lunedì, febbraio 15, 2010

Gogledd a Chanol Caerdydd

Nid bod yn ddiog, gobeithio, ydw i wrth roi’r ddwy sedd sy’n weddill yng Nghaerdydd at ei gilydd mewn un dadansoddiad. Mae’r canlyniad yn y ddwy yn gwbl, gwbl sicr - yn wahanol i ddwy sedd arall y ddinas - gydag un yn sicr o newid dwylo a’r llall gadw ei lliw.

Dechreuwn gyda Chanol Caerdydd. Mae hon yn sedd y mae tair plaid wedi’i chynrychioli dros gyfnod fy mywyd. Roedd yn Geidwadol rhwng 83 a 92, yn Llafur wedyn tan 2005 a bellach mae’n Rhyddfrydol. Nodir isod nifer uchaf, ac isaf, pleidleisiau’r tair plaid hynny rhwng 1983 a 2005 a’r flwyddyn.

Ceidwadwyr: 16,090 (1983); 3,339 (2005)
Llafur: 18,464 (1997); 9,387 (1983)
Dems Rhydd: 17,991 (2005); 9,170 (1992)

Yn gyntaf awn ar ôl y Ceidwadwyr – fel y gwelwch mae pleidlais y Ceidwadwyr wedi chwalu yn gwbl ddi-droi’n ôl yma. Mae’n anodd, i raddau, ddeall sut y bu i’r Ceidwadwyr ennill yma yn y lle cyntaf, ond roedd canlyniad 2005 bron bum gwaith yn waeth na hynny gafwyd ar ddechrau’r wythdegau. ‘Does gan y Ceidwadwyr gyfle yma bellach. Mae’n destun o maint eu dirywiad hwy yng Nghymru, er gwnaethaf eu llwyddiannau cymharol diweddar.

Beth am Lafur? Wel, mae Llafur i’w gweld i fyny ac i lawr yn y sedd. Mae pleidlais uchel iawn ganddi yma o bosibl, ond mi all wneud yn weddol ddrwg hefyd. Ond mae pleidlais naturiol gref i Lafur yma, ac efallai bod y bleidlais Geidwadol yn fwy ‘meddal’ yn y bôn. Tuedda rhywun i feddwl pe bai’r Ceidwadwyr yn gwneud yn dda yma, nid Llafur fyddai’n dioddef. Er gwnaethaf natur gyffredinol yr etholaeth, mae ‘na rannau ohoni’n ddigon ffyniannus.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwneud yn dda yma, drwy ganolbwyntio nid yn unig ar fyfyrwyr ond hefyd pobl leol. Enillwyd y sedd yn 2005 oherwydd blynyddoedd o waith caled ar eu rhan. Dyma i raddau hefyd hanes y sedd yn y Cynulliad – mae gafael y Rhyddfrydwyr arni yn eithriadol gadarn, gan ennill dros hanner y bleidlais yma ddwywaith.

Mae’n anodd darogan sut y bydd brwydr rhwng Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd rhagddi. Tasem mewn blwyddyn lle mai’r Ceidwadwyr sy’n llywodraethu, byddwn i ddim yn rhoi’r sedd hon y tu hwnt i Lafur, gadewch i mi fod yn hollol onest. Yn wir, dwi ddim yn amau bod hon yn un sedd y bydd Llafur ei hadennill yn y dyfodol.

Mae’n gwbl amlwg mai’r prif ogwydd yma dros y blynyddoedd fu o’r Ceidwadwyr i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Yn y sedd hon, yn yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni, mae cynnydd ym mhleidlais y Ceidwadwyr yn debycach o effeithio ar y Rhyddfrydwyr na Llafur.

Serch hynny, mae gan y Rhyddfrydwyr fantais fawr – bydd Llafur yn cadw ei llygaid ar Orllewin a De Caerdydd, a’r Ceidwadwyr ar y Gogledd. Synnwn i ar y diawl petai ymgyrch o unrhyw bwys gan unrhyw un yma ond am y Democratiaid Rhyddfrydol.

O ennill etholiadau cyngor 2008 yn hawdd, a hefyd etholiadau Ewrop yn 2009 (yr unig sedd yng Nghymru iddynt lwyddo gwneud hynny), anodd yw gweld heibio Jenny Willott y tro hwn.

Proffwydoliaeth: Mwyafrif o tua 6,000 i’r Democratiaid Rhyddfrydol


Petai gogledd y ddinas yn Lloegr, byddai yn hawdd yn ardal Geidwadol bron yn ddieithriad - hyd yn oed, o bosibl, ym 1997. Dim ond dau Llafurwr sydd wedi dal y sedd, sef Ted Rowlands rhwng 1966 a 1970, a Julie Morgan ers 1997. I bob pwrpas, yr unig dro mae Llafur yn ennill yng Ngogledd Caerdydd ydi pan gaiff etholiad rhagorol yng Nghymru.

Cafodd Llafur strîc dda o ganlyniadau yma rhwng 1997 a 2007. Hyd yn oed yn y Cynulliad, dim ond y tro diwethaf, yn 2007, a gollodd i’r Ceidwadwyr. Rhoddodd Jonathan Morgan gweir i Lafur y flwyddyn honno, gan sicrhau gogwydd mawr, dros bymtheg mil o bleidleisiau a hynny gyda thros hanner yr etholwyr yn pleidleisio.

Mwyafrif Julie Morgan yn 2005 oedd 1,146 (2.5%). Mae’r fath fwyafrif yn annhebygol iawn o wrthsefyll y llif Geidwadol, nid yn unig yn genedlaethol ond yn lleol. Yn etholiadau cyngor 2008, enillodd y Ceidwadwyr 13 o seddau, i bump y Rhyddfrydwyr a thri annibynnol. Na, dwi heb fethu dim allan – ‘does ‘na ddim cynghorwyr Llafur yma.

Dwi hefyd yn meddwl fy mod yn gywir yn dweud mai dyma’r sedd y cafodd y Ceidwadwyr eu nifer uchaf o bleidleisiau yn etholiadau Ewrop – roedd dros 8,000 a bron yn ddwbl faint y cafodd Llafur.

