mercoledì, gennaio 06, 2010

Gwyn ein byd

Gwyn ydi Caerdydd heddiw. Barith hi ddim tan y pnawn, ond dyna ni. Bydd pobl yn hoff o wneud lol efo’r eira a smalio na allan nhw fynd i’r gwaith. Athrawon sy’n hoff o beidio â gweithio ar ddiwrnod o eira. Ond nid wimp o athro wyf i, diolch i ffawd, cyfieithydd wyf – marîns byd y swyddfeydd heb os.

Fu pobol ‘stalwm ddim yn cwyno am bethau fel hyn, wrth gwrs. Gan ddweud hynny, ‘doedd dim rhaid i bobol ‘stalwm deithio fel sy’n rhaid i ni ei wneud. Rhyw ddwy fodfedd sydd yng Nghaerdydd bore ‘ma. Fawr ddim – mae Mam yn dweud bod hyd at ddeg modfedd adra. Dwi’n meddwl ei bod hi’n gor-ddweud mymryn ond dyna ni.

Gyda llaw, dim ond 15 wythnos sydd i fynd tan yr etholiad cyffredinol (gan gymryd y bydd, yn ôl y disgwyl cyffredinol, ar Far 6ed) ac mae o hyd dri chwarter o seddau Cymru fach i’w dadansoddi. Fe’ch gwelaf yn nes ymlaen.

lunedì, gennaio 04, 2010

Ymgyrch farchnata dda

Dwi bob amser wedi bod isio blasu cwningen - wn i ddim pam - a bu bron i mi brynu un yn y farchnad jyst er mwyn gwneud hynny oherwydd yr arwydd bach wrth ochr y creadur celain:

WATERSHIP DOWN
You've seen the film ...
... now eat the cast!

sabato, gennaio 02, 2010

Torfaen

Bydd sawl un o seddau’r cymoedd yn ddiddorol iawn eleni: Castell-nedd, Pontypridd, Blaenau Gwent ac o bosibl Cwm Cynon, felly dwi am droi fy sylw at un sy’n llai diddorol, sef Torfaen.

Dwi’n dweud llai diddorol oherwydd mae’n un o’r seddau hynny y mae Llafur bron yn sicr o’i hennill. Mae’n wahanol i weddill y Cymoedd ‘go iawn’ oherwydd bod gan y Ceidwadwyr bleidlais gref yma – maent yn dueddol o gael tua 15% o’r bleidlais sy’n eu gosod yn ail fel rheol – fwy na thebyg oherwydd ‘gor-lif’ o bleidleisiau o Sir Fynwy Geidwadol gyfagos.

Mae pobl yn tueddu i feddwl mai’r unig rai a allai ddisodli Paul Murphy oedd Llais y Bobl. Dewiswyd Paul Starling fel ymgeisydd iddi ac roedd popeth i’w weld yn mynd yn weddol, ond yn ôl y sôn cafodd ei orfodi i sefyll i lawr, a ‘does fawr neb yn siŵr beth yn union sy’n digwydd o ran yr ymgeisyddiaeth.

Ond dydw i ddim yn siŵr faint o wirionedd oedd ym mygythiad Llais y Bobl yn y lle cyntaf. Dim ond tri chynghorydd llwyddodd y blaid eu hennill yn 2008 – sef yr un nifer â Phlaid Cymru. I fod yn onest, byddai dyn wedi disgwyl iddynt wneud yn well na’r Blaid o ran nifer y seddau, ond nid dyna’r achos. Yn wir, o lwyddo ennill 14% o’r bleidlais yn etholiad ’07, mae’n ymddangos fel trai yn hytrach na chynnydd yw ei hanes yma dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Os y saif eleni mae’n anodd rhagweld y bydd yn rhagori ar hynny.

Hyd yn oed yn 2007 fe’i trechwyd gan y Ceidwadwyr yma.

Felly beth am edrych ar bleidleisiau’r pedair prif blaid mewn etholiadau Cynulliad ers 1999? Gwelir y ganran a gafwyd yn 2007 a’r newid o 1999 mewn cromfachau.

