Wel, mae 'na un peth da wedi dod allan o'r ffaith bod fy mhen glin wedi penderfynu malu a hynny yw dydw i ddim am weithio dros yr haf. Eto. Er mor ddiflas ydi bod yma drwy'r dydd yn gwneud dim, nis medraf wneud dim i guddio fy nileit. Hihi!
Mi es felly i 'Sbyty Gwynedd ddoe. Roedd y doctor yn edrych fel Christopher Lee ac yn ymddwyn fel Hugh Grant, sy'n gyfuniad od ond yn eitha da hefyd. Wedi cael scan peledr-x unwaith eto dywedodd nad oedd yn poeni'n ormodol am fy mhen glin, ond bod sgen MRI yn bendant yn angenrheidiol. Mae 'na rwbath yn bod 'na, udodd o.
Felly dw i'n cael cerdded o gwmpas heb y splinter, dachi'n gweld. Y broblem ydi bob tro dwi'n gwneud hynna ma'n troi mewn i jeli ac yn gwneud imi gerdded yn od, fel Meic Stevens ar sesh. Ac mae hynny'n boenus, eniwe. Felly peth gorau imi wneud ydi ista flaen y teledu yn gobeithio bod Yr Eidal am guro Cwpan y Byd a bo tim Lloegr i gyd am, wel, torri eu pennau gliniau.
A rwan mae O2 newydd fy ffonio yn gofyn os dwisho 200 tecst am ddim y mis, a minnau wedi gorfod eu troi i lawr, gan ddweud gyda chryn cywilydd tua hynna faint dw i'n gyrru bob blwyddyn eniwe. Damiai.
1 commento:
Swnio i mi dy fod wedi stretchio dy ligaments neu hyd yn oed rhwygo nhw dipyn.
Dyma be sydd wedi digwydd i ben-glin Michael Owen rwan. Mae wedi twistio a stretchio un o'i ligamnets. Yr un sy'n digwydd yn gyffredin yw'r un ar y tu allan i'r pen-glin, sy'n achosi i'r goes colli ei sefydlogrwydd.
Nath hwn ddigwydd i mi, ond yr oeddwn i'n digon ffodus i beidio angen llawdriniaeth.
Posta un commento