Er y gall y Ceidwadwyr ennill pleidleisiau yng Nghanol Caerdydd gan y Rhyddfrydwyr, teimlaf eu bod yn sicr o wneud yma. Mi fydd yn un o’r seddau hynny lle ceir pleidlais wrth-Lafur gref gan bobl a fyddai fel rheol yn pleidleisio i rywun arall. Cafodd y Dems Rhydd 18% o’r bleidlais y tro hwn, a dwi’n llawn disgwyl i hynny ddirywio ynghyd â’r bleidlais Lafur.

‘Does ‘na fawr o amheuaeth am y peth, mi fydd y Ceidwadwyr yn ennill yma yn ddigyfaddawd o galed.

Proffwydoliaeth: Mwyafrif mawr i’r Ceidwadwyr, fwy na thebyg gyda thua hanner y bleidlais.

"Gemau yn erbyn yr Alban..."

“Gemau yn erbyn yr Alban ydi’r rhai mwyaf diflas bob tro,” ddywedais yn y Romilly, “dyna’r gêm fydd rhywun yn edrych ymlaen ato leiaf yn y Chwe Gwlad”. Safais wrth y datganiad.

“Yr Alban, yn y bôn, ydi’r rhai y bydd rhwyun isio colli yn eu herbyn leiaf,” dywedais wedyn, “achos maen nhw’n rybish. O leiaf fod rhywun yn gallu meddwl o golli i’r Eidal “da iawn nhw” a golygu hynny”. Gwir mewn geiriau ydyw, gan gyfleus anghofio’r Saeson a’r Gwyddelod yn y foment. Ond o leiaf nad ydi colli iddynt hwythau’n gywilydd.

Ddeng munud cyn diwedd y gêm, newidiodd fy nhôn i “Dydi hi ddim yno,” gan gyfeirio at y fuddugoliaeth.

Saif yr ail ddatganiad. Ond ar ddiwedd y gân, dwi jyst ddim yn gwbod hynny faint am rygbi.

giovedì, febbraio 11, 2010

Bro Morgannwg

Rhwng dadansoddi seddau Cymru, dwi wedi bod yn meddwl am isafswm ac uchafswm seddau’r pleidiau oll. Dwi’n meddwl ei bod yn gwbl sicr, er enghraifft, y caiff Plaid Cymru o leiaf 3 sedd, ond dim mwy na saith, a’r Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 1 a 5. O ran Llafur, ni chaiff lai na phymtheg, ond dim mwy na 27.

Y Ceidwadwyr sydd dan sylw heddiw. Os cânt flwyddyn ragorol, gallent gipio hyd at 14 o seddau yn fy marn i, ond dwi wedi pennu isafswm o chwe sedd iddynt. Mae Bro Morgannwg yn sedd dwi’n gwbl sicr fy marn yr aiff i’r Ceidwadwyr eleni.

Gan ddweud hynny dydi’r Ceidwadwyr ddim wedi gwneud yn rhagorol ym Mro Morgannwg dros y ddegawd ddiwethaf. Y rheswm am hynny ydi nad ydi’r Ceidwadwyr wedi bod yn boblogaidd am ddegawd. Mae’r sedd yn sî-so rhwng y Ceidwadwyr a Llafur sy’n dibynnu’n helaeth ar y duedd Brydeinig. Mae’r cyferbyniadau yn y sedd yn ddigon amlwg - mae’n cwmpasu ardaloedd llewyrchus fel y Bont-faen a rhai mwy difreintiedig fel y Barri. Yn gwbl naturiol, felly, brwydr glas-coch ydyw.

Ond mi roddaf rywfaint o sylw i’r ddwy blaid arall. Mae llwyddiant Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn amrywiol iawn. Ar lefel San Steffan, cafodd Plaid Cymru ei huchafbwynt yn 2001, gyda 6.3% o’r bleidlais, a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2005 gydag 13% o’r bleidlais. Ffigurau digon pathetig. Dydi pethau fawr gwell yn y Cynulliad i’r naill na’r llall – er i Blaid Cymru gael chwarter y bleidlais ym 1999 tua hanner hynny ydi ei hanes ers hynny. Dydi’r Dems Rhydd heb lwyddo heibio’r 12%.

Yn etholiadau Ewrop y llynedd, cafodd y Blaid 13% o’r bleidlais (4ydd), a’r Dems Rhydd 8.2% (5ed). Felly mae’r ddwy yn ddigon anobeithiol, ond rhaid nodi hyn am Blaid Cymru: mae ganddi bocedi o gefnogaeth gref ym Mro Morgannwg. Dim ond 6 o’r 36 o gynghorwyr sydd ganddi ym Mro Morgannwg...

Ceidwadwyr 16
Llafur 11
Plaid Cymru 6
Eraill 3

... ond nifer y pleidleisiau sy’n ddiddorol. Fel y dywedais yn nadansoddiad Islwyn, mae’n anodd trosglwyddo etholiadau mewn wardiau aml-sedd yn union nifer y bobl a bleidleisiodd dros Blaid, ond gyda deunaw ward yn dychwelyd 36 o gynghorwyr, y ffordd hawsaf o amcangyfrif hynny ydi drwy haneru nifer y pleidleisiau a gafodd pob plaid – a dyna fwy na thebyg yr agosaf y deuwn ati. Os gwnawn hynny, mae’r niferoedd ar gyfer 2008 yn yr etholaeth (yn fras) fel a ganlyn:

Ceidwadwyr 15,700
Llafur 8,300
Plaid Cymru 8,200
Eraill 3,800

Ydi, mae hynny’n syfrdanol. Mae’r niferoedd Llafur yn isel iawn, gyda’r niferoedd Plaid Cymru yn eithriadol o uchel. Hefyd, er clod i Blaid Cymru, safodd ymgeiswyr ym mhob sedd ac eithrio dwy yn yr etholaeth. Mae hynny’n dangos cryfder llawr gwlad. Yn anffodus, nis adlewyrchir mewn etholiadau cenedlaethol.