Llafur 43% (+5%)
Ceidwadwyr 20% (+11%)
Plaid Cymru 12% (+1%)
Dem Rhydd 11% (-)

Mae hynny’n ddiddorol! Cafodd Lynne Neagle fwy o bleidleisiau a chanran uwch yn 2007 nac y cafodd ym 1999 – a oes sedd Llafur arall yng Nghymru sy’n adlewyrchu’r patrwm hwnnw? Mae’r Ceidwadwyr, fel y gwelwn, wedi mwy na dyblu eu pleidlais, gyda’r Blaid a’r Dems Rhydd yn segur. Beth am felly wneud yr un peth gydag etholiadau 1997 a 2005?

Llafur 57% (-12%)
Ceidwadwyr 16% (+4%)
Dem Rhydd 16% (+4%)
Plaid Cymru 6% (+4%)

Eto, mae hynny’n ddiddorol iawn – mae cynnydd y pleidiau eraill yn gyfartal â dirywiad y Blaid Lafur. Y broblem i ni ydi, er mor ddiddorol ydi cymharu etholiadau yn Nhorfaen o safbwynt ystadegol pur, dydi hi fawr o les i ni wrth ddarogan canlyniad 2010. Serch hynny, unwaith eto dwi’n ffendio’n hun yn dweud, fodd bynnag, bod y bleidlais Lafur ei hun wedi gostwng tua thraean rhwng ’97 a ’05.

Wrth gwrs, gwyddom mai’r awgrym ydi na ddaw neb yn agos at Lafur yma. Felly y bydd hi, dwi’n meddwl. Byddai hyd yn oed y gogwydd arfaethedig o Lafur i’r Ceidwadwyr a gafwyd ym mhôl Cymreig y llynedd yn rhoi mwyafrif o dros 20% i’r blaid Lafur. Welwn ni mo’r fath ogwydd yma, wrth gwrs.

Yn olaf, dyma’r canrannau a gafwyd yn Etholiadau Ewrop o ran y pleidiau a gafodd dros fil o bleidleisiau:

Llafur 25%
Ceidwadwyr 16%
UKIP 16%
Plaid Cymru 12%
Dems Rhydd 9%
BNP 8%

Felly ‘doedd hi ddim yn fuddugoliaeth gadarn i Lafur, a chafodd y Ceidwadwyr dim ond tua faint y maent yn ei gael yma fel arfer. I fanylu’n fras, ymddengys bod y rhan fwyaf o bobl sy’n pleidleisio i’r BNP yn gyffredinol yn Llafurwyr, ond mae hefyd gyfradd uchel o’r rhai sy’n pleidleisio dros UKIP hefyd (mae’n gamgymryd mawr gan bobl ddweud mai Ceidwadwyr ydi’r mwyafrif llethol o’r rhain) – felly i raddau gellir dweud, heb y ddwy blaid honno, fod y bleidlais Lafur yn uwch mewn gwirionedd na 25%, hyd at y 40%. Byddai hefyd yn ganlyniad da i’r Ceidwadwyr ar tua chwarter y bleidlais.

Felly dwi’n cael fy hun mewn sefyllfa annymunol, lle gwyddom y canlyniad, ond nid i ba raddau y bydd Llafur yn ennill.

Dydi’r Democratiaid Rhyddfrydol, mi gredaf, heb â dewis ymgeisydd eto, ond mae plaid arall wedi, sef y Blaid Ryddewyllysol (y Libertarian Party). Gall tebygrwydd yr enw yn hawdd ddrysu pleidleiswyr, nid yn gwbl annhebyg i’r ffordd y mae’r Blaid Ryddfrydol yn dueddol o ddwyn llawer iawn o bleidleisiau wrth y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholaeth Lerpwl Gorllewin Derby. O ystyried y cyfuniad hwnnw, gallai’r Dems Rhydd ddirywio fymryn yma – er dim ond ychydig o bwyntiau canran.

Wrth gwrs, gall Llafurwyr dadrithiedig yn hawdd wneud yn iawn am y golled bosibl honno.

Dydi Plaid Cymru byth wedi gwneud yn dda iawn yma, hyd yn oed ym 1999. Er, llwyddodd ennill gynrychiolaeth yn yr etholaeth am y tro cyntaf erioed yn 2008, gan ddychwelyd tri chynghorydd i’r cyngor sir. Oni welwn newid sylfaenol yng ngwleidyddiaeth yr ardal, mae’n anodd gweld Plaid Cymru yn ennill mwy na 10% o’r bleidlais yma. Er, synnwn i ddim tasa hi’n gwneud yn weddol.

