn, yn bur eironig). Dwi’n eitha hyngover. Aethom i’r Curry Clyb fel arfer ond ‘doedd Rhys ddim yn teimlo’n rhy dda felly mi aeth adra’n fuan.

Tua 9 oedd hynny, a doeddwn i ddim wedi cael digon o alcohol, dyna’r gwir. Ro’n i isio mwy. Yn bur anffodus, roedd ‘na lwyth o ganiau Brains yn tŷ, ac wrth i mi eistedd lawr o flaen y teledu a Question Time, sydd ddim patch ar Pawb a’i Farn os gofynnwch chi i mi, agorais y can cynta’. Ew, mi oedd yn dda.

Ymhen dim roeddwn wedi hen argyhoeddi fy hun y dylwn yfed pob un wan jac o’r caniau. Ffwl ydw i. Eisteddais fel malwen o flaen y teledu, a’r cloc a drodd, a’r rhaglenni aeth o ryfedd i ryfeddach. Roedd Extreme Male Beauty, am ddynion sy isio edrych yn dda, yn ddiddorol. Dwi’n bur ffodus, nid oherwydd fy mod i’n edrych yn dda (tai’m i geisio eich twyllo, dwi’n edrych fel crwban heb ei gragen sy ‘di bod yn buta McDonalds am fis) ond oherwydd dwi’n fodlon ar y ffordd dwi’n edrych, ac yn meddwl bod hynny’n beth pwysig, os caf rannu f’enaid â chi.

Wedyn daeth ryw raglen ryfedd ymlaen am hen ferched yn mynd i Dominica i gael secs efo dynion du ifanc. Roedd honno’n rhaglen ryfedd yn wir, ond erbyn hyn ro’n i wedi dechrau meddwi.

Erbyn i mi wylio awr o Alan Partridge ar DVD (a fenthycais/ddygais gan Lowri Llew) roedd hi wedi un o’r gloch, â’r holl ganiau’n wag. Erbyn hynny, er i mi yfed digon o ddŵr, ro’n i’n gwybod yn iawn y cawn ben mawr yn y bora. Ro’n i’n gywir, wrth gwrs, a dyma pam fy mod yn teimlo fel hyn.

giovedì, maggio 21, 2009

Cymry'r Frechdan

Yn rhannol er mwyn arbed arian ac yn rhannol oherwydd nad ydw i’n licio gwario, fydda i’n mynd â brechdan i’r gwaith bob bore. Yn wir, mae’r peth mor ddiflas ag y mae’n swnio. Yn ymarferol, dwi ddim yn unigolyn creadigol nac arloesol. I’r gwrthwyneb bydd rhywun yn cadw at y cyffredin yn amlach na pheidio, ac adlewyrchir hyn yn fy mrechdanau.

Beth ydi’r frechdan orau? Pa frechdan sydd fwyaf ymarferol i fynd i’r gwaith? A ellir cyfuno’r ddau beth? Wn i ddim, nid gwyddonydd na phoffwyd mohonof, ond gwn fy mod yn dechrau diflasu. Bron bob dydd naill ai iâr (nid un cyfan), twrci (eto nid un cyfan) neu ham (sy ddim yn anifail fel y cyfryw) efo ciwcymbr fydda i’n ei wneud. Weithiau mi fentraf domato, ond bydd tomato yn gwneud i frechdan droi’n wlyb.

Brechdan lobsgows ydi brenin y brechdanau yn nheyrnas fy meddwl yr ymwneir ag ef â brechdanau. Neu frechdan ffishffingars – unrhyw beth poeth sy’n toddi’r menyn. Ew, dwi yn ffan o fenyn cofiwch, a digonedd ohono. Bydd rhai ddim yn rhoi menyn ar frechdan, yn ôl y sôn ar y winllan, a dwi ddim yn dallt hynny. Mae bara heb fenyn fel Elfyn Llwyd heb fwstash, y mae’r ddau’n cyd-ddibynnu ar lwyddiant ei gilydd, sydd o bosibl y gymhariaeth waethaf dwi wedi’i gwneud ers dechrau blogio chwe mlynedd nôl.

A chan ddweud hynny, tynnaf fy sylw uchod fod brechdanau’n ddiflas yn ôl. Mae brechdan yn fwyd bob tywydd – o gorgimychiaid a letys yn awyr iach yr haf, i frechdan gaws a phanad ger y tân pan fo’r nos yn ddu. Mae brechdanau yn wych.

Mae’r Cymry yn licio’u baramenyn yn fwy na’r un genedl arall, wrth gwrs – ni yn anad neb yw hil y baramenyn. Yn wahanol i neb arall medrwn fyta baramenyn gydag unrhyw bryd a roddir o’n blaen, ac nid yn anaml ledled erwau’n gwlad y clywir ‘wyt ti isio bechdan?’ gan fam wrth i’w thylwyth ddechrau ar gyri neu chilli neu ginio go iawn.

Tybed beth ydi hoff frechdan y Cymry? Nosweithiau hirion a dreuliaf yn ystyried y cwestiwn hwnnw (sy’n gelwydd). Roedd un o’m ffrindiau sydd o Reading, y tro diwethaf iddo ddod i Gymru fach, wedi cael sioc o weld faint o siopau brechdanau/baguettes sydd yng Nghymru, ac maen nhw’n bla yma. Ond pla addfwyn ydyw, arwydd pendant o symlrwydd y Cymry yn eu hanfod.

Mae’r Cymro a’i frechdan yn bennaf gyfeillion.

Setla’ i bob tro am frechdan caws a ham a thomato. Dwi’n meddwl bod hyn yn bennaf oherwydd mai dyma’r unig beth all fy nhad ei baratoi, ym maes bwyd, sy’n fwytadwy.

Ond dyna’r drafferth â brechdan – mae ‘na gormod o ddewis, gormod o gyfuniadau, ac o’r herwydd dyna pam, mae’n siŵr, y bydda i’n parhau i fynd â brechdan ham i’r gwaith yn feunydd.