Dwi’n tueddu i feddwl y gallai Plaid Cymru herio’r Democratiaid Rhyddfrydol am y trydydd safle y tro hwn, er nad ydw i o’r farn y bydd yn llwyddo yn y dasg honno. Ddaw hi’m yn agos ar y safle cyntaf p’un bynnag!

I gael darlun teg rhaid i ni edrych ar adeg pan fu’r ddwy brif blaid yn fuddugol yma. Dyma grynodeb o’r mwyafrifoedd (dynoda’r lliw y blaid fuddugol) ers 1983.

1983: 10,393 (22.2%)
1987: 6,251 (12.1%)
1989: 6,028 (12.6%) – isetholiad
1992: 19 (0.1%)
1997: 10,532 (19.6%)
2001: 4,700 (10.4%)
2005: 1,808 (3.8%)

Mae’r canlyniadau hynny’n dangos bod mwyafrifoedd y ddwy blaid yn gallu bod yn anferthol - a hefyd yn bitw. Yn yr UDA, byddai hon yn cael ei galw’n ‘swing state’, un a all fynd unrhyw ffordd, a mynd i’r ffordd honno yn sylweddol.

Gydag isetholiadau yn aml yn mynd yn erbyn y llywodraeth gyfredol, mae’r Fro yn draddodiadol wedi pleidleisio dros y blaid a fydd yn fuddugol yn yr etholiad cyffredinol, y math yna o sedd ydi hi. Heb drydedd blaid gref mae’n anodd dychmygu na fydd y patrwm hwnnw’n parhau.

Felly beth am gymhwyso arolwg barn diweddar i Fro Morgannwg – a hynny gyda thri chwarter yr etholwyr yn pleidleisio (mae hon yn sedd ymylol wedi’r cwbl, gall y niferoedd sy’n bwrw pleidlais fod yn uchel iawn). Defnyddiwn un Populus, 5-7 Chwefror, a throsi’r canlyniad:

Ceidwadwyr 23,100
Llafur 18,500
Mwyafrif: 4,600

Felly beth fyddai’r newid? Byddai’r Ceidwadwyr yn ennill tua 5,500 o bleidleisiau, a Llafur i lawr tua mil. Mae hynny heb ystyried effeithiau posibl Plaid a’r Dems Rhydd (a allai amrywio o ddwyn pleidleisiau Llafur i fenthyg pleidlais iddynt i atal y Ceidwadwyr!). Synnwn i ddim petai’r niferoedd sy’n pleidleisio i Lafur fod mor uchel, fodd bynnag - mewn sedd ymylol, haws yw darbwyllo Llafurwyr dadrithiedig i bleidleisio na mewn seddau a ganfyddir yn ddiogel, megis De Caerdydd a Phenarth gyfagos.

Mae rhoi 23,000 o bleidleisiau i’r Ceidwadwyr yn ymddangos yn uchel, ond mae cynsail i hyn. Ers 1983, mae’r Ceidwadwyr wedi llwyddo ennill dros 24,200 o bleidleisiau ddwywaith - ond cafodd Llafur dros 29,000 o bleidleisiau ym 1997 (cafodd dros 24,000 hefyd ym 1992). Pleidleisiodd pedwar o bob pum etholwr yn ‘97, felly i raddau gellir dweud, hyd yn oed mewn etholiad lle disgwylir i Lafur golli, fod nifer uchel eithriadol yn pleidleisio yn rhywbeth y byddai Llafur yn ei ffafrio.

Dyma gip cyflym iawn ar ganrannau Ewrop y llynedd:

Ceidwadwyr 31%
Llafur 16%
UKIP 15%
Plaid 13%

Buddugoliaeth gadarn i’r Ceidwadwyr, ond roedd y bleidlais UKIP yn gref hefyd. Yn wir, bydd ambell Geidwadwr yn dal i gael hunllefau am ymyrraeth UKIP mewn ambell etholiad.

Llafur 11,515 (34.2%)
Ceidwadwyr 11,432 (33.9%)
Plaid Cymru 4,671 (13.9%)
Dem Rhydd 3,758 (11.2%)
UKIP 2,310 (6.9%)

Byddwch yn gyfarwydd â’r canlyniad uchod – Etholiad Cynulliad 2007, pan enillodd Jane Hutt o 83 o bleidleisiau. I fod yn deg, mae gan rywun cyfarwydd fel Jane Hutt bleidlais bersonol a oedd yn sicr o fudd iddi wrth gadw’r sedd, ond chwi welwch y blaid sy’n olaf. Does fawr o amheuaeth, heb UKIP, y byddai’r Ceidwadwyr wedi ennill yma yn 2007.

Bydd UKIP yn sefyll yma eto eleni. Fydd hynny o ddim lles i’r Ceidwadwyr na Llafur, ond yn Ceidwadwyr fydd yn dioddef fwyaf. All UKIP gael digon o bleidleisiau y tro hwn i rwystro’r Ceidwadwyr? Yr ateb onest, yn fy marn i, ydi ‘na’, ond gall yn sicr gwneud y gwaith o gipio’r sedd yn anoddach o bethwmbrath.

Ond dangosodd 2007 rywbeth arall – gall Llafur ennill yma. Ydi, mae’n annhebygol, ond nid yw’n anobeithiol.

Serch y posibilrwydd hwnnw, fel y dywedais uchod, dwi’n meddwl y bydd Bro Morgannwg yn un o’r chwe sedd sy’n gwbl, gwbl bendant am fynd i ddwylo’r Ceidwadwyr eleni. Dydi’r mwyafrif Llafur yma ddim yn ddigon cadarn i wrthsefyll y cynnydd cryf tebygol a welir yn y bleidlais Geidwadol yng Nghymru – UKIP ai peidio. Er tegwch, gallwn hyd yn oed y dyddiau hyn ddweud bod y gogwydd a geir i’r Ceidwadwyr yn Lloegr yn ôl y polau yn annhebygol o gael ei adlewyrchu yng Nghymru yn gyffredinol. Ond mi fydd y gogwydd yng Nghymru yn fwy na’r 1.9% sydd ei angen ar y Ceidwadwyr i ennill yma.