Gwelwyd eisoes y gall y Ceidwadwyr wneud yn dda yma. Tueddaf i feddwl y cânt tua 20% o’r bleidlais y tro hwn, ac efallai rhagori ar hynny fymryn, ond mae’n annhebygol y byddant yn cael llawer mwy na hynny.

Felly beth am Lafur? Y peryg mawr ydi apathi. Mewn sedd lle mae gan Lafur fwyafrif cadarn, mae’r rhai y’u dadrithiwyd yn fwy tebygol o aros adref na bwrw pleidlais i rywun arall – er fan hyn y Democratiaid Rhyddfrydol neu Blaid Cymru ydi’r dewisiadau amlycaf. Ond gyda llywodraeth Geidwadol yn debygol, gall sbarduno Llafurwyr i aros yn driw am un etholiad arall. Teimlaf y gallai’r ddwy sefyllfa gydbwyso ei gilydd yn y pen draw.

Yn wir, er mor galed ydi hi i genedlaetholwr gyfaddef hyn, mae Paul Murphy yn wleidydd sy’n dallt y gêm wleidyddol yn llawn. Mae angen cymeriadau cryf ar y blaid Lafur, ac mae hwn yn un – bydd hynny’n fanteisiol.

Serch hynny, a gaiff Llafur fwy o bleidleisiau na’r 20,472 a gafodd yn 2005? Fel y dywedais gyda Llanelli, yr unig ffordd y gallwch ddychmygu y caiff ydi os bydd cynnydd sylweddol yn y niferoedd sy’n pleidleisio, a oedd yn 59% tro diwethaf. Byddai rhywun yn disgwyl cyfradd bleidleisio tua 65% i weld Llafur yn cynyddu ei phleidlais.

Y peth anoddaf i rywun sy’n darogan y pethau hyn ydi darogan y niferoedd a fydd yn pleidleisio. Dwi’n tueddu i feddwl y gallai fod yn weddol segur yn nifer o seddau’r Cymoedd; dydi mwyafrifoedd enfawr, dadrithio cyffredinol a phleidiol, a’r sefyllfa economaidd gyfredol ddim yn newyddion da i Lafur.

Proffwydoliaeth: Disgwyliaf i Lafur ennill gyda thua 12,000 o bleidleisiau yma – ond gan gael llai nag 20,000 o bleidleisiau.

giovedì, dicembre 31, 2009

mercoledì, dicembre 30, 2009

Nifer yr Ymwelwyr

BlogMenai sy’n dweud ei fod yn licio ‘syllu ar ei fotwm bol’ bob mis a sôn am nifer yr ymwelwyr sy’n ymweld. Mae’r blogiau gwleidyddol yn boblogaidd iawn yn Gymraeg, wrth gwrs. Pan fydda i’n gwneud blogiad gwleidyddol bydd nifer y darllenwyr yn cynyddu’n eithriadol – hyd at dair gwaith yr arfer. Ond dwi wedi sylwi, er bod llai o sylwadau yn cael eu bwrw ar y blog hwn nag yn ei lencyndod flynyddoedd nôl, mae nifer y darllenwyr yn cynyddu, hyd yn oed pan y bydda i’n sôn am bethau dibwrpas fel cwyno am bobl gomon sy’n siopa’n Tesco. Ac, ydyn, mae pobol sy’n siopa’n Tesco yn gomon.

Fe’ch eithrir os gwnaethoch, fel y fi, nôl eich cinio o Tesco bach Cathays yn gynharach heddiw, afraid dweud.

‘Unique hits’ fydd yn mynd â’m bryd i, sef i raddau nifer yr ymweliadau unigol ac eithrio adnewyddu’r dudalen. Gan ei bod yn ddiwedd blwyddyn dyma gymhariaeth rhwng ail chwe mis 2008 a’r chwe mis diwethaf. Rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2008 ymwelodd 3,747 o bobl â blog yr Hogyn o Rachub (y fi). Dydi hynny ddim yn swnio lot, ond yng nghyd-destun y byd blogio Cymraeg mae’n ddigon parchus, yn enwedig am flog personol. Eleni y ffigur yw 5,401 – sef cynnydd o 44%. Ydw, dwi’n smyg am hynny. Mae hynny wrth gwrs dal yn llai na nifer o flogiau Cymraeg (am wn i), ond dwi wedi bod o gwmpas ers chwe mlynedd a hanner a dachi’n bownd o ddechrau blino arna’ i, chwarae teg. A minnau arnch chi, afraid dweud.

