Un o’r pethau sydd wir yn siomedig am sylwebaeth wleidyddol Gymreig ydi ei bod bron yn gyfan gwbl, boed yn y cyfryngau neu ar-lein, yn ymwneud â Chymru, a hyd yn oed bryd hynny ‘sneb yn sticio’u pennau allan i ddarogan dim. Iawn, gêm wirion ydi darogan gwleidyddol ond mae o dal yn hwyl i’w ddarllen ac mae ‘na werth iddo; ac os na all ein harbenigwyr wneud hynny, pwy all? Ond, un peth sy’n wirioneddol siomedig yng Nghymru a’r Gymraeg ydi’r diffyg llwyr o drafod gwleidyddiaeth ryngwladol ar wahân i ddarnau barn. A dyna’r rant o’r ffordd.
Bron blwyddyn yn
ôl, ysgrifennais
flogiad ar y ras arlywyddol yn UDA, yn datgan fy mod i’n meddwl bryd hynny
fod gan y Gweriniaethwyr fantais. Rŵan, er fy mod i wedi cwyno am ddiffyg
darogan uchod, mae’r hyn sydd wedi digwydd dros y môr wedi dangos pam fod pobl
mor amharod i wneud hynny! Ond mae’n ras yn rhy ddifyr i’w hanwybyddu.
Dydw i ddim am roi
fy marn ar y ddau ymgeisydd yma; dwi’n gwneud hynny ar Twitter a fedra i ddim
dioddef y naill na’r llall. Ond rhaid trafod deinameg y peth. Waeth pwy aiff â
hi, bydd arlywydd nesaf UDA yn rhywun y mae’r rhan fwyaf o’r wlad ddim yn ei
hoffi. Y mae’r ddau ymgeisydd rywsut yn ffwndro; mae’r pethau amhriodol a
ddywed Trump yn effeithio arno’n ysbeidiol (dim ond iddo fownsio’n ôl yn
ddi-ffael) – y cwestiwn mwyaf o’i ran o ydi a fydd yn dweud y peth anghywir yn
rhy hwyr yn y dydd, gan beidio â rhoi cyfle i Clinton ei distrywio’i hun unwaith
yn rhagor a throi ras sy’n edrych yn gyfforddus eto’n agos. Dwi’m yn cofio ras
wleidyddol o unrhyw fath sy’n ymdebygu i’r peth: mae’r ddau’n ffodus eu bod yn
eu hwynebu ei gilydd, achos prin y byddai ganddynt gyfle yn erbyn unrhyw un
arall.
Serch hynny mae
Clinton yn mynd drwy gyfnod gwael iawn, iawn. Roedd ei sylwadau “basket of deplorables” am gefnogwyr
Trump yn rhyfeddol o annoeth. Mae etholiadau, fel Romney yn 2012, ond yn
ddiweddarach o blith ymgyrchwyr aros yn refferendwm y DU, wedi dangos pa mor
beryglus ydi gwawdio hyd yn oed ran o’r etholwyr fel hynny. Yn wir, mae’n
tueddu i fod yn dyngedfennol. Roedd y ‘datgeliad’ yn ddiweddarach i Clinton
ddioddef o niwmonia, a bod hi heb ddweud y peth yn gynharach, yn atgyfnerthu’r
ddelwedd anonest ohoni, ynghyd â’r ffaith iddi wella’n rhyfeddol o gyflym am
rywun a gawsai gyflwr sy’n tueddu i gymryd wythnosau i wella ohono (eto, mae’n
drewi o anonestrwydd, cas beth pleidleiswyr). Ac, waeth beth fo’r manylion, mae’r
newyddion heddiw bod un o fomwyr Efrog Newydd o Afghanistan fwy na thebyg am
helpu Trump, a hyd yn oed gyfiawnhau i raddau rhai o’r pethau mae’n eu dweud.
Dwi’n meddwl y
gallai’r newyddion hwnnw fod yn dyngedfennol hefyd. O ystyried fod terfysgaeth eisoes
yn fater mor bwysig i bobl yn yr etholiad hwn waeth beth fo’u lliwiau
gwleidyddol, mae’n anodd gweld hyn yn lleddfu ar hynny.