Fel dwi’n ei ddweud, mae gobaith i Lafur yma. Os bydd ei phleidlais graidd yn y Barri a lleoedd tebyg yn pleidleisio mewn niferoedd, mae ‘na gyfle go lew o drechu’r Ceidwadwyr. Dwi ddim yn darogan y bydd hynny’n digwydd eleni.

Proffwydoliaeth: Buddugoliaeth gadarn i’r Ceidwadwyr – tua phum mil



Pymtheg sedd i fynd - dyma Gymru Rachub hyd yn hyn

mercoledì, febbraio 10, 2010

Islwyn

Islwyn ydi’r targed nesaf gen i. Er nad ydi hi’n ofnadwy o anodd darogan pwy wnaiff ennill yma eleni, mae amryw bosibiliadau parthed y canlyniad ei hun. Er nad oes dim diddorol wedi digwydd yma yn San Steffan ers oes yr iâ, mae pethau’n fwy diddorol mewn etholiadau eraill. Awn ati y tro hwn fesul plaid.

Yn gyntaf, ac yn fras, y Ceidwadwyr. Er dod yn ail yn ôl ym 1992, gan ennill dros chwe mil o bleidleisiau y flwyddyn honno, dydi’r Ceidwadwyr heb ddod yn agos at y fath gyfanswm ers hynny. Yn wir, ar gyfartaledd dim ond 2,922 o bleidleisiau y maent wedi cael ymhob etholiad San Steffan, er iddynt drechu’r trothwy 10% eto yn 2005. Yn y Cynulliad dydi’r Ceidwadwyr heb gael mwy na dwy fil erioed.

Er ei bod yn ddigon posib y bydd y Ceidwadwyr yn cael canlyniad gweddus yma eleni, mae’n annhebygol y bydd yn fwy na 15% o’r bleidlais.

Fymryn yn llai bras awn at y Democratiaid Rhyddfrydol. Maen nhw wedi dod yn ail yma yn San Steffan ddwywaith yn y tri etholiad diwethaf, ond yn wahanol i’r duedd gyffredinol yng Nghymru aeth eu pleidlais i lawr yn 2005, er o drwch blewyn. Mae’n bosibl iawn i hynny ddigwydd oherwydd i Kevin Etheridge sefyll iddynt yn 2001 – bellach mae’n gynghorydd annibynnol yn y sir, a chafodd 28% o’r bleidlais yn etholiadau cynulliad 2007. Colli pleidleisiau personol, mi dybiaf, ddaru’r Rhyddfrydwyr, yn fwy na chefnogaeth graidd.

Ar lefel y Cynulliad mae’r Dems Rhydd yn llai llwyddiannus fyth – collodd y blaid ei hernes yn 2007. Ond byddai gwaeth i ddod. Daeth y blaid yn chweched, y tu ôl i’r BNP hyd yn oed, yn etholiadau Ewrop. Mae hynny’n ganlyniad ofnadwy, am sawl rheswm wrth gwrs.

Er diddordeb, 0.3% o’r bleidlais gafodd y blaid yn etholiadau Cyngor 2008 yma. Ar yr un llaw, dim ond un ymgeisydd safodd, gan gael 134 o bleidleisiau yn ward Penmaen. Ond, gyda 31 o gynghorwyr ar gael yn yr etholaeth, a’r ffaith i’r Democratiaid Rhyddfrydol ond gallu cynnig un ymlaen, dangosir diffyg gwreiddiau yn y rhan hon o’r byd.

Ymddengys nad oes gan y Rhyddfrydwyr fawr o reswm i fod yn frwdfrydig am y sedd hon, ac fel mewn sawl lle ceisio cipio Llafurwyr dadrithiedig fydd eu hanes. Ond gyda hanes etholiadol mor eithriadol o wan yma yn ystod y blynyddoedd diwethaf, synnwn i ddim petai hon yn sedd y byddant yn gweld trai ynddi y tro hwn.

Gair bach sydyn hefyd am ddwy blaid arall, sef UKIP a’r BNP. Rŵan, gwnaeth y ddwy blaid hyn yn dda iawn yma yn etholiadau Ewrop, ‘sdim dwywaith am hynny. Daeth UKIP yn ail gyda 400 o bleidleisiau yn fwy na’r blaid a ddaeth drydydd. Daeth y BNP yn bumed gyda dros 1,100 o bleidleisiau. Dyma’r math o sedd yn draddodiadol nad yw mor gefnogol i bleidiau o’r fath, ond mae arwydd y gallai plaid ‘amgen’ fod yn ddewis poblogaidd petai’n ymgeisio yma.

Rŵan, alla’ i ddim dod o hyd i wybodaeth am yr ymgeiswyr sydd wedi cadarnhau eu henwau yma – dim ond un sydd hyd y gwela’ i. Ond gwelwyd yn ddiweddar y gall ymgeisydd ‘amgen’, yn yr achos hwn ymgeisydd annibynnol, fod yn llwyddiannus yma. Fel y nodwyd uchod, cafodd Kevin Etheridge 28% o’r bleidlais yma yn 2007. Dydi hynny ddim yn swnio lot nes i chi ddeall fod hynny dros chwe mil a hanner o bleidleisiau, yn ail cyfforddus a dim ond 9.4% yn llai na’r blaid fuddugol.

Er na allaf yn bersonol ddeall apêl y gwleidydd annibynnol, mae ‘na duedd atynt yn y Cymoedd ar hyn o bryd. Petai rhywun lleol, poblogaidd yn sefyll gall yn sicr ddod yn ail mewn sedd fel Islwyn.

Serch hynny, Plaid Cymru sydd debycaf o ddod yn ail yma. Plaid Cymru ydi’r unig blaid mewn degawdau maith sydd wedi trechu Llafur yn Islwyn. 1999 oedd pan lwyddodd ennill dros ddeng mil o bleidleisiau a 42.0% o’r bleidlais. Llwyddodd hefyd ennill yma yn etholiadau Ewrop y flwyddyn honno.