Mae lot o hynny’n ymwneud â’r blogroll (dydi rôl blogiau ddim yn swnio gystal), a gynrychiolir yma ar y dde fel ‘Dwi’n darllen...’. Dim ond yn ddiweddar dwi wedi dallt sut mae gosod y teclyn, ond mae pawb arall wedi ei dallt hi ers misoedd. Mae pobl ddiflas fel y fi sy’n licio darllen blogiau (dan fwgwd ‘isio gweld y newyddion diweddaraf’ i guddio ‘dwi’n bôrd’) yn mynd o flog i flog o’r blogrolls i fusnesu ar farn pawb arall.

Fel y gwyddoch prin iawn fod gen i ddiddordeb ym marn neb arall. Tasech chi’n gorfod dioddef yr un bobl â mi fyddech chi’n dallt hynny. Er enghraifft, mae Haydn Glyn yn Dori, ac mae Ceren Sian yn gwadu bodolaeth disgyrchiant. Yr enghraifft gyntaf sydd waethaf, afraid dweud – yn bur drist mae’r ddwy enghraifft yn wir.

Mae genod a barn yn beth peryg. Na, dwi ddim yn dweud na ddylai fod gan ferched farn, er gwaethaf manteision amlwg hynny, ond yn sicr mae gwylio neu ddarllen newyddion yn gyfagos iddynt yn straen. Onid ydi’ch Mam, neu Nain, neu wraig neu rywun bob amser yn gorfod dweud “O diar, mae hynny’n drist” pan fydd rhyw ddrwg newyddion yn cael ei gyfleu yn y cyfryngau? Ac wedyn, pan ddaw rhywun arall i’r amlwg, “Tydi o’m yn ofnadwy am X yn marw yn X?” (fel arfer ‘plant’ yn rhywle nad ydych chi erioed wedi clywed amdano o’r blaen, megis y Swistir).

Reit, pethau i’w gwneud. Dwi dal heb drefnu be dwi’n ei wneud Flwyddyn Newydd. Dwi’n eithaf hapus cyfarch y degawd nesa’ yn Stryd Machen, yn gachu bants ar ôl yfed gwin drud ben fy hun ac yn rhegi i mewn i’r drych yn y lownj.

martedì, dicembre 29, 2009

Llanelli

Felly dyma ddod â ni at sedd a allai, o ildio’r canlyniad cywir, newid gwleidyddiaeth Cymru, a dwi o ddifrif am hynny. Pe baech wedi dweud nôl ym 1997, ddeng mlynedd yn ddiweddarach y byddai Plaid Cymru yn ennill Llanelli gyda hanner y bleidlais, i Seilam Dimbach â chi ar eich union. Bu degawd cyntaf yr 21ain ganrif yn gymysglyd i Blaid Cymru – ond dyma un o’i llwyddiannau pendant.

Dyma hefyd y dadansoddiad mwyaf swmpus a wnaed gennyf hyd yma – felly peidiwch â pharhau oni fo chi’n ddewr!

Dwi ddim am adrodd yr hanes yn fanwl – gwn yn iawn beth ddigwyddodd yn ’99 ac ers hynny. Dydw i ddim chwaith am roi sylw i’r Democratiaid Rhyddfrydol na’r Ceidwadwyr. Do, cawsant dros chwarter y bleidlais rhyngddynt ym 1997 – ond roedd yn llai na 14% yn 2007 ac mae’n wybodaeth gyffredin nad ydi’r un o’r pleidiau yn rymoedd yn yr ardal.

Dwi am gynnig dadansoddiad nid fesul plaid ond etholiad y tro hwn. Ac awn yn ôl i berfeddion ’97 yn gyntaf. Cafodd Llafur bron 24,000 o bleidleisiau, sef 58% o’r pleidleisiau. Wrth gwrs, roedd elfen gref o bleidlais bersonol i Denzil Davies, ond er mor uchel ydi’r bleidlais honno, a’r mwyafrif yn ei sgîl, rhaid cyfaddef ni fu fyth mor uchel â gweddill y cadarnleoedd, lle y gallasai Llafur ddisgwyl ennill yn hawdd dros 60% o’r bleidlais mewn blwyddyn wael. Dydi Llafur byth wedi gwneud hynny yn Llanelli dros yr 30 mlynedd diwethaf. Felly, mae’n gymharol wan yma. Pwysleisiaf y gair ‘cymharol’!