Mae gan y ddau
hefyd fantais sydd hefyd yn anfantais iddynt. Mae gan Trump graidd brwd drosto
ond y tu hwnt i hwnnw mae pethau’n anos iddo. Mae craidd Clinton yn llai brwd i’w
weld ond mae ei hapêl – hynny sydd ganddi – efallai’n fwy. Y mae diffyg brwdfrydedd
dros y ddau felly’n bwrw amheuaeth dros y canlyniad terfynol.
Mae’r polau
cenedlaethol o fis Medi yn awgrymu bod Clinton ar y blaen o lai na 2% (a hynny
mewn ras ddwyffordd). Mae’n eithaf difyr fod ymgyrch y Libertariad Gary Johnson
i’w gweld yn ei niweidio hi yn fwy na’r Gweriniaethwyr, ond mae’n annhebygol o newid
canlyniad yr etholiad mewn difrif. Dyma fy map hyfryd (a wnaed diolch i www.270towin.com) o’r sut aiff pethau pe
cynhelid yr etholiad heddiw. Y lliwiau tywyll ydi’r taleithiau sicr a’r rhai
golau ydi’r rhai sy’n dechrau corlannu i un ochr.
Rŵan, dydi hwn
fawr fwy na fi’n craffu ar bolau a darllen erthyglau dirifedi dros y mis
diwethaf, ond mae mantais ddiamheuaeth gan Clinton yma. O ran ‘pleidleisiau
etholiadol’ (faint mae bob talaith ‘werth’) mae rhai pwysig fel Minnesota a
Pennsylvania wedi dechrau troi’n lasach yn ôl yr arolygon barn. Ar y llaw arall
mae rhai fu’n las gynt, fel Ohio ac Iowa’n dechrau troi’n goch. Os ydych chi’n
meddwl pam fod rhai yn y de’n goch golau, mae’n fwy achos diffyg data na dim.
Hefyd gyda Georgia er enghraifft, jyst uwch Florida, mae’n rhywle y mae’r
Democratiaid yn od o hyderus ond, i fod yn onest, maen nhw’n annhebygol iawn o’i
chipio; yn enwedig gan eu bod wedi bod yn dweud hynny ers blynyddoedd, a’u bod
hefyd wedi dweud pethau tebyg am Texas ac Utah (lle cafodd y Gweriniaethwyr 73%
o’r bleidlais yn 2012) dros y mis diwethaf.
Yr unig le heb
ddarogan uchod ydi Florida lle mae pethau’n agos iawn. Ond mae Florida’n
ddifyr. Mae ‘na gymuned Sbaenaidd gref yno; un sy’n fwy tebygol o gefnogi’r
Gweriniaethwyr na gweddill UDA yn draddodiadol (mae Rubio ymhell ar y blaen i’w
wrthwynebydd Democrataidd yn y ras Seneddol gyda llaw). Ond mae’n amlygu un
broblem gyffredinol i’r Democratiaid; mae nifer y pleidleiswyr cofrestredig yn
llawer, llawer is ymhlith pobl Sbaenaidd, a phobl dduon hefyd, nag ymhlith pobl
wynion. Mae’n bwysig, bwysig nodi nad ydi’r polau fel arfer yn adlewyrchu hyn.
Rhaid hefyd
gynnwys y ffactor Trympwyr Tawel; rydyn
ni’n cael yr un ffenomen yma gyda’r Ceidwadwyr. Faint o’r rheiny sydd yn UDA?
Er, mae’n ddigon tebyg yn yr etholiad hwn fod digon o bobl wnaiff bleidleisio
dros Clinton sy ddim eisiau cyfaddef hynny chwaith!