Nid oedd buddugoliaeth Islwyn, na’r Rhondda, y daeargryn gwleidyddol y cyfeiriodd Dafydd Wigley ato mewn gwirionedd – roedd ‘na elfen isetholiadol gref, yn wahanol i Gonwy neu Lanelli, lle cafwyd newid sylfaenol. Aeth pethau’n ddifrifol o’i le yn 2003. Roedd y gogwydd oddi wrth y Blaid yn 18% a chafodd grasfa. Gydag ymyrraeth yr ymgeisydd annibynnol yn 2007, dim ond o 3% gynyddodd Plaid Cymru ei phleidlais a daeth yn drydydd. Dadleua rhai heb yr ymgeisydd annibynnol y byddai’r Blaid wedi adennill Islwyn. Dydi hynny ddim yn debyg, mewn gwirionedd, ond mae lle i gredu y gall y Blaid ailennill y sedd yn 2011. Wedi’r cyfan, mae’n ffaith bod dros ddeng mil o bobl yma wedi bwrw pleidlais dros Blaid Cymru o leiaf unwaith.

Er i Blaid Cymru lwyddo gwthio’r Dems Rhydd i’r trydydd safle yn 2005, cafodd hithau’n ei thro lai na 4,000 pleidlais. Gogwydd i Lafur oedd hi. Roedd pleidlais yr ail blaid 51% yn is na phleidlais Don Touhig.

Brwydrodd y Blaid yn ôl yn 2008, fodd bynnag. Llwyddodd ennill 10 o’r 31 o seddau cyngor yn yr etholaeth. O ran pleidleisiau, gwelwyd gogwydd o 6% oddi wrth Lafur ati, a chafodd 16,118 o bleidleisiau. Rŵan, mewn wardiau aml-sedd mae’n ymylu at amhosibl i ddarogan sut y gallai hynny chwarae mewn etholaeth cyffredinol. O wneud ychydig o symiau, mae’n awgrymu i ychydig dros saith mil o bobl yn unigol bleidleisio dros y Blaid. Mae hynny’n barchus iawn ar unrhyw lefel.

Er, mi aeth pethau’n ddifrifol o’i le yn 2009. Dim ond 11.3% o’r bleidlais gafodd y Blaid, gan ddod yn drydydd. Cafodd ond 57 o bleidleisiau yn fwy na’r Ceidwadwyr. Ffliwc? Anfodlonrwydd ar y Cyngor (a arweinir gan y Blaid)? Ymgyrch wan? Dim ots – roedd yn berfformiad gwael.

Cyn mynd ymlaen at Lafur, dyma ddangos rywbeth i chi. Dyma, ar gyfartaledd, nifer y pleidleisiau y mae pob plaid wedi’i chael rhwng 1997 a 2005 mewn etholiadau San Steffan.

Llafur 22,062
Dems Rhydd 3,711
Plaid Cymru 3,329
Ceidwadwyr 2,922

Fel y gwyddom eisoes, Llafur sy’n teyrnasu yma – mae’n un o’i chadarnleoedd. Roedd yn un o ychydig seddau drwy’r DU yn 2005 lle enillodd Llafur fwy o bleidleisiau a chanran uwch o’r bleidlais. Er gwybodaeth, dyma ganran y bleidlais Lafur ym mhob etholiad yn yr etholaeth ers 2005:

2005: 63.8%
2007: 37.7%
2008: 38.5%
2009: 29.2%

Rŵan, er mai dim ond un etholiad cyffredinol a gynhwysir yn hynny, ar gyfartaledd mae Llafur wedi cael 42.3% o’r bleidlais yma ers 2005 – a hynny oherwydd iddi ennill mor rhwydd y flwyddyn honno. Yn etholiadol, byddai unrhyw ganran yn ymylu ar y 40% yn beri i sedd beidio â chael ei hystyried yn ddiogel.

Ond mae’r trai Llafur i’w weld yma gystal â’r unman arall, ac mae ‘na ffactorau yn ei herbyn. Mae Don Touhig yn mynd. Dywedwch beth y mynnwch amdano; er bod gafael Llafur ar Islwyn yn dduraidd, mae’n llai felly hebddo. Yr awgrym cryf ydi y bydd Llafur yn dirywio yng Nghymru, gan o bosibl gael pleidlais sy’n y tridegau isel. Mae hi bron yn sicr na chaiff Llafur eto 19,687 o bleidleisiau yma eto eleni.

Pwy fyddai’n camu i’r adwy? Anodd dweud. Dyma’r math o sedd, fel ambell un arall, y gallai’r niferoedd sy’n pleidleisio lithro’n is (61% oedd yn 2005) oherwydd Llafurwyr yn aros adref yn lle cyboli pleidleisio. Byddai rhywun ddim yn disgwyl i’r Ceidwadwyr ddod yn ail yma, a dydi’r Democratiaid Rhyddfrydol ddim mewn sefyllfa gref i wneud hynny. Plaid Cymru ddylai ddod yn ail.

Gan ddweud hynny, gwahanwyd y tair plaid arall gan lai na 600 pleidlais yn 2005. Dydi’r ffaith y dylai’r Blaid ddod yn ail ddim yn golygu y gwnaiff – profodd 2009 un peth o ran Plaid Cymru, dydi hi ddim yn aml yn gwneud gystal ag y mae hi’n ei ddisgwyl. Yn reddfol, byddwn i’n disgwyl i’r Blaid gael rhwng 15 ac 18 y cant o’r bleidlais gyda’r Ceidwadwyr yn drydydd yma. Ond bydd yr ail safle hwnnw yn ddigon agored eleni. Ni fydd y safle cyntaf. Er gwaethaf popeth, cawn strôc petai Llafur hyd yn oed yn cael llai na 15,000 o bleidleisiau, a synnwn i petai yr un o’r tair arall yn cael mwy na 6,000.

Proffwydoliaeth: Mwyafrif o tua 11,000 i Lafur gyda’r niferoedd sy’n pleidleisio yn is na 2005.

lunedì, febbraio 08, 2010

Bydded gall, bydded barchus

Bydded gall, bydded barchus, bydded yn teimlo’n weddus ddydd Sul, dyna’r neges y rhoddais i mi’n hun nos Sadwrn. Bob tro y bydda i’n gwneud ymdrech i beidio â meddwi o ‘ngho, mi fydda i’n racs. Dwi’n meddwl mai y Fi Chwil yn gwrthryfela yn erbyn y Fi Sobor ydi hynny.