Fodd bynnag mae un gwahaniaeth sylfaenol rhwng Llanelli a chadarnleoedd eraill De Cymru Llafur, sef cryfder y Gymraeg. Mae 47% yn gallu siarad Cymraeg yma, ac yn wir ardal Pontyberem yw’r ardal Gymreiciaf ei hiaith yn Ne Cymru gyfan. Ond serch hynny, ni lwyddodd Plaid Cymru fwrw gwreiddiau yma fel y gwnaeth mewn rhannau eraill o Sir Gâr.

Roedd 1997 yn drobwynt i Blaid Cymru yma hefyd. Daeth yn ail, wedi blynyddoedd maith o fod yn drydydd, neu bedwerydd hyd yn oed. ‘Doedd hi ddim yn ail credadwy iawn – cafodd y Blaid lai na phumed o’r bleidlais, wedi’r cwbl. Megis dechrau oedd hi.

Fel y dywedais af i ddim i drafod ’99. Ond, tybed a fyddai’r Blaid wedi ennill hyd yn oed yn ei phenllanw heb Helen Mary Jones? Bydd rhaid i eraill ateb y cwestiwn hwnnw, dydw i ddim yn gwybod yr ateb.

Er gwaethaf 1999, roedd 2001 yn ganlyniad da yma i Blaid Cymru. Roedd y gogwydd o 10% yn sylweddol mewn etholiad cyffredinol. Ond dim ond tua dwy fil gynyddodd pleidlais Plaid Cymru – collodd Llafur tua 6,000 o bleidleisiau. Dydi ennill sedd ar golled gwrthwynebydd ddim yn sail gadarn i frwydro am sedd. Rhaid trosi pleidleisiau i’ch cornel chi. Ar ddechrau’r ganrif, nid dyma’r sefyllfa yma.

Ni welwyd canlyniad agosach mewn etholiad Cynulliad nac yma yn 2003. Collodd Helen Mary o 21 o bleidleisiau, a hynny oherwydd iddi golli mwy o bleidleisiau na Llafur. Rhaid nodi hyn, fodd bynnag: y flwyddyn honno cafodd y ddwy blaid eu niferoedd isaf o bleidleisiau yma erioed mewn etholiad Cynulliad, a Llafur ei nifer isaf erioed.

Collodd y ddwy eto bleidleisiau yn 2005, ond Plaid Cymru ddioddefodd fwyaf. Cydnabyddir y cafodd ymgyrch wan y flwyddyn honno yn y sedd. Dwi’n sylwi fodd bynnag bod patrwm ym maint dirywiad y blaid Lafur yma – roedd ei phleidlais i lawr tua thraean o 1997 – sy’n ddigon cyffredin ymhlith seddau ei chadarnleoedd, fel y gwelsom o ddadansoddiadau blaenorol. Dirywiad cyson a phendant; newid cymdeithasol a gwleidyddol yn troi’n realiti ystadegol.

Y ddwy blaid fach, y Torïaid a’r Rhyddfrydwyr, fanteisiodd ar gwymp yr uchod, o tua 4% yr un. Gwelaf y ddau yn cael eu gwasgu ym mrwydr y flwyddyn nesaf gan Blaid Cymru a Llafur.

Dyna grynodeb o 1997 i 2005. Trai arferol i Lafur, llanw a thrai i’r Blaid. Gellir i raddau alw’r cyfnod hwnnw yn gyfnod ‘cynnar’ sedd Llanelli yn oes datganoli – heb geisio swnio’n ymhongar, wrth gwrs! Adlewyrchai batrymau Cymreig o ran ei phleidleisio, ond roedd y duedd a welwyd yma ar ôl hynny, i bob pwrpas, yn unigryw.