Ond beth petai’r
duedd raddol, flêr at Trump yn parhau? Rŵan, darogan gweddol ddi-sail ydi’r
fath beth, ond o ystyried popeth dwi’n meddwl ei bod yn deg gwneud y fath ddarogan,
o ystyried popeth y soniais amdano ar ddechrau’r blog. Beth am inni roi gogwydd
cyffredinol oddi wrth Clinton i Trump, ar frig uchaf y margin of error sef 3%? Ffantasïol? Braidd. Ond ceisio cyfleu
rhywbeth ydw i yma.
Wrth gwrs, nid
dweud ydw i fod yr uchod am ddigwydd; mae gogwydd o 3% o Clinton i Trump yn
annhebygol ond feiddiwn i ddim â dweud amhosibl, hyd yn oed os oes amrywiaeth
sylweddol rhwng y taleithiau. Ond yr hyn dwi’n ceisio’i gyfleu gyda’r uchod ydi
hyn: byddai gogwydd bach iawn yn gwneud pethau’n anos o lawer i Clinton, gan
ddod â thaleithiau annisgwyl i mewn i’r gêm. Ydi, mae’n anodd gweld llefydd fel
Michigan a Wisconsin yn pleidleisio dros Trump, ond dydy pethau ddim yn
amhosibl.
Yn fras, dyma 10
pwynt i’w hystyried:
- Mae Clinton yn ymlwybro i lawr yn y polau; mae Trump yn ymlwybro i fyny. Yng nghyfartaledd data polio cenedlaethol diweddaraf Real Clear Politics, mae Clinton lai nag 1% ar y blaen.
- Mae neges Trump, yn enwedig am bethau fel TTP, yn taro tant gwirioneddol yn America ganol. Ac mae’n bwysicach i bobl weld eu bywydau unigol nhw’n gwella nag unrhyw beth arall. Dydi Clinton ddim yn taro tant neb.
- Clinton ydi’r sefydliad gwleidyddol sy’n cael cic ddiamheuaeth ym mhedwar ban byd ar y funud.
- Er bod mantais enfawr gan Clinton ymhlith pobl o dras Sbaenaidd, mae’r lefelau cofrestru i bleidleisio’n llawer is yn eu plith.
- Mae ganddi hefyd fantais fawr ymhlith pobl dduon, ond mae’n annhebygol o sicrhau’r un lefel o gefnogaeth yn eu plith ag y gwnaeth Obama waeth beth wnaiff Trump.
- Gyda’i gilydd mae pobl dduon a phobl o dras Sbaenaidd tua 28% o’r boblogaeth. Mae pobl wynion yn 64% gyda’r trwch yn cefnogi’r Gweriniaethwyr. Os bydd y nifer sy’n pleidleisio’n uwch yn gyffredinol y tro hwn, bydd yn debygol, er gwaethaf popeth, o ffafrio’r Gweriniaethwyr.
- Efallai bwysicaf oll, mae Trump wedi hen gyrraedd y pwynt lle nad oes neb yn synnu arno, waeth pa mor stiwpid, anonest neu wirion ydi o. Mae’r canfyddiad o Clinton fel dynes gymwys – sef bron yr unig beth o’i phlaid – wedi dadfeilio’n ddifrifol.
- Y Trympwyr Tawel y soniais amdanynt uchod. Faint ohonyn nhw sydd yno?
- Mae Trump eisoes wedi chwalu pob rheol wleidyddol synhwyrol at ennill ... ac wedi ennill.
- Ac yn olaf, pwynt difyr iawn sy’n cael ei golli: do, cafodd Obama bum miliwn o bleidleisiau’n fwy na Romney yn 2012, ond mae UDA yn enfawr. Canran ei fuddugoliaeth oedd 3.9%. Landslide nid oedd.
Pwy ag ŵyr beth
fydd yn digwydd nesaf yn y ras? Amhosib dweud; gwirioneddol amhosib. Ond taswn
i’n ddyn betio, ac er gwaetha’r ffaith na Clinton ydi’r ffefryn (mewn sawl
ffordd, yn enwedig os edrychwch eto ar y map cyntaf yn y blogiad hwn, y ffefryn
clir), mi fyddai fy mhres i ar Y Donald.
Dwi’n ei galw hi.