Aethasom i’r Mochyn Du yn ôl y drefn. Yfasom ddiodydd helaeth. Dwnim faint. Erbyn diwedd gêm Cymru, nad ydw i am sôn amdani – mae gen i flwyddyn o fod yn chwerw ar ei hôl – synnwn i petae unrhyw un yn sobor yn y dafarn gyfan. Rhaid i mi ddweud ro’n i’n eitha ypset. Dwi’n gollwr sy ddim yn licio colli – hen gylch cas ydyw.

Ond ar ôl treulio dros chwarter diwrnod yn y Mochyn, gallwch ddychmygu nad oedd fawr o lun arnaf. Ydyn, mae pethau’n niwlog erbyn cyrraedd Dempseys. Dwi heb syniad sut y llwyddasom oll gyrraedd Dempseys o ochr y castell mewn un darn – galla hwnnw ‘di troi’n flêr. Dwi’n gwybod fy mod wedi meddwi go iawn erbyn cyrraedd Pica Pica achos mi ollyngais dybl jin a thonic ar y llawr a nôl un arall ar f’union. Fel arfer mi fyddwn wedi pwdu ond erbyn hynny ro’n i’n teimlo’n hapus drachefn. ‘Doedd un gwydraid yn deilchion am fy nigalonni.

Parhau ar y jin wnes dwi’n meddwl. Maen nhw’n dweud bod jin yn gwneud i rywun deimlo’n ddigalon ond dydi o ddim yn gwneud i mi deimlo felly – ond mae o’n gwneud i mi anghofio. Edifaraf yn fawr nad yfais fwy, oherwydd dydi’r atgof o ddawnsio ben fy hun yn Copa wrth y bar yn ddi-baid am lawer gormod o amser ddim at fy nant. Er pan gofiais yr oll a wnes oedd chwerthin yn uchel ben fy hun ddydd Sul yn sâl fatha cath. Oni allwch chwerthin ar y Chychwi Chwil beth allwch chi wneud?

O wel. Brifais fy mraich. Tarais fy mhen yn rhywle mi dybiaf. Balchder? Celain ydyw. Ond ‘sdim yn brifo’n waeth na’r boced – ‘sdim math o jans y bydda i’n edrych ar fy nghyfrif banc yn fuan!

venerdì, febbraio 05, 2010

Hir Oes i'r Chwe Gwlad!

Hwra, hwra, hwra! Ydi, mae pum penwythnos gorau’r flwyddyn (dros gyfnod o saith wythnos, hm) arnom! Fydda i’n dweud bob blwyddyn; diolch byth bod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad arnom! Mae 2010 wedi cyrraedd, Ionawr wedi’i drechu, a’r nosweithiau’n ysgafnach! Am adeg horybl i orfod wynebu asesu seddau etholaethau Cymru pan fo’r byd yn troi’n goch.

Bydd popeth yn mynd i’r ochr dros yr wythnosau nesaf, o wleidyddiaeth i bêl-droed i fwyta’n iach i grefydd.

Yn ôl f’arfer rhoddwyd pumpunt lawr ar Gymru’n curo’r Gamp Lawn. 12/1 ydi’r pris eleni, ddim yn wych, ond neith hi ambell beint os bydd y Duwiau (sef jyst Duw, wrth gwrs – ymddiheuraf, er synnwn ar y diawl petae Duw’n darllen blog yr Hogyn o Rachub, rhwng bod yn dduwiol ac ati) yn ein ffafrio.

Mae popeth yn dda am y Chwe Gwlad. Bydd ‘na ambell hen rech (nid YR Hen Rech, mawr bwysleisiaf) yn cwyno ac yn achwyn mai dim ond esgus dros feddwi ydi’r brwdfrydedd dros y rygbi, ond dyma chi bobl sy ddim yn dallt hwyl y bencampwriaeth. Ydi, mae’r yfed yn rhan ohono, ond rhan yn unig ydyw. Gwefr y ceisiau a’r buddugoliaethau, poen y golled, hynt y gêm, yr awyrgylch, y canu, ymryson cyfeillgar â’r gwrthwynebwyr – dyna ydi’r Chwe Gwlad.

Rhydd i bawb ei farn ond ‘sdim rhyfedd ‘na rygbi ydi gêm genedlaethol y Cymry. Dwi’n gwbod bod ‘na ambell ffan pêl-droed hardcôr yn anghytuno ond maen nhw’n anghywir (well gen i bêl-droed i rygbi fy hun). Ni all ‘run bencampwriaeth, yn ‘run gamp arall, gymharu â’r Chwe Gwlad.

Fedra i’m disgwyl!

mercoledì, febbraio 03, 2010

Dwyfor Meirionnydd

Sedd gwbl newydd ydi Dwyfor Meirionnydd, ac o holl seddau Cymru mae hi’n un o’r rhai mwyaf diogel. Mae Dwyfor wedi bod yn gadarn iawn dros Blaid Cymru ers degawdau bellach, yn wir ym Mhwllheli sefydlwyd y blaid, ac ers dyfodiad Elfyn Llwyd gellir dweud yr un peth am Feirionnydd.

Mae’r ddwy ardal yn dod o seddau gwahanol gynt, gyda Dwyfor yn dod o’r hen Gaernarfon, a Meirionnydd y rhan ddeheuol o Feirionnydd Nant Conwy. Daeth Caernarfon yn gadarn iawn dros Blaid Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf - cafodd Dafydd Wigley fuddugoliaethau enfawr yma y gellir eu cymharu â rhai o fwyafrifoedd Llafur yn Ne Cymru.

Er na Meirionnydd Nant Conwy oedd sedd gadarnaf Plaid Cymru yn gyffredinol rhwng 1997 a 2007, mae’n syndod nad oedd felly’n gynt. Chafodd Dafydd Elis-Thomas fyth fwyafrif enfawr yma yn San Steffan. Ers i Elfyn Llwyd arwain y blaen cafodd y Blaid tua hanner y bleidlais yn gyson.