Ail-gipiodd y Blaid Llanelli yn 2007. O ystyried mwyafrif y blaid Lafur, ‘doedd hynny fawr o gamp ar lefel y Cynulliad, ond roedd maint y fuddugoliaeth yn sicr yn gamp. Cafodd Helen Mary dros hanner y bleidlais, a bron 14,000 o bleidleisiau - mwyafrif o bedair mil dros Lafur. Yn wir, eisoes mae’r sedd yn ymddangos yn ddiogel iddi yn 2011. Y peth mwyaf anhygoel oedd iddi wneud hyn gyda 7% yn fwy o bobl yn pleidleisio (49% a wnaeth) nag yn 2005. A dyna sy’n gwneud Llanelli yn unigryw o safbwynt Plaid Cymru. Mewn parthau eraill, mae’r Llafurwyr wedi aros adref. Yn Llanelli, maent yn raddol droi at Blaid Cymru – sefyllfa nas adlewyrchir yn unman ac eithrio Arfon yn y gogledd.

Profir hynny gan y nifer a bleidleisiodd – roedd y ganran yr un fath yn ’99 a ’07. Dim ond 4% yn llai yw cyfradd Llafur, ond mae’r Blaid 8% yn uwch. Wn i, dwi’n dweud o hyd ‘ni ellir trosi canlyniadau Cynulliad i San Steffan ... ’ – ond ddôi at hynny yn y man.

Felly beth oedd cyfrinach llwyddiant y Blaid yn Llanelli, a pham na’i throsglwyddwyd i rannau eraill o Gymru Llafur? Rhaid clodfori Helen Mary yn hyn o beth, ond mae dwy ochr i’r geiniog. Mae hi’n llysgennad gwych i Blaid Cymru yn yr ardal. Ar y llaw arall, dwi ddim yn siŵr a fyddai Plaid Cymru mor gryf yn yr ardal hebddi – dydi cefnogaeth i unigolyn ddim bob amser yn gefnogaeth i Blaid. Gallai anwybyddu hynny wanychu ymgais y cenedlaetholwyr i gipio’r sedd yn 2010.

Rhywbeth sy’n awgrymu, yn hytrach na phrofi, ai cefnogaeth unigol ynteu newid sylfaenol sydd ar waith, ydi canlyniadau etholiadau i gyngor sir. Awgrymodd etholiadau cyngor 2008 mai’r ail yw’r brif reswm.

Cyn 2008, roedd gan Lafur 16 sedd yn etholaeth Llanelli, a Phlaid Cymru 5. Ar ôl yr etholiadau hynny, roedd gan Lafur 5 (-11) a Phlaid Cymru 15 (+10). Mae hynny’n dro byd, yn ogwydd uniongyrchol, ond yn ôl fy nealltwriaeth i (croeso i chi roi gwybod fel arall), cafodd Llafur o hyd fwy o bleidleisiau na Phlaid Cymru. Felly, er bod y Blaid wedi treblu ei chynrychiolaeth a Llafur wedi chwalu, Llafur fyddai wedi ennill ar ffurf gyfrannol.

Tri o’r bron oedd eleni - enillodd Plaid Cymru yma, ond nid yn gwbl argyhoeddedig fel y gwelwn. 34% o’r bleidlais a gafodd (5,990), er y cafodd Llafur gweir arall ar 23% (4,052). Er, mae cynsail; enillodd y Blaid yma yn etholiadau Ewrop 2004 hyd yn oed, a chynyddu gwnaeth mwyafrif Llafur yn 2005. Rhybudd o’r gorffennol yn anad dim.

Ym mêr fy esgyrn, alla’ i ddim meddwl y bydd y polau o fudd i ni ddadansoddi Llanelli. Yr unig arwydd sydd gennym o ba mor agos y gallai fod oedd y cafodd ei chynnwys eleni mewn arolwg barn o seddau ymylol y DU, ac ymddiheuraf am y diffyg dolen. Llafur ddylai ennill yn ôl y pôl hwnnw, ond meddyliwch ennyd. Llanelli - lle mae gan y blaid Lafur fwyafrif o dros 7,000 a thros 20% - ar restr o seddau ymylol?

Âf yn ôl at ddull dwi’n ei hoffi o geisio dadansoddi canlyniadau, sef isaf ac uchaf bleidleisiau. Yn yr achos hwn, bydd ond angen dadansoddi isaf bleidlais Llafur ac uchaf bleidlais Plaid Cymru, a hynny yn sgîl y ffaith y byddai rhywun yn disgwyl i Lafur fod yn ddigon agos i’w hisafswm yn 2010, a Phlaid Cymru dueddu at ei huchafswm.