Mae Dwyfor Meirionnydd yn newid sylweddol o’r seddau gynt, a’r gwir ydi ‘does gennym ni ddim data dibynadwy ar ei chyfer cyn 2007. Ond gallwn ddweud hyn, mae Meirionnydd a Dwyfor ymhlith yr ardaloedd cadarnaf dros Blaid Cymru yng Nghymru gyfan; Plaid Cymru yn unig sydd wedi dominyddu yma ers amser maith. Mae Llafur a’r Ceidwadwyr wedi dod yn ail mewn ambell le dros y degawdau, er mai Llafur ydi’r un rai i gynrychioli’r ardaloedd hyn o fewn cof – collwyd y ddwy ardal i Blaid Cymru ym 1974.

Rŵan, cyn mynd ymlaen dywedaf ar fy union mai dim ond dau etholiad y byddaf yn eu defnyddio i ddadansoddi Dwyfor Meirionnydd, sef rhai Cynulliad 2007 a rhai cyngor 2008. Ymladdwyd etholiad ’09 ar ffiniau’r hen etholaethau, a chan fod y newid rhwng y rheini a’r sedd hon mor fawr, ‘sdim pwynt i mi wastraffu amser yn mân ddadansoddi.

Dyma ganlyniad etholiad Cynulliad 2007:

Plaid Cymru 13,201 (59.7%)
Ceidwadwyr 4,333 (19.6%)
Llafur 2,749 (12.4%)
Dem Rhydd 1,839 (8.3%)
Mwyafrif: 8,868 (40.1%)

Dyma sedd fwyaf diogel Cymru yn y Cynulliad – a jyst er mwyn brolio waeth i mi ddweud y bu i mi ddarogan y byddai cyn yr etholiad hwnnw! Roedd mwyafrif Plaid Cymru yn anferthol. Gellir mi gredaf ddadlau bod ambell Dori yn pleidleisio dros yr Arglwydd Êl, ond dyn ag ŵyr mewn gwirionedd. Mae’n amlwg, fodd bynnag, bod uchafswm pleidleisiau Plaid Cymru yn uchel ar y diawl, ond mae’n anodd gweld yr un o’r pleidiau eraill yn cael twmpath yn fwy o bleidleisiau. I fod onest, i’r rhai sy’n adnabod yr etholaeth, mae’n anodd credu y gall unrhyw un arall gyrraedd y saith mil.

Ac mae isafswm pleidleisiau Plaid Cymru yn sylweddol uwch na’r saith mil – ar ddiwrnod gwael fyddech chi ddim yn disgwyl iddi gael llai na 10,000 o bleidleisiau yma.

Rŵan, er mwyn ceisio gwneud cymhariaeth, beth am ddefnyddio canlyniad diweddaraf Cymreig YouGov, a’i gymharu â chanlyniadau etholiadau Cynulliad 2007? Hynny yw, cafodd Plaid Cymru 22% o’r bleidlais yn 2007, ond disgwylir iddi gael tua 13% yn 2010 - minws 9% felly. Ystyriwn hefyd y bydd dwy ran o dair o bleidleiswyr yr etholaeth yn bwrw pleidlais. Byddai’r canlyniad rhywbeth tebyg i hyn:

PC 15,800
Ceid 9,300
Llaf 4,700
DRh 1,900
Mwyafrif PC: 6,500 (21%)

Mae’r uchod yn cronni’n rhagorol y broblem sydd gennym wrth geisio dod i gasgliad am y darpar ganlyniad. Ar yr olwg gyntaf, edrycha pleidleisiau’r Blaid a’r Ceidwadwyr yn rhy uchel - ond cofiwn fod gan Ddwyfor Meirionnydd 7,000 yn fwy o etholwyr nag Arfon i’r gogledd. Y gwir ydi, gyda nifer uwch yn pleidleisio, ac mewn sedd gwbl newydd, mae’n gwbl amhosibl darogan yr union ganlyniad yma.

Dydw i ddim yn un am ddarogan Rallings a Thrasher yng Nghymru a dyna pam nad ydw am ddefnyddio unrhyw ffigurau ‘notional’ ganddyn nhw.

Un blaid allai herio Plaid Cymru yma, ond nid y pleidiau Prydeinig mo’r rheini; Llais Gwynedd ydi’r blaid honno. Ac eithrio’r aelodau annibynnol, dyma nifer y seddau a enillwyd gan y ddwy blaid yn 2008 yn yr etholaeth:

Plaid Cymru 18
Llais Gwynedd 10

A dyma’r pleidleisiau:

Plaid Cymru 7,974 (41%)
Llais Gwynedd 5,808 (30%)

Heb y busnes ysgolion byddai Plaid Cymru wedi cryfhau ei gafael ar Wynedd, ond nid felly y bu, mi bechodd y cyngor a dioddefodd y Blaid, yn ddigon haeddiannol, yn sgîl hynny. Ond hyd yn oed mewn blwyddyn wael i Blaid Cymru yma, mi enillodd yr etholiad hyd yn oed yn Ne Gwynedd. Yn wir, dim ond tri chynghorydd enillodd y Llais ym Meirionnydd gyfan (mae hynny’n 4 erbyn hyn yn sgîl isetholiad – ond ar draul Llafur oedd hynny).

Mi allai Llais Gwynedd gronni pleidlais wrth-Blaid Cymru, ond dyna fyddai achubiaeth y Blaid mewn difrif – fel petai ei hangen yma! Er y byddai’n denu pleidleiswyr gan Bleidwyr traddodiadol, byddai’n gwneud hynny gan ambell Lafurwr a hefyd Ceidwadwyr, a fyddai i bob pwrpas yn gwanhau’r gwrthwynebiad ar y cyfan. Wrth gwrs, ar y llaw arall, mewn etholiad cyffredinol gallai’n hawdd iawn, iawn gael ei gwasgu gan y pleidiau eraill. Wnaeth Llais Gwynedd ddim cystal o gwbl mewn wardiau lle safai mwy na dau ymgeisydd.

Mewn Etholiad San Steffan, prin y dylanwadai ar y canlyniad.

Academaidd ydi ystyried effaith uniongyrchol Llais Gwynedd yma, beth bynnag - ni fydd yn sefyll eleni. Oherwydd natur y blaid, mi fydd ei chefnogaeth yn hollti i sawl cyfeiriad - swni’n tybio’n bennaf i Blaid Cymru a’r Ceidwadwyr, ond hefyd pobl nad ydynt am bleidleisio o gwbl. Y flwyddyn nesaf, mi fydd hi’n ddiddorol iawn, ond soniwn am hynny pan ddaw’r adeg, trol o flaen y ceffyl ac ati.

A ‘does fawr fwy y gallwn ddweud. Yn ôl pob tebyg dylai pleidlais y Blaid ddioddef yn sgîl y ffrae am ysgolion, ond mae ganddyn nhw arf pwerus ar ffurf Elfyn Llwyd. Mynegodd Elfyn Llwyd bryder mawr am y ffordd yr aeth y cyngor ati i ad-drefnu ysgolion y sir, ac mae’n aelod effeithiol, amlwg a phoblogaidd.

Tybia dyn mai’r Ceidwadwyr fyddai’r prif wrthwynebwyr yma, ond er i ni weld uchod, yn ddamcaniaethol, y gallai’r Ceidwadwyr ennill 9,000 o bleidleisiau, mae’n annhebygol ar y cyfan. A hyd yn oed o ennill 9,000 fydden nhw ddim yn ennill yma.

Bydd Dwyfor Meirionnydd yn gadarn iawn i Blaid Cymru. Dwi’n anghytuno â’r Hen Rech y gallai fod y sedd fwyaf diogel ym Mhrydain, a dwi ddim yn meddwl mai hon fydd sedd saffa’ Cymru eleni chwaith. Gallai yn y dyfodol fod seddau y mae Plaid Cymru’n gryfach ynddynt na hon, ond prin y bydd cenedlaetholdeb y Cymry’n greiddiol gryfach yn unman. Hir oes i hynny.

Proffwydoliaeth: Dros hanner y bleidlais i Blaid Cymru, y Ceidwadwyr yn ail pell.

martedì, febbraio 02, 2010

Twyllo meddwod â tshaen

Wyddoch chi be sy’n anodd ffendio? Tshaen. Mai’n uffernol dweud y gwir, ond gadewch i mi egluro.

Nid tshaen yn yr ystyr cadwyn dwi’n ei olygu. Dwi ddim yn meddwl y dylai dyn wisgo cadwyn neu fwclis i fod yn onest. Rhywbeth arall dwi’n gwbl yn erbyn dynion yn ei wisgo ydi’r mwclis o amgylch eu harddyrnau. Efallai nad Hogyn o Armani mohonof ond dwi’n gwybod be dwi’n ei licio a be dwi ddim yn ei licio. Dylai hogia ddim gwisgo gemwaith yn fy marn i. Gall ambell un gael getawê efo clustlws ond dyna ddiwadd arni. Cofiaf chwe blynedd yn ôl i’r Kinch wisgo clustlws am gyfnod, gan ei dynnu ar ôl i bawb ddweud ei fod yn edrych yn gê.

Mi oedd, ‘fyd. Ta waeth, nid tshaen o ran yn yr ystyr gemweithiol dwi’n ei feddwl. Nac ychwaith tshaen i rwymo rhywun. Tai’m i rwymo neb a tai’m i gael neb i’m rhwymo innau at ddim ychwaith. A dweud y gwir mae gen i eithaf ofn ryw fudreddau felly.

Tshaen am oriad dwi’n ei olygu, bobl. Yn nyddiau anterth fy meddwod yn y Brifysgol, chollais i ddim byd erioed. Ers hynny dwi ‘di colli o leiaf dri ffôn a dwy waled, ac fel y cwynais nid yn y gorffennol pell, pan fydd rhywun yn colli waled maen nhw’n colli pob mathia.

“Dylia chdi ddim mynd â waled efo chdi,” dywedodd Dad, y byddwn fel rheol yn fwy tebygol o wrando ar rap Cymraeg na’i gyngor, “rho digon o bres yn dy bocad ac wedyn o leiaf os golli di rywbeth wnei di’m colli popeth”. Syniad difyr. Ac, er fy mod i’n poeni y bydd myn jîns i yn disgyn gan bwysau pob chwech a dimau o newid a gawn, mae’n syniad call.

Y goriad ydi’r broblem. Fel arfer, mae fy ngoriad yn fy waled - felly heb sôn am golli cardiau ac arian, pe collwn fy waled mi a gollwn f’unig ffordd o fyned y tŷ. Felly mi ges frên-wêf. Petawn yn cael tshaen fach i roi o amgylch un o ddolenni’r belt a’r goriad ar y pen arall yn fy mhoced, byddwn o leiaf yn gallu cyrraedd adra oni chollwn bâr o drowsus.

Yn fy meddwod, nid a synnwn petawn.

Ond mae’n insiwrans o ryw fath. Y broblem ydi, er crwydro fel diawl, dwi methu dod o hyd i tshaen o’r fath, nid hyd yn oed yn y siopau torri goriadau. Yr unig rai sydd ar gael ydi rhai metel mawrion sy’n llenwi dy boced, ac sydd felly’n anymarferol tu hwnt at y diben, a’r rhai bach lwminws yr arferai pobl eu gwisgo gyda’u bym bags a’u llinynnau dal sbectols haul yn ôl yn negawd euraidd yn nawdegau.

Ydw i’n iawn i feddwl y gall rhywun gael un fechan sy’n iawn i roi’n gyfleus am ddolen y belt? Efallai ddim, un o freuddwydwyr y genedl fues ‘rioed. Bydd rhaid dal ati i chwilio p’un bynnag - mae’r Chwe Gwlad yn dyfod, ac am o leiaf bump o’r saith penwythnos nesaf mi fydda i’n gachu bants. Ond y tro hwn, tai’m i golli dim - mi a dwyllaf feddwod os caf tshaen i’r goriad.