Y ffigur hudol ydi’r 15,000 mi dybiaf. Os caiff Plaid Cymru yn agos at hynny, mae ganddi gyfle o ennill. Os caiff Llafur tua hynny, gallai golli. Do, cafodd Plaid Cymru 14,000 o bleidleisiau yn 2007, ond a all drosglwyddo hynny i San Steffan?

Dydi’r cenedlaetholwyr heb lwyddo gwneud hynny yn gyffredinol – ond ai fi ydi’r unig un sy’n teimlo y gallai Llanelli fod yn eithriad i’r rheol? I raddau helaeth iawn, mae Plaid Cymru wedi llwyddo o ddifrif i gipio a chadw pleidleisiau gan y blaid Lafur, a chynnal ei llwyddiant, yn yr ardal hon. Hyd y clywaf hefyd, mae ymgyrch y blaid Lafur yno ar hyn o bryd yn anweladwy a’i threfniant ar chwâl – mae hi’n flêr ac yn ddigyfeiriad - a Phlaid Cymru wedi dechrau ymgyrchu o ddifrif. A all gael 15,000 o bleidleisiau yma?

Mentraf ddweud y gall ragori ar hynny fymryn. Dylai yn sicr anelu at ennill tua 15,000 o bleidleisiau.

Ond beth am Lafur? A all ei phleidlais syrthio’n llai na hynny? Yn ystadegol, mae’n ddigon posib. Gan gael 16,500 yn yr etholiad diwethaf (mil i lawr o 2001), mae’n ddigon hawdd rhagweld yn y sefyllfa gyfredol Llafur yn colli tua 1,000 o bleidleisiau yn rhagor yma. I bwy, os rhywun o gwbl, wn i ddim. Un peth o’i phlaid ydi Nia Griffith – mae hi’n boblogaidd yn lleol ac yn cael ei chydnabod fel aelod cydwybodol ac effeithiol, ond heb ag ennyn yr un hoffter â Denzil gynt. A yw’n ddigon poblogaidd i wrthnewid y duedd a welir yn Llanelli?

A all Llafur ddisgyn at y 15,000? Gall. Mae’n anodd iawn dweud a ydi hynny’n debygol ai peidio, ond mae tueddiadau yn awgrymu ei bod yn bosibl. Ydi hyd yn oed y llai na 10,000 a bleidleisiodd i Lafur yn 2007 yn debygol oll i gadw’r driw i Nia Griffith? Ar y cyfan, ydyn, mae’n siŵr. Ond faint yn fwy na’r gwir selogion hynny a fydd yn cyboli pleidleisio dros lywodraeth amhoblogaidd, ‘sgwn i.

Byddwn i ddim yn mynd mor bell â dweud mai Plaid Cymru sydd â’r fantais, cofiwch, eithr y momentwm. Mae ‘na wahaniaeth mawr fanno.

Yn nifer o seddau Cymru, Llafur v. Ceidwadwyr yw’r frwydr, a disgwylir i seddau felly ddilyn patrwm cenedlaethol o ran arolygon barn ac ati. Ond mewn seddau felly gellir disgwyl, yn ddigon teg dwi’n meddwl, i Lafurwyr droi allan i bleidleisio i atal y Ceidwadwyr, ac ambell i genedlaetholwr neu ryddfrydwr fenthyg pleidlais iddynt – dyna natur y bleidlais wrth-Dorïaidd yng Nghymru. Ond yn y seddau prin hynny nad y Ceidwadwyr yw’r prif fygythiad, gellir diystyru’r effaith honno i raddau helaeth. Heb fygythiad lleol y Ceidwadwyr, mae’r cymhelliant i bleidleisio i Lafur yn is.

O ganlyniad i hynny, yn Llanelli o leiaf mae’n anodd gweld Llafur yn cynyddu ei phleidlais o dan unrhyw amodau. Os bydd mwy o bobl yn pleidleisio na’r tro diwethaf, gellir disgwyl i Lafur gadw ei phleidlais yn sefydlog – o bosibl ei chynyddu fymryn. Os bydd nifer tebyg, neu lai, yn pleidleisio, bydd nifer ei phleidleisiau yn syrthio yn ôl pob tebyg. Bryd hynny mae ‘na beryg mawr iddi.

Y peryg a gyflwynir gan Blaid Cymru ydi ei bod wedi llwyddo i wneud dau beth, sef cornelu’r bleidlais wrth-Lafur, a dwyn Llafurwyr i’w chorlan – a ‘does dim i awgrymu bod y duedd honno naill ai yn atal, neu o ran yr un sedd benodol hon, am newid mewn etholiad cyffredinol.

Mae 7,000 o fwyafrif yn gadarn ar yr olwg gyntaf. Ond er y disgwylir yn gyffredinol i seddau fel Gorllewin Caerdydd (mwyafrif: 8,167), Alun a Glannau Dyfrdwy (8,378), Delyn (6,644) a Wrecsam (6,819) fod yn agos, pam lai Llanelli? Yn fy marn i, mae Llanelli yn debycach o newid dwylo na’r un o’r uchod.

Un ystadegyn bach arall cyn i mi roi fy mhen ar y bloc. O ran etholiadau cenedlaethol o 2003 ymlaen (ac eithrio Ewrop 2004 oherwydd diffyg data ar fy rhan i – alla’ i ddim am fy myw dod o hyd i ganlyniadau seddau unigol ar gyfer 2004) mae Llafur wedi cael ar gyfartaledd 39.6% o’r bleidlais a Phlaid Cymru 37%. Agos.

Ydw, dwi isio i Blaid Cymru ennill yma, alla’ i ddim gwadu hynny. Ond dwi’n gwisgo fy het ddiduedd wrth wneud y dadansoddiadau hyn, gyda llond sach o ystadegau a phinsiad o reddf. Dyma hi.

Proffwydoliaeth: Bydd hwn yn ganlyniad mawr. Bydd llai na mil o bleidleisiau ynddi yr un ffordd neu’r llall, ond dwi am roi Llanelli i Blaid Cymru.

A dyna hynny drosodd eto

Gobeithio felly y cawsoch Nadolig Llawen, neu o leiaf Nadolig sydd yr un mor ‘llawen’ ag ydyw fel arfer. Byddwn i byth yn disgrifio’r Nadolig yn Rachub fel ‘llawen’ yn ein tŷ ni.

Wyddoch chi, wrth i mi yrru i’r gogledd wythnos yn ôl mi deimlais fy ngwddw yn rhyfedd. Mae hyn yn digwydd pob hyn a hyn, yn enwedig ar ôl cyfnod o yfed, ond aeth hwn ddim yn y ffordd arferol. Yn wir, gorfodi’n hun a wnes i fynd allan noswyl Nadolig. Daeth yr annwyd drannoeth.

O do, mi a’m tarodd fel mellten. Ro’n i’n swp sâl diwrnod Nadolig, ac ni wnaeth y siaced lledr roddodd Mam i mi fel anrheg Nadolig, a oedd i fod yn frown ond yr oedd yn ddu bitsh ac sy’n mynd nôl i Cheshire Oaks, yn help. Flasish i mo’r cinio yn llawn. A dweud y gwir, bu i mi deimlo’n sori iawn dros fy hun am ychydig ddyddiau. Wedi’r cyfan, dyn ydw i. Anaml y byddwyf yn sâl, ond pan fyddwyf mae’r byd ar fin dod i ben.

Ar yr ochr dda, ddioddefish i mo’r pen mawr traddodiadol, er i mi yfed mwy na’r arfer y noson gynt. Canlyniad.

Eleni, hynny ohoni sydd yn weddill, rhestra i mo fy ngobeithion am 2010. Fydda’ i’n 25 oed, a thraean o’m bywyd wedi hen fynd (fel rhywun a gafodd ei fid-leiff creisis yn y groth dwnim sut ydw i ‘di llwyddo para cyhyd beth bynnag, ond dwi’n dechrau teimlo’n fwy optimistaidd am gyrraedd y deg ar hugain o leiaf erbyn hyn).

Er, mae’r byd yn dod i ben mewn llai na dwy flynedd, felly dwi’m yn gweld fawr o bwynt poeni.

venerdì, dicembre 18, 2009

Cyfarchion yr ŵyl

Dwi’n meddwl fy mod yn llawn haeddu saib fer o flogio, ac felly dwi am roi’r gorau iddi tan ar ôl y Nadolig, felly gwaeth i mi ddymuno ‘Dolig Llawen i chi gyd ac fe’ch gwelaf faes o law!

A gyda llaw, da'r